Adnoddau dan y chwyddwydr
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Hughes5.jpg?itok=z7vNrGLM)
Mae’r adnodd yma’n gwahodd dysgwyr i edrych ar hanes diwydiannu Cymru o safbwynt gwahanol. Sefydlwyd dinas Hughesovka, sef dinas Donetsk yn rhanbarth Donbas, dwyrain Wcráin erbyn heddiw (rhan o Ymerodraeth Rwsia bryd hynny) gan weithwyr o Gymru a Phrydain. Gan ddefnyddio Hughesovka fel astudiaeth achos, nod yr adnodd yw galluogi dysgwyr i ddatblygu safbwynt mwy amlochrog a beirniadol ar hanes diwydiannu yn eu gwlad ac ymgysylltu’n feirniadol â deunydd archifol.Awduron: Clara Defachel a Dr Victoria Donovan, Prifysgol St Andrews, yr Alban. Casgliad y Werin Cymru.Daw’r deunydd ffynhonnell (ffotograffau a delweddau eraill) yn yr adnodd hwn o Archif Ymchwil Hughesovka, a gedwir yn Archifau Morgannwg, ac fe’i hatgynhyrchir yma drwy eu caniatâd caredig. Cwricwlwm i Gymru Y DyniaethauHanesCam Cynnydd: 3 a 4 Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol. Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gasgliad o ddelweddau i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/L1_Dorothy_Fleming_crop2.jpg?itok=rsHNXMZZ)
Wrth ffoi ledled Ewrop i ddianc rhag y Natsïaid, cyrhaeddodd tua 10,000 o blant Iddewig Brydain Fawr rhwng Rhagfyr 1938 a Medi 1939 ar y Kindertransport (trafnidiaeth plant). Dim ond plant dan oed ar eu pen eu hunain a dderbyniodd llywodraeth Prydain trwy’r cynllun hwn, er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw gyda’u rhieni ac aelodau eraill o’u teuluoedd cyn iddyn nhw ffoi. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio rhai o straeon y ffoaduriaid a oedd yn blant yn teithio ar y Kindertransport i Gymru.Delwedd uchod: Dorothy Fleming, pedair oed, yn sefyll yn Rathauspark yn Fienna. Tynnwyd y llun ym 1932. © O'r casgliad yng The National Holocaust Centre and Museum, UK. Kindertransport 1: Bywyd Iddewig yng Nghanolbarth Ewrop cyn yr Ail Ryfel Byd. Mae'r adnodd gyntaf hwn yn archwilio bywyd merch ifanc Iddewig o Awstria, Dorothy Fleming, cyn iddi gyrraedd Caerdydd. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 9-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o gyfres o 4 ar bwnc y 'Kindertransport’. Dyma ddolenni i'r adnoddau eraill yn y gyfres hon:Kindertransport 2Kindertransport 3Kindertransport 4 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/JHASW_Toolkit.jpg?itok=RAXFQaLl)
Cadw a rhannu eich dogfennau hanesyddolSefydlwyd Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru / The Jewish History Association of South Wales CHIDC / JHASW) ym mis Tachwedd 2017 gyda'r nod o ddatgelu, dogfennu, cadw, a rhannu treftadaeth ddiwylliannol diriaethol ac annirweddol ymysg cymunedau Iddewig de Cymru.Mae'r dogfennau hyn yn rhan o Becyn Cymorth Treftadaeth a fydd yn galluogi cymunedau a sefydliadau bychan i gymryd y camau cyntaf tuag at warchod a rhannu eu treftadaeth, hyd yn oed os nad oes ganddynt brofiad yn y maes hwn.Mae Archifau Morgannwg wedi bod yn bartner tymor hir i lawer o brosiectau CHIDC / JHASW ac mae hi wedi cyfrannu’r dogfennau yma fel rhan o brosiect ar y cyd (ynghyd â Casgliad y Werin Cymru) ar gyfer Grant adfer gwirfoddoli yn sgil y Coronafirws a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru 2020/21. Mae'r adnodd hwn yn cynnwys arweiniad ar: Gadw eich deunydd hanesyddol yn eich Archifau lleolCanllawiau ar gyfer rhestru cofnodion cyn eu hadneuo yn Archifau MorgannwgTrin Dogfennau - Egwyddorion Cyffredinol Rhannu eich deunydd hanesyddol ar Cadgliad y Werin CymruSut i greu catalog Casgliad y Werin Cymru ar gyfer Deunyddiau CyffyrddadwyHawlfraint - Cyflwyniad byr iawn Mae rhannau pellach o'r pecyn cymorth i'w gweld ar ein gwefan yma www.jhasw.com/heritage-toolkit Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion, ac mae'n cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol. Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn cynnig gweithgareddau dysgu i'ch helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/2024/March/5.png?itok=jNf7m2pY)
Hoffech chi gyfrannu deunydd at Gasgliad y Werin Cymru? Yn ansicr lle mae dechrau? Gwyliwch ein fideo byr isod, yna darllenwch ein Canllawiau Sut i er mwyn dysgu sut i gofrestru cyfrif, uwchlwytho a chyhoeddi. Athrawon: Mae’r sgiliau sy’n cael eu datblygu wrth greu cyfrif ac uwchlwytho eitemau i Gasgliad y Werin Cymru yn bodloni sawl un o ofynion y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Darllenwch rhagor yn ein Blwch offer i athrawon. Cwricwlwm i GymruFframwaith Cymhwysedd Digidol Dysgu Gydol OesMae'r adnodd hwn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol.
Croeso i’r adran Addysg, sy’n llawn adnoddau i ddysgwyr o bob oed. Athrawon, chwiliwch am adnoddau yn ôl oedran a meysydd y cwricwlwm isod, neu defnyddiwch y Blwch Offer i Athrawon am gymorth ymarferol gyda’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Dysgwyr sy'n oedolion, cliciwch ar y tab Dysgu Gydol Oes i weld yr adnoddau mwyaf addas ar eich cyfer, ac edrychwch ar ein Cyrsiau Hyfforddi i ddysgu mwy am ddigido treftadaeth Cymru.
50Adnoddau Dysgu
Cwricwlwm i Gymru
Oed: 5-8 / Cam Cynnydd 2
Oed: 8-11 / Cam Cynnydd 3
Oed: 11-14 / Cam Cynnydd 4
Oed: 14-16 / Cam Cynnydd 5
Oed: 16+ / Cam Cynnydd 5+
Dysgu Gydol Oes
-
(-) Remove Y Celfyddydau Mynegiannol
-
(-) Remove Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
-
(-) Remove Mathemateg a Rhifedd
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson15_k.bosse-griffiths.jpg?itok=gVO0uaRa)
Yn y wers hon, bydd y myfyrwyr yn edrych ar hanes Kate Bosse-Griffiths, ffoadur Almaeneg-Iddewig, wnaeth ffoi i Gymru gan ddod yn ffigwr blaenllaw yn y mudiad Cymraeg.Delwedd uchod: Kate Bosse a Gwyn Griffiths ar ddiwrnod eu priodas, Pontypridd, Medi 1939. Delwedd â chaniatâd Heini Gruffudd.Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 11-14 / Cam Cynnydd: 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/CRS20Tablet.jpg?itok=zSgcF4yV)
Mae’r adnodd hwn yn canolbwyntio ar goffáu’r Holocost, gan annog myfyrwyr i feddwl am sut a pham y dylem ni gofio’r Holocost a’i berthnasedd ar gyfer y dyfodol.Delwedd uchod: Coflech Holocost Synagog Ddiwygiedig Caerdydd, 2019. Cydnabyddiaeth Llun: Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson19_karel.lek_crop.jpg?itok=AMuOglIm)
Yn y adnodd hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu am fywyd ffoaduriaid yng Nghymru ar ôl y rhyfel, a sut y gwnaethant addasu i’w hunaniaeth newydd.Delwedd uchod: Portrait of an Anglesey Man gan Karel Lek (1929-2000) © Ystâd Karel Lek Credyd y ffotograff: Prifysgol Bangor. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson18_theresienstadt.jpg?itok=1n3YOcZU)
Mae’r adnodd hwn yn trafod rhyddhau’r gwersylloedd a’r getos gan y Cynghreiriaid.Mynedfa Geto Theresienstadt gyda’r ymadrodd Arbeit Macht Frei (Mae gwaith yn eich rhyddhau), Gorffennaf 2013. Llun: Wikimedia Commons. Awdur y llun: Andrew Shiva. Trwydded Creative Commons: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/deed.en. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Picture1_0.jpg?itok=dZBBAjza)
Yn y adnodd hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu am ffoaduriaid Iddewig a ymunodd â lluoedd arfog Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd llawer o filwyr Iddewig a fu gynt yn ffoaduriaid yn gwasanaethu yng Nghymru.Bydd myfyrwyr yn clywed tystiolaeth hanes llafar gan dri ffoadur Iddewig, a wasanaethodd ym Myddin Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.Delwedd uchod: X Troop yn Aberdyfi, 1943. Llun trwy garedigrwydd Colin Anson. Cydnabyddiaeth y Llun: Commando Veterans Archive. Trwydded Creative Commons: https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson16_heini_gruffudd.png?itok=PLQzJox0)
Mae’r adnodd hwn yn trafod erledigaeth meddygon, deintyddion a nyrsys Iddewig yn yr Almaen Natsïaidd a’r anawsterau a gawsant fel ffoaduriaid yn y DU.Delwedd uchod: Paul Bosse (yn sefyll, chwith) yn cyfarfod Hitler yn Wittenberg, yr Almaen, ym 1935. Tynnwyd y ffotograff hwn ar ôl ffrwydrad mewn ffatri arfau gerllaw. Er gwaethaf ei holl waith, cafodd Paul ei ddiswyddo chwe mis yn ddiweddarach. Llun trwy garedigrwydd Heini Gruffudd.Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson13_e.hunter_border.jpg?itok=w6m9qvAs)
Mae’r adnodd hwn yn edrych ar ffoaduriaid o’r Almaen Natsïaidd a ddaeth yn weision domestig yng Nghymru. Dyma’r alwedigaeth fwyaf cyffredin ymhlith ffoaduriaid, gyda 20,000 o fenywod o’r Almaen, Awstria a Tsiecoslofacia yn dod i mewn i Brydain ar fisas domestig cyn Medi 1939.Bydd myfyrwyr yn clywed tystiolaeth hanes llafar yn disgrifio profiad Fanny Höchstetter fel gwas domestig a morwyn siambr mewn gwesty.Delwedd uchod: Fanny a Bertl Höchstetter yn fuan ar ôl eu diswyddo o wasanaeth sifil yr Almaen ym 1933. Mae eu hystumiau'n dangos eu barn am Hitler. Delwedd: © Ernie Hunter. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson12_g.schoenmann_012.jpg?itok=9rh7KTp0)
Yn y casgliad hwn o adnoddau, bydd y myfyrwyr yn dysgu am Ystad Fasnachu Trefforest, ger Pontypridd, a sefydlwyd fel rhan o Ddeddf Ardaloedd Arbennig 1934. Crëwyd y Ddeddf i helpu rhannau o Brydain â diweithdra uchel, ac roedd yn cynnig cymorth i fusnesau sefydlu yn yr ardaloedd hyn. Pan ddechreuodd y Natsïaid gipio busnesau Iddewig yn yr Almaen yn y blynyddoedd ar ôl 1933, ffodd llawer o ffoaduriaid Iddewig yma i sefydlu eu busnesau gyda chymorth y cynllun hwn.Erbyn Mai 1940, roedd 55 o fusnesau a ddechreuwyd gan ffoaduriaid Iddewig yn cael eu rhedeg yn Nhrefforest. Fe wnaethon nhw ddarparu swyddi i tua 1,800 o bobl leol.Yn yr adnodd hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu am brofiadau’r teulu Schoenmann, a oedd yn rhedeg ffatri papur sigaréts a bocsys yn Nhrefforest. Ystyriwyd bod eu busnes yn “hanfodol i ymdrech y rhyfel” gan fod sigaréts yn cael eu hystyried yn “hanfodol i gynnal morâl yn y lluoedd arfog, a gartref”.Dyma adnodd 2 o 2 ar y testun Ystad Fasnachu Trefforest.Delwedd uchod: Plac wal y General Paper & Box Manufacturing Company yn Ystad Fasnachu Trefforest, 1941. Delwedd: Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Delwedd trwy garedigrwydd George Schoenmann. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 11-14 / Cam Cynnydd: 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae'n un o ddau ar y testun Ystad Fasnachu Trefforest. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon:Yr Holocost a Chymru: Aero Zipp Fasteners yn Ystad Fasnachu Trefforest Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson11_HO396-135.jpg?itok=kXGepKca)
Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio caethiwedigaeth ffoaduriaid Iddewig fel ‘estron-elynion’ yn 1939. Ar ôl dechrau'r rhyfel ym mis Medi 1939, daeth holl Almaenwyr ac Awstriaid Prydain yn ‘estron- elynion’ a bu'n rhaid iddynt gofrestru gyda'r heddlu. Er bod y mwyafrif yn parhau i fod yn rhydd, yn haf 1940, tynhawyd cyfyngiadau oherwydd y risg o oresgyniad gan yr Almaenwyr, a chafodd degau o filoedd eu caethiwo. Roedd y cynnydd yn nifer y rhai a gafodd eu caethiwo wedi dihysbyddu gallu safleoedd presennol ac, er bod y rhan fwyaf o ffoaduriaid wedi’u caethiwo mewn gwersylloedd ym Mhrydain, cafodd rhai eu halltudio i wledydd eraill, yn arbennig Canada ac Awstralia.Gan ddefnyddio dau ddarn o dystiolaeth hanes llafar, mae’r adnodd hwn yn archwilio’r ffaith bod Ffoaduriaid Iddewig wedi’u caethiwo fel ‘estron-elynion’ yn y DU a’u profiad o gael eu hanfon i wersylloedd yng Nghanada ac Awstralia.Dyma adnodd 2 o 2 ar y testun Caethiwo 'estron-elynion' ac argymhellir bod athrawon yn defnyddio'r ddau adnodd.Delwedd uchod: Cerdyn Estron-Elynion a Chaethiwedigion Heinrich David Pinkus. The National Archives, Kew, Llundain, Lloegr, HO 396 WW2 Internees (Aliens) Index Cards 1939-1947, Cyfeirnod Archif: HO 396/135. Delwedd: Findmypast. Dogfen wreiddiol: ©Hawlfraint y Goron. Atgynhyrchwyd y llun trwy garedigrwydd The National Archives, Llundain, Lloegr. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae'n un o ddau ar y testun Caethiwo ‘estron-elynion’. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon:Caethiwo ‘estron-elynion’ Rhan 1 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson9_border_1.jpg?itok=abdl3DOx)
Ar ôl dechrau'r rhyfel ym mis Medi 1939, daeth holl Almaenwyr ac Awstriaid Prydain yn 'estron-elynion' a bu'n rhaid iddynt gofrestru gyda'r heddlu. Er bod y mwyafrif yn parhau i fod yn rhydd, yn ystod haf 1940, tynhawyd cyfyngiadau a chafodd degau o filoedd eu caethiwo. Mae'r adnodd hwn yn archwilio rhai o'r effeithiau a gafodd y caethiwo ar fywydau pobl.Dyma adnodd 1 o 2 ar y testun Caethiwo 'estron-elynion' ac argymhellir bod athrawon yn defnyddio'r ddau adnodd.Delwedd uchod: Wilhelm Jondorf (1890-1957). The Fifth Columnist, Onchan, Ynys Manaw, 1940. Rhodd Mrs Betty Jondorf , Llundain. Casgliad o Yad Vashem Art Museum, Jerusalem. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae'n un o ddau ar y testun Caethiwo ‘estron-elynion’. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon:Caethiwo ‘estron-elynion’ Rhan 2 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson8_aero.zipp_crop.jpg?itok=3Tkl6MEe)
Sefydlwyd Ystad Fasnachu Trefforest, ger Pontypridd, fel rhan o Ddeddf Ardaloedd Arbennig 1934. Crëwyd y Ddeddf i helpu rhannau o Brydain â diweithdra uchel, a chynigiodd gymorth i fusnesau sefydlu yn yr ardaloedd hyn. Pan ddechreuodd y Natsïaid gipio busnesau Iddewig yn yr Almaen yn y blynyddoedd ar ôl 1933, ffodd llawer o ffoaduriaid Iddewig yma i sefydlu eu busnesau gyda chymorth y cynllun hwn.Erbyn Mai 1940, roedd 55 o fusnesau a sefydlwyd gan ffoaduriaid Iddewig yn cael eu rhedeg yn Nhrefforest. Fe wnaethon nhw ddarparu swyddi i tua 1,800 o bobl leol. Un o'r ffatrïoedd hyn oedd Aero Zipp Fasteners a sefydlwyd gan y ffoadur-ddiwydiannwr Joachim Koppel, dyn busnes Iddewig a dreuliodd flynyddoedd lawer o'i fywyd yn Berlin nes iddo orfod ffoi. Roedd Aero Zipp yn cynhyrchu sipiau metel. Roedd ganddyn nhw eu ffatri yn Nhrefforest a'u swyddfeydd yn Llundain. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel sawl busnes Iddewig arall, fe wnaethon nhw gyfrannu at ymdrech y rhyfel trwy wneud sipiau ar gyfer offer milwrol.Yn yr adnodd hwn, mae myfyrwyr yn dod â’r ffatri’n fyw mewn ffordd ymarferol a chreadigol, gan ddefnyddio seinwedd.Dyma adnodd 1 o 2 ar y testun Ystad Fasnachu Trefforest.Delwedd uchod: Hysbyseb ar gyfer Aero Zipp Fasteners, 1969. Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 9-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae'n un o ddau ar y testun Ystad Fasnachu Trefforest. Dyma ddolen i’r adnodd arall yn y gyfres hon:Yr Holocost a Chymru: General Paper and Box Manufacturing Company yn Ystad Fasnachu Trefforest Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Picture1.jpg?itok=0YEiiLxR)
Arlunwyr Iddewig yng Nghymru: astudiaeth achos, Josef HermanBu’r ffoadur Iddewig, yr artist Josef Herman, yn byw yn Ystradgynlais yng nghwm Tawe am un mlynedd ar ddeg. Yn y adnodd hwn, gofynnir i fyfyrwyr archwilio gwaith celf Herman a chreu darnau eu hunain yn ei arddull ef. Gellir defnyddio’r adnodd hwn fel adnodd ar ei phen ei hun neu ei hymgorffori mewn cynllun gwaith astudio artist TGAU Celf.Delwedd uchod: Miners Singing gan Josef Herman (1911-2000). ©Ystad yr arlunydd/Amgueddfa Cymru - National Museum of Wales. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson6_cjh_berlinsynagogue_crop.png?itok=FoCH2phW)
Ar 9 a 10 Tachwedd 1938, cynhaliodd y gyfundrefn Natsïaidd gyfres o ymosodiadau o’r enw ‘pogroms’ yn erbyn y boblogaeth Iddewig yn yr Almaen a thiriogaethau eraill a feddiannwyd gan y Natsïaid. Daeth y digwyddiad hwn i gael ei adnabod fel Kristallnacht neu ‘Noson y Gwydr Toredig’ oherwydd y gwydr drylliedig a lenwodd y strydoedd ar ôl fandaliaeth a dinistr synagogau, busnesau a chartrefi a oedd yn eiddo i Iddewon. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio atgofion Julius Weil, a fu’n byw yng Nghymru, o’r digwyddiad dinistriol hwn. Bu farw Julius Weil yng Nghaerdydd yn 2021.Delwedd uchod: Golygfa fewnol o Synagog ddrylliedig Fasanenstraße, Berlin, a losgwyd yn ystod Pogroms Tachwedd, Tachwedd 1938. Center for Jewish History, New York City. Trwy garedigrwydd Leo Baeck Institute. Kristallnacht 2: Y bar mitzvah olafYn dilyn ymlaen o Kristallnacht 1, mae’r ail adnodd hwn yn archwilio hanes Julius Weil o’i bar mitzvah, yr olaf i ddigwydd yn Synagog Glockengasse cyn iddi gael ei dinistrio yn ystod Kristallnacht. Bydd myfyrwyr yn archwilio effaith y digwyddiad hwn mewn ffordd greadigol, gan gynhyrchu eu gosodwaith bach eu hunain. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o ddau ar y testun 'Kristallnacht’. Dyma ddolen i'r adnodd arall yn y gyfres hon:Kristallnacht 1 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/jhasw_lesson5_arnoldweil_crop.png?itok=CssA2Z2o)
Ar 9 a 10 Tachwedd 1938, cynhaliodd y gyfundrefn Natsïaidd gyfres o ymosodiadau o’r enw ‘pogroms’ yn erbyn y boblogaeth Iddewig yn yr Almaen a thiriogaethau eraill a feddiannwyd gan y Natsïaid. Daeth y digwyddiad hwn i gael ei adnabod fel Kristallnacht neu ‘Noson y Gwydr Toredig’ oherwydd y gwydr drylliedig a lenwodd y strydoedd ar ôl fandaliaeth a dinistr synagogau, busnesau a chartrefi a oedd yn eiddo i Iddewon. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio atgofion Julius Weil, a fu’n byw yng Nghymru, o’r digwyddiad dinistriol hwn. Bu farw Julius Weil yng Nghaerdydd yn 2021.Delwedd uchod: Arnold Weil, Köln, Ebrill 1936. Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Kristallnacht 1: Atgofion o Kristallnacht. Mae’r adnodd hwn yn cyflwyno dysgwyr i Kristallnacht gan ddefnyddio tystiolaeth Julius Weil a ffotograffau a gwybodaeth arall. Gofynnir i fyfyrwyr ddefnyddio'r ffynonellau hyn i ysgrifennu adroddiad papur newydd. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC). Cefnogir y prosiect yn garedig gan Cymdiethas y Ffoaduriaid Iddewig, Charles Wolfson Charitable Trust, Jewish Historical Society of England a Garfield Weston Foundation. Cyfnod Allweddol 4Cwricwlwm i GymruIecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 14-16 / Cam Cynnydd: 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae'r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddion ein gwefan. Mae'n un o ddau ar y testun 'Kristallnacht’. Dyma ddolen i'r adnodd arall yn y gyfres hon:Kristallnacht 2 Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/rainbow-sun%20cropped.jpg?itok=zGDjhrHF)
Cofnodi straeon eich disgyblion yn ystod y pandemig.Ar hyd y canrifoedd, mae dyddiaduron, ffotograffau, dogfennau a recordiadau wedi ein helpu i ddeall cyfnodau hanesyddol eraill a sut mae pobl yn byw eu bywydau o ddydd i ddydd, yn arbennig felly mewn cyfnod o argyfwng.Gyda’ch cymorth chi, hoffem greu capsiwl amser digidol ar gyfer ein gwefan er mwyn i ni, a chenedlaethau’r dyfodol ddeall stori eich disgyblion yn ystod y cyfnod heriol hwn. Y Cyfnod SylfaenFframwaith Cymhwysedd Digidol, Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd, Datblygiad creadigolCyfnod Allweddol 2, 3 & 4Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Sgiliau llythrennedd, Addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eangCwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Iecheyd a Lles, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd Digidol Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn, a gweld ein cynnwys 'Enfysau Mewn Ffenestri' yma.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/AngelSharkProject_Logo3.jpg?itok=BA6OSsPa)
Mae e-lyfr Angylion Cymru wedi’i ddylunio ar gyfer plant o 7 i 11 oed ac mae’n adrodd hanes Maelgwn yng Nghymru. Mae’r e-lyfr yn cynnwys gwybodaeth am ecoleg Maelgwn, hanes Maelgwn yng Nghymru, a sut mae pobl yn cydweithio i ddiogelu dyfodol y rhywogaeth hon yng Nghymru.Cewch fynediad at yr eLyfr ar wefan Prosiect Maelgi: Cymru Cwricwlwm i GymruGwyddoniaeth a Thechnoleg, Y Celfyddydau MynegiannolCyfod Allweddol 2Gwyddoniaeth, Celf a Dylunio, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/JackieJones3_small14_0.jpg?itok=yjoXwgVZ)
Mae hanes o'n cwmpas ym mhobman. Meddyliwch am eich teulu a'ch cymuned. Mae digon o straeon yno i lenwi llyfrgell. HANES LLAFAR yw enw'r math yma o hanes.Mae dogfennau a llyfrau yn aml yn canolbwyntio ar bobl a digwyddiadau enwog. Ond nid yw profiad a llais y mwyafrif yn cael ei gofnodi. Mae hanes llafur yn llenwi'r bylchau ac yn rhoi i ni hanes sy'n cynnwys pawb.Diolch i dechnoleg ddigidol, gall unrhywun gasglu hanesion llafar a'u rhannu gydag eraill. Mae'n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau digidol a chyfweld wrth ddysgu am hanes. Gall feithrin hyder pobl ifanc a magu parch rhwng cenedlaethau.Mae'r canllaw wedi'i greu mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Hanes Llafar a Chasgliad y Werin Cymru. Mae'n cynnig cyngor defnyddiol ar gychwyn project hanes llafar yn eich ysgol neu gymuned. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanesOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 & 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Shop.jpg?itok=iZklvf8c)
Dysgwch am sut mae ein dull o siopa wedi newid dros y blynyddoedd. Ymchwiliwch i’r newidiadau i’r stryd fawr ac i ganol ddinas Caerdydd a darganfyddwch mwy am ddatblygiad clidio i’r cartref. Darganfyddwch am ddogni bwyd yn ystod adegau anodd, a dysgwch am y danteithion ar gael mewn caffis ers talwm.Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel ffotograffau, cyfeiriaduron masnach, cynlluniau adeiladu, y cyfrifiad a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Docks.jpg?itok=7zeWeAPE)
Dysgwch fwy am lo: o ble y daeth? Sut y’i defnyddiwyd? I ble yr oedd yn mynd? Dysgwch sut roedd glo Cymru yn pweru’r byd a sut roedd yn cael ei allforio drwy Ddociau Caerdydd.Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel mapiau, ffotograffau, ffurflenni’r cyfrifiad, cyfeiriaduron masnach, cofnodion llongau a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Victorians3.jpg?itok=XP5AE9Ro)
Dysgwch sut roedd y bobl gyfoethog yn byw yn ne Cymru yn Oes Fictoria, a dysgwch sut roedd pobl dlawd de Cymru’n byw eu bywydau. Dysgwch sut le oedd yr ysgol yn Oes Fictoria, a dysgwch am fywydau gwaith y bobl yn ne Cymru. Darganfyddwch y tai roedd y bobl Fictoraidd yn byw ynddynt, ac am y dodrefn a’r offer yr oeddent yn berchen arnynt.Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel ffurflenni’r cyfrifiad, mapiau, ffotograffau, llyfrau log ysgol, dyddiaduron a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Henry.jpg?itok=JisbjAjv)
Dysgwch sut roedd pobol yn byw yn ne Cymru yng nghyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid; beth roeddent yn gwisgo, beth roeddent yn bwyta, a sut roeddent yn dodrefnu eu tai. Dysgwch mwy am y brenhinoedd a breninesau’r oes a’u cysylltiadau a de Cymru.Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel ewyllysiau a rhestrau eiddo, ryseitiau, selnodau, llythyrau a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/WW1_trenches.jpg?itok=LbC9GEuu)
Darganfyddwch mwy am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobol a chymunedau de Cymru. Dysgwch am fywyd wrth y ffrynt, am y bobol o de Cymru bu’n gwasanaethu yn y Rhyfel, ac am y gofal a chynigwyd i filwyr a anafwyd. Darganfyddwch sut effeithiwyd ar fywyd cartref ac yn yr ysgol gan y Rhyfel, ymchwiliwch i’r newidiadau i fywydau menywod yn ystod y Rhyfel.Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel llyfrau log ysgol, ffotograffau, llythyrau, dyddiaduron a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Air_raid_0.jpg?itok=jz2UK0hj)
Dysgwch fwy am effaith yr Ail Ryfel Byd ar Gaerdydd a de Cymru. Darganfyddwch sut effeithiwyd ar ysgolion, dysgwch am gyrchoedd awyr a’r camau diogelu a gymerwyd a dysgwch fwy am ffoaduriaid. Dysgwch am y brwydrau ar y Ffrynt Cartref drwy ‘Dig for Victory’ a ‘Make Do and Mend’, a sut effeithiwyd ar y werin yn ne Cymru gan y dogni.Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel llyfrau log ysgol, mapiau, ffotograffau, llythyrau a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5. Cwricwlwm i GymruOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5Y DyniaethauMae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl. Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuMae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o'n hamgylch.Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu. Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg. Gallwch weld y deunydd crai yn y ddogfen PDF isod, neu gallwch chi a'ch disgyblion weld y cynnwys digidol ar Gasgliad y Werin Cymru trwy ddilyn y Cysylltiadau Cyflym isod.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/cover_0.jpg?itok=zdd-ExwX)
Datblygwyd Project Pontio'r Cenedlaethau Windrush gan y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC) ar y cyd â disgyblion ysgolion lleol, i ymchwilio i fywydau cenhedlaeth Windrush a gyrhaeddodd Gymru o India'r Gorllewin rhwng y 1940au a'r 1970au.Gobaith y project oedd pontio'r bwlch rhwng cenedlaethau hen ac ifanc, gan ganolbwyntio ar drosglwyddo diwylliant a thraddodiad, a rhannu profiadau am deithio ac ymsefydlu. Mae'n cofnodi cyfraniad rhyfeddol ymfudwyr Du ac o Leiafrifoedd Ethnig i'r DU, yn enwedig yn ardal Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot.Mae'r project yn dathlu bywydau deg henadur – rhai yn aelodau o genhedlaeth Windrush ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i gymdeithas amlddiwylliannol De Cymru.Mae testun yr astudiaeth achos yn ddwyieithog, ond Saesneg yw iaith y fideos a'r llyfryn. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanesOed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5 Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Baptist.jpg?itok=X9jVrr4W)
Casgliad o ddarluniau pensaernïol gan y pensaer o Gasnewydd, R.G. Thomas (1820 - 1883).Roedd Thomas yn bensaer a pheiriannydd a dreuliodd rhan fwyaf ei fywyd yn Awstralia, wedi iddo fudo o Brydain ym 1836. Daeth yn ôl i Brydain ym 1846, lle arhosodd am 15 mlynedd. Treuliodd ran fwyaf y cyfnod hwn yng Nghasnewydd, lle bu'n rhan o sawl project adeiladu amryfal; o system ddraenio ar ystâd tai i ddylunio bythynnod a filas, o siopau i ysgolion, eglwysi a neuaddau tref. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Y DyniaethauHanes, Cymry enwogOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 & 5 Casgliad DysguRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/Canaries1.jpg?itok=eSVPGQ-Q)
Prosiect addysgu ffilm cymunedol yw Cynefin - Ein Croeso dan nawdd Ffilm Cymru Wales gyda chefnogaeth Michael Sheen a Sefydliad Celf Josef Herman.Mae tîm celfyddydau cymunedol Y Neuaddd Les Ystradgynlais wedi cydweithio ag Ysgol Maesydderwen, Ysgol Dyffryn Y Glowyr a theuluoedd o Syria sydd wedi ymsefydlu yn y dre, er mwyn adrodd hanesion ffoaduriaid ddoe a heddiw. Cydweithiodd y cwmni animeiddio gwobrwyog, Winding Snake Productions, â'r gymuned i greu dwy ffilm sy'n rhannu eu straeon am y croeso a roddwyd yn Ystradgynlais i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel.Enillodd y project hwn Wobr Ragoriaeth Ddigidol cystadleuaeth Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2018. Noddwyd y wobr gan Gasgliad y Werin Cymru.Yn rhan o'r astudiaeth achos mae'r ddwy ffilm; Cynefin a Uncle Ahmad's Canaries yn ogystal â fideo o'r broses yn datgelu mwy am sut y cafodd y ffilmiau eu creu. Cliciwch ar y ddolen Casgliad 'Cynefin - Ein Croeso' isod i weld y tair ffilm. Cwricwlwm i GymruY Celfyddydau Mynegiannol, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolHanesOed: 8-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4 Astudiaeth achosCasglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/FalconHildred.jpg?itok=AjECBK3J)
Beth allwn ni ei ddysgu am dirwedd Cymru drwy ymchwilio i weithiau celf Falcon Hildred?Mae’r adnodd dysgu yma’n helpu’r dysgwr i ateb y cwestiwn hwn, a datblygu dealltwriaeth o’r deunydd a ddefnyddiwyd ynghyd a chyfansoddiad, technegau a’r offer. Dilynwch y dolenni i’r casgliadau o’r gwaith wedi digideiddio er mwyn cefnogi eich astudiaethau a darganfod gwaith Falcon Hildred. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Y Celfyddydau MynegiannolCelf, Hanes, Daearyddiaeth, Cymry EnwogOed: 8-14 / Cam Cynnydd: 3 a 4 Pecyn Gweithgareddau DysguMae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/riocorintos.jpg?itok=7nGUrUPw)
Cysylltiadau dysgu ar gyfer nifer o gasgliadau ar Batagonia. Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuHanes, Daearyddiaeth, Addysg Grefydol, Y GymraegOed / Cam Cynnydd: Pawb Casgliad DysguRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/GTJ11511_2.jpg?itok=dfr2bCgj)
Protestiadau Gymdeithas yr Iaith Gymraeg Cwricwlwm i GymruY Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a ChyfathrebuHanes, Daearyddiaeth, Addysg Grefydol, Y GymraegOed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5 Casgliad DysguRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.
![](https://www.peoplescollection.wales/sites/default/files/styles/pcw_entity_glance/public/teaching/GTJ11896_2_1.jpg?itok=rP7gNjY4)
Cafodd Urdd Gobaith Cymru ei sefydlu ym 1922 er mwyn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn heddiw, mae dros 50,000 o bobl ifanc yn aelodau o'r Urdd, ac mae'r Eisteddfod flynyddol yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop.Yn 2022 mae'r Urdd yn dathlu ei chanmlwyddiant! Ymunwch â'r dathliadau drwy ychwanegu eich lluniau ac atgofion o'r Urdd i Gasgliad y Werin Cymru.Sut i gymryd rhan:Chwiliwch am luniau neu recordiadau o ddigwyddiadau, gweithgareddau neu Eisteddfodau'r UrddNeu ymunwch â Parti Pen-blwydd yr Urdd yn 100 yn 2022 a thynnu lluniau newydd sbon!Ychwanegwch eich atgofion a straeon o'r Urdd i Gasgliad y Werin CymruNeu anfonwch nhw i ni dros y cyfryngau cymdeithasol (gweler dolenni i Facebook a Twitter ar waelod y dudalen)Ychwanegwch y tag Penblwydd-Hapus-Urdd i'ch cynnwys, a byddwn yn creu casgliad newydd i'w ychwanegu at yr adnodd hwn Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd. I gael help i uwchlwytho eich cynnwys, gweler ein Canllawiau neu archebwch sesiwn gefnogaeth rithiol 1 wrth 1 gyda Catalena, Swyddog Addysg Casgliad y Werin. Cwricwlwm i Gymru 2022: Camau Cynnydd 1, 2 a 3Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Lles, Dyniaethau, Iaithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd DigidolOed / Cam Cynnydd: Pawb Casgliad DysguRydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth. Mae mwy o gynnwys yn ymwneud â'r Urdd yn y Cysylltiadau Cyflym isod, neu gallwch bori drwy gyfrif yr Urdd ar Casgliad y Werin.