Yr Holocost a Chymru: Aero Zipp Fasteners yn Ystad Fasnachu Trefforest

1163 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Sefydlwyd Ystad Fasnachu Trefforest, ger Pontypridd, fel rhan o Ddeddf Ardaloedd Arbennig 1934. Crëwyd y Ddeddf i helpu rhannau o Brydain â diweithdra uchel, a chynigiodd gymorth i fusnesau sefydlu yn yr ardaloedd hyn. Pan ddechreuodd y Natsïaid gipio busnesau Iddewig yn yr Almaen yn y blynyddoedd ar ôl 1933, ffodd llawer o ffoaduriaid Iddewig yma i sefydlu eu busnesau gyda chymorth y cynllun hwn.

Erbyn Mai 1940, roedd 55 o fusnesau a sefydlwyd gan ffoaduriaid Iddewig yn cael eu rhedeg yn Nhrefforest. Fe wnaethon nhw ddarparu swyddi i tua 1,800 o bobl leol. Un o'r ffatrïoedd hyn oedd Aero Zipp Fasteners a sefydlwyd gan y ffoadur-ddiwydiannwr Joachim Koppel, dyn busnes Iddewig a dreuliodd flynyddoedd lawer o'i fywyd yn Berlin nes iddo orfod ffoi. Roedd Aero Zipp yn cynhyrchu sipiau metel. Roedd ganddyn nhw eu ffatri yn Nhrefforest a'u swyddfeydd yn Llundain. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel sawl busnes Iddewig arall, fe wnaethon nhw gyfrannu at ymdrech y rhyfel trwy wneud sipiau ar gyfer offer milwrol.

Yn yr adnodd hwn, mae myfyrwyr yn dod â’r ffatri’n fyw mewn ffordd ymarferol a chreadigol, gan ddefnyddio seinwedd.

Dyma adnodd 1 o 2 ar y testun Ystad Fasnachu Trefforest.

Delwedd uchod: Hysbyseb ar gyfer Aero Zipp Fasteners, 1969. Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC).

 

Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau

Oed: 11-14 / Cam Cynnydd: 4

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae'n un o ddau ar y testun Ystad Fasnachu Trefforest. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon:

Yr Holocost a Chymru: General Paper and Box Manufacturing Company yn Ystad Fasnachu Trefforest

 

Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.

Cwricwlwm i Gymru

Age: 11-14 / Progression Step 4
Age: 11-14 / Progression Step 4
Age: 11-14 / Progression Step 4

Lawrlwytho'r Adnodd Dysgu

Aero_Zipp_Cynllun_Gwers.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) Aero_Zipp_Taflen_Waith.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) Aero_Zipp_Lesson_Plan.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) Aero_Zipp_Worksheet.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw