arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Croeso athrawon i adran Addysg wedi’u dylunio ar eich cyfer chi. Chwilio'r Adnoddau Dysgu fesul cyfnod allweddol isod, neu defnyddiwch blwch offer i athrawon am gymorth gyda sgiliau digidol a'r Fframwaith Cymhwysedd

Hanes Llafar: Canllaw i Ysgolion Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Hanes Llafar: Canllaw i Ysgolion

Mae hanes o'n cwmpas ym mhobman. Meddyliwch am eich teulu a'ch cymuned. Mae digon o straeon yno i lenwi llyfrgell. HANES LLAFAR yw enw'r math yma o hanes. Mae dogfennau a llyfrau yn aml yn canolbwyntio ar bobl a digwyddiadau enwog. Ond nid yw profiad a llais y mwyafrif yn cael ei gofnodi. Mae hanes llafur yn llenwi'r bylchau ac yn rhoi i ni hanes sy'n cynnwys pawb. Diolch i dechnoleg ddigidol, gall unrhywun gasglu hanesion llafar a'u rhannu gydag eraill. Mae'n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau digidol a chyfweld wrth ddysgu am hanes. Gall feithrin hyder pobl ifanc a magu parch rhwng cenedlaethau. Mae'r canllaw wedi'i greu mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Hanes Llafar a Chasgliad y Werin Cymru. Mae'n cynnig cyngor defnyddiol ar gychwyn project hanes llafar yn eich ysgol neu gymuned.   Cyfod Allweddol 2, 3 & 4 Hanes, Sgiliau llythrennedd, Fframwaith Cymhwysedd Digidol   Pecyn Gweithgareddau Dysgu Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.

Astudiaeth Achos: Project Pontio'r Cenedlaethau... Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Astudiaeth Achos: Project Pontio'r Cenedlaethau...

Datblygwyd Project Pontio'r Cenedlaethau Windrush gan y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC) ar y cyd â disgyblion ysgolion lleol, i ymchwilio i fywydau cenhedlaeth Windrush a gyrhaeddodd Gymru o India'r Gorllewin rhwng y 1940au a'r 1970au. Gobaith y project oedd pontio'r bwlch rhwng cenedlaethau hen ac ifanc, gan ganolbwyntio ar drosglwyddo diwylliant a thraddodiad, a rhannu profiadau am deithio ac ymsefydlu. Mae'n cofnodi cyfraniad rhyfeddol ymfudwyr Du ac o Leiafrifoedd Ethnig i'r DU, yn enwedig yn ardal Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot. Mae'r project yn dathlu bywydau deg henadur – rhai yn aelodau o genhedlaeth Windrush ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i gymdeithas amlddiwylliannol De Cymru. Mae testun yr astudiaeth achos yn ddwyieithog, ond Saesneg yw iaith y fideos a'r llyfryn.   Cyfod Allweddol 3 & 4 Hanes, Sgiliau Llythrennedd, Fframwaith Cymhwysedd Digidol   Astudiaeth achos Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Gwers 4: Crewyr a defnyddwyr digidol Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Gwers 4: Crewyr a defnyddwyr digidol

Deall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel crëwr a defnyddiwr gwaith creadigol pobl eraill. Cyfnod Allweddol 3Fframwaith Cymhwysedd DigidolDinasyddiaeth: 1.3 Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth; 1.4 Ymddygiad ar-lein a seiberfwlio Cyfnod Allweddol 4Fframwaith Cymhwysedd DigidolDinasyddiaeth: 1.3 Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth Cynllun GwersCynllun gwers cyflawn. Gallwch ei ddilyn i’r llythyren neu ddewis elfennau a’i deilwra eich hun. Mae’n yn rhan o'r set o chwe gwers o'r enw Canllaw hwylus i hawlfraint a metadata.

Ysbrydoli'r Ymdrech - Printiau'r Rhyfel Byd Cyntaf Cover Image mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item
Ysbrydoli'r Ymdrech - Printiau'r Rhyfel Byd Cyntaf

Gwybodaeth am brintiau trawiadol a drefnwyd gan Fiwro Propaganda Rhyfel y Llywodraeth yn 1917. Dewch o hyd i ddolenni yma i ddelweddau digidol o'r printiau, a gweithgaredd digidol.   Cyfod Allweddol 3 & 4, Ôl 16 a Bagloriaeth Cymru Hanes, Cefl a dylunio, Fframwaith Cymhwysedd Digidol   Pecyn Gweithgareddau Dysgu Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.