Archifau Morgannwg: Cyfoeth a Thlodi yn Oes Fictoria
738 wedi gweld yr eitem hon

Dysgwch sut roedd y bobl gyfoethog yn byw yn ne Cymru yn Oes Fictoria, a dysgwch sut roedd pobl dlawd de Cymru’n byw eu bywydau. Dysgwch sut le oedd yr ysgol yn Oes Fictoria, a dysgwch am fywydau gwaith y bobl yn ne Cymru. Darganfyddwch y tai roedd y bobl Fictoraidd yn byw ynddynt, ac am y dodrefn a’r offer yr oeddent yn berchen arnynt.
Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel ffurflenni’r cyfrifiad, mapiau, ffotograffau, llyfrau log ysgol, dyddiaduron a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 neu 4.
Cyfod Allweddol 2, 3 & 4
Hanes, Sgiliau llythrennedd
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw