Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r llun hwn yn dangos Jacques Kurer, deintydd sy'n ffoaduriaid o Awstria, ochr yn ochr â'i wraig Theodora. Tynnwyd y llun yn y 1950au.

Bywgraffiad byr

Roedd Jacques Kurer yn un o 40 o ddeintyddion ffoaduriaid o Awstria a gafodd ganiatâd i ddod i mewn i’r DU ym 1938. Llwyddodd i symud wyth aelod arall o’i deulu, gan gynnwys ei wraig Theodora a dau fab Peter a Hans, diolch i nawdd dau deulu o Grynwyr . Er bod Jacques wedi ennill gradd feddygol o Brifysgol Fienna yn 1925, fe'i gorfodwyd i gwblhau gradd ddeintyddol arall ym Mhrifysgol Manceinion yn 1939.

Cafodd ganiatâd i agor practis, ond yn 1941, bomiwyd y ddau eiddo lle'r oedd y teulu'n aros ynddynt, a symudwyd nhw i gyd i Landudno. Yma, agorodd Jacques bractis arall, yr oedd ei safon uchel yn boblogaidd ymhlith y boblogaeth leol. Roedd gan Jacques a Theodora blentyn arall, merch, a chafodd Hans a Peter eu bar mitzvahs. Symudasant yn ôl i Fanceinion ym 1944, a daeth Peter a Hans yn ddeintyddion hefyd. Bu farw Jacques ym 1974.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw