Astudiaeth Achos: Project Pontio'r Cenedlaethau Windrush Abertawe

3166 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Datblygwyd Project Pontio'r Cenedlaethau Windrush gan y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC) ar y cyd â disgyblion ysgolion lleol, i ymchwilio i fywydau cenhedlaeth Windrush a gyrhaeddodd Gymru o India'r Gorllewin rhwng y 1940au a'r 1970au.

Gobaith y project oedd pontio'r bwlch rhwng cenedlaethau hen ac ifanc, gan ganolbwyntio ar drosglwyddo diwylliant a thraddodiad, a rhannu profiadau am deithio ac ymsefydlu. Mae'n cofnodi cyfraniad rhyfeddol ymfudwyr Du ac o Leiafrifoedd Ethnig i'r DU, yn enwedig yn ardal Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot.

Mae'r project yn dathlu bywydau deg henadur – rhai yn aelodau o genhedlaeth Windrush ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i gymdeithas amlddiwylliannol De Cymru.

Mae testun yr astudiaeth achos yn ddwyieithog, ond Saesneg yw iaith y fideos a'r llyfryn.

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Celfyddydau Mynegiannol, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Hanes

Oed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5

 

Astudiaeth achos

Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.

Cwricwlwm i Gymru

Age: 11-14 / Progression Step 4
Age: 11-14 / Progression Step 4
Age: 11-14 / Progression Step 4
Age: 11-14 / Progression Step 4
age: 14-16 / Progression Step 5

Lawrlwytho'r Adnodd Dysgu

Windrush_Cymraeg.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) Windrush_English.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw