Astudiaeth Achos: Mapio’r Model
Roedd Mapio’r Model yn Broject rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ysgolion Creadigol Arweiniol Cymru a gynhaliwyd yn Ysgol Wirfoddol Eglwysig Y Model Caerfyrddin yn ystod Tymor y Gwanwyn 2018. Roedd y project yn gydweithrediad rhwng yr arlunydd Rowan O’Neill a Grŵp Creadigol Blwyddyn 4 yn Ysgol Y Model, ac fe’i cynlluniwyd mewn ymateb i’r briff a baratowyd gan yr ysgol: a all archwiliad o fapio dwfn drwy farddoniaeth a drama o Gymru wella hyder a sgiliau llafaredd a gwella gallu disgyblion ym Mlwyddyn 4 i feddwl yn greadigol?
Her y project hwn oedd canfod ffyrdd newydd o fapio cysylltiadau rhwng yr ysgol a’r dref, gan gynnwys daearyddiaeth, hanes a chwedloniaeth. Y canlyniad oedd project ymchwiliol ar y cysyniad o fapio a oedd yn defnyddio Casgliad i gyhoeddi a chofnodi’r gwaith amrywiol a grëwyd yn ddigidol.
Cwricwlwm i Gymru
Y Celfyddydau Mynegiannol, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Hanes, Daearyddiaeth
Oed: 8-11 / Cam Cynnydd 3
Astudiaeth Achos
Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.
You must be logged in to leave a comment