Cymdeithas Amlddiwylliannol y Barri a Maer Du Cyntaf Cymru

Eitemau yn y stori hon:

  • 2,341
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,048
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 510
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 384
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 439
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 403
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 798
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 650
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 517
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
Dociau'r Barri

Gellir olrhain hanes pobl groenddu, Asaidd ac o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn ôl i gyfnod agor Dociau'r Barri yn yr 1880au, a'r cyfnod pan fu i ddwsinau o fusnesau dyfu yno ac yn yr ardal o amgylch. Dechreuodd y Dociau fasnachu yn 1889, ac erbyn 1913 roedd wedi goddiweddyd Caerdydd fel y porthladd allforio mwyaf yn y wlad. Yn y blynyddoedd a ddilynodd, daeth llongwyr masnach o lefydd megis Ynysoedd Cape Verde, Somalia a Gwlad Groeg i ymgartrefu yn y Barri yn ogystal â gweithwyr dociau o rannau eraill o'r DG. Yn wir, o ganlyniad i adeiladu Dociau'r Barri gwelwyd cynnydd ym mhoblogaeth y dref o ychydig llai na chant o bobl i 3,800 mewn llai nag ugain mlynedd. Mae cyfrifiad 1901 yn dangos bod trigolion Travis Street, er enghraifft, yn dod o bob cornel o'r byd, gan gynnwys o Tobago, Barbados a Jamaica, Denmarc a'r Iseldiroedd, Groeg, Sbaen ac Affrica, gyda nifer o briodasau cymysg.


Terfysgoedd Hiliol 1919

Dirywiodd porthladddoedd megis Lerpwl a Caerdydd yn sylweddol ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf a gwelwyd diweithdra difrifol yma ymysg morwyr. Gwelwyd diweithdra a thensiynau cymdeithasol a arweiniodd at derfysgoedd hiliol hefyd yn y Barri, fel yng Nghasnewydd a Chaerdydd. Ym mis Mehefin 1919, dechreuodd y terfysgoedd ymledu yn y Barri a dioddefodd pobl groenddu - a gwragedd oedd wedi priodi gwŷr croenddu - ymosodiadau ar eu heiddo. Roedd gwrthwynebiad cryf ymhlith rhai carfanau i bresenoldeb y morwyr croenddu yn y cymunedau hyn, nid yn unig oherwydd y prinder swyddi, ond hefyd oherwydd eu bod yn cael perthynas gyda merched gwyn. Un digwyddiad a esgorodd ar gythrwfwl sylweddol oedd cwffas rhwng cyn-filwr o'r enw Frank Longman, a Charles Emanuel, morwr o'r Caribi. Trywanwyd Longman a dedfrydwyd Emanuel i bum mlynedd o garchar am ddynladdiad. Er na fu marwolaethau eraill yn sgil hyn, cafwyd digon o densiwn ac anghytuno. Ceir hanesion yn y papurau newydd am garfanau o hyd at 50 o bobl yn ymgasglu y tu allan i'r siop sglodion ar Holton Road, er enghraifft, ac oni bai am ymateb cyflym yr heddlu byddai'r ymosodiad ar y siop - a'u perchnogion - wedi bod yn ddifrifol.

Cafwyd ymgais gan lywodraeth y dydd i dawelu'r dyfroedd yn sgil y terfysgoedd hiliol trwy anfon cymaint â phosib o forwyr croenddu yn ôl i'w gwledydd genedigol; parhaodd y polisi yma ymlaen i flynyddoedd cynnar yr 1920au, ond doedd pawb ddim am dderbyn tocyn unffordd adref. Gellid dweud bod y tefysgoedd hiliol wedi bod yn drobwynt i lawer a dewisodd nifer o ddynion croenddu aros gyda'u teuluoedd newydd yng Nghymru, yn hytrach na dychwelyd i'w mamwlad. Daeth eu disgynyddion i fagu gwreiddiau dyfnion yn y Barri, gan gyfrannu llawer i'w cymunedau, yn ogystal â'u harwain.

John Darwin Hinds, Maer Du Cyntaf Cymru

Un llongwr a drodd ei gefn ar y môr a mynd i weithio yn y pyllau glo oedd Leonard Hinds. Daeth i'r Barri o Barbados. Priododd Gwenllian Lloyd, yn wreiddiol o Gaerdydd, a ganwyd chwech o blant iddynt. Un ohonynt oedd John Darwin Hinds, cynghorydd croenddu cyntaf Cyngor Tref y Barri, a'r cyntaf yng Nghymru hefyd. Yn yr 1960au cafodd ei ethol yn Faer gan Gyngor Sir Morgannwg, y Maer du cyntaf yng Nghymru, a chan iddo gael troedigaeth i ffydd Islam, ef hefyd oedd y Mwslim cyntaf yng Nghymru, ac yn y DG i ddal y swyddi hyn.