Adeiladu Gwydnwch a Hunan-barch trwy Focsio
Mae Bocsio Menywod Cymru: Ddoe, Presennol a Dyfodol (WBW) yn brosiect treftadaeth chwaraeon, sy’n dogfennu profiadau menywod sy’n cymryd rhan ym myd bocsio yng Nghymru. Pwrpas y prosiect yw dathlu’r cyfraniadau y maent wedi’u gwneud i hanes cyfoethog bocsio yng Nghymru a thynnu sylw at yr heriau a’r rhwystrau y mae cyfranogwyr benywaidd yn eu hwynebu yn y gamp. Mae’r archif a gyhoeddir yng Nghasgliad y Werin Cymru yn cynnwys delweddau a chyfweliadau gyda bocswyr (amatur a phroffesiynol), hyfforddwyr bocsio, haneswyr a newyddiadurwyr.
Gall yr andodd hwn gefnogi dysgwyr i:
1. Deall sut mae bocsio yn galluogi unigolion i fagu hyder a hunan-barch, ac i ddatblygu a chynnal arferion cadarnhaol sy'n cefnogi lles emosiynol, hunaniaeth a chymuned.
2. Ystyried y ffordd y maent yn mynegi a phrosesu eu hemosiynau trwy weithredu a gweithgaredd corfforol.
Cwricwlwm i Gymru
Oed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 & 5
Iecheyd a Lles
- Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.
- Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.
- Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.
- Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles.
Y Dyniaethau
- Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
- Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
- Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
.
You must be logged in to leave a comment