Astudiaeth Achos: Cynefin - Ein Croeso
755 wedi gweld yr eitem hon

Prosiect addysgu ffilm cymunedol yw Cynefin - Ein Croeso dan nawdd Ffilm Cymru Wales gyda chefnogaeth Michael Sheen a Sefydliad Celf Josef Herman.
Mae tîm celfyddydau cymunedol Y Neuaddd Les Ystradgynlais wedi cydweithio ag Ysgol Maesydderwen, Ysgol Dyffryn Y Glowyr a theuluoedd o Syria sydd wedi ymsefydlu yn y dre, er mwyn adrodd hanesion ffoaduriaid ddoe a heddiw. Cydweithiodd y cwmni animeiddio gwobrwyog, Winding Snake Productions, â'r gymuned i greu dwy ffilm sy'n rhannu eu straeon am y croeso a roddwyd yn Ystradgynlais i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel.
Enillodd y project hwn Wobr Ragoriaeth Ddigidol cystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2018. Noddwyd y wobr gan Gasgliad y Werin Cymru.
Yn rhan o'r astudiaeth achos mae'r ddwy ffilm; Cynefin a Uncle Ahmad's Canaries yn ogystal â fideo o'r broses yn datgelu mwy am sut y cafodd y ffilmiau eu creu. Cliciwch ar y ddolen Casgliad 'Cynefin - Ein Croeso' isod i weld y tair ffilm.
Cyfnod Allweddol 2 & 3
Hanes, Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Sgiliau Llythrennedd
Astudiaeth achos
Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw