Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Daw'r clip sain hwn o gyfweliad gyda Dorothy Fleming, a recordiwyd gan yr Imperial War Museums ar 27 Mawrth 1996. Yn y clip, mae Dorothy yn trafod ei phrofiad o ddod yn estron gelyn yn 16 oed.
Trawsgrifiad.
Felly, roedden ni yng Nghaerdydd ac yno es i i Ysgol Howell, sy’n ysgol ragorol. Nid wyf yn gwybod sut y clywodd fy mam mai hon oedd yr ysgol orau, ond mae’n amlwg ei bod, a rhaid eu bod wedi crafu a chynilo. Roedd gen i ryw fath o ysgoloriaeth, ond serch hynny roedd ganddyn nhw rywbeth i’w dalu. Ond wyddoch chi, mae pobl Iddewig yn ystyried addysg yn uchel iawn ac felly, roedden nhw’n teimlo ei bod hi’n aberth werth ei wneud.
Felly, ar wahân i ambell cyrch awyr, y cyntaf roeddwn i’n ei wybod o ddifrif am y rhyfel oedd y diwrnod y deuthum yn 16, ac rwy’n credu yn 16 oed y deuthum yn estron-elyn. Hyd at hynny roeddwn i wedi bod yn blentyn ond pan oeddech chi’n 16 oed roeddech chi’n estronelyn ac roedd yn rhaid i mi fynd i adrodd i’r heddlu ac roedd fy nghyd-ddisgyblion yn fy chwerthin allan ohono ac yn dweud, ‘Peidiwch â phoeni, rydyn ni’n gwybod nid ydych chi’n estrones.’
Dorothy Fleming - bywgraffiad byr.
Ganed Dorothy Fleming yn Dora Oppenheimer yn Fienna, Awstria, yn 1928. Roedd hi'n byw mewn fflat mawr ym mhumed ardal Fienna gyda'i thad oedd yn optegydd, ei mam a'i chwaer iau. Roedd eu bywyd yn llawn a hapus. Roeddent yn mwynhau opera, sglefrio iâ a cherddoriaeth. Mynychodd Dorothy y Kindergarten lleol ac yna ysgol gynradd yn Fienna.
Pan oedd Dorothy yn ddeg oed, cymerodd Natsïaid-Almaen reolaeth ar Awstria yn yr hyn a elwid yn Anschluss. Ar ôl yr Anschluss newidiodd bywyd yn ddramatig i Dorothy a'i theulu. Yn fuan nid oedd yn gallu mynd i'w hysgol arferol. Ac ar ôl y Kristallnacht, collodd ei thad ei ddwy siop optegydd. Wedi'i gadael heb unrhyw ddewis arall, trefnodd ei rhieni i Dorothy a'i chwaer deithio i Brydain ar Kindertransport gan addo y byddent yn dilyn yn ddiweddarach.
Ar ôl teithio i Brydain, bu Dorothy yn byw yn Leeds gyda'i rhieni maeth. Yn y diwedd, llwyddodd ei rhieni i ymuno â Dorothy a’i chwaer, ac roedden nhw’n byw yn Llundain mewn fflat bach gyda ffoaduriaid eraill. Roedd gan Dorothy ewythr yn Ne Cymru a oedd wedi sefydlu ffatri ar Ystad Fasnachu Trefforest a threuliodd beth amser yn byw gydag ef. Wedi cyfnod pan gafodd ei thad ei garcharu ar Ynys Manaw, yn y diwedd llwyddodd ei theulu cyfan i ymgartrefu yng Nghaerdydd. Roedd ei thad hefyd yn gweithio ar Stad Fasnachu Trefforest yn gwneud nwyddau optegol ar gyfer y rhyfel. Yng Nghaerdydd, mynychodd Dorothy Ysgol Howell's. Yn ddiweddarach aeth i brifysgol yng Nghaerfaddon a daeth yn athrawes.
Ffynhonnell.
IWM, Fleming, Dorothy (Oral History) [cyrchwyd 24 Tachwedd 2021]
Storfa: Imperial War Museums, catalogue number: 16600.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw