Archifau Morgannwg: Y Tuduriaid a’r Stiwartiaid
1731 wedi gweld yr eitem hon

Disgrifiad
Dysgwch sut roedd pobol yn byw yn ne Cymru yng nghyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid; beth roeddent yn gwisgo, beth roeddent yn bwyta, a sut roeddent yn dodrefnu eu tai. Dysgwch mwy am y brenhinoedd a breninesau’r oes a’u cysylltiadau a de Cymru.
Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel ewyllysiau a rhestrau eiddo, ryseitiau, selnodau, llythyrau a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 neu 4.
Cyfod Allweddol 2, 3 & 4
Hanes, Sgiliau llythrennedd
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg ar gyfer CA2, 3 a 4.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw