Abertawe Oes Fictoria - Storïau Pobl
2956 wedi gweld yr eitem hon

Disgrifiad
Pwy oedd Fictoriaid Abertawe? Sut y gallwn ni ddysgu am y bobl gyffredin oedd yn byw ac yn gweithio yn Abertawe yn y 1850au? Beth oedd Walter Butt yn ei wneud ag afal pîn? Pam gafodd Mrs Phillips ei beirniadu am werthu ffrwythau ddydd Sul?
Mae’r Gweithgaredd Dysgu hwn yn edrych ar rai o’r ffynonellau sy’n rhoi cofnod bychan o ddigwyddiadau mywydau pobl na fyddem yn gwybod dim amdanynt fel arall ac mae’n annog y disgyblion i ddehongli’r ffynonellau ac i greu eu cymeriadau eu hunain.
Cyfnod Allweddol 2
Hanes, Cyfrifiadeg, Sgiliau llythrennedd
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 3 am 'Abertawe Oes Fictoria' ar gyfer CA2.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw