Skip to main content

Yr Holocost a Chymru: Y General Paper and Box Manufacturing Company ar Ystad Fasnachu Trefforest

Sefydlwyd Ystad Fasnachu Trefforest ger Pontypridd yn rhan o Ddeddf Ardaloedd Arbennig 1934. Lluniwyd y ddeddf i helpu rhannau o Brydain lle roedd diweithdra'n uchel, ac roedd yn cynnig cymorth i fusnesau sefydlu yn yr ardaloedd hyn. Pan ddechreuodd y Natsïaid feddiannu busnesau Iddewig yn yr Almaen yn y blynyddoedd ar ôl 1933, ffodd nifer o Iddewon yma i sefydlu eu busnesau gyda help y cynllun. Erbyn mis Mai 1940, roedd 55 o fusnesau gan ffoaduriaid Iddewig yn gweithredu o Drefforest. Roeddent yn darparu swyddi ar gyfer tua 1,800 o bobl leol.

Mae'n archwilio profiadau'r teulu Schoenmann, a oedd yn rhedeg ffatri papurau sigaréts a blychau yn Nhrefforest.

Delwedd uchod: Plac wal y General Paper & Box Manufacturing Company yn Ystad Fasnachu Trefforest, 1941. Delwedd: Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Delwedd trwy garedigrwydd George Schoenmann.

 

Mae'r adnodd yn cynnwys:

I. Canllawiau i Athrawon:

- Beth yw diben, nodau dysgu, a ffocws yr adnodd?
- Pa sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y mae'r adnodd yn helpu i'w datblygu?
- Sut y mae'r adnodd yn cefnogi dysgu mewn cyd-destunau lleol (cynefin), cenedlaethol a rhyngwladol?
- Gwybodaeth gefndir am Ystad Fasnachu Trefforest.
- Syniadau a chwestiynau.
- Dolenni i ymchwil a rhagor o wybodaeth.

II. Taflen Wybodaeth a Gweithgareddau i Ddysgwyr:

- Gwybodaeth am Ystad Fasnachu Trefforest.
- Gweithgareddau awgrymedig.

 

Lluniwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol yn 2021-22, yn rhan o'r prosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost i ysgolion Cymru' rhwng y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, Prifysgol Aberystwyth, a Chymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC). Cefnogwyd y prosiect trwy garedigrwydd Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig, Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson, Cymdeithas Hanes Iddewig Lloegr  a Sefydliad Garfield Weston.

Fe'i diwygiwyd yn 2024 i weddu i ofynion Cwricwlwm i Gymru, a hynny gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC) a diolch i grant gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig ac Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson.

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Oed: 9-14 / Camau Cynnydd: 3 a 4

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae'n un o ddau ar y testun Ystad Fasnachu Trefforest. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon:

Yr Holocost a Chymru: Aero Zipp Fasteners yn Ystad Fasnachu Trefforest

 

Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.

.

You must be logged in to leave a comment