Yr Holocost a Chymru: Cofio'r Holocost
985 wedi gweld yr eitem hon
Disgrifiad
Mae’r adnodd hwn yn canolbwyntio ar goffáu’r Holocost, gan annog myfyrwyr i feddwl am sut a pham y dylem ni gofio’r Holocost a’i berthnasedd ar gyfer y dyfodol.
Delwedd uchod: Coflech Holocost Synagog Ddiwygiedig Caerdydd, 2019. Cydnabyddiaeth Llun: Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). [Y ddelwedd hon yw’r olaf yn y gyfres o 11 delwedd.]
Mae'r adnodd yn cynnwys:
I. Canllawiau i Athrawon:
- Beth yw diben, nodau dysgu, a ffocws yr adnodd?
- Pa sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y mae'r adnodd yn helpu i'w datblygu?
- Sut y mae'r adnodd yn cefnogi dysgu mewn cyd-destunau lleol (cynefin), cenedlaethol a rhyngwladol?
- Gwybodaeth gefndir am ‘estroniaid gelyniaethus’.
- Syniadau a chwestiynau.
- Dolenni i ymchwil a rhagor o wybodaeth.
II. Gweithgareddau i Ddysgwyr:
- Gweithgareddau i Ddysgwyr.
Lluniwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol yn 2021-22, yn rhan o'r prosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost i ysgolion Cymru' rhwng y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, Prifysgol Aberystwyth, a Chymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC). Cefnogwyd y prosiect trwy garedigrwydd Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig, Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson, Cymdeithas Hanes Iddewig Lloegr a Sefydliad Garfield Weston.
Fe'i diwygiwyd yn 2024 i weddu i ofynion Cwricwlwm i Gymru, a hynny gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC) a diolch i grant gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig ac Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson.
Cwricwlwm i Gymru
Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Oed: 9-14 / Camau Cynnydd: 3 a 4
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
Ellen Davis yn siarad am gofio’r Holocost
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw