Yr Holocost a Chymru: Gwers 4 Kindertransport

891 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Wrth ffoi ar draws Ewrop i ddianc rhag y Natsïaid, cyrhaeddodd tua 10,000 o blant Iddewig ym Mhrydain rhwng Rhagfyr 1938 a Mai 1940 ar y 'Kindertransport' (Trafnidiaeth Plant). Roedd yn rhaid i'r mwyafrif ohonyn nhw deithio heb eu rhieni ac aelodau eraill o'r teulu. Daeth nifer ohonyn nhw i Gymru. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio rhai o straeon y ffoaduriaid a oedd yn blant yn teithio ar y Kindertransport i Gymru.

Delwedd uchod: Cerdyn adnabod Renate Collins. Delwedd trwy garedigrwydd Renate Collins. Ffynhonnell y ddelwedd: Canolfan Symudiad Pobl, Prifysgol Aberystwyth. https://wp-research.aber.ac.uk/nsrefugeeswales/history/background-of-refugees/refugee-profiles/renate-collins/

 

Gwers 4 Kindertransport: Bywyd yng Nghymru.

Mae'r bedwaredd wers yn archwilio ystod o leoliadau ledled Cymru lle'r oedd y Kindertransportees yn byw ac effaith Kindertransport ar hanes lleol Cymru. Mae'r wers hon yn gyfle i fyfyrio ar y wybodaeth a gafwyd yn y tair gwers flaenorol ar Kindertransport.

 

Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation.

 

Cyfnod Allweddol 3

Hanes, Sgiliau llythrennedd

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o gyfres o 4 ar bwnc y 'Kindertransport’. Dyma ddolenni i'r adnoddau eraill yn y gyfres hon:

Gwers 1 Kindertransport

Gwers 2 Kindertransport

Gwers 3 Kindertransport

 

Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.

Lawrlwytho'r Adnodd Dysgu

L4_Kindertransport_Cynllun_Gwers.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) L4_Kindertransport_Taflen_Waith.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) L4_Kindertransport_Lesson Plan.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) L4_Kindertransport_Worksheet.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw