Maleieg

Iaith a siaredir gan bobl sy'n byw ar benrhyn Maleia, deheubarth Gwlad Tai, Ynysoedd y Philipinos, Singapôr, canolbarth dwyrain Swmatra a rhannau o arfordir Borneo yw'r Faleieg (Bahasa Melayu). Mae'n iaith swyddogol ym Maleisia, Brwnei a Singapôr. Mae rhyw 18 miliwn yn siarad Maleieg Safonol, ond mae yna hefyd tua 170 miliwn o bobl sy'n siarad Indoneseg, sy'n ffurf ar y Faleieg. Gwyddom am siaradwyr Maleieg mewn ysgolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Gwrandewch ar Juliet Revell a aned ar ynys Java yn Indonesia ond symudodd ym 1988 i fyw yn Hwlffordd, sir Benfro gyda'i gwr Gareth. Ers hynny, ychwanegodd y Gymraeg at y nifer helaeth o ieithoedd mae'n medru eu siarad, ac mae ganddi ei cholofn ei hun ym mhapur bro Cymraeg ardal Abergwaun, Y Llien Gwyn.

Mae 3 eitem yn y casgliad

  • 724
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 888
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 720
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi