Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad


Dyma bennod 11 o'r gyfres o bodlediadau sy'n ceisio egluro'r Terfysgoedd Hiliol yn 1919 yng Nghymru a'u rhoi mewn cyd-destun byd eang. Y dref ddociau yma oedd lleoliad ar gyfer y farwolaeth gyntaf yn y Terfysoedd pan fu i forwr o'r Caribi drywanu dyn gwyn lleol pan oeddent yn ymladd. Wnaeth y ffaith y gallai'r dyn gwyn (Frederick Longman) fod wedi dechrau'r gwffas ddim i rwystro'r trais a ddilynodd gan y dorf, ond ni fu unrhyw farwolaethau pellach.
Cafodd Charles Emmanuel ei ddedfrydu i garchar am ladd Longman.
Nid yw'r bennod hon o hanes 'cudd' yn cael ei ddysgu mewn ysgolion lleol.
Mae'n bosib bod y terfysgoedd yn drobwynt i forwyr a milwyr Du, oherwydd er gwaetha'r ffaith i'r Wladwriaeth geisio eu darbwyllo i dderbyn cael eu dychwelyd i'w mamwlad (roedden nhw'n ddinasyddion Prydeinig ac yn swyddogol
doedd dim modd eu halltudio yn erbyn eu hewyllys), ni wnaeth y dynion dderbyn y cynnig o docyn un ffordd am adref, gan ddewis yn lle hynny i aros gyda'u gwragedd gwynion ac oherwydd bod eu hynafiaid hwy yn ddinasyddion o Gymru.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw