Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
This content isn't available for download, please contact us.
Disgrifiad
Yn y fideo hwn, mae Sarah Crews yn sgwrsio â Gemma Price, hyfforddwraig bocsio ac yn rhan o dîm rheoli Campfa Bocsio Phoenix Llanrumney. Mae Gemma hefyd yn arolygydd gyda'r British Boxing Board of Control. Yma mae Gemma yn trafod pwysigrwydd lles mewn bocsio a'r statws presennol o gyfranogiad menywod mewn boscio yng Nghymru a thu hwnt. Mae Gemma a Sarah hefyd yn sgwrsio am yr Olympiad Americanaidd a'r Bocsiwr Proffesiynol, Claressa Shields yn cystadlu yn Arena Motorpoint, Caerdydd ym mis Chwefror 2022. Gemma Price oedd yr arolygydd bocsio penodedig ar gyfer Shields y noson honno ac mae'n egluro cefndir y swydd honno. 'Mae lle i ni', meddai Gemma, gan gyfeirio at y menywod a'r merched sy'n poblogi'r gamp o focsio mewn gwahanol rolau.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw