Japaneg

Mae rhyw 125 miliwn o bobl yn siarad Japaneg, a 99% ohonynt yn dal i fyw yn Japan. Serch hynny mae'r nifer o siaradwyr Japaneg sy'n byw dramor wedi cynyddu wrth i economi Japan ehangu, gyda phobl yn mynd i weithio i gwmnïau Japaneaidd neu'r llywodraeth. Mae yna ryw 50,000 o siaradwyr Japaneg yn y DU, gyda rhyw 2000 o'r rhain yn byw yng Nghymru. Cymru yw'r ganolfan fwyaf yn Ewrop i gwmnïau o Japan sy'n cynhyrchu nwyddau electronig Japaneaidd. Daeth y cwmni gweithgynhyrchu Japaneaidd cyntaf i Gymru ym 1973, ac yn ystod y 30 mlynedd diwethaf mae'r nifer wedi cynyddu i ryw 60 cwmni, sy'n cyflogi miloedd o bobl Cymru. Gwyddom am ddisgyblion sy'n siarad Japaneg mewn ysgolion yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Merthyr, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot, Bro Morgannwg a Wrecsam.



Gwrandewch ar Midori Matsui a ddaeth i Gymru ym 1973 i weithio i gwmni o Siapan. Bu'n byw yma ers hynny. Bu ers blynyddoedd yn helpu gydag ysgol Sadwrn yng Nghaerdydd i blant pobl o Japan sy'n byw yng Nghymru.


Mae 3 eitem yn y casgliad

  • 923
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,275
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 771
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi