Adnoddau dan y chwyddwydr
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Hughes5.jpg?itok=z7vNrGLM)
Mae’r adnodd yma’n gwahodd dysgwyr i edrych ar hanes diwydiannu Cymru o safbwynt gwahanol. Sefydlwyd dinas Hughesovka, sef dinas Donetsk yn rhanbarth Donbas, dwyrain Wcráin erbyn heddiw (rhan o Ymerodraeth Rwsia bryd hynny) gan weithwyr o Gymru a Phrydain. Gan ddefnyddio Hughesovka fel astudiaeth achos, nod yr adnodd yw galluogi dysgwyr i ddatblygu safbwynt mwy amlochrog a beirniadol ar hanes diwydiannu yn eu gwlad ac ymgysylltu’n feirniadol â deunydd archifol.Awduron: Clara Defachel a Dr Victoria Donovan, Prifysgol St Andrews, yr Alban. Casgliad y Werin Cymru.Daw’r deunydd ffynhonnell (ffotograffau a delweddau eraill) yn yr adnodd hwn o Archif Ymchwil Hughesovka, a gedwir yn Archifau Morgannwg, ac fe’i hatgynhyrchir yma drwy eu caniatâd caredig. Cwricwlwm i Gymru Y DyniaethauHanesCam Cynnydd: 3 a 4 Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol. Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gasgliad o ddelweddau i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/L1_Dorothy_Fleming_crop2.jpg?itok=rsHNXMZZ)
Wrth ffoi ledled Ewrop i ddianc rhag y Natsïaid, cyrhaeddodd tua 10,000 o blant Iddewig Brydain Fawr rhwng Rhagfyr 1938 a Medi 1939 ar y Kindertransport (trafnidiaeth plant). Dim ond plant dan oed ar eu pen eu hunain a dderbyniodd llywodraeth Prydain trwy’r cynllun hwn, er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw gyda’u rhieni ac aelodau eraill o’u teuluoedd cyn iddyn nhw ffoi. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio rhai o straeon y ffoaduriaid a oedd yn blant yn teithio ar y Kindertransport i Gymru.Delwedd uchod: Dorothy Fleming, pedair oed, yn sefyll yn Rathauspark yn Fienna. Tynnwyd y llun ym 1932. © O'r casgliad yng The National Holocaust Centre and Museum, UK. Kindertransport 1: Bywyd Iddewig yng Nghanolbarth Ewrop cyn yr Ail Ryfel Byd. Mae'r adnodd gyntaf hwn yn archwilio bywyd merch ifanc Iddewig o Awstria, Dorothy Fleming, cyn iddi gyrraedd Caerdydd. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 9-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o gyfres o 4 ar bwnc y 'Kindertransport’. Dyma ddolenni i'r adnoddau eraill yn y gyfres hon:Kindertransport 2Kindertransport 3Kindertransport 4 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/JHASW_Toolkit.jpg?itok=RAXFQaLl)
Cadw a rhannu eich dogfennau hanesyddolSefydlwyd Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru / The Jewish History Association of South Wales CHIDC / JHASW) ym mis Tachwedd 2017 gyda'r nod o ddatgelu, dogfennu, cadw, a rhannu treftadaeth ddiwylliannol diriaethol ac annirweddol ymysg cymunedau Iddewig de Cymru.Mae'r dogfennau hyn yn rhan o Becyn Cymorth Treftadaeth a fydd yn galluogi cymunedau a sefydliadau bychan i gymryd y camau cyntaf tuag at warchod a rhannu eu treftadaeth, hyd yn oed os nad oes ganddynt brofiad yn y maes hwn.Mae Archifau Morgannwg wedi bod yn bartner tymor hir i lawer o brosiectau CHIDC / JHASW ac mae hi wedi cyfrannu’r dogfennau yma fel rhan o brosiect ar y cyd (ynghyd â Casgliad y Werin Cymru) ar gyfer Grant adfer gwirfoddoli yn sgil y Coronafirws a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru 2020/21. Mae'r adnodd hwn yn cynnwys arweiniad ar: Gadw eich deunydd hanesyddol yn eich Archifau lleolCanllawiau ar gyfer rhestru cofnodion cyn eu hadneuo yn Archifau MorgannwgTrin Dogfennau - Egwyddorion Cyffredinol Rhannu eich deunydd hanesyddol ar Cadgliad y Werin CymruSut i greu catalog Casgliad y Werin Cymru ar gyfer Deunyddiau CyffyrddadwyHawlfraint - Cyflwyniad byr iawn Mae rhannau pellach o'r pecyn cymorth i'w gweld ar ein gwefan yma www.jhasw.com/heritage-toolkit Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion, ac mae'n cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol. Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn cynnig gweithgareddau dysgu i'ch helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/2024/March/5.png?itok=jNf7m2pY)
Hoffech chi gyfrannu deunydd at Gasgliad y Werin Cymru? Yn ansicr lle mae dechrau? Gwyliwch ein fideo byr isod, yna darllenwch ein Canllawiau Sut i er mwyn dysgu sut i gofrestru cyfrif, uwchlwytho a chyhoeddi. Athrawon: Mae’r sgiliau sy’n cael eu datblygu wrth greu cyfrif ac uwchlwytho eitemau i Gasgliad y Werin Cymru yn bodloni sawl un o ofynion y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Darllenwch rhagor yn ein Blwch offer i athrawon. Cwricwlwm i GymruFframwaith Cymhwysedd Digidol Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol.
Croeso i’r adran Addysg, sy’n llawn adnoddau i ddysgwyr o bob oed. Athrawon, chwiliwch am adnoddau yn ôl oedran a meysydd y cwricwlwm isod, neu defnyddiwch y Blwch Offer i Athrawon am gymorth ymarferol gyda’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Dysgwyr sy'n oedolion, cliciwch ar y tab Dysgu Gydol Oes i weld yr adnoddau mwyaf addas ar eich cyfer, ac edrychwch ar ein Cyrsiau Hyfforddi i ddysgu mwy am ddigido treftadaeth Cymru.
151Adnoddau Dysgu
Cwricwlwm i Gymru
Oed: 5-8 / Cam Cynnydd 2
Oed: 8-11 / Cam Cynnydd 3
Oed: 11-14 / Cam Cynnydd 4
Oed: 14-16 / Cam Cynnydd 5
Oed: 16+ / Cam Cynnydd 5+
Dysgu Gydol Oes
-
(-) Remove Cymry enwog
-
(-) Remove Cymry Enwog
-
(-) Remove Fframwaith Cymhwysedd Digidol
-
(-) Remove Sgiliau digidol
-
(-) Remove Y Celfyddydau Mynegiannol
-
(-) Remove Iecheyd a Lles
-
(-) Remove Y Dyniaethau
-
(-) Remove Mathemateg a Rhifedd
-
(-) Remove Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Arweiniwyd y prosiect gan bobl ifanc, a ddaeth o amrywiaeth eang o gefndiroedd i ddysgu ac archwilio eu tebygrwydd a’u gwahaniaethau diwylliannol gyda’r nod o ddeall ac addysgu eu hunain wrth ddatblygu ymdeimlad parhaol o gymuned ehangach.Cyflwynwyd y prosiect hwn gyda’r nod o archwilio a dathlu diwylliant a threftadaeth trwy lens y bobl ifanc yn y gymdeithas, yn arbennig, pobl o leiafrifoedd ethnig fel adnodd i hyrwyddo amrywiaeth a chydlyniant cymunedol. Mae brwdfrydedd ein prosiectau treftadaeth Windrush a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys wedi cael effaith fawr ar lawer o unigolion ifanc. Maent yn awyddus i rannu eu straeon, codi ymwybyddiaeth, ac yn awyddus i addysgu plant ysgol a theuluoedd am eu treftadaeth a Hanes Pobl Dduon Cymru. Yn ganolog i'n dull oedd y syniad o rymuso trwy gyfrwng. Gan gydnabod bod pawb a oedd yn cymryd rhan yn dod â phersbectif unigryw i'r bwrdd, gwnaethom eu grymuso i gymryd awenau'r broses gyfweld. Yn hytrach na bod yn destun craffu allanol, rhoddwyd cyfle i’r rhai a oedd yn cymryd rhan gyfweld â’i gilydd – syniad a ddaeth i’r amlwg yn organig o fewn y grŵp, gan feithrin ymdeimlad o berchnogaeth dros y broses adrodd straeon. Yn y lleoliad cydweithredol hwn, chwalwyd rhwystrau. Cwricwlwm i GymruOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 & 5 Iecheyd a LlesMae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles. Y DyniaethauMae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol. Cynnwys adnoddau: - Fideo prosiect yn cynnwys cyfweliadau gyda chyfranogwyr - Llyfryn Prosiect - Ffotograffau prosiect a chynnwys arallGweler y Cysylltiadau Cyflym isod am y cynnwys hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/2024/April/Womens_boxing_Wales_logo_0.jpg?itok=m5ya2tp-)
Mae Bocsio Menywod Cymru: Ddoe, Presennol a Dyfodol (WBW) yn brosiect treftadaeth chwaraeon, sy’n dogfennu profiadau menywod sy’n cymryd rhan ym myd bocsio yng Nghymru. Pwrpas y prosiect yw dathlu’r cyfraniadau y maent wedi’u gwneud i hanes cyfoethog bocsio yng Nghymru a thynnu sylw at yr heriau a’r rhwystrau y mae cyfranogwyr benywaidd yn eu hwynebu yn y gamp. Mae’r archif a gyhoeddir yng Nghasgliad y Werin Cymru yn cynnwys delweddau a chyfweliadau gyda bocswyr (amatur a phroffesiynol), hyfforddwyr bocsio, haneswyr a newyddiadurwyr.Gall yr andodd hwn gefnogi dysgwyr i:1. Deall sut mae bocsio yn galluogi unigolion i fagu hyder a hunan-barch, ac i ddatblygu a chynnal arferion cadarnhaol sy'n cefnogi lles emosiynol, hunaniaeth a chymuned.2. Ystyried y ffordd y maent yn mynegi a phrosesu eu hemosiynau trwy weithredu a gweithgaredd corfforol. Cwricwlwm i GymruOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 & 5 Iecheyd a LlesMae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles. Y DyniaethauMae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol. Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/protest%20header2.jpg?itok=f43ZtX-H)
Mae gan bobl Cymru hanes hir o ymgyrchu a phrotestio yn erbyn anghyfiawnder, annhegwch ac anghydraddoldeb. Mae llawer o ffyrdd gall pobl ymgyrchu neu brotestio.Yn yr eLyfr yma, byddwn ni’n edrych ar rai o’r gwahanol ffyrdd mae pobl yn protestio. Sut ydych chi’n meddwl mae’r ffyrdd mae pobl yn protestio wedi newid dros amser?Cewch fynediad at yr eLyfr ar wefan Amgueddfa Cymru Cwricwlwm i GymruDyniaethauMae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.Oed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson15_k.bosse-griffiths.jpg?itok=gVO0uaRa)
Yn y wers hon, bydd y myfyrwyr yn edrych ar hanes Kate Bosse-Griffiths, ffoadur Almaeneg-Iddewig, wnaeth ffoi i Gymru gan ddod yn ffigwr blaenllaw yn y mudiad Cymraeg.Delwedd uchod: Kate Bosse a Gwyn Griffiths ar ddiwrnod eu priodas, Pontypridd, Medi 1939. Delwedd â chaniatâd Heini Gruffudd.Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 11-14 / Cam Cynnydd: 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/CRS20Tablet.jpg?itok=zSgcF4yV)
Mae’r adnodd hwn yn canolbwyntio ar goffáu’r Holocost, gan annog myfyrwyr i feddwl am sut a pham y dylem ni gofio’r Holocost a’i berthnasedd ar gyfer y dyfodol.Delwedd uchod: Coflech Holocost Synagog Ddiwygiedig Caerdydd, 2019. Cydnabyddiaeth Llun: Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson19_karel.lek_crop.jpg?itok=AMuOglIm)
Yn y adnodd hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu am fywyd ffoaduriaid yng Nghymru ar ôl y rhyfel, a sut y gwnaethant addasu i’w hunaniaeth newydd.Delwedd uchod: Portrait of an Anglesey Man gan Karel Lek (1929-2000) © Ystâd Karel Lek Credyd y ffotograff: Prifysgol Bangor. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_swansea_0023.jpg?itok=1ZAAqJz5)
Mae’r adnodd hwn yn edrych ar fywyd crefyddol ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio ar ddau bwnc: Gwasanaeth crefyddol a cheder, a bwyd kosher.Roedd crefydd yn rhan bwysig o fywyd llawer o ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru. Roedd llawer yn mynychu synagogau neu cheder (addysg grefyddol). Mae deddfau dietegol Iddewig, sydd wedi'u gwreiddio mewn crefydd, yn nodi pa fwydydd y gall neu na allant Iddewon eu bwyta. Mae'r cyfreithiau hefyd yn nodi sut mae'r bwyd yn cael ei baratoi cyn iddo gyrraedd y cartref ac oddi mewn iddo. Yn gyffredinol, po fwyaf Uniongred yw cefndir person, y mwyaf agos y cedwir at y rheolau hyn.Bydd myfyrwyr yn clywed tystiolaeth hanes llafar gan ddau ffoadur Kindertransport – un yn disgrifio gwasanaethau crefyddol yng Nghastell Gwrych ac un am ddefodau crefyddol yn eu cartref dros dro.Delwedd uchod: Dosbarth Cheder, Abertawe Beth Hamedrash, 1908-09. Delwedd trwy garedigrwydd Leonard Mars.Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 11-14 / Cam Cynnydd: 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson12_g.schoenmann_012.jpg?itok=9rh7KTp0)
Yn y casgliad hwn o adnoddau, bydd y myfyrwyr yn dysgu am Ystad Fasnachu Trefforest, ger Pontypridd, a sefydlwyd fel rhan o Ddeddf Ardaloedd Arbennig 1934. Crëwyd y Ddeddf i helpu rhannau o Brydain â diweithdra uchel, ac roedd yn cynnig cymorth i fusnesau sefydlu yn yr ardaloedd hyn. Pan ddechreuodd y Natsïaid gipio busnesau Iddewig yn yr Almaen yn y blynyddoedd ar ôl 1933, ffodd llawer o ffoaduriaid Iddewig yma i sefydlu eu busnesau gyda chymorth y cynllun hwn.Erbyn Mai 1940, roedd 55 o fusnesau a ddechreuwyd gan ffoaduriaid Iddewig yn cael eu rhedeg yn Nhrefforest. Fe wnaethon nhw ddarparu swyddi i tua 1,800 o bobl leol.Yn yr adnodd hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu am brofiadau’r teulu Schoenmann, a oedd yn rhedeg ffatri papur sigaréts a bocsys yn Nhrefforest. Ystyriwyd bod eu busnes yn “hanfodol i ymdrech y rhyfel” gan fod sigaréts yn cael eu hystyried yn “hanfodol i gynnal morâl yn y lluoedd arfog, a gartref”.Dyma adnodd 2 o 2 ar y testun Ystad Fasnachu Trefforest.Delwedd uchod: Plac wal y General Paper & Box Manufacturing Company yn Ystad Fasnachu Trefforest, 1941. Delwedd: Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Delwedd trwy garedigrwydd George Schoenmann. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 11-14 / Cam Cynnydd: 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae'n un o ddau ar y testun Ystad Fasnachu Trefforest. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon:Yr Holocost a Chymru: Aero Zipp Fasteners yn Ystad Fasnachu Trefforest Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson8_aero.zipp_crop.jpg?itok=3Tkl6MEe)
Sefydlwyd Ystad Fasnachu Trefforest, ger Pontypridd, fel rhan o Ddeddf Ardaloedd Arbennig 1934. Crëwyd y Ddeddf i helpu rhannau o Brydain â diweithdra uchel, a chynigiodd gymorth i fusnesau sefydlu yn yr ardaloedd hyn. Pan ddechreuodd y Natsïaid gipio busnesau Iddewig yn yr Almaen yn y blynyddoedd ar ôl 1933, ffodd llawer o ffoaduriaid Iddewig yma i sefydlu eu busnesau gyda chymorth y cynllun hwn.Erbyn Mai 1940, roedd 55 o fusnesau a sefydlwyd gan ffoaduriaid Iddewig yn cael eu rhedeg yn Nhrefforest. Fe wnaethon nhw ddarparu swyddi i tua 1,800 o bobl leol. Un o'r ffatrïoedd hyn oedd Aero Zipp Fasteners a sefydlwyd gan y ffoadur-ddiwydiannwr Joachim Koppel, dyn busnes Iddewig a dreuliodd flynyddoedd lawer o'i fywyd yn Berlin nes iddo orfod ffoi. Roedd Aero Zipp yn cynhyrchu sipiau metel. Roedd ganddyn nhw eu ffatri yn Nhrefforest a'u swyddfeydd yn Llundain. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel sawl busnes Iddewig arall, fe wnaethon nhw gyfrannu at ymdrech y rhyfel trwy wneud sipiau ar gyfer offer milwrol.Yn yr adnodd hwn, mae myfyrwyr yn dod â’r ffatri’n fyw mewn ffordd ymarferol a chreadigol, gan ddefnyddio seinwedd.Dyma adnodd 1 o 2 ar y testun Ystad Fasnachu Trefforest.Delwedd uchod: Hysbyseb ar gyfer Aero Zipp Fasteners, 1969. Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 9-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae'n un o ddau ar y testun Ystad Fasnachu Trefforest. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon:Yr Holocost a Chymru: General Paper and Box Manufacturing Company yn Ystad Fasnachu Trefforest Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson4_r.collins_01_edited.jpg?itok=26cUqqfa)
Wrth ffoi ledled Ewrop i ddianc rhag y Natsïaid, cyrhaeddodd tua 10,000 o blant Iddewig Brydain Fawr rhwng Rhagfyr 1938 a Medi 1939 ar y Kindertransport (trafnidiaeth plant). Dim ond plant dan oed ar eu pen eu hunain a dderbyniodd llywodraeth Prydain trwy’r cynllun hwn, er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw gyda’u rhieni ac aelodau eraill o’u teuluoedd cyn iddyn nhw ffoi. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio rhai o straeon y ffoaduriaid a oedd yn blant yn teithio ar y Kindertransport i Gymru.Delwedd uchod: Cerdyn adnabod Renate Collins. Delwedd trwy garedigrwydd Renate Collins. Ffynhonnell y ddelwedd: Canolfan Symudiad Pobl, Prifysgol Aberystwyth. https://wp-research.aber.ac.uk/nsrefugeeswales/history/background-of-refugees/refugee-profiles/renate-collins/ Kindertransport 4: Bywyd yng Nghymru.Mae'r bedwaredd adnodd hwn yn archwilio ystod o leoliadau ledled Cymru lle'r oedd y Kindertransportees yn byw ac effaith Kindertransport ar hanes lleol Cymru. Mae'r wers hon yn gyfle i fyfyrio ar y wybodaeth a gafwyd yn y tair gwers flaenorol ar Kindertransport. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 9-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o gyfres o 4 ar bwnc y 'Kindertransport’. Dyma ddolenni i'r adnoddau eraill yn y gyfres hon:Kindertransport 1Kindertransport 2Kindertransport 3 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson3_HO396-229.jpg?itok=CSZyHtiV)
Wrth ffoi ledled Ewrop i ddianc rhag y Natsïaid, cyrhaeddodd tua 10,000 o blant Iddewig Brydain Fawr rhwng Rhagfyr 1938 a Medi 1939 ar y Kindertransport (trafnidiaeth plant). Dim ond plant dan oed ar eu pen eu hunain a dderbyniodd llywodraeth Prydain trwy’r cynllun hwn, er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw gyda’u rhieni ac aelodau eraill o’u teuluoedd cyn iddyn nhw ffoi. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio rhai o straeon y ffoaduriaid a oedd yn blant yn teithio ar y Kindertransport i Gymru.Delwedd uchod: Cerdyn Estron-Elynion a Chaethiwedigion ar gyfer Maria Beate Siegel. Findmypast. Dogfen wreiddiol: © Hawlfraint y Goron. Atgynhyrchwyd y ddelwedd trwy garedigrwydd yr Archifau Cenedlaethol, Llundain, Lloegr. Kindertransport 3: Cyrraedd Cymru. Mae'r drydedd adnodd hwn yn archwilio stori Bea Green, ffoadur ifanc Iddewig o'r Almaen, a deithiodd i Brydain ar Kindertransport ac a oedd yn byw yng Nghymru ar ôl i'w hysgol gael ei symud yno fel rhan o’r cynllun ymgilio. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 9-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o gyfres o 4 ar bwnc y 'Kindertransport’. Dyma ddolenni i'r adnoddau eraill yn y gyfres hon:Kindertransport 1Kindertransport 2Kindertransport 4 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/L2_Dorothy_Fleming_crop_0.jpg?itok=z-20x1eb)
Wrth ffoi ledled Ewrop i ddianc rhag y Natsïaid, cyrhaeddodd tua 10,000 o blant Iddewig Brydain Fawr rhwng Rhagfyr 1938 a Medi 1939 ar y Kindertransport (trafnidiaeth plant). Dim ond plant dan oed ar eu pen eu hunain a dderbyniodd llywodraeth Prydain trwy’r cynllun hwn, er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw gyda’u rhieni ac aelodau eraill o’u teuluoedd cyn iddyn nhw ffoi. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio rhai o straeon y ffoaduriaid a oedd yn blant yn teithio ar y Kindertransport i Gymru.Delwedd uchod: Dorothy Fleming (chwith) a'i chwaer Lisi (dde), 1938. © O'r casgliad yng The National Holocaust Centre and Museum, UK. Kindertransport 2: Y daith i Brydain. Mae'r ail adnodd hwn yn archwilio taith Kindertransport merch ifanc o Awstria, Dorothy Fleming. Mi wnaeth hi’r siwrnai hon i Brydain ym 1939 cyn ymgartrefu, yn y bon, gyda'i theulu yng Nghaerdydd. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, and Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 9-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o gyfres o 4 ar bwnc y 'Kindertransport’. Dyma ddolenni i'r adnoddau eraill yn y gyfres hon:Kindertransport 1Kindertransport 3Kindertransport 4 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Hughes5.jpg?itok=z7vNrGLM)
Mae’r adnodd yma’n gwahodd dysgwyr i edrych ar hanes diwydiannu Cymru o safbwynt gwahanol. Sefydlwyd dinas Hughesovka, sef dinas Donetsk yn rhanbarth Donbas, dwyrain Wcráin erbyn heddiw (rhan o Ymerodraeth Rwsia bryd hynny) gan weithwyr o Gymru a Phrydain. Gan ddefnyddio Hughesovka fel astudiaeth achos, nod yr adnodd yw galluogi dysgwyr i ddatblygu safbwynt mwy amlochrog a beirniadol ar hanes diwydiannu yn eu gwlad ac ymgysylltu’n feirniadol â deunydd archifol.Awduron: Clara Defachel a Dr Victoria Donovan, Prifysgol St Andrews, yr Alban. Casgliad y Werin Cymru.Daw’r deunydd ffynhonnell (ffotograffau a delweddau eraill) yn yr adnodd hwn o Archif Ymchwil Hughesovka, a gedwir yn Archifau Morgannwg, ac fe’i hatgynhyrchir yma drwy eu caniatâd caredig. Cwricwlwm i Gymru Y DyniaethauHanesCam Cynnydd: 3 a 4 Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol. Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gasgliad o ddelweddau i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/L1_Dorothy_Fleming_crop2.jpg?itok=rsHNXMZZ)
Wrth ffoi ledled Ewrop i ddianc rhag y Natsïaid, cyrhaeddodd tua 10,000 o blant Iddewig Brydain Fawr rhwng Rhagfyr 1938 a Medi 1939 ar y Kindertransport (trafnidiaeth plant). Dim ond plant dan oed ar eu pen eu hunain a dderbyniodd llywodraeth Prydain trwy’r cynllun hwn, er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw gyda’u rhieni ac aelodau eraill o’u teuluoedd cyn iddyn nhw ffoi. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio rhai o straeon y ffoaduriaid a oedd yn blant yn teithio ar y Kindertransport i Gymru.Delwedd uchod: Dorothy Fleming, pedair oed, yn sefyll yn Rathauspark yn Fienna. Tynnwyd y llun ym 1932. © O'r casgliad yng The National Holocaust Centre and Museum, UK. Kindertransport 1: Bywyd Iddewig yng Nghanolbarth Ewrop cyn yr Ail Ryfel Byd. Mae'r adnodd gyntaf hwn yn archwilio bywyd merch ifanc Iddewig o Awstria, Dorothy Fleming, cyn iddi gyrraedd Caerdydd. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 9-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o gyfres o 4 ar bwnc y 'Kindertransport’. Dyma ddolenni i'r adnoddau eraill yn y gyfres hon:Kindertransport 2Kindertransport 3Kindertransport 4 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/JHASW_Toolkit.jpg?itok=RAXFQaLl)
Cadw a rhannu eich dogfennau hanesyddolSefydlwyd Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru / The Jewish History Association of South Wales CHIDC / JHASW) ym mis Tachwedd 2017 gyda'r nod o ddatgelu, dogfennu, cadw, a rhannu treftadaeth ddiwylliannol diriaethol ac annirweddol ymysg cymunedau Iddewig de Cymru.Mae'r dogfennau hyn yn rhan o Becyn Cymorth Treftadaeth a fydd yn galluogi cymunedau a sefydliadau bychan i gymryd y camau cyntaf tuag at warchod a rhannu eu treftadaeth, hyd yn oed os nad oes ganddynt brofiad yn y maes hwn.Mae Archifau Morgannwg wedi bod yn bartner tymor hir i lawer o brosiectau CHIDC / JHASW ac mae hi wedi cyfrannu’r dogfennau yma fel rhan o brosiect ar y cyd (ynghyd â Casgliad y Werin Cymru) ar gyfer Grant adfer gwirfoddoli yn sgil y Coronafirws a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru 2020/21. Mae'r adnodd hwn yn cynnwys arweiniad ar: Gadw eich deunydd hanesyddol yn eich Archifau lleolCanllawiau ar gyfer rhestru cofnodion cyn eu hadneuo yn Archifau MorgannwgTrin Dogfennau - Egwyddorion Cyffredinol Rhannu eich deunydd hanesyddol ar Cadgliad y Werin CymruSut i greu catalog Casgliad y Werin Cymru ar gyfer Deunyddiau CyffyrddadwyHawlfraint - Cyflwyniad byr iawn Mae rhannau pellach o'r pecyn cymorth i'w gweld ar ein gwefan yma www.jhasw.com/heritage-toolkit Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion, ac mae'n cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol. Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn cynnig gweithgareddau dysgu i'ch helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/2024/March/5.png?itok=jNf7m2pY)
Hoffech chi gyfrannu deunydd at Gasgliad y Werin Cymru? Yn ansicr lle mae dechrau? Gwyliwch ein fideo byr isod, yna darllenwch ein Canllawiau Sut i er mwyn dysgu sut i gofrestru cyfrif, uwchlwytho a chyhoeddi. Athrawon: Mae’r sgiliau sy’n cael eu datblygu wrth greu cyfrif ac uwchlwytho eitemau i Gasgliad y Werin Cymru yn bodloni sawl un o ofynion y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Darllenwch rhagor yn ein Blwch offer i athrawon. Cwricwlwm i GymruFframwaith Cymhwysedd Digidol Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/2024/March/4.png?itok=gQNtxihA)
Yma yn adran ADDYSG CYW gallwch ddod o hyd i adnoddau addysg i ddysgwyr o bob oed. Mae rhai o’r adnoddau hyn wedi cael eu creu gan dîm Casgliad y Werin, rhai gan ein sefydliadau partner cyfunol*, a rhai gan ein partneriaid yn y gymuned, mewn addysg neu yn y sector Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau.Ydych chi’n rhan o unrhyw brojectau cymunedol, mewn addysg neu yn y sector amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau? Oes gyda chi unrhyw ddeunydd addysgiadol yr hoffech chi ei rannu yn ehangach? Ydych chi’n gweithio ar broject a fyddai’n ddiddorol i gynulleidfa addysg? Oes gyda chi syniad am adnodd yr hoffech ei ddatblygu ymhellach?Gwyliwch y fideo byr hwn i weld sut y gall Casgliad y Werin Cymru eich helpu i hyrwyddo eich deunydd dysgu * Y tri sefydliad partner cyfunol sy’n rhan o Gasgliad y Werin Cymru yw: Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Jitterbugging_in_Cardiff_Bay3.jpg?itok=kz5-JTKt)
Darganfyddwch yr ‘Archif Cof’ yng Nghasgliad y Werin Cymru a dysgwch am ddementia.Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o’r cyflwr cyffredin sy’n newid bywydau. Gall hefyd roi sgiliau bywyd gwerthfawr iddyn nhw, gan eu galluogi nhw i gefnogi aelodau o’u teulu a’u cymuned sy’n byw gyda dementia.Bydd yr adnodd hwn:yn eich cyflwyno chi i ‘Archif Cof’ ar wefan Casgliad y Werin Cymru, sef archif o ddelweddau y gallwch eu defnyddio wrth hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementiayn eich cyflwyno chi i adnoddau addysg y Gymdeithas Alzheimer’s i ysgolion sy’n gwneud addysgu a dysgu am ddementia yn hawddyn rhoi cyngor ar sut allwch chi ddefnyddio Archif Cof mewn dau weithgaredd atgofion ymarferol: Creu Coeden Gof a Chreu Llinell Amser Cofyn eich cyfeirio at adnoddau dementia eraill am ddim, gan amlygu’r rhai sydd ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg Gwyliwch fideo byr am yr Archif Cof. Y Cyfnod SylfaenDatblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r bydCyfnod Allweddol 2, 3 a 4Addysg bersonol a chymdeithasolCwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Fframwaith Cymhwysedd DigidolAddysg Gydol OesDatblygwyd yr adnodd hwn ar gyfer ysgolion, ond mae'n cynnwys gweithgareddau a allai gael eu defnyddio gan bobl o unrhyw oed, i weithio gydag oedolion sy'n byw gyda dementia. Gallai gael ei ddefnyddio gan deuluoedd i gefnogi aelod o'r teulu, neu gan bobl sy'n gweithio mewn amgylchedd gofal. Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/rainbow-sun%20cropped.jpg?itok=zGDjhrHF)
Cofnodi straeon eich disgyblion yn ystod y pandemig.Ar hyd y canrifoedd, mae dyddiaduron, ffotograffau, dogfennau a recordiadau wedi ein helpu i ddeall cyfnodau hanesyddol eraill a sut mae pobl yn byw eu bywydau o ddydd i ddydd, yn arbennig felly mewn cyfnod o argyfwng.Gyda’ch cymorth chi, hoffem greu capsiwl amser digidol ar gyfer ein gwefan er mwyn i ni, a chenedlaethau’r dyfodol ddeall stori eich disgyblion yn ystod y cyfnod heriol hwn. Y Cyfnod SylfaenFframwaith Cymhwysedd Digidol, Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd, Datblygiad creadigolCyfnod Allweddol 2, 3 & 4Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Sgiliau llythrennedd, Addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eangCwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd Digidol Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn, a gweld ein cynnwys 'Enfysau Mewn Ffenestri' yma.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Hopemount%20crew2.jpg?itok=A3ZzcHjE)
Mae Cymru yn wlad amlddiwylliannol, ac mae cysylltiad cryf rhwng ymfudo i Gymru a’n hanes diwydiannol. Hyd heddiw, mae pobl wedi dod i Gymru i weithio, i astudio, i geisio lloches ac i fyw. Rydym ni i gyd yn cyfrannu at hanes a diwylliant Cymru. Yn y Casgliad yma, ein nod yw dod â straeon pobl a chymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru at ei gilydd.Mae’r adnodd hwn yn seiliedig ar gynnwys sydd wedi’i gyhoeddi ar hyn o bryd ar wefan Casgliad y Werin Cymru. Rydym yn gweithio i ymgysylltu â sefydliadau, cymunedau ac unigolion i greu cymynrychiolaeth ehangach a mwy amrywiol o bobl Cymru. Bydd yr adnodd hwn yn tyfu wrth i fwy o gynnwys ddod ar gael. Allwch chi helpu? Os oes gennych chi gynnwys allai helpu i adrodd straeon unigolion a chunedau o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru (yn y gorffennol a’r presennol), beth am ei ychwanegu at Gasgliad y Werin Cymru? Am gymorth i uwchlwytho eich cynnwys, gweler ein Canllawiau. Os ydych yn gwybod am gynnwys sydd wedi’i gyhoeddi a fyddai’n cyfoethogi’r adnodd hwn, gadewch sylw isod neu Cysylltwch â ni er mwyn ein helpu i barhau i ehangu’r adnodd hwn. Cwricwlwm i GymruDyniaethauOed / Cam Cynnydd: Pawb(Mae mwyafrif y cynnwys yn addas i ddysgwyr o bob oed, ond dylai athrawon wirio’r cynnwys cyn ei rannu gyda’r plant. Mae’n bosib na fydd pob eitem yn addas, megis cynnwys clyweledol a fideos am derfysgoedd hil 1919.) Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol. CasgliadRydym wedi casglu’r eitemau hyn ynghyd fel y gallwch eu defnyddio fel adnoddau ima greu gweithgareddau i’ch dosbarth mewn ffordd hawdd a chyflym. Gallwch ddod o hyd i gynnwys gan nifer o gyfranwyr CyW yn y Cysylltiadau Cyflym isod, a thrwy edrych ar y cyfranwyr a’r prosiectau yma:Back-a-Yard projectJewish History Association of South Wales (JHASW)Newport Chinese Community CentreTreftadaeth Gymreig-Eidalaidd / Welsh-Italian HeritageSWICA CarnivalHistoricDockProjectAdnodd Dysgu - Cyn Rhyddid, Treftadaeth Jazz CymruWindrush CymruCyfnewid Amrywiaeth Digidol Pobl Ifanc
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/JackieJones3_small14_0.jpg?itok=yjoXwgVZ)
Mae hanes o'n cwmpas ym mhobman. Meddyliwch am eich teulu a'ch cymuned. Mae digon o straeon yno i lenwi llyfrgell. HANES LLAFAR yw enw'r math yma o hanes.Mae dogfennau a llyfrau yn aml yn canolbwyntio ar bobl a digwyddiadau enwog. Ond nid yw profiad a llais y mwyafrif yn cael ei gofnodi. Mae hanes llafur yn llenwi'r bylchau ac yn rhoi i ni hanes sy'n cynnwys pawb.Diolch i dechnoleg ddigidol, gall unrhywun gasglu hanesion llafar a'u rhannu gydag eraill. Mae'n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau digidol a chyfweld wrth ddysgu am hanes. Gall feithrin hyder pobl ifanc a magu parch rhwng cenedlaethau.Mae'r canllaw wedi'i greu mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Hanes Llafar a Chasgliad y Werin Cymru. Mae'n cynnig cyngor defnyddiol ar gychwyn project hanes llafar yn eich ysgol neu gymuned. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanesOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 & 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Shop.jpg?itok=iZklvf8c)
Dysgwch am sut mae ein dull o siopa wedi newid dros y blynyddoedd. Ymchwiliwch i’r newidiadau i’r stryd fawr ac i ganol ddinas Caerdydd a darganfyddwch mwy am ddatblygiad clidio i’r cartref. Darganfyddwch am ddogni bwyd yn ystod adegau anodd, a dysgwch am y danteithion ar gael mewn caffis ers talwm.Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel ffotograffau, cyfeiriaduron masnach, cynlluniau adeiladu, y cyfrifiad a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Docks.jpg?itok=7zeWeAPE)
Dysgwch fwy am lo: o ble y daeth? Sut y’i defnyddiwyd? I ble yr oedd yn mynd? Dysgwch sut roedd glo Cymru yn pweru’r byd a sut roedd yn cael ei allforio drwy Ddociau Caerdydd.Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel mapiau, ffotograffau, ffurflenni’r cyfrifiad, cyfeiriaduron masnach, cofnodion llongau a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Victorians3.jpg?itok=XP5AE9Ro)
Dysgwch sut roedd y bobl gyfoethog yn byw yn ne Cymru yn Oes Fictoria, a dysgwch sut roedd pobl dlawd de Cymru’n byw eu bywydau. Dysgwch sut le oedd yr ysgol yn Oes Fictoria, a dysgwch am fywydau gwaith y bobl yn ne Cymru. Darganfyddwch y tai roedd y bobl Fictoraidd yn byw ynddynt, ac am y dodrefn a’r offer yr oeddent yn berchen arnynt.Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel ffurflenni’r cyfrifiad, mapiau, ffotograffau, llyfrau log ysgol, dyddiaduron a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Henry.jpg?itok=JisbjAjv)
Dysgwch sut roedd pobol yn byw yn ne Cymru yng nghyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid; beth roeddent yn gwisgo, beth roeddent yn bwyta, a sut roeddent yn dodrefnu eu tai. Dysgwch mwy am y brenhinoedd a breninesau’r oes a’u cysylltiadau a de Cymru.Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel ewyllysiau a rhestrau eiddo, ryseitiau, selnodau, llythyrau a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/WW1_trenches.jpg?itok=LbC9GEuu)
Darganfyddwch mwy am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobol a chymunedau de Cymru. Dysgwch am fywyd wrth y ffrynt, am y bobol o de Cymru bu’n gwasanaethu yn y Rhyfel, ac am y gofal a chynigwyd i filwyr a anafwyd. Darganfyddwch sut effeithiwyd ar fywyd cartref ac yn yr ysgol gan y Rhyfel, ymchwiliwch i’r newidiadau i fywydau menywod yn ystod y Rhyfel.Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel llyfrau log ysgol, ffotograffau, llythyrau, dyddiaduron a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Air_raid_0.jpg?itok=jz2UK0hj)
Dysgwch fwy am effaith yr Ail Ryfel Byd ar Gaerdydd a de Cymru. Darganfyddwch sut effeithiwyd ar ysgolion, dysgwch am gyrchoedd awyr a’r camau diogelu a gymerwyd a dysgwch fwy am ffoaduriaid. Dysgwch am y brwydrau ar y Ffrynt Cartref drwy ‘Dig for Victory’ a ‘Make Do and Mend’, a sut effeithiwyd ar y werin yn ne Cymru gan y dogni.Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel llyfrau log ysgol, mapiau, ffotograffau, llythyrau a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5. Cwricwlwm i GymruOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5Y DyniaethauMae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl. Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuMae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o'n hamgylch.Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu. Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg. Gallwch weld y deunydd crai yn y ddogfen PDF isod, neu gallwch chi a'ch disgyblion weld y cynnwys digidol ar Gasgliad y Werin Cymru trwy ddilyn y Cysylltiadau Cyflym isod.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/cover_0.jpg?itok=zdd-ExwX)
Datblygwyd Project Pontio'r Cenedlaethau Windrush gan y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC) ar y cyd â disgyblion ysgolion lleol, i ymchwilio i fywydau cenhedlaeth Windrush a gyrhaeddodd Gymru o India'r Gorllewin rhwng y 1940au a'r 1970au.Gobaith y project oedd pontio'r bwlch rhwng cenedlaethau hen ac ifanc, gan ganolbwyntio ar drosglwyddo diwylliant a thraddodiad, a rhannu profiadau am deithio ac ymsefydlu. Mae'n cofnodi cyfraniad rhyfeddol ymfudwyr Du ac o Leiafrifoedd Ethnig i'r DU, yn enwedig yn ardal Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot.Mae'r project yn dathlu bywydau deg henadur – rhai yn aelodau o genhedlaeth Windrush ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i gymdeithas amlddiwylliannol De Cymru.Mae testun yr astudiaeth achos yn ddwyieithog, ond Saesneg yw iaith y fideos a'r llyfryn. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanesOed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5 Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Archives.jpg?itok=tUPyUz3X)
Defnyddiwch yr adnoddau yma er mwyn eich helpu gyda archwilio hanes lleol trwy ddefnyddio'r archifdy lleol. Cwricwlwm i GymruY DyniaethauHanesOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 & 5 Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol. Casgliad DysguRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Baptist.jpg?itok=X9jVrr4W)
Casgliad o ddarluniau pensaernïol gan y pensaer o Gasnewydd, R.G. Thomas (1820 - 1883).Roedd Thomas yn bensaer a pheiriannydd a dreuliodd rhan fwyaf ei fywyd yn Awstralia, wedi iddo fudo o Brydain ym 1836. Daeth yn ôl i Brydain ym 1846, lle arhosodd am 15 mlynedd. Treuliodd ran fwyaf y cyfnod hwn yng Nghasnewydd, lle bu'n rhan o sawl project adeiladu amryfal; o system ddraenio ar ystâd tai i ddylunio bythynnod a filas, o siopau i ysgolion, eglwysi a neuaddau tref. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Y DyniaethauHanes, Cymry enwogOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 & 5 Casgliad DysguRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.