Casgliad Bocsio Menywod Cymru
Mae'r Casgliad hwn yn cyd-fynd â’r adnodd dysgu Adeiladu Gwydnwch a Hunan-barch trwy Focsio.
Mae Bocsio Menywod Cymru: Ddoe, Presennol a Dyfodol (WBW) yn brosiect treftadaeth chwaraeon, sy’n dogfennu profiadau menywod sy’n cymryd rhan ym myd bocsio yng Nghymru. Pwrpas y prosiect yw dathlu’r cyfraniadau y maent wedi’u gwneud i hanes cyfoethog bocsio yng Nghymru a thynnu sylw at yr heriau a’r rhwystrau y mae cyfranogwyr benywaidd yn eu hwynebu yn y gamp. Mae’r archif a gyhoeddir yng Nghasgliad y Werin Cymru yn cynnwys delweddau a chyfweliadau gyda bocswyr (amatur a phroffesiynol), hyfforddwyr bocsio, haneswyr a newyddiadurwyr.