Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Daw’r clip sain hwn o gyfweliad gyda Maria Beate (Bea) Green, a recordiwyd gan yr Imperial War Museums yn 1999. Yn y clip, mae Bea yn trafod ei phrofiad o wrth-semitiaeth fel ffoadur sy’n blentyn yn Aberystwyth.

Trawsgrifiad

Tra oeddwn i dal yn Aberystwyth, ddes i ar draws rhywfaint o wrth-semitiaeth ar ffurf anghyffredin. Roedd cyd-fyfyriwr yn fy mlwyddyn oedd hefyd yn gwneud Almaeneg - bachgen o’r enw Stan Price - wedi bod, fel dyn iau fyth, yn llawn brwdfrydedd dros Hitler a’i holl syniadau a delfrydau ac wedi bod yn yr Almaen ac wedi gweithio i’r Arbeitsdienst [Reichsarbeitsdienst, sy’n golygu’r Gwasanaeth Llafur Genedlaethol neu Reich] ond daeth yn ôl wedi blwyddyn neu ddwy yn gwneud hyn er mwyn dilyn ei astudiaethau ac yna fe ddechreuodd y rhyfel ac ymunodd â’r fyddin. Hynny yw, roedd cyn iached a’r gneuen ac ymunodd â’r fyddin. Ac ar un o’r symudiadau yr oedd arno fe naill ai saethodd ei hun yn y droed neu droedio ar fwynglawdd neu rywbeth… beth bynnag fe saethodd ei fodyn troed i ffwrdd neu fe gollwyd bawd ei droed yn rhywle. Ac felly, gollyngwyd ef yn wael o’r fyddin ac yn rhannol oherwydd ei argyhoeddiadau ers talwm ac yn rhannol oherwydd ei fod wedi digio at fyddin Prydain am iddo orfod colli ei bodyn droed, dychwelodd at neu ymgymerodd eto â’i syniadau gwreiddiol o, wyddoch chi, y Herrenvolk ac..., rhagoriaeth hiliol a hynny i gyd a thraethu hyn yn gyhoeddus.
Pan sylweddolodd ei fod wedi fy nghynhyrfu - oherwydd ar wahân i hynny roeddem wedi bod yn gydweithwyr ac yn ffrindiau ac yn yr un grŵp—dim ond rhyw chwech neu saith ohonom yn ein blwyddyn ni wnaeth Almaeneg—dywedodd ‘Wel, wyddoch chi, chi’ yn iawn.’ Rydych chi’n gwybod, y ddadl rydych chi’n iawn, yr Iddewon eraill i gyd ydyw. Ac rwy’n cofio yno - oherwydd y ffordd y siaradodd - ni allai rhywun ddadlau yn ei erbyn, oherwydd nid oedd unrhyw beth diriaethol i’w ddadlau; roedd yn agwedd mor ddi-syfl ac mor wael ei meddwl, fel nad oedd unrhyw beth ar y pryd hwnnw, roeddwn i’n teimlo nad oedd unrhyw beth y gallwn ei wneud am Stan Price. Felly, rwy’n cofio imi gerdded i lawr i’r traeth - nid wyf yn gwybod a ydych chi’n adnabod Aberystwyth ond mae’n draeth cerrig nid yn draeth tywodlyd - ac eisteddais ar y cerrig mân ac wylo i’r môr. Roeddwn i mor rhwystredig ac mor ofidus o feddwl fy mod i yma wedi dod i ffwrdd o’r peth hwn dim ond i’w gyfarfod eto.

Maria Beate Green - bywgraffiad byr

Ganwyd Bea Green ym Munich, yr Almaen ym 1925. Roedd hi'n byw mewn bloc o fflatiau yn y ddinas gyda'i thad (oedd yn gyfreithiwr), ei mam a'i brawd hŷn. Bu i Bea fynychu’r ysgol gynradd leol ac roedd ganddi fywyd hapus. Ym mis Mawrth 1933, bu i’w thad gael ei guro yn greulon mewn ymosodiad gwrthsemitig. Hyd yn oed ar ôl y digwyddiad ofnadwy hwn a Hitler bellach mewn grym, i ddechrau roedd gan deulu Bea deimladau cymysg ynglŷn â gadael. Roedd ei thad wedi adeiladu practis cyfreithiol llwyddiannus ac roedd ganddynt fywyd dymunol.

Ond ym 1938, bu i ysgol Bea gau ac ar ôl Kristallnacht daeth pethau'n fwyfwy peryglus ac anobeithiol. Roedd y teulu'n gwybod yr oedd rhaid iddyn nhw wneud popeth o fewn eu gallu i ddianc. Ymhen amser, ym mis Mehefin 1939, teithiodd Bea i Brydain ar y Kindertransport gan adael ei rhieni ar ôl. Cafodd ei chymryd i mewn gan y teulu Williams yn Lloegr.

Ar ôl i'r Ail Ryfel Byd ddechrau, cafodd Bea ei symud i Gymru lle arhosodd am beth amser. Yn y pen draw, sawl blwyddyn yn ddiweddarach, bu iddi aduno gyda'i rhieni. Ymgartrefodd yn ne Llundain gyda'i gŵr a’u tri o blant a chafodd yrfa fel ieithydd a chyfieithydd a byddai'n siarad â grwpiau am ei phrofiadau.

Ffynhonnell:

IWM, Green, Maria Beate (Oral History) [cyrchwyd 22 Rhagfyr 2021]

Storfa: Imperial War Museums, catalogue number: 19796.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw