Adnoddau dan y chwyddwydr
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Hughes5.jpg?itok=z7vNrGLM)
Mae’r adnodd yma’n gwahodd dysgwyr i edrych ar hanes diwydiannu Cymru o safbwynt gwahanol. Sefydlwyd dinas Hughesovka, sef dinas Donetsk yn rhanbarth Donbas, dwyrain Wcráin erbyn heddiw (rhan o Ymerodraeth Rwsia bryd hynny) gan weithwyr o Gymru a Phrydain. Gan ddefnyddio Hughesovka fel astudiaeth achos, nod yr adnodd yw galluogi dysgwyr i ddatblygu safbwynt mwy amlochrog a beirniadol ar hanes diwydiannu yn eu gwlad ac ymgysylltu’n feirniadol â deunydd archifol.Awduron: Clara Defachel a Dr Victoria Donovan, Prifysgol St Andrews, yr Alban. Casgliad y Werin Cymru.Daw’r deunydd ffynhonnell (ffotograffau a delweddau eraill) yn yr adnodd hwn o Archif Ymchwil Hughesovka, a gedwir yn Archifau Morgannwg, ac fe’i hatgynhyrchir yma drwy eu caniatâd caredig. Cwricwlwm i Gymru Y DyniaethauHanesCam Cynnydd: 3 a 4 Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol. Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gasgliad o ddelweddau i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/L1_Dorothy_Fleming_crop2.jpg?itok=rsHNXMZZ)
Wrth ffoi ledled Ewrop i ddianc rhag y Natsïaid, cyrhaeddodd tua 10,000 o blant Iddewig Brydain Fawr rhwng Rhagfyr 1938 a Medi 1939 ar y Kindertransport (trafnidiaeth plant). Dim ond plant dan oed ar eu pen eu hunain a dderbyniodd llywodraeth Prydain trwy’r cynllun hwn, er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw gyda’u rhieni ac aelodau eraill o’u teuluoedd cyn iddyn nhw ffoi. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio rhai o straeon y ffoaduriaid a oedd yn blant yn teithio ar y Kindertransport i Gymru.Delwedd uchod: Dorothy Fleming, pedair oed, yn sefyll yn Rathauspark yn Fienna. Tynnwyd y llun ym 1932. © O'r casgliad yng The National Holocaust Centre and Museum, UK. Kindertransport 1: Bywyd Iddewig yng Nghanolbarth Ewrop cyn yr Ail Ryfel Byd. Mae'r adnodd gyntaf hwn yn archwilio bywyd merch ifanc Iddewig o Awstria, Dorothy Fleming, cyn iddi gyrraedd Caerdydd. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 9-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o gyfres o 4 ar bwnc y 'Kindertransport’. Dyma ddolenni i'r adnoddau eraill yn y gyfres hon:Kindertransport 2Kindertransport 3Kindertransport 4 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/JHASW_Toolkit.jpg?itok=RAXFQaLl)
Cadw a rhannu eich dogfennau hanesyddolSefydlwyd Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru / The Jewish History Association of South Wales CHIDC / JHASW) ym mis Tachwedd 2017 gyda'r nod o ddatgelu, dogfennu, cadw, a rhannu treftadaeth ddiwylliannol diriaethol ac annirweddol ymysg cymunedau Iddewig de Cymru.Mae'r dogfennau hyn yn rhan o Becyn Cymorth Treftadaeth a fydd yn galluogi cymunedau a sefydliadau bychan i gymryd y camau cyntaf tuag at warchod a rhannu eu treftadaeth, hyd yn oed os nad oes ganddynt brofiad yn y maes hwn.Mae Archifau Morgannwg wedi bod yn bartner tymor hir i lawer o brosiectau CHIDC / JHASW ac mae hi wedi cyfrannu’r dogfennau yma fel rhan o brosiect ar y cyd (ynghyd â Casgliad y Werin Cymru) ar gyfer Grant adfer gwirfoddoli yn sgil y Coronafirws a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru 2020/21. Mae'r adnodd hwn yn cynnwys arweiniad ar: Gadw eich deunydd hanesyddol yn eich Archifau lleolCanllawiau ar gyfer rhestru cofnodion cyn eu hadneuo yn Archifau MorgannwgTrin Dogfennau - Egwyddorion Cyffredinol Rhannu eich deunydd hanesyddol ar Cadgliad y Werin CymruSut i greu catalog Casgliad y Werin Cymru ar gyfer Deunyddiau CyffyrddadwyHawlfraint - Cyflwyniad byr iawn Mae rhannau pellach o'r pecyn cymorth i'w gweld ar ein gwefan yma www.jhasw.com/heritage-toolkit Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion, ac mae'n cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol. Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn cynnig gweithgareddau dysgu i'ch helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/2024/March/5.png?itok=jNf7m2pY)
Hoffech chi gyfrannu deunydd at Gasgliad y Werin Cymru? Yn ansicr lle mae dechrau? Gwyliwch ein fideo byr isod, yna darllenwch ein Canllawiau Sut i er mwyn dysgu sut i gofrestru cyfrif, uwchlwytho a chyhoeddi. Athrawon: Mae’r sgiliau sy’n cael eu datblygu wrth greu cyfrif ac uwchlwytho eitemau i Gasgliad y Werin Cymru yn bodloni sawl un o ofynion y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Darllenwch rhagor yn ein Blwch offer i athrawon. Cwricwlwm i GymruFframwaith Cymhwysedd Digidol Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol.
Croeso i’r adran Addysg, sy’n llawn adnoddau i ddysgwyr o bob oed. Athrawon, chwiliwch am adnoddau yn ôl oedran a meysydd y cwricwlwm isod, neu defnyddiwch y Blwch Offer i Athrawon am gymorth ymarferol gyda’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Dysgwyr sy'n oedolion, cliciwch ar y tab Dysgu Gydol Oes i weld yr adnoddau mwyaf addas ar eich cyfer, ac edrychwch ar ein Cyrsiau Hyfforddi i ddysgu mwy am ddigido treftadaeth Cymru.
41Adnoddau Dysgu
Cwricwlwm i Gymru
Oed: 5-8 / Cam Cynnydd 2
Oed: 8-11 / Cam Cynnydd 3
Oed: 11-14 / Cam Cynnydd 4
Oed: 14-16 / Cam Cynnydd 5
Oed: 16+ / Cam Cynnydd 5+
Dysgu Gydol Oes
-
(-) Remove Fframwaith Cymhwysedd Digidol
-
(-) Remove Fframwaith Cymhwysedd Digidol
-
(-) Remove Iecheyd a Lles
-
(-) Remove Mathemateg a Rhifedd
Arweiniwyd y prosiect gan bobl ifanc, a ddaeth o amrywiaeth eang o gefndiroedd i ddysgu ac archwilio eu tebygrwydd a’u gwahaniaethau diwylliannol gyda’r nod o ddeall ac addysgu eu hunain wrth ddatblygu ymdeimlad parhaol o gymuned ehangach.Cyflwynwyd y prosiect hwn gyda’r nod o archwilio a dathlu diwylliant a threftadaeth trwy lens y bobl ifanc yn y gymdeithas, yn arbennig, pobl o leiafrifoedd ethnig fel adnodd i hyrwyddo amrywiaeth a chydlyniant cymunedol. Mae brwdfrydedd ein prosiectau treftadaeth Windrush a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys wedi cael effaith fawr ar lawer o unigolion ifanc. Maent yn awyddus i rannu eu straeon, codi ymwybyddiaeth, ac yn awyddus i addysgu plant ysgol a theuluoedd am eu treftadaeth a Hanes Pobl Dduon Cymru. Yn ganolog i'n dull oedd y syniad o rymuso trwy gyfrwng. Gan gydnabod bod pawb a oedd yn cymryd rhan yn dod â phersbectif unigryw i'r bwrdd, gwnaethom eu grymuso i gymryd awenau'r broses gyfweld. Yn hytrach na bod yn destun craffu allanol, rhoddwyd cyfle i’r rhai a oedd yn cymryd rhan gyfweld â’i gilydd – syniad a ddaeth i’r amlwg yn organig o fewn y grŵp, gan feithrin ymdeimlad o berchnogaeth dros y broses adrodd straeon. Yn y lleoliad cydweithredol hwn, chwalwyd rhwystrau. Cwricwlwm i GymruOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 & 5 Iecheyd a LlesMae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles. Y DyniaethauMae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol. Cynnwys adnoddau: - Fideo prosiect yn cynnwys cyfweliadau gyda chyfranogwyr - Llyfryn Prosiect - Ffotograffau prosiect a chynnwys arallGweler y Cysylltiadau Cyflym isod am y cynnwys hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/2024/April/Womens_boxing_Wales_logo_0.jpg?itok=m5ya2tp-)
Mae Bocsio Menywod Cymru: Ddoe, Presennol a Dyfodol (WBW) yn brosiect treftadaeth chwaraeon, sy’n dogfennu profiadau menywod sy’n cymryd rhan ym myd bocsio yng Nghymru. Pwrpas y prosiect yw dathlu’r cyfraniadau y maent wedi’u gwneud i hanes cyfoethog bocsio yng Nghymru a thynnu sylw at yr heriau a’r rhwystrau y mae cyfranogwyr benywaidd yn eu hwynebu yn y gamp. Mae’r archif a gyhoeddir yng Nghasgliad y Werin Cymru yn cynnwys delweddau a chyfweliadau gyda bocswyr (amatur a phroffesiynol), hyfforddwyr bocsio, haneswyr a newyddiadurwyr.Gall yr andodd hwn gefnogi dysgwyr i:1. Deall sut mae bocsio yn galluogi unigolion i fagu hyder a hunan-barch, ac i ddatblygu a chynnal arferion cadarnhaol sy'n cefnogi lles emosiynol, hunaniaeth a chymuned.2. Ystyried y ffordd y maent yn mynegi a phrosesu eu hemosiynau trwy weithredu a gweithgaredd corfforol. Cwricwlwm i GymruOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 & 5 Iecheyd a LlesMae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes.Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill.Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles. Y DyniaethauMae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol. Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/CRS20Tablet.jpg?itok=zSgcF4yV)
Mae’r adnodd hwn yn canolbwyntio ar goffáu’r Holocost, gan annog myfyrwyr i feddwl am sut a pham y dylem ni gofio’r Holocost a’i berthnasedd ar gyfer y dyfodol.Delwedd uchod: Coflech Holocost Synagog Ddiwygiedig Caerdydd, 2019. Cydnabyddiaeth Llun: Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson19_karel.lek_crop.jpg?itok=AMuOglIm)
Yn y adnodd hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu am fywyd ffoaduriaid yng Nghymru ar ôl y rhyfel, a sut y gwnaethant addasu i’w hunaniaeth newydd.Delwedd uchod: Portrait of an Anglesey Man gan Karel Lek (1929-2000) © Ystâd Karel Lek Credyd y ffotograff: Prifysgol Bangor. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson18_theresienstadt.jpg?itok=1n3YOcZU)
Mae’r adnodd hwn yn trafod rhyddhau’r gwersylloedd a’r getos gan y Cynghreiriaid.Mynedfa Geto Theresienstadt gyda’r ymadrodd Arbeit Macht Frei (Mae gwaith yn eich rhyddhau), Gorffennaf 2013. Llun: Wikimedia Commons. Awdur y llun: Andrew Shiva. Trwydded Creative Commons: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/deed.en. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Picture1_0.jpg?itok=dZBBAjza)
Yn y adnodd hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu am ffoaduriaid Iddewig a ymunodd â lluoedd arfog Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd llawer o filwyr Iddewig a fu gynt yn ffoaduriaid yn gwasanaethu yng Nghymru.Bydd myfyrwyr yn clywed tystiolaeth hanes llafar gan dri ffoadur Iddewig, a wasanaethodd ym Myddin Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.Delwedd uchod: X Troop yn Aberdyfi, 1943. Llun trwy garedigrwydd Colin Anson. Cydnabyddiaeth y Llun: Commando Veterans Archive. Trwydded Creative Commons: https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson16_heini_gruffudd.png?itok=PLQzJox0)
Mae’r adnodd hwn yn trafod erledigaeth meddygon, deintyddion a nyrsys Iddewig yn yr Almaen Natsïaidd a’r anawsterau a gawsant fel ffoaduriaid yn y DU.Delwedd uchod: Paul Bosse (yn sefyll, chwith) yn cyfarfod Hitler yn Wittenberg, yr Almaen, ym 1935. Tynnwyd y ffotograff hwn ar ôl ffrwydrad mewn ffatri arfau gerllaw. Er gwaethaf ei holl waith, cafodd Paul ei ddiswyddo chwe mis yn ddiweddarach. Llun trwy garedigrwydd Heini Gruffudd.Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson13_e.hunter_border.jpg?itok=w6m9qvAs)
Mae’r adnodd hwn yn edrych ar ffoaduriaid o’r Almaen Natsïaidd a ddaeth yn weision domestig yng Nghymru. Dyma’r alwedigaeth fwyaf cyffredin ymhlith ffoaduriaid, gyda 20,000 o fenywod o’r Almaen, Awstria a Tsiecoslofacia yn dod i mewn i Brydain ar fisas domestig cyn Medi 1939.Bydd myfyrwyr yn clywed tystiolaeth hanes llafar yn disgrifio profiad Fanny Höchstetter fel gwas domestig a morwyn siambr mewn gwesty.Delwedd uchod: Fanny a Bertl Höchstetter yn fuan ar ôl eu diswyddo o wasanaeth sifil yr Almaen ym 1933. Mae eu hystumiau'n dangos eu barn am Hitler. Delwedd: © Ernie Hunter. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson11_HO396-135.jpg?itok=kXGepKca)
Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio caethiwedigaeth ffoaduriaid Iddewig fel ‘estron-elynion’ yn 1939. Ar ôl dechrau'r rhyfel ym mis Medi 1939, daeth holl Almaenwyr ac Awstriaid Prydain yn ‘estron- elynion’ a bu'n rhaid iddynt gofrestru gyda'r heddlu. Er bod y mwyafrif yn parhau i fod yn rhydd, yn haf 1940, tynhawyd cyfyngiadau oherwydd y risg o oresgyniad gan yr Almaenwyr, a chafodd degau o filoedd eu caethiwo. Roedd y cynnydd yn nifer y rhai a gafodd eu caethiwo wedi dihysbyddu gallu safleoedd presennol ac, er bod y rhan fwyaf o ffoaduriaid wedi’u caethiwo mewn gwersylloedd ym Mhrydain, cafodd rhai eu halltudio i wledydd eraill, yn arbennig Canada ac Awstralia.Gan ddefnyddio dau ddarn o dystiolaeth hanes llafar, mae’r adnodd hwn yn archwilio’r ffaith bod Ffoaduriaid Iddewig wedi’u caethiwo fel ‘estron-elynion’ yn y DU a’u profiad o gael eu hanfon i wersylloedd yng Nghanada ac Awstralia.Dyma adnodd 2 o 2 ar y testun Caethiwo 'estron-elynion' ac argymhellir bod athrawon yn defnyddio'r ddau adnodd.Delwedd uchod: Cerdyn Estron-Elynion a Chaethiwedigion Heinrich David Pinkus. The National Archives, Kew, Llundain, Lloegr, HO 396 WW2 Internees (Aliens) Index Cards 1939-1947, Cyfeirnod Archif: HO 396/135. Delwedd: Findmypast. Dogfen wreiddiol: ©Hawlfraint y Goron. Atgynhyrchwyd y llun trwy garedigrwydd The National Archives, Llundain, Lloegr. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae'n un o ddau ar y testun Caethiwo ‘estron-elynion’. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon:Caethiwo ‘estron-elynion’ Rhan 1 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
Mae’r adnodd hwn yn archwilio’r artist Iddewig a aned yn Berlin, Heinz Koppel, a fu’n byw yng Nghymru. Mae myfyrwyr yn archwilio gwahanol ffynonellau i gael dealltwriaeth o fywyd ac arddull artistig yr artist. Mae'r adnodd hwn yn defnyddio elfennau o Ddrama a Symud, felly mae'n well ei chyflwyno mewn gofod mawr fel stiwdio Ddrama.Delwedd uchod: Heinz Koppel ac Renate Fischl ar ddiwrnod eu priodas, 1949. Delwedd trwy garedigrwydd Gaby Koppel. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y DyniaethauOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson9_border_1.jpg?itok=abdl3DOx)
Ar ôl dechrau'r rhyfel ym mis Medi 1939, daeth holl Almaenwyr ac Awstriaid Prydain yn 'estron-elynion' a bu'n rhaid iddynt gofrestru gyda'r heddlu. Er bod y mwyafrif yn parhau i fod yn rhydd, yn ystod haf 1940, tynhawyd cyfyngiadau a chafodd degau o filoedd eu caethiwo. Mae'r adnodd hwn yn archwilio rhai o'r effeithiau a gafodd y caethiwo ar fywydau pobl.Dyma adnodd 1 o 2 ar y testun Caethiwo 'estron-elynion' ac argymhellir bod athrawon yn defnyddio'r ddau adnodd.Delwedd uchod: Wilhelm Jondorf (1890-1957). The Fifth Columnist, Onchan, Ynys Manaw, 1940. Rhodd Mrs Betty Jondorf , Llundain. Casgliad o Yad Vashem Art Museum, Jerusalem. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae'n un o ddau ar y testun Caethiwo ‘estron-elynion’. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon:Caethiwo ‘estron-elynion’ Rhan 2 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Picture1.jpg?itok=0YEiiLxR)
Arlunwyr Iddewig yng Nghymru: astudiaeth achos, Josef HermanBu’r ffoadur Iddewig, yr artist Josef Herman, yn byw yn Ystradgynlais yng nghwm Tawe am un mlynedd ar ddeg. Yn y adnodd hwn, gofynnir i fyfyrwyr archwilio gwaith celf Herman a chreu darnau eu hunain yn ei arddull ef. Gellir defnyddio’r adnodd hwn fel adnodd ar ei phen ei hun neu ei hymgorffori mewn cynllun gwaith astudio artist TGAU Celf.Delwedd uchod: Miners Singing gan Josef Herman (1911-2000). ©Ystad yr arlunydd/Amgueddfa Cymru - National Museum of Wales. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson6_cjh_berlinsynagogue_crop.png?itok=FoCH2phW)
Ar 9 a 10 Tachwedd 1938, cynhaliodd y gyfundrefn Natsïaidd gyfres o ymosodiadau o’r enw ‘pogroms’ yn erbyn y boblogaeth Iddewig yn yr Almaen a thiriogaethau eraill a feddiannwyd gan y Natsïaid. Daeth y digwyddiad hwn i gael ei adnabod fel Kristallnacht neu ‘Noson y Gwydr Toredig’ oherwydd y gwydr drylliedig a lenwodd y strydoedd ar ôl fandaliaeth a dinistr synagogau, busnesau a chartrefi a oedd yn eiddo i Iddewon. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio atgofion Julius Weil, a fu’n byw yng Nghymru, o’r digwyddiad dinistriol hwn. Bu farw Julius Weil yng Nghaerdydd yn 2021.Delwedd uchod: Golygfa fewnol o Synagog ddrylliedig Fasanenstraße, Berlin, a losgwyd yn ystod Pogroms Tachwedd, Tachwedd 1938. Center for Jewish History, New York City. Trwy garedigrwydd Leo Baeck Institute. Kristallnacht 2: Y bar mitzvah olafYn dilyn ymlaen o Kristallnacht 1, mae’r ail adnodd hwn yn archwilio hanes Julius Weil o’i bar mitzvah, yr olaf i ddigwydd yn Synagog Glockengasse cyn iddi gael ei dinistrio yn ystod Kristallnacht. Bydd myfyrwyr yn archwilio effaith y digwyddiad hwn mewn ffordd greadigol, gan gynhyrchu eu gosodwaith bach eu hunain. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o ddau ar y testun 'Kristallnacht’. Dyma ddolen i'r adnodd arall yn y gyfres hon:Kristallnacht 1 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson5_arnoldweil_crop.png?itok=CssA2Z2o)
Ar 9 a 10 Tachwedd 1938, cynhaliodd y gyfundrefn Natsïaidd gyfres o ymosodiadau o’r enw ‘pogroms’ yn erbyn y boblogaeth Iddewig yn yr Almaen a thiriogaethau eraill a feddiannwyd gan y Natsïaid. Daeth y digwyddiad hwn i gael ei adnabod fel Kristallnacht neu ‘Noson y Gwydr Toredig’ oherwydd y gwydr drylliedig a lenwodd y strydoedd ar ôl fandaliaeth a dinistr synagogau, busnesau a chartrefi a oedd yn eiddo i Iddewon. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio atgofion Julius Weil, a fu’n byw yng Nghymru, o’r digwyddiad dinistriol hwn. Bu farw Julius Weil yng Nghaerdydd yn 2021.Delwedd uchod: Arnold Weil, Köln, Ebrill 1936. Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Kristallnacht 1: Atgofion o Kristallnacht. Mae’r adnodd hwn yn cyflwyno dysgwyr i Kristallnacht gan ddefnyddio tystiolaeth Julius Weil a ffotograffau a gwybodaeth arall. Gofynnir i fyfyrwyr ddefnyddio'r ffynonellau hyn i ysgrifennu adroddiad papur newydd. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cyfnod Allweddol 4Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o ddau ar y testun 'Kristallnacht’. Dyma ddolen i'r adnodd arall yn y gyfres hon:Kristallnacht 2 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/2024/March/5.png?itok=jNf7m2pY)
Hoffech chi gyfrannu deunydd at Gasgliad y Werin Cymru? Yn ansicr lle mae dechrau? Gwyliwch ein fideo byr isod, yna darllenwch ein Canllawiau Sut i er mwyn dysgu sut i gofrestru cyfrif, uwchlwytho a chyhoeddi. Athrawon: Mae’r sgiliau sy’n cael eu datblygu wrth greu cyfrif ac uwchlwytho eitemau i Gasgliad y Werin Cymru yn bodloni sawl un o ofynion y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Darllenwch rhagor yn ein Blwch offer i athrawon. Cwricwlwm i GymruFframwaith Cymhwysedd Digidol Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Jitterbugging_in_Cardiff_Bay3.jpg?itok=kz5-JTKt)
Darganfyddwch yr ‘Archif Cof’ yng Nghasgliad y Werin Cymru a dysgwch am ddementia.Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o’r cyflwr cyffredin sy’n newid bywydau. Gall hefyd roi sgiliau bywyd gwerthfawr iddyn nhw, gan eu galluogi nhw i gefnogi aelodau o’u teulu a’u cymuned sy’n byw gyda dementia.Bydd yr adnodd hwn:yn eich cyflwyno chi i ‘Archif Cof’ ar wefan Casgliad y Werin Cymru, sef archif o ddelweddau y gallwch eu defnyddio wrth hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementiayn eich cyflwyno chi i adnoddau addysg y Gymdeithas Alzheimer’s i ysgolion sy’n gwneud addysgu a dysgu am ddementia yn hawddyn rhoi cyngor ar sut allwch chi ddefnyddio Archif Cof mewn dau weithgaredd atgofion ymarferol: Creu Coeden Gof a Chreu Llinell Amser Cofyn eich cyfeirio at adnoddau dementia eraill am ddim, gan amlygu’r rhai sydd ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg Gwyliwch fideo byr am yr Archif Cof. Y Cyfnod SylfaenDatblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r bydCyfnod Allweddol 2, 3 a 4Addysg bersonol a chymdeithasolCwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Fframwaith Cymhwysedd DigidolAddysg Gydol OesDatblygwyd yr adnodd hwn ar gyfer ysgolion, ond mae'n cynnwys gweithgareddau a allai gael eu defnyddio gan bobl o unrhyw oed, i weithio gydag oedolion sy'n byw gyda dementia. Gallai gael ei ddefnyddio gan deuluoedd i gefnogi aelod o'r teulu, neu gan bobl sy'n gweithio mewn amgylchedd gofal. Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/rainbow-sun%20cropped.jpg?itok=zGDjhrHF)
Cofnodi straeon eich disgyblion yn ystod y pandemig.Ar hyd y canrifoedd, mae dyddiaduron, ffotograffau, dogfennau a recordiadau wedi ein helpu i ddeall cyfnodau hanesyddol eraill a sut mae pobl yn byw eu bywydau o ddydd i ddydd, yn arbennig felly mewn cyfnod o argyfwng.Gyda’ch cymorth chi, hoffem greu capsiwl amser digidol ar gyfer ein gwefan er mwyn i ni, a chenedlaethau’r dyfodol ddeall stori eich disgyblion yn ystod y cyfnod heriol hwn. Y Cyfnod SylfaenFframwaith Cymhwysedd Digidol, Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd, Datblygiad creadigolCyfnod Allweddol 2, 3 & 4Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Sgiliau llythrennedd, Addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eangCwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd Digidol Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn, a gweld ein cynnwys 'Enfysau Mewn Ffenestri' yma.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/AngelSharkProject_Logo3.jpg?itok=BA6OSsPa)
Mae e-lyfr Angylion Cymru wedi’i ddylunio ar gyfer plant o 7 i 11 oed ac mae’n adrodd hanes Maelgwn yng Nghymru. Mae’r e-lyfr yn cynnwys gwybodaeth am ecoleg Maelgwn, hanes Maelgwn yng Nghymru, a sut mae pobl yn cydweithio i ddiogelu dyfodol y rhywogaeth hon yng Nghymru.Cewch fynediad at yr eLyfr ar wefan Prosiect Maelgi: Cymru Cwricwlwm i GymruGwyddoniaeth a Thechnoleg, Y Celfyddydau MynegiannolCyfod Allweddol 2Gwyddoniaeth, Celf a Dylunio, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/JackieJones3_small14_0.jpg?itok=yjoXwgVZ)
Mae hanes o'n cwmpas ym mhobman. Meddyliwch am eich teulu a'ch cymuned. Mae digon o straeon yno i lenwi llyfrgell. HANES LLAFAR yw enw'r math yma o hanes.Mae dogfennau a llyfrau yn aml yn canolbwyntio ar bobl a digwyddiadau enwog. Ond nid yw profiad a llais y mwyafrif yn cael ei gofnodi. Mae hanes llafur yn llenwi'r bylchau ac yn rhoi i ni hanes sy'n cynnwys pawb.Diolch i dechnoleg ddigidol, gall unrhywun gasglu hanesion llafar a'u rhannu gydag eraill. Mae'n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau digidol a chyfweld wrth ddysgu am hanes. Gall feithrin hyder pobl ifanc a magu parch rhwng cenedlaethau.Mae'r canllaw wedi'i greu mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Hanes Llafar a Chasgliad y Werin Cymru. Mae'n cynnig cyngor defnyddiol ar gychwyn project hanes llafar yn eich ysgol neu gymuned. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanesOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 & 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/6_Culture_0.jpg?itok=tlBb6RIM)
Darganfyddwch arferion hen deuluoedd cyryglau Caerfyrddin, y ffordd o fyw, y mythau a’r chwedlau sy’n gysylltiedig â nhw, ac ofergoelion yr afon. Treiddiwch i fyd traddodiadol a helpu i gadw diwylliant hynafol yn fyw. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Fframwaith cymhwysedd digidol (Dinasyddiaeth, Rhyngweithio a chydweithio)Drama, Hanes, Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, Dinasyddiaeth Fyd-eangOed: 8-11 / Cam Cynnydd: 3 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/cover_0.jpg?itok=zdd-ExwX)
Datblygwyd Project Pontio'r Cenedlaethau Windrush gan y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC) ar y cyd â disgyblion ysgolion lleol, i ymchwilio i fywydau cenhedlaeth Windrush a gyrhaeddodd Gymru o India'r Gorllewin rhwng y 1940au a'r 1970au.Gobaith y project oedd pontio'r bwlch rhwng cenedlaethau hen ac ifanc, gan ganolbwyntio ar drosglwyddo diwylliant a thraddodiad, a rhannu profiadau am deithio ac ymsefydlu. Mae'n cofnodi cyfraniad rhyfeddol ymfudwyr Du ac o Leiafrifoedd Ethnig i'r DU, yn enwedig yn ardal Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot.Mae'r project yn dathlu bywydau deg henadur – rhai yn aelodau o genhedlaeth Windrush ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i gymdeithas amlddiwylliannol De Cymru.Mae testun yr astudiaeth achos yn ddwyieithog, ond Saesneg yw iaith y fideos a'r llyfryn. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanesOed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5 Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Canaries1.jpg?itok=eSVPGQ-Q)
Prosiect addysgu ffilm cymunedol yw Cynefin - Ein Croeso dan nawdd Ffilm Cymru Wales gyda chefnogaeth Michael Sheen a Sefydliad Celf Josef Herman.Mae tîm celfyddydau cymunedol Y Neuaddd Les Ystradgynlais wedi cydweithio ag Ysgol Maesydderwen, Ysgol Dyffryn Y Glowyr a theuluoedd o Syria sydd wedi ymsefydlu yn y dre, er mwyn adrodd hanesion ffoaduriaid ddoe a heddiw. Cydweithiodd y cwmni animeiddio gwobrwyog, Winding Snake Productions, â'r gymuned i greu dwy ffilm sy'n rhannu eu straeon am y croeso a roddwyd yn Ystradgynlais i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel.Enillodd y project hwn Wobr Ragoriaeth Ddigidol cystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2018. Noddwyd y wobr gan Gasgliad y Werin Cymru.Yn rhan o'r astudiaeth achos mae'r ddwy ffilm; Cynefin a Uncle Ahmad's Canaries yn ogystal â fideo o'r broses yn datgelu mwy am sut y cafodd y ffilmiau eu creu. Cliciwch ar y ddolen Casgliad 'Cynefin - Ein Croeso' isod i weld y tair ffilm. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanesOed: 8-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4 Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Model_School.jpg?itok=ui3khNfx)
Roedd Mapio’r Model yn Broject rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ysgolion Creadigol Arweiniol Cymru a gynhaliwyd yn Ysgol Wirfoddol Eglwysig Y Model Caerfyrddin yn ystod Tymor y Gwanwyn 2018. Roedd y project yn gydweithrediad rhwng yr arlunydd Rowan O’Neill a Grŵp Creadigol Blwyddyn 4 yn Ysgol Y Model, ac fe’i cynlluniwyd mewn ymateb i’r briff a baratowyd gan yr ysgol: a all archwiliad o fapio dwfn drwy farddoniaeth a drama o Gymru wella hyder a sgiliau llafaredd a gwella gallu disgyblion ym Mlwyddyn 4 i feddwl yn greadigol?Her y project hwn oedd canfod ffyrdd newydd o fapio cysylltiadau rhwng yr ysgol a’r dref, gan gynnwys daearyddiaeth, hanes a chwedloniaeth. Y canlyniad oedd project ymchwiliol ar y cysyniad o fapio a oedd yn defnyddio Casgliad i gyhoeddi a chofnodi’r gwaith amrywiol a grëwyd yn ddigidol. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanes, DaearyddiaethOed: 8-11 / Cam Cynnydd 3 Astudiaeth AchosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Tophat.png?itok=eRKA_U8K)
Pa fath o bethau oedd yng nghartrefi pobl Abertawe ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Mewn amgueddfa, fe welwch bethau oedd gan bobl yn eu cartrefi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae rhai o’r rhain wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn y teulu, rhai wedi’u canfod gan archaeolegwyr, rhai wedi’u prynu neu eu benthyg a rhai wedi’u rhoi’n rhodd i’r amgueddfa. Mae rhai’n ymwneud â gwaith pobl, roedd rhai’n cael eu defnyddio yn y cartref, a rhai’n eitemau ar gyfer hamdden.Mae pethau yn gallu dweud llawer am y ffordd yr oedd pobl yn byw, pa mor dlawd neu gyfoethog yr oeddent a pha fath o ddefnyddiau oedd ar gael. Cawn weld hefyd pa fath o bethau oedd yn cael eu prynu a’u gwerthu, eu defnyddio a’u trysori, a’u taflu neu eu colli gan bobl yn y gorffennol.Mae’r Gweithgaredd Dysgu hwn yn cynnwys popeth i gynnal sesiwn eich hun yn yr ystafell ddosbarth, a gallwch ei gysylltu â gweithdai i ysgolion yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Abertawe. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanesOed: 8-11 / Cam Cynnydd: 3 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 3 am 'Abertawe Oes Fictoria' ar gyfer Cam Cynnydd 3. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Peoples_stories.png?itok=TareIsca)
Pwy oedd Fictoriaid Abertawe? Sut y gallwn ni ddysgu am y bobl gyffredin oedd yn byw ac yn gweithio yn Abertawe yn y 1850au? Beth oedd Walter Butt yn ei wneud ag afal pîn? Pam gafodd Mrs Phillips ei beirniadu am werthu ffrwythau ddydd Sul?Mae’r Gweithgaredd Dysgu hwn yn edrych ar rai o’r ffynonellau sy’n rhoi cofnod bychan o ddigwyddiadau mywydau pobl na fyddem yn gwybod dim amdanynt fel arall ac mae’n annog y disgyblion i ddehongli’r ffynonellau ac i greu eu cymeriadau eu hunain. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanesOed: 8-11 / Cam Cynnydd: 3 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 3 am 'Abertawe Oes Fictoria' ar gyfer Cam Cynnydd 3. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Image1.jpg?itok=6bxPcRAb)
Diwrnod Meddiannu yn Amgueddfa Lleng Rhufeinig.Daeth disgyblion o Ysgol Gynradd Lodge Hill i Amgueddfa Leng Rufeinig Cymru fel rhan o Ddiwrnod Meddiannu Kids in Museums, 2017. Cymerwyd yr awenau ganddynt er mwyn dweud hanes ysgolion yn ystod yr oes Rhufeinig, Crëwyd y fidio a welir yma ganddynt wedi iddynt ei sgriptio a'i ffilmio. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanesOed: 8-11 / Cam Cynnydd 3 Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.
Fel rhan o ‘Kids in Museums Takeover Day’ yn 2015, caiff ddisgyblion o St Woolos daith o amgylch yr Amgueddfa, gan gynnwys ymweliad arbennig i'r ardal casglu 'tu ôl i'r llenni'. Roedd y plant yn gweld ac yn eu cynnal gwrthrychau Rhufeinig sydd ddim fel arfer yn cael eu gweld gan y cyhoedd. Gan ddefnyddio hyn roeddent wedi'i ddysgu fel ysbrydoliaeth, yna wnaeth y disgyblion, ysgrifennu, ffilmio a serennu yn yr ailddeddfiad gwych o fywyd milwr Rhufeinig. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanesOed: 8-11 / Cam Cynnydd: 3 Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/GTJ11690_2.jpg?itok=ROSSrn2G)
Eitemau'n ymwneud ag Iechyd a Meddygaeth, o 1660 hyd heddiw Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Iecheyd a LlesHanesOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Casgliad DysguRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/GTJ11896_2_1.jpg?itok=rP7gNjY4)
Cafodd Urdd Gobaith Cymru ei sefydlu ym 1922 er mwyn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn heddiw, mae dros 50,000 o bobl ifanc yn aelodau o'r Urdd, ac mae'r Eisteddfod flynyddol yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop.Yn 2022 mae'r Urdd yn dathlu ei chanmlwyddiant! Ymunwch â'r dathliadau drwy ychwanegu eich lluniau ac atgofion o'r Urdd i Gasgliad y Werin Cymru.Sut i gymryd rhan:Chwiliwch am luniau neu recordiadau o ddigwyddiadau, gweithgareddau neu Eisteddfodau'r UrddNeu ymunwch â Parti Pen-blwydd yr Urdd yn 100 yn 2022 a thynnu lluniau newydd sbon!Ychwanegwch eich atgofion a straeon o'r Urdd i Gasgliad y Werin CymruNeu anfonwch nhw i ni dros y cyfryngau cymdeithasol (gweler dolenni i Facebook a Twitter ar waelod y dudalen)Ychwanegwch y tag Penblwydd-Hapus-Urdd i'ch cynnwys, a byddwn yn creu casgliad newydd i'w ychwanegu at yr adnodd hwn Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd. I gael help i uwchlwytho eich cynnwys, gweler ein Canllawiau neu archebwch sesiwn gefnogaeth rithiol 1 wrth 1 gyda Catalena, Swyddog Addysg Casgliad y Werin. Cwricwlwm i Gymru 2022: Camau Cynnydd 1, 2 a 3Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Lles, Dyniaethau, Iaithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolOed / Cam Cynnydd: Pawb Casgliad DysguRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth. Mae mwy o gynnwys yn ymwneud â'r Urdd yn y Cysylltiadau Cyflym isod, neu gallwch bori drwy gyfrif yr Urdd ar Casgliad y Werin.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/cover4.jpg?itok=ZojGG1M8)
Deall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel crëwr a defnyddiwr gwaith creadigol pobl eraill. Cwricwlwm i GymruFframwaith Cymhwysedd DigidolDinasyddiaeth: 1.3 Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth; 1.4 Ymddygiad ar-lein a seiberfwlioOed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gallwch ei ddewis rhannau ohono i wneud eich gwersi eich hun. Mae’n un o gyfres o bedwar adnodd o'r enw Canllaw hwylus i hawlfraint a metadata.Adnodd 1: Hawlfraint - Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau digidolAdnodd 2: Metadata - Chwilio am nodwydd mewn tas wairAdnodd 3: Cyhoeddi eich cynnwys eich hun gyda metadataAdnodd 4: Crewyr a defnyddwyr digidol