Yr Holocost a Chymru: Kindertransport 3
1107 wedi gweld yr eitem hon
![Cover image](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/teaching/jhasw_lesson3_HO396-229.jpg)
Disgrifiad
Wrth ffoi ledled Ewrop i ddianc rhag y Natsïaid, cyrhaeddodd tua 10,000 o blant Iddewig Brydain Fawr rhwng Rhagfyr 1938 a Medi 1939 ar y Kindertransport (trafnidiaeth plant). Dim ond plant dan oed ar eu pen eu hunain a dderbyniodd llywodraeth Prydain trwy’r cynllun hwn, er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw gyda’u rhieni ac aelodau eraill o’u teuluoedd cyn iddyn nhw ffoi. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio rhai o straeon y ffoaduriaid a oedd yn blant yn teithio ar y Kindertransport i Gymru.
Delwedd uchod: Cerdyn Estron-Elynion a Chaethiwedigion ar gyfer Maria Beate Siegel. Findmypast. Dogfen wreiddiol: © Hawlfraint y Goron. Atgynhyrchwyd y ddelwedd trwy garedigrwydd yr Archifau Cenedlaethol, Llundain, Lloegr.
Kindertransport 3: Cyrraedd Cymru.
Mae'r drydedd adnodd hwn yn archwilio stori Bea Green, ffoadur ifanc Iddewig o'r Almaen, a deithiodd i Brydain ar Kindertransport ac a oedd yn byw yng Nghymru ar ôl i'w hysgol gael ei symud yno fel rhan o’r cynllun ymgilio.
Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.
Cwricwlwm i Gymru
Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Oed: 9-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o gyfres o 4 ar bwnc y 'Kindertransport’. Dyma ddolenni i'r adnoddau eraill yn y gyfres hon:
Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw