Skip to main content

Lleisiau o Lawr y Ffatri / Voices from the Factory Floor

Ffrwyth prosiect cyffrous gan Archif Menywod Cymru yw 'Lleisiau o Lawr y Ffatri'. Mae hanes menywod ar hyd y canrifoedd wedi cael ei esgeuluso a nod yr Archif yw codi ymwybyddiaeth o hanes menywod yng Nghymru ac achub a diogelu ffynonellau'r hanes hwnnw.Recordiwyd siaradwyr a fu'n gweithio mewn tua 208 o ffatrïoedd gwahanol. Mae gan bob un ei stori unigol ac unigryw. Pleser a braint fu cael rhoi eu hatgofion ar gof a chadw. At hyn, yn sgil yr holi casglwyd a sganiwyd c. 400 o luniau i ddarlunio'r prosiect.Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri gyda chefnogaeth yr Ashley Family Foundation, undebau llafur Unite a Community Union a chyfraniadau aelodau'r gymdeithas. Caniataodd hyn i'r Archif gyflogi tair Swyddog Maes i wasanaethu’r gogledd, y de-orllewin a'r de-ddwyrain ac i hyfforddi gwirfoddolwyr i helpu gyda’r recordio a’r adysgrifio. Mae'r prosiect cyflawn, yn cynnwys y cyfweliadau gwreiddiol, y darluniau a'r adysgrifau ar adnau yn yr Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.Cyfron Archif Menywod Cymru ar Casgliad y Werin Cymru
Profile picture for user llawrffatri_11223
Dyddiad Ymuno:
01/02/2017

Gweld pob un o’r 763 eitemau