Nanette Lloyd. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Ewn ni nôl i’r dechre (eich bywyd), os allech chi weud ‘tho fi beth yw eich enw chi?

Nawr?

Ie, eich enw chi nawr.

Nanette Lloyd.

A beth o’ch chi cyn priodi?

Nanette Evans.

A ydych chi’n cofio eich dyddiad geni?

Seventeenth of the eighth month 1937.

A ble gesoch chi’ch geni?

Yn New Road (Pontyberem), yr hewl o fla’n hon, No.7.

A ble o’dd ych tad yn gwitho?

(Gwaith glo) Pentremawr.

Beth o’dd e’n neud ‘na?

Official, fireman. Fireman o’n nhw’n galw fe achos he had a whole district he was in charge of.

O’dd jobyn itha da ‘da fe te?

O’dd, o’dd. Ond ti’n gwbod beth o’dd e, the better qualified the job, o’t ti ddim yn ennill yr arian o’dd y bois ar y glo yn ennill, ti’n deall fi. O’n nhw’n ennill lawer fwy na’n dad i, rhai o’ nhw, ond dim nhw i gyd.

O’dd e’n lico ‘i waith?

He did. He took it serious.

O’dd ych mam wedi bod yn gwitho?

Do. Yn siop fach papur i Anti.

A ble o’dd y siop bapur te?

Drws nesa i’r hen syrjeri yn Pontyberem.

O’dd siop bapur fan’na?

O’dd. Meredith. Meredith’s paper shop. A rownd fawr ‘da’n nhw’n y bont twel.

00.01.33: Pryd o’dd hi’n gwitho ‘na te?

O’r ysgol.

O’r ysgol?

Nes bod hi’n priodi Dadi.

Ie, a gwplodd hi wedyn.

I briodi Dadi.

00.01.40: A o’dd brodyr a chwiorydd ‘da chi?

‘Da fi? Tri brawd.

A ble o’ch chi’n ffito mewn, chi’n gwbod, pwy o’dd yr ifanca?

Second.

00.01.50: A ble ethoch chi i’r ysgol?

Pontyberem. Infants gynta ble ma’r Jehovahs nawr, y sgwâr wedyn ‘’nny. A ‘na pryd da’th yr ysgol fach gynta, ‘annexe’ ma’ nhw’n galw fe nawr, lawr y gwaelod.

Ar safle’r ysgol lle mae e nawr?

Hyn. ‘Annexe’ ma’ nhw’n galw’r part lle o’n i’n mynd. That was the first little school. Only for the village.

00.02.16: O’ch chi’n lico ysgol?

O’dd dim ots ‘da fi. I didn’t mind it. We had to do it. O’dd dim choice ‘da ti pyr’nny. O’t ti ddim yn cael mitshan gyda dy parents ta p’un ‘nny.

00.02.29: Pam o’ch chi’n ysgol beth o’ch chi’n meddwl byddech chi’n neud ar ôl gadael te?

No idea. No idea.

00.02.34: O’ch chi eisiau priodi millionaire?

Nagon. O’n i ddim yn moyn priodi. O’n i’n gallu gwnïo. Ive been very, very good with my hands, and sewing, ti’n gwbod. Beth o’n i’n moyn o’n i’n neud i’n hunan.

Pwy ddysgodd chi te?

Ysgol. A’n fam. O’n i’n cwiro da’n fam bob prynhawn dydd Sul, os o’n i gatre. ‘Na pham o’n i ddim yn dod gatre. O’n i’n mynd i Ysgol Sul, ac o’n i’n mynd lan ty’n famgu wedyn i ga’l te, fel bod fi ddim yn mynd gatre i gwiro.

Cwiro dillad y teulu?

Nage, y boys, socs y boys. O’dd tri brawd ‘da fi twel, yn ysgol. A ti’n gweld wool o’dd y cyfan pyr’nny, dim neilon.

O’n nhw ddim yn para, o’n nhw’n rwto o’n nhw.

O’n nhw’n ca’l socs newydd i fynd i ysgol ar ddydd Llun, oedd yr heel fan’na erbyn dydd Mercher. Terrible cofia.

00.03.21: Pwy oedran o’ch chi’n gadel ysgol te?

Fifteen.

00.03.27: Dim fan hyn. Ethoch chi i ysgol arall ar ôl gadel fan hyn?

Naddo, dim ond yn y Bont. O’n i’n dwp twel.

O’ch chi ddim. Sa i’n credu ‘na am funed.

Na, sa i’n dwp. Fi’n gallu neud popeth. Fwy da ‘da’n ddwylo ti’n gwbod.

00.03.40: So o’ch chi fifteen yn gadel, shwd o’ch chi’n twmlo am gadel ysgol te?

I didn’t mind it at all, I was quite happy. Achos o’dd ffrind i fi wedi mynd i weithio mewn restaurant fawr yn Llanelli, Alegri’s. Ac o’n i’n mynd i fynd fa’na ar ei gôl hi. A ti’n gwbod y siop ‘na, dim ond merched Pontyberem o’n nhw’n moyn.

Pam ‘nny te?

Achos they were good workers.

00.03.59: Ac ethoch chi fan’na?

Do.

A shwd beth o’dd y gwaith fan’na?

Gwd. A o’n i moyn mynd i witho tu ôl y cownter. Waitress o’n i twel. O’n i moyn mynd i witho tu ôl y cownter ond o’n nhw’n pallu gadel fi i fynd. A gwples i ‘na, achos dodo nhw i ‘na ar ôl i Mami increaso ‘yn iwnifform i. O’n i fod i byrnu overall wen wedyn ‘nny i fod tu ôl y cownter. They refused to let me to go there and they put me there to punish me. So gwples i ‘na a ethes i i witho’n siop shoes yn Market Street.

00.04.27: O’dd e’n ddigon rhwydd ca’l jobyn arall te?

Bobman pyr’nny. Os o’t ti wedi bod yn gwd, o’dd gwd reference ‘da ti eniwê. Meddyla, sbeito, ti’n gwbod.

00.04.37: Mae’n dibynnu lot pwy sy’n charge ‘na.

RM Lewis, shoe shop, opposite y Vince cinema.

00.04.43: Ond fel gethoch chi’r jobyn ‘na te?

Wel, o’dd eisiau rhywun ‘na.

Ond fel o’ch chi’n ffeindio mas wedyn, bod eisiau rhywun?

O’t ti’n mynd i Unemployment place, yn Llanelli ti’n gwbod.

So gwploch chi’n y caffi gynta?

Do, do. Bues i gatre cyn bod fi’n ca’l dime. So ti’n ca’l dim byd am six weeks. Wedyn ‘nny, y nhw ffindodd e, bod ishe rhywun fan’na. Ac ethes i lawr, and I had it straight.

00.05.05: Beth o’n nhw’n gweud gatre, bod chi wedi cwpla’n y caffi. O’dd ots?

Nhw wedodd wrtho i. Finish then, if that’s the way they feel, if that’s the way they treat you. Achos ti’n gwbod o’dd ‘yn fam i wedi pyr’nny rhagor. O’dd black iwnifform o’dd ‘da ti ac apron fach wen. Wel, os o’t ti’n mynd tu ôl y cownter o’dd rhaid i ti ca’l overall wen. Ac o’dd pethe fel ‘na’n bryd iawn pyr’nny. Very expensive. Ac o’dd yr arian yn fach, fach twel. Weekly yn ten bob. Ten bob yn y poced.

Yn y caffi nawr ife?

Nage. One pound ten shillings o’n i’n ennill. So o’n i’n ca’l ten bob weekly. Ten bob arian poced ac o’n i’n gorfod pyrnu sane’n hunan. So five shillings o’dd ‘da mam ar ôl i gadw fi, when you think about it. It’s hard.

00.05.52: A shwd o’dd e’n y siop shoes wedyn?

Oce, oce. A ti’n gwbod o’dd half day bob dydd Mawrth, o’n i’n seiclo wedyn ‘nny i Bonthenri, achos o’dd ‘yn wha’r yng nghyfreth, Sally’n gwitho’n y ffactri. Ac o’n i’n mynd mewn, ac o’n i’n gallu gweld beth o’n nhw’n neud, ac o’n i’n gwbod bod nhw’n ennill arian da. Ond o’dd rhaid i ti sefyll i ga’l ford i brinto arno. O’n i ddim yn moyn mynd i’r rwm top, “finishing”.

So pwy o’dd yn gwitho ‘na’n barod o’ch chi’n nabod?

Sally, ‘yn whar yng nghyfreth. Sally Morgans.

O’dd hi ar arian da te?

O’dd, yn neud yr un jobyn â fi, ond o’dd hi ddim yn gwitho mor galed â fi pan ethes i ‘na, ar y part ‘na.

So pryd ethoch chi i’r ffatri ‘na te? (Fairweather Works)

Paid â gofyn i fi. Gronda nawr, ges i ngeni yn 1937, so o’n i’n fifteen yn dod mas o’r ysgol. Bues i’n gwitho am two years rhwle arall, chi’n gwbod ble fi wedi gweud ‘tho ti. Cownta ti fe nawr, achos ti’n gallu cownto’n well ‘na fi, fi’n siwr. A wedyn ethes i i Ponthenri ffactori. Gweda bod fi’n sixteen.

Seventeen ife?

Seventeen walle.

O’ch chi’n ifanc iawn te.

O’n, o’n. I fynd i witho’n ffactori yn enwedig.

00.07.10: Ond fel ethoch chi ymbytu cael gwaith yn Ponthenri te?

Ie, mynd lawr a half day o’r shop shoes, ar y beic, seiclo lawr. Ac o’dd hi’n gwitho ‘na twel.

00.07.18: Ond o’dd rhaid i chi fynd i ofyn i rywun wedyn?

Wel, o’n nhw’n gwbod twel o’dd eisiau merched. Dere mewn i ti ca’l gweld e wedodd hi, and so I did.

00.07.27: Beth o’dd enw’r ffactori pyr’nny?

Fairweather Works.

A beth o’n nhw’n neud ‘na?

Tablecloths. A dodo nhw fi, a’n partneres, o’t ti’n gwitho’n peire twel, ar y towelling. We started that. A o’dd e’n rhoi basic two pound ten shillings a day i ni am wneud, ‘do as much as you can, but I want it perfect’. ‘Na beth o’dd e’n gweud ‘tho fi. Mr Buttle.

Beth o’dd yn digwydd os o’t ti’n neud mistake te?

O’t ti’n cael seconds. O’t ti’n cael seconds yn everything. O’dd thirty two tablecloths ‘da ni’n un ford fi’n credu’n printo. Os o’t ti’n ca’l sgitad ne rhwbeth it was a second. Ac o’dd hwnna’n dod mas o dy bai di.

O’dd e?

O’dd, o’dd.

Ma’ hwnna’n galed ondywe?

Wel, o’t ti ddim yn neud cyment â ‘na twel. O’t ti’n treial bod yn garcus. Wel, o’t ti’n gorfod bod yn garcus wedyn ‘nny twel o’t ti? Sgits o’n i’n galw nhw. O’dd y sgwiji yn erbyn a’r paent yn tasgu. ‘Na beth o’n i’n galw fe o’dd ‘paent’. But dye o’dd e twel. But it looked like paint.

00.08.32: Ydych chi’n cofio’r diwrnod cynta’ dechreuoch chi gwitho?

Not really. Na. Achos rownd y lle o’n i. Na! Geso i’n ddodi ar jobyn Maureen Rees. Machine, safio nhw stopio’r machinery, o’n i’n gwnïo y stwff, o’dd yn hongan mas o’r trolis. Lwcus, o’n i ddim yn cofio ‘na nawr twel. Safio nhw stopo’r machines mowr, o’dd y stwff yn mynd trw’r machines i gyd twel, all day.

00.09.03: Pwy o’dd yn dangos i chi beth i neud te? O’dd training i gael?

Trevor, Trevor Hughes. Ma’ fe’n y llun ‘na. Vivian Hughes. Vivian Hughes nege Trevor Hughes.

Fe o’dd yn dangos i chi?

Ie, he was the foreman.

Ond faint o amser o’ch chi’n ca’l i ga’l dysgu’r job achos fel o’ch chi’n gweud, o’dd y ffactori’n mynd drw’r amser.

O’dd, o’dd. O’n nhw’n dishgwl i chi bigo fe lan weddol o gloi. And I could. O’n i ddim yn dwp twel.

00.09.36: Na, fi’n gwbod ‘na. O’dd rhai ‘na o’dd ddim yn gallu pigo fe lan te?

Na, sa i’n credu. We all did.

00.09.42: O’ch chi ddim yn ca’l test cyn mynd mewn i ddangos?

Nagon, nagon. O’dd scholars yn neud yr un job â fi fan’na. O’r Gwendraeth. A o’dd yr arian yn gwd.

00.09.56: Faint o’dd yr arian am wythnos te?

On a good week, o’n i’n dod gatre â dros twenty pound. A twenty pound pyr’nny, watsha di nawr , one pound ten shillings o’n i’n ca’l yn y caffi, a bytu two pound yn y shoe shop. A o’n i’n dod a eighteen pound ar ben hwnna o fan’na. Beth bydde ti’n neud? A nage ‘na. Os o’n i’n hwyr o’n i’n gallu seiclo lawr.

00.10.20: Fel o’ch chi’n mynd i’r gwaith te?

Ar y bys. James’s.

Fel service bus ife?

Lawr y steshon a o’n i’n jwmpo off lan yn Myrtle Hill, ti’n gwbod ar ben y wal, a cerdded lawr. A ti’n cofio pyr’nny o’dd y tip yn llosgi. It was terrible.

Gwynt y tip ife?

Fi’n gallu cofio hwnna. I always remember that.

00.10.40: O’dd e fel steiff o’dd e?

It was. You could see it. O’dd e fel veil dros y pentre.

Ac o’dd e’n eitha agos i’r ffactori.

O’dd e ddim yn bell twel. Er, o’dd y paent a’r thinners ‘da ni’n y ffactori, o’n i ffaelu gwynto fe. You could smell that first os ti’n deall fi.

Achos o’dd hwnna mor gryf.

O’dd hwnna’n lladd e.

00.10.57: O’dd gwynt gyda’r paent a’r thinners te?

O’dd. It wasn’t a healthy place to work.

00.11.02: Beth o’dd y conditions fel te?

Not bad. Wel, ti’n gwbod beth yw e. I hadn’t seen different. Os ti’n deall fi. O’dd rhai o’r merched ‘na, o’n nhw wedi.

Ble o’n nhw wedi bod cyn ‘nny?

Optical cyn priodi. Priodi a mynd fan’na wedyn, ti’n gwbod fel ma’ that’s life. O’n i ddim wedi gweld dim byd fel ‘na nes bod fi’n mynd fan’na, and I loved it. And I worked hard.

00.11.30: Ond ar wahan i’r arian, achos wedoch chi o’dd yr arian yn grêt, ar wahan i ni beth o’ch chi’n lico ‘na? O’ch chi’n gweud bod chi’n joio.

Popeth. It wasn’t boring. It wasn’t like an ordinary factory. O’t ti’n cael patterned table cloth, and a different screen for every colour that was in that pattern. A sgwijis mawr ‘da ni’n pwsho’r paent, paent o’n ni’n galw fe, dye o’dd e, nôl a mla’n.

00.11.56: Ond o’dd e’n waith skilled te?

And heavy. Achos o’dd y sgrîn yn drwm twel. A’r paent, a’r sgwiji ynddo fe.

00.12.03: Beth o’ch chi’n neud o’dd yn drwm?

Ôl y rowls wedyn ‘nny o material i layo fe ar y ford hir hyn. Mwy amal na dim o’dd y troli’n fishi rhwle arall. We were carrying it. Geso i periods bob wythnos am bwytu whech mish. Ac o’dd ‘yn fam yn gweud hi, ‘you’ve got to finish, you’ve got to finish’. Ac o’n i’n joio ac o’n i’n gwitho’n galed.

00.12.28: O’ch chi’n meddwl bod chi’n ca’l y periods achos y cario ‘na?

Because of the weight.

O’dd hwnna’n digwydd i rywun arall?

O’dd. Fi’n credu o’n nhw’n ca’l e’n drwm. But they weren’t having it constant, ‘run peth â fi. Wel, o’n i ddim wedi bod yn regiwlar erio’d cyn ‘nny twel. O’n i ddim yn ddigon hen eniwê. Fel, ‘na fe. Dechreues i’n ddigon ifanc.

00.12.46: O’ch chi fod i gario’r rowls te?

O’n nhw’n dishgwl i ti achos o’dd y boys o’dd yn gwitho ‘na o’dd wedi neud y trolis bach hyn i ni ca’l pwsho fe arno fe.

00.12.54: Beth os o’dd rhywun wedi gweud, ‘o ma’ fe’n rhy drwm’.

Well, go somewhere else.

Ma’ hwnna’n galed ondywe?

Nage ‘na. Y rwm top, o’t ti ddim yn ca’l ‘piece work’ yn y rwm top.

Beth o’n nhw’n neud yn y rwm top?

Y finishing, y packaging, cutting, sewing. O’dd y cutters, y sewers ar piece work, a ni a sa i’n credu o’dd neb arall yn.

00.13.17: O’ch chi’n hapus â piece work.

O’n. O’n i wedi mynd man ‘na i ga’l arian i fi a Mami, ac o’n i ddim yn ca’l dime’n fwy. Yes, she used to give me some, gweda ten bob.

00.13.28: Gwedwch wrtho fi nawr beth o’dd yn digwydd pan o’ch chi’n ca’l ych pai?

Dod gatre â fe.

O’ch chi’n agor e ych hunan?

Nagon. Fel ‘na o’n i. Ti’n gwbod y pai cynta geso i, o’n i ddim yn dishgwl arno fe, o’n i ddim yn sieco fe, Mami o’dd fod i agor e. Ond o’t ti’n gallu sieco’n y diwedd, o’t ti’n gallu .. y thing ar y side, o’dd y leaves y papur. O’t ti’n gallu gweld y leaves twel.

00.13.49: Shwd o’ch chi’n twmlo bod chi’n ennill yr holl arian hyn?

Very proud.

Ond o’ch chi ddim yn gweld lot o’r arian.

Nagon. Ond o’dd yn fam yn cadw bod fi’n ca’l. Ti’n gwbod pam? O’n i’n smoco. Ac o’dd hi ddim yn bodlon. O’dd hi ddim yn mynd i roi lot o arian i fi wedyn ‘nny o’dd hi.

00.14.09: Ond o’dd smoco ddim yn costi cyment pyr’nny?

Nago’dd ond o’dd hi ddim yn bodlon bod fi’n neud e.

00.14.13: Faint o arian poced o’ch chi’n ca’l te?

Punt. Yes. Ond cofia o’dd punt yn mynd yn bellach na beth ma’ fe’n mynd heddi twel.

00.13.24: Faint o bobol o’dd yn gwitho ‘na pyr’nny wedech chi?

Ten tables, we were twenty girls on the printing. A oedd dou bâr, dou bâr a un a pump wedyn ‘nny yn y man top le o’n nhw’n softeno, a bleacho a golchi’r material o’dd yn dod mewn, fel sacking. And they were doing it until it became thin and beautiful linen. A Mr Thomas yn Victoria Road o’dd yn neud y machines mowr, golchi, a smwddo a dodi fe’n rowls. Y machine o’dd yn neud ‘na wrth gwrs, ar ôl y boys i olchi fe a softeno fe a bleacho fe.

00.15.06: Y boys o’dd yn neud hwnna i gyd?

Ie, ie. A fi wedyn ‘nny, pan ddechreues i ‘na, machine Maureen Rees ges i yn mynd rownd i safio stopo machines i ddechre fe off. O’n i’n joino’r materials so that it could go constant all day, ti’n deall fi.

00.15.20: O’dd hwnna’n beryglus wedyn?

Na. Not i fi. Wel, ti’n gwbod ar bwys o’n i’n neud e nege, next to where they were stocked up ready.

00.15.33: Ond o’dd rhai’n ca’l accidents te?

I had a bad one. Ti’n gwbod y machine hyn o’n i’n gweud ‘tho ti nawr, mobile o’n i’n mynd rownd. I went to pull it when I started one morning, and I was thrown o fan hyn is gro’s yr hewl. Lwcus bod fi ddim wedi mynd mewn i’r machines. I had a bad accident there. A nece ‘na, dim ryber. Dim ryber o’dd ar ‘yn dra’d i. Rhoiodd e arian, y manager, y diwrnod ar ôl ‘nny, ‘go and get yourself a pair of wellies’. Well, I should have had them when I was put on the job.

00.16.04: Gethoch chi ddim compo te?

Na, wel, o’n i nôl yn gwaith yn dou ddiwrnod. O’n i ddim yn moyn colli.

00.16.11: Ond o’dd bai arnyn nhw nago’dd e, bod nhw ddim wedi cito chi mas?

O’dd. O’dd. And anybody’s talk about an Union ... We didn’t even have an Union.

00.16.20: Nagodd e? Beth o’ch chi’n neud te, os o’dd problem?

O’dd un o ni’n mynd mewn i’r offis i complaino. And it was seen to. Ac o’n nhw’n gweud ‘anybody starts talking about an Union, and you’re out’. O’dd dou ffactri, un yn Birmingham a un yn Ponthenri. Ac o’n ni gyd yn neud fwy o waith a gwell gwaith na beth, they shut the one in Birmingham. And they kept Ponthenri open. Cheap labour twel.

Falle o’ch chi’n conan llai?

Ie, a cheaper labour.

Reit.

‘Na beth o’n i’n clywed. Y bois y loris o’dd yn gweud ti’n gwbod, beth o’dd yn dod lawr â stwff i ni a mynd nôl a stwff ti’n gwbod.

00.16.55: Byddech chi wedi ca’l dechre Union te, os o’ch chi’n moyn?

Anybody start talking about an Union, you were out.

00.17.01: Pwy o’dd yn gweud ‘na te?

It was a known thing. We had no Union.

O’dd Unions erill i ga’l. O’dd Union yn y gwaith (glo) pyr’nny, yn Pentremawr o’dd e?

O’dd. Every other industry.

Shwd o’ch chi’n twmlo am ‘na te?

I dynon silocotic o’dd Ponthenri wedi cael ei neud i. They wouldn’t have been able to work there because of the fumes y paent.

00.17.24: Jiw, o’n i ddim yn gwbod hwnna. O’n nhw’n meddwl taw gwaith ysgafn i nhw dyle fe fod te? ‘Na beth o‘n nhw’n credu?

Supposo fod twel. That’s what it was made for. Built for. Silocotic.

00.17.38: Beth o’dd, chi’n gwbod o’dd dynon a menywod yn gwitho ‘na.

Ond dim lot o ddynon.

Dim lot o ddynon.

Fi’n gweud ‘tho ti, dou. Tony Lewis, a Godfrey, Godfrey Tucker. Tony Lewis o’dd ar y machines. Mr Thomas o’dd ar y machine mowr. Berisford o’dd ar y machine arall yn glazo, a rowlo fe lan cyn bod e’n ca’l ei dorri, i wnïo.

00.18.06: Ble o’n nhw wedi bod yn gwitho cyn ‘nny te? O’n nhw ddim wedi bod yn y gwaith (glo).

Optical a pethe. Ond o’dd rhai wedi dod yn ifanc twel. Y colour house, neud y dye. O’dd bytu tri yn gwitho mewn fan’na. Mab y manager o’dd un.

00.18.21: Ife’r gwaith trwm o’n nhw’n neud?

Na, o’dd y merched yn gwitho’n fwy trwm na’r bois. Achos o’n ni’n printo twel. O’dd sgrin ‘da ti i gario.

O’dd dynon a menywod yn ca’l yr un pai te?

Na. O’dd y printers twel, which we had the heavier work, o’n i’n cario’r sgrin a’r paent, a’r sgwiji, printo. We were the only ones that were earning good money. Wel, ‘na pham o’n i wedi mynd ‘na.

00.18.46: Achos chi’n gwbod mewn rhai llefydd o’dd dynon yn ca’l mwy na menywod o’n nhw.

The wage sometimes, yes, yes.

00.19.00: O’ch chi’n gweud o’ch chi’n mynd â pai gatre, ac o’ch chi’n ca’l arian da. Shwd o’dd ych tad yn twmlo te?

Never asked him. Gwranda, o’dd tri crwt ar ‘yn ôl i. O’n nhw’n falch o fe.

Ond chi’n gwbod o’dd dynon pyr’nny, pride ife? O’dd ych tad ddim yn twmlo..

He was proud of his job, because he passed an exam to have that, ti’n deall fi. He was proud of that.

00.19.25: Ond o’dd e ddim yn ennill cyment â chi.

Wel, o’n ni’r un peggings. And that was very good money. One pound ten shillings ‘n i’n gwitho am yn y shop shoes, a yn y caffi. A meddyla di nawr reit, ten bob pocket money. A o’n i’n gorffod pyrnu sane ‘yn hunan. Ten bob weekly for the bus. Ten shillings o’dd ‘da’n fam i i gadw fi, ar ôl i fi ddod mas o’r ysgol. O’dd hi moyn i fi fynd i Tech twel.

O’dd hi?

Achos o’n i’n gwd yn gwnïo, made all my own clothes.

00.20.00: Pam ethoch chi ddim i Tech te?

O’n i moyn mynd i ga’l arian. I knew the circumstances. O’n i ddim yn llwm, o’n i ddim yn mynd heb ddim byd. Ond o’dd fwy o eishe. A’th ‘yn frawd i’r Navy twel. Da’th e mas o’r ysgol. A blwyddyn yn henach na fi. Ond o’dd dou ar ‘yn ôl i o’dd e.

00.20.19: So ‘ch chi’n twmlo bod ishe chi fynd i witho?

I needed money. Whatever it was, I needed money.

00.20.24: O’ch chi ddim yn twmlo os elech chi i Tech gynta bydde gwell siawns ‘da chi?

O’dd hi moyn i fi fynd i gwnïo and I wouldn’t go achos o’dd y ferch drws nesa ond un i fi’n mynd ‘na. Nagon i ddim yn moyn mynd ‘na.

Ond o’dd deleit gwnïo ‘da chi o’dd e?

I could do everything anyway, still can.

00.20.43: A chi’n edrych nôl nawr, chi’n hapus nawr bod chi wedi neud y decision iawn?

Yes, I think so. O’n i moyn arian i’n fam a’n dad. I’n fam te.

Sdim gwell job na ‘na os e?

Na, na. I was happy, contented. O’n i ddim yn mynd mas cyn ‘nny. Ac o’n i’n cwrdd yn y nos ac o’n i’n mynd i bob dance.

Pwy amser o’ch chi’n mynd yn y bore i’r gwaith?

Dala bys ten past seven.

00.21.11: O Bont fan hyn?

O’r steshon. James’s. Lawr is y wal yn Ponthenri, ac o’n i’n cerdded wedyn ‘nny i’r ffactri.

O’dd lot o fan hyn yn mynd lawr te?

Na, na. Dim ond fi a un merch arall o’dd yn mynd ‘na ac o’dd hi ddim yn jwmpo ar y bys yr un man â fi.

Ble o’dd y lleill yn mynd o’dd ar y bys? O’n nhw’n mynd i ffactoris erill?

O’dd lot yn mynd i Llanelli, i Felinfoel, Morris Motors.

00.21.37: A shwd beth o’dd gwitho ‘na o ran ca’l sbort?

Very, very good company. Very, very good company, a neb yn cymryd advantage o neb. O’dd pawb yn neud ei waith. And respect.

00.21.53: Pwy o’dd yn edrych drosto chi?

Vivian Hughes, sydd yn y llun ‘na. He was our foreman. A Buttle o’dd y manager. Ti’n cofio fe?

Fi’n cofio sôn amdano fe.

O’dd e’n byw yn y tai ‘na opposite y fynwent.

00.22.09: Ac o’ch chi’n dod ‘mla’n yn net ‘da nhw?

Pawb. There was no nastiness or animosity. Fi’n cofio’n fam yn gweud ‘tho fi, achos o’n i’n wyllt, o’dd natur wyllt ynddo i, ‘Remember now,’ wedodd hi, ‘ you’re going to work with a lot of women’. Saesneg o’n i’n ty twel. ‘You’ve got to behave Nanette and control that temper.

Gwrandoch chi arni ddi?

Do. I did. Dim ond unwaith colles i fe a pren ‘da ni a bachyn arno fe i godi’r material o’n i wedi printo. O’dd e lan wedyn ‘nny yn sychu. Ti’n gwbod y llunie, o’dd llunie pob part o’r ffactri arno fe, every part. Fel hyn wedyn ‘nny, a’r things yn hongan lan i sychu.

Rheina o’dd yn yr Evening Post wedoch chi ife?

Fi wedi whilo.

Falle allwch ga’l gafel ar rai o man’nny ‘to.

They must have been cleared out. Fi wedi symud o le o’n i. New Road o’n i. Fan ‘na ges i ngeni, and I’ve lived there, and only from there to by here I’ve been. A bues i tamed bach yn Ponthenri, yn Victoria Road. O’n i’n briod â boi o Bonthenri twel.

00.23.15: O’ch chi’n gweud bod chi wedi colli’ch natur, tymer unwaith, beth ddigwyddodd?

Showan off o’dd hi. Achos o’dd hi wedi bod ‘na o’n fla’n i twel. A o’dd hi’n codi fe ei hunan. A o’t ti ddim fod i. ‘Ydw i’n gwitho ‘da ti, neu effing gwitho ‘da ti ne bido’, a swinges i’r pren. Allen i ‘di dala hi. O’n i ddim yn treial bwrw ddi ond I threw it.

O’dd e wedi bwrw ddi te?

Na. Se fe wedi bwrw twll ynddi ddi. A wedodd hi wrth ‘yn fam. O’dd hi’n caru â’n frawd twel. Ma’ ddi’n briod â’n frawd nawr.

00.23.44: O’dd pawb yn nabod ei gilydd ‘na te?

Yes, well we went to school together. Ti’n gwbod o’dd pob pentre yn dod i ysgol y Bont, last few years.

O’n nhw? O’n i ddim yn gwbod ‘nny?

A ti’n gwbod o’n i fel ‘na, yn dene, dene, dene.

Chi’n itha tene nawr.

Sa i’n dew ond sa i’n dene. Gronda nawr, fi ar steriods cofia. Not bad considering I’m on that. Achos asthma. Des i gatre o’r ysgol, pan ethes i lawr i ysgol waelod, y senior nawr.  ‘Mami, do you know these, they’re nearly in the inkwells’. A o’dd ‘yn fam yn wherthin ha, ha, ha. ‘Don’t say things like that’ wedodd hi. Ond o’n i’n fflat. Ond o’n nhw mor busty ti’n gwbod. ‘They’re nearly in the inkwells’ wedes i wrthi ddi ac o’dd Mami’n adrodd hwnna’n amal.

00.24.36: Pam o’ch chi’n gwitho’n y ffactri, o’dd dim lot o ddynon ‘na, ond o’dd rhai’n caru â’i gilydd?

Well, that’s where I met my husband. Parodd hwnna ddim yn hir.

Naddo fe?

Naddo.

Ond fan’na o’ch chi wedi cwrdd â fe?

Ar ôl priodi ethes i i fyw fan’na, gyda fe a’i fam. It was bad enough. Nothing would have worked. My father called, he was teaching my brother to drive. So hwn ar hwnna (recordydd) nawr?

Alla i stopo fe.

00.25.16: O’dd lot o’r menywod o’dd yn gwitho ‘na pyr’nny, o’n nhw’n rhai priod?

O’dd. Mixture.

00.25.21: Pwy oedran o’n nhw wedyn, wedech chi?

Roughly mine and older. Not alot younger.

00.25.46: O’dd y menywod, gwedwch chi bod nhw’n priodi, o’n nhw’n cwpla’n y gwaith?

Not really.

00.25.54: Beth o’dd yn digwydd pan o’n nhw’n ca’l plant te?

Wel, ti’n gwbod beth o’dd e. In those days, os o’dd dy fam ‘da ti o’dd hi’n carco i ti, os o’t ti’n lwcus.

Ond o’dd dim maternity a pethach fel ‘na i ga’l pyr’nny o’dd e?

Nago’dd, not to my knowledge.

So o’ch chi’n mynd i gael y babi, o’n nhw’n dod nôl wedyn?

I presume so. I can’t remember. Ti’n gwbod beth o’dd e, o’n i ddim yn talu lot o sylw. Achos we were in a younger group. Printers o’n i. It was heavy work. Se ti’n pregnant se ti wedi colli fe.

00.26.24: Beth am y big bosses te? Pwy o’dd bia’r holl lle?

Buttle. Fe o’dd y manajar. A Trevor wedyn ‘nny o’dd yn superviso ni. A office workers o’dd y rest i gyd.

00.28.37: O’ch chi’n ca’l social life gyda’ch gilydd wedyn? O’ch chi’n mynd mas, mynd i dansys gyda’r merched?

O’n dansys, dansys.

Gyda merched o’r ffactri?

Wel, o’n i’n cwrdda ‘na twel. Pontyberem, Ponthenri a Pontiets. Y YM o’dd yn Ponthenri. ‘Na le ddysges i i ddanso. O’n nhw’n pigo fi lan i droi cornel. Wir i ti.

00.27.02: Ble o’dd y YM yn Ponthenri te?

Hall. YM o’n nhw’n galw fe twel. A’r RAFA club mwy lawr ‘na’r ysgol.

Jiw, lle bach yw hwnna.

Very, very. Shed! O’n i’n mynd fan’na.

O’dd y gwaith ddim yn trefnu dim byd i chi? O’ch chi’n ca’l Christmas do ne’ rwbeth fel ‘na?

O’n nhw’n neud dinners.

Ym ble o’n nhw’n neud y dinners?

Fi’n cofio, ethon ni lawr unweth, and I was so ashamed, so ashamed. Beautiful place. O’dd un o’r merched ‘da ni ar y printo o’r Baltic, fi ffaelu cofio enw ddi nawr. Gladys y Baltic. Ti ‘di clywed hi?

Nadw.

Ti rhy ifanc twel. Gladys y Baltic. O’dd family ‘da ddi ar ochor Stepaside fan’na. And they did Christmas dinner there and they had the most magnificient Christmas tree fi wedi gweld erioed. Lan is top y cyrten ‘na wedwn ni. Decorated with decorations we’d never seen, all bought. Stripodd y merched e. Dwgon nhw nhw. I was ashamed that I was one of them. A wedes i ...yn y cantîn dyle fod fucking gas arnoch chi bod chi wedi neud shwd beth. And they brought them back for her to take. Some of them. Ond meddyla. We had never seen decorations like that. None of us.

00.28.44: Nagodd rhywun wedi gweld nhw’n mynd â’r stwff te.?

Wel, I had for one. A Heather gyda fi, my friend ife. Not one of us did it. Ac o’n i’n wa’th off nag un o’ nhw.

Pam o’n nhw’n mynd â nhw, i gael iwso nhw gatre?

Ie. Drinc twel. I couldn’t get over it, I was ashamed. I was really ashamed.

00.29.07: O’dd y gwaith wedi talu i chi fynd ‘na?

Na, na. Our own money that was. Fi’n cofio gweud ‘tho Mami.

Gethon nhw popeth nôl te, gethon nhw popeth nôl?

Wel, gweda hanner e. Wel, ti’n gwbod beth yw e, o’dd hanner nhw wedi ‘whalu erbyn bod nhw gatre. They were delicate, crystal ti’n gwbod. I was ashamed. A wedes i ‘thon nhw, o’dd gas ‘da fi bod fi’n un o chi, ac o’n i’n ddigon jiawlineb.

Mae jiawlineb yn wahanol.

Ma’ jiawlineb a jiawlineb twel os e?

O’s. Beth o’n nhw’n gweud te, bod chi’n rhoi telling off iddyn nhw?

‘Pwy wyti ti’n meddwl wyt ti te?’ That attitude ti’n gwbod. But I was ashamed.

00.29.57: Shwd o’ch chi’n twmlo bod chi’n gwitho’n y ffactri? O’ch chi’n, chi’n gwbod o’dd yr arian yn dda, o’dd y cwmni’n dda, o’ch chi’n prowd?

Very, very proud. And it was all local girls twel, o’t ti’n mynd i witho’n Morris Motors. O’n nhw’n bobman, ti’n deall fi.

00.30.12: O’n nhw’n dod o bobman o’n nhw?

O’n. Ond ddim ‘da ni twel, only in this little village. Cwpwl o Bontiets, dim lot. O’dd lot o Bontiets ‘na ar ôl i fi gwpla. Ponthenri o’n nhw fwya.

00.30.24: O’dd dim whant arnoch chi fynd i rwle fel Morris Motors.

Na, I never tried.

Pam ‘nny te?

I thought they were rougher than us. ‘Na’r feeling o’dd ‘da fi, a why I don’t know, my auntie worked there until she got married.

Pam ‘nny te, achos bod nhw’n bobol y dre?

Ie, fwya twel.

00.30.44: Pwy iaith o’ch chi’n siarad yn Ponthenri wedyn?

Cymraeg. Ni i gyd, ond os o’n ni’n siarad â Buttle. Saes o’dd e twel. A o’dd lot o bobol yn siarad Saesneg â fi achos geso i i godi lan yn ty yn siarad Saesneg.

00.31.05: Nethoch chi’r un job tra bod chi ‘na?

Naddo. O’n i’n gweud ‘tho ti, dechreues i ar machine Maureen Rees, mynd rownd a joino pethe. A ethes i lawr un bore a dechreues i a ethes i i gytshon y machine ac o’dd yr earth wedi dod mas o’r plyg and I was thrown yards, a lando lan yn y dwr. O’dd pump yn treial stopo fi i siglo. Un yn y go’s ‘na, un yn y go’s ‘na. Un yn y fraich hyn, a rhywun arall yn y fraich ‘na a mam Sally, Edna yn cytshon ‘yn gorff i, yn treial stopo fi i siglo ar ôl y sioc.

00.31.39: Alle hwnna wedi lladd chi te?

Os na fydden i wedi ca’l ‘yn dwlu bydden i wedi. Achos o’dd styds ‘da fi o dan y shoes. A da’th y dyn gatre â fi, a gas ‘yn fam i ofon. She had a fright. Ethes i i’r gwely. Ac o’n i’n mynnu mynd nôl i’r gwaith y diwrnod ar ôl ‘nny. Ne bydden i ddim wedi mynd. Ti’n deall fi, I wouldn’t have gone back. I had such a fright.

00.32.02: Ond o’dd bai arnyn nhw fanna bod hwnna wedi digwydd?

Na, accident o’dd, the earth had come out of the plug o’n i’n dodi mewn. Safio’r machinery stopo, o’n i’n mynd rownd â’r machine hyn ar wheels i joino pethe lan iddyn nhw. I loved it. A machine wnïo twel. I loved sewing.

00.30.21: O’ch chi’n, gwedwch chi, os o’ch chi’n moyn diwrnod off am rwbeth, gwedwch chi bod angladd neu rwbeth nawr, o’ch chi’n gallu mynd?

Nobody went. No. Wel, o’t ti’n colli arian.

00.32.35: Beth am holidês wedyn ‘nny, o’ch chi’n ca’l holidês?

Pythefnos y flwyddyn, a Nadolig a Easter a normal ti’n gwbod. Stop week.

O’dd stop week yn yr haf o’dd e?

Ie, ie, ie. O’dd e ar gau.

O’dd hwnna ‘run pryd â’r coliers?

I think it was, I think it was. I think it was. Ti’n gwbod y normal ‘run peth â ma’ pawb yn ca’l heddi. Bank holiday, one day.

O’ch chi’n ca’l ych talu am y Bank Holiday?

No, no, no.

Ma’ hwnna’n galed i ateb beth yw e heddi?

Os nag o’s, gwranda nawr, I think we had basic. I think it was basic for one day. Basic pay which was very small. In those days, o’dd e yn. Iesu, na i gyd o’dd rhai yn byw arno.

00.33.20: O’ch chi’n ennill arian da fan’na.

Nage (dim ond) fi. Ten tables, twenty girls.

Ond o’dd rhai’n jelys wedyn?

Wel, walle o’n nhw.

Achos o’dd arian yn bring o’dd e?

O’dd e yn bring. O’dd e yn bring. I think there was three lots in the rwm top – the cutters, the machinists, I think it was those. O’n i ddim yn gyfarwydd iawn, I didn’t like it up the rwm top. I didn’t care for the girls lan ‘na.

Pam ‘nny te?

I don’t know. O’n i ddim yn gyfarwydd â nhw. Ti’n deall fi. O’n i ddim yn gyfarwydd â nhw.

O’n nhw’n dod o rwle arall te?

Na, Ponthenri i gyd jest. Y supervisors, menywod o Ponthenri o’n nhw. O’n i’n gyfarwydd â nhw, lovely ladies. Maggie Lewis, Mary Morris, nhw o’dd y dwy supervisor.

O’n nhw ddim yn meddwl bod nhw’n well na chi te?

O, nagon. And they were good. Good women, ti’n gwbod.

00.34.22: O’n nhw’n gwbod beth o’n nhw’n neud te?

O’n, o’n. Wel, o’n nhw wedi bod ‘na ‘ddar bod e wedi dechre. They built it up. O’dd y boys o’dd yn dod lawr o Birmingham yn gweud ‘tho ni. ‘They don’t work half as hard as you up there’. Ac o’n nhw’n ca’l lawer fwy o arian ‘na ni.

00.34.40: Ond ceuon nhw hwnna dofe?

Ceuodd nhw i gyd. Wel, ceuodd yr un yn Birmingham eniwê. We were open after them.

O’ch chi’n ca’l unrhyw percs? Ar wahan i’r pai nawr, o’ch chi’n ca’l unrhywbeth fel discownt?

O’t ti’n gallu pyrnu tableclothes yn cost. Y seconds. Ti’n deall fi. A ta beth o’n i ‘di printo o’n i’n pyrnu nhw pythefnos ar ôl ‘nny. By the time o’n nhw wedi mynd trw’r procedure i gyd nawr a mynd lan i’r rwm top ble o’dd y finishing. Ar y machino a’r separato. It was on one big roll twel. O’n i’n printo thirty six inch, forty five, fifty two seventy two tablecloth size.

00.35.26: Fi wedi gweld un lliain gyda Glenda. Mae’n bert iawn.

Beth o’dd e? Ti’n gallu cofio? O’n nhw’n mynd i bob gwlad.

Sa i’n gwbod pwy seis o’dd e. Blode o’dd e.

Wel ti’n gwbod nawr te, rhai Canada. O’dd ‘yn frawd yn y Navy. A o’dd hon o’dd yn dod â wye i ni o Mynyddcerrig. ‘O’, wedodd hi, ‘David sy’ ‘di dod nôl â hwnna o’r Navy twel, o le o’dd e wedi bod’. ‘Nage, Nanette o Ponthenri,’ medde’n fam. Wir i ti.

Ma’ nhw’n bert iawn. O’ch chi’n twmlo’n prowd?

Very. Very proud.

Achos o’n nhw o quality da o’n nhw.

They were. Cele ti ddim gwell yn unman. A o’n i’n gwitho fe mas.

O’n i’n pyrnu seconds of what I printed. O’n i’n allowo amser iddyn nhw i fynd lan i’r rwm top. So everything I was buying, a o’n i’n wherthin ar boi y fish. O’dd e’n watshan ni’n dod. ‘Here’s the girls with the big money coming’ o’dd e’n gweud ‘bytu ni twel. O’dd e’n gallu gwynto ni’n dod achos we smelt of thinners. Cla’u dy hunan lan ar ôl y paent. Iesu o’dd dy winedd di’n hell of a mess. A o’n i’n gweud ‘tho fe, ‘yes’. Ac o’n ni’n dala’r pacyn llien ford. ‘This is my pay’ wedes i tho fe. Buodd e ddim yn poeni fi ar ôl ni.

O’dd boi y fish yn dod rown pyr’nny?

Pentre, yn y pentre twel. Wel o’n i’n dod lan ac o’dd e still yn neud ‘i rownds twel.

Pan o’ch chi’n cerdded o’r gwaelod i’r top, i ddala’r bys ife?

Yes.

Ife fel ‘na o’dd pobol yn gweld chi, fel merched â lot o arian?

Well, yes I suppose. I suppose, ond o’dd e, y ffactri, o’dd e’n cownto bod pawb ar big arian ti’n deall fi. Dim ond y rhai yn y ffactri o’dd yn gwbod pwy o’dd ar big arian.

00.37.13: O’n i’n siarad nawr ymbytu Undebau, Unions. Bydde neb wedi ca’l joino union.

Na, it was a rule.

Ond shwd o’ch chi’n twmlo? O’ch chi’n twmlo bod chi’n ca’l ych treto’n ‘fair’?

Well if you had a complaint you went to the office about it.

So o’dd e’n direct, o’dd e?

O’dd un merch yn siarad i ni, Marina, Marina Jones. She used to talk for us. She was good.

So o’dd hi wedi dodi’i hunan ‘mla’n mewn ffordd?

Na, wel. She was representing us.

Officially?

Yes, but it wasn’t her job. Just she was the speaker for us a Olive Lewis hefyd. We were a good gang. A good gang of girls. No arguments, no quarrelling. A dod di tair menyw gyda’i gilydd a ma’ cwmpo mas. Meddyla di a bloody twenty two, na faint o fordydd o’dd. Ten tables, twenty ladies.

O’ch chi ddim yn ca’l ambell i un od ‘na ambell waith?

We didn’t put up with it. O’t ti’n gweud yn streit wrthyn nhw. ‘Tynn dy hunan ‘da’i gilydd a bloody byhafia’.

O’dd e’n gweithio?

O’dd. I wasn’t afraid of anybody anyway. O’n i fel ‘na.

Pan ethoch chi ‘na gynta’, o’ch chi ddim yn teimlo’n shei?

I haven’t got a shy bone in my body. Tri brawd, you’ve got no illusions. Ta beth o’dd yn rong arnot ti o’t ti’n gwbod. O’t ti’n ca’l dy alw ..... I love my brothers.

00.38.48: Beth o’ch chi’n meddwl o’r conditions gwaith ‘na te?

O’dd rhai o’n nhw’n wael cofia.

... achos o’ch chi’n siarad am y thinners, bod nhw’n gwynto, a bod pobol erill yn gallu gwynto nhw.

O’n nhw’n gallu gwynto ni’n dod.

Ond o’ch chi ddim yn gallu gwynto fe falle.

Wel, o’n i’n gyfarwydd â fe’n y diwedd. A ti’n gwbod y stwff o’n ni’n iwso i gla’u ‘yn dwylo, a’r paent o dan ‘yn (winedd), o’t ti’n dodi fe’n y bin and it was disintegrating. Raw bleach.

O’dd ddim winedd hir ‘da chi, o’dd dim winedd ‘da chi?

O’dd, o’dd ‘winedd ‘da fi. Yn lle mynd lawr o’n nhw’n cwrlo sha nôl.

O’dd hwnna ddim yn iach iawn te.

Na, na. But we were doing it. We weren’t supposed to do it twel. Ble o’dd y boys yn bleacho’r material raw o’dd yn dod mewn, o’n i’n mynd mewn i ddwgyd bleach. Wel, o’n i’n dipo fe twel.

I gael y paent off?

Yes.

O’ch chi ddim fod i neud hwnna?

Na.

Fel o’ch chi fod i gael e off te?

Ti’n gwbod beth o’n i’n neud? Mami’n dodi tywelion yn y bath, nage tywelion, blancedi yn yr haf, ‘leave them be Mami, I’ll do them when I come home’. O’dd Mami’n fyr, fyr and quite fat. Nawr o’dd Mami ffaelu pwyso dros y bath, ‘you leave them for me and I’ll do them when I come home’. A o’dd hi mor bles. Ar ôl i fi fynd fan’na gas hi washer. She couldn’t afford those things before that.

00.40.08: Beth o’ch chi’n gwishgo fan’na te?

Fi gas y pâr jeans cynta’ yn y Valley hyn. No.7s o’r Navy. Ti’n gwbod y boys ar y llonge, they had No.7s, ti’n gwbod y naval suit, denim No.7s o’dd gyda nhw i glanhau’r decs. A Jew yn galw’n ‘da’n fam, ‘I’ll bring things for her, trousers for her to go to work. Good things, Dory,’ wedodd e. A fi o’dd â’r pâr cynta. A o’dd pawb yn moyn e.

O’ch chi wedi dechre trend newydd.

Wel, o’n nhw ddim wedi gweld nhw. That’s when jeans came.

00.40.45: Beth o’ch chi’n gwishgo ar y dechre te, sgert?

Ie, whatever. Trwser. I’ve always lived in trousers. Trwseri.

O’ch chi’n gorfod gwishgo overall wedyn?

Os o’t ti’n moyn. Os o’t ti’n moyn safio dy ddillad.

O’n nhw ddim yn rhoi hwnna i chi?

No issue, no issue at all.

00.41.06: O’dd unrhyw rules yn y ffactri? Unrhyw reole. Achos gyda defnydd fel ‘na, material ‘na, o’dd popeth ffaelu bod yn frwnt o’dd e? Chi’n gwbod beth wy’n feddwl, o’dd rhai ffactris yn frwnt o’dd e?

Paent o’dd y dye twel. Os o’dd fingermarks, os o’t ti’n ca’l paent, o’dd rhaid i ti’i g’lau fe. A ti ‘di gweld yn y llunie, ti’n gwbod pieces o material o’n i’n printo, o’t ti’n gallu ca’l the odds and ends i ddodi rownd i ti ar ben. Ti’n gallu gweld e’n y llun.

O’ch chi’n neud e ych hunan wedyn.

O’dd pishys o stwff o dan y ford, ford hir o’t ti’n printo arno.

Ond o’dd e’n frwnt ‘na, gwedwch y llawr?

Well, yes it did because of the paint, the dye. O’dd e’n sarnu twel.

00.41.50: Beth am y toilets a llefydd fel ‘na?

Spotless. Spotless. Canteen, spotless.

00.41.55: O’dd cantîn ‘na o’dd e?

O’dd. Ffactoris fan ‘na. O’t ti’n croesi wedyn a o’dd cantîn fan’na yn y ffrynt, a o’dd offis ar ‘i ochor e.

00.42.03: Shwd beth o’dd y bwyd yn y cantîn?

No food there. O’t ti’n dod â bwyd dy hunan.

Fi’n gweld.

Dim ond te. Ac os o’t ti moyn rhwbeth wedi’i neud, o’dd hi’n neud e i ti. Tin o baked beans neu whatever.

00.42.18: O’ch chi’n mynd â sangwej ne rwbeth te?

O’n, o’n. Ond o’n i’n ishte ‘da’r bois. Wel, o’n i’n gwitho ‘da’r bois ar y start twel. Safio ni stopo’r machines. So I got, came into them. Tony Lewis, ti’n nabod Tony Lewis?

Fi’n cofio Tony Lewis.

A beth. O’dd hi’n gwitho ‘na. A hi o’dd yn pwyso, a paco stwff o’dd yn mynd abroad.

00.42.42: O’dd lot o dynnu co’s ‘na te? Jocan?

O’dd. O’dd lot o sbri ‘na. We worked hard. A o’dd hi’n dodi node mewn, o’dd y merched â pen friends all over the world. Yn ca’l ‘u dodi mewn yn y tablecloths.

00.42.52: O’n nhw fod i neud hwnna te?

Nagon. Nobody knew about it. Nobody suffered.

Beth o’n nhw’n dodi ar y node te?

Address a ‘write back to me’. O’n nhw’n ysgrifennu i pen pals ti’n gwbod.

00.43.07: Pwy o’dd yn ysgrifennu nôl te?

Sa i’n cofio pwy o’dd yn neud e i gyd, ond a few of them did do it.

Nethoch chi fe?

Naddo i. I didn’t want it. I had a pen pal once a werthes i ddi. O’n i moyn rhwbeth o’dd ‘da rhywun arall, trwco. Trwco, ti’n gwbod trwco?

00.43.28: O’dd lot o swn ‘na?

Machines achan. Duw, Duw o’dd lot o swn ‘na.

O’ch chi’n gwishgo rhwbeth am y clustie, wedyn?

Nagon. We never had anything for anything, we didn’t have any clothing or nothing, nor gloves, nothing. Nothing.

Os unrhyw part o’r gwaith o’r gwaith ‘na wedi effecto chi, chi’n credu?

Sa i’n credu. Gwynegon falle, achos o’dd hi’n o’r ‘na.

O’dd hi?

Wel, ti’n gwbod o’t ti’n printo beth o’dd yn mynd lan. O’dd heaters wedyn ‘nny yn y ceiling twel, yn sychu’r tablecloths. O’n nhw fel ‘na ar y tô, lan. Ti’n gwbod fel airing line ‘da pawb, yn y tai. But we had so many twel dofe.

00.44.16: Os o’dd lot o swn ‘na o’ch chi’n gallu siarad?

O’n, o’n.

O’ch chi’n ca’l siarad?

O’n. As much as you wanted. What we did. Different partners (?) I can’t answer for. Very easy going.

Beth o’ch chi’n siarad ymbytu te?

Popeth. Dawnsio. Fan’na dysges i i ddansio yn y cloak room. A troi rownd. O’n i’n gallu danwo’n streit. O’n i ffaelu mynd rownd cornel. I loved it. I loved it. I wouldn’t have missed it for the world. I broke my heart when I had to finish.

00.44.48: Pam gwploch chi te?

Farwodd ‘yn fam. Well, she went ill. Des i gatre. Wedes i ‘tho Buttle, ‘I’m going to have to take lots of time off’. Os na ddododd e fi ar y towelling, fi a Heather ar y towelling yn dechre off ‘na. ‘And if you only do one piece a day Nanette, as long as it’s perfect’. ‘Right’, wedes i. ‘I’ll do my best’. Ac o’dd e’n gwbod ‘na. A bydde fe ddim wedi dodi fe ’na. Ond, o’n i’n ca’l large basic pay. ‘I don’t want to go without less money wedes i ‘tho fe’. ‘Na pham ethes i ‘na cynta’, i’n fam gael fwy o arian ife. Oce, and that was arranged. But it was beautiful, it was beautiful. A ti’n gwbod towelling, ti’n gwbod y plysh, os o’dd un pishin yn hirrach, o’dd e ddim yn cymryd y dye, so you had to be very careful. O’t ti’n gorfod dishgwl lawr, ac o’t ti’n gorfod torri fe â siswrn i fe ca’l bod yn even fel carpeting ti’n gwbod.

00.45.45: Beth o’dd yn bod ar ych mam te?

Kidneys. She died of that. 40.

O’dd hi’n ifanc o’dd hi?

Very, very young.

O’dd hi wedi bod yn dost ers sbel?

Naddo, not that long.

00.46.00: O’ch chi’n gwbod taw kidneys o’dd e?

‘Sa nawr. ‘Sa nawr. Leukaemia my mother died of. ‘Sa nawr. Beth wyt ti’n ca’l ar dy kidneys?

Ti’n gallu ca’l fel kidney disease.

Ma’n frawd i wedi ca’l e’n Australia. And we didn’t know that’s what my mother died of until my brother had it and sent for Mami’s death certificate, wrth ‘yn frawd. Beth o’dd e’n galw fe nawr? Leukaemia. O’dd Dadi’n gweud ‘tho i, a ma’ fe still ‘da fi lan fan hyn. She died of bad kidneys. ‘Na beth wedodd e ‘tho ni. Os o’n i’n ddigon o fenyw i garco fe a’n frodyr, so ti’n credu o’n i’n ddigon o fenyw i ga’l y gwir. Don’t you think so? Se fe’n byw heddi, gwranda ‘ma. Dim ond fi o’dd yn cwmpo mas â fe. Dim cwmpo mas â fe. I couldn’t keep this shut twel. ‘Now, listen Dadi, I’m not cheeking you, but..’

00.47.00: O’ch chi’n gweld ych mam yn mynd yn dost, a o’ch chi’n gwitho fanna.

No, it didn’t happen like that. She just went like that. It did.

O’dd hwnna’n sioc te, o’dd e?

Nago’dd e jyst. Yes. O’n i gartre ac o’dd ffliw arno i. A ffaeles i fynd nôl i’r gwaith. She died as well, not long after it. Ac o’n i’n torri’n galon bod fi’n gorfod rhoi’r gwaith lan. Ond o’dd y family’n dod gynta’ twel o’dd e.

So o’ch chi’n rhoi gwaith lan i gael carco.

Ie. A ti’n gwbod, dyle’n dad fod ‘di ca’l rhywun mewn i g’lau, a i gwcan a i neud bwyd i ni bob dydd so that my brothers could have what I’d had. Ti’n deall fi. O’dd ‘yn frawd, y second brother, he started work not long after, a o’dd e ar arian mawr pan a’th e ‘na, a a’th e ar arian bach pan farwodd ‘yn fam. A o’dd ‘yn dad ddim yn rhoi lot. A wedodd e wrth ‘yn dad, ‘I’m keeping (it) myself. You are having so much.’ Dylen i gyd fod wedi neud hwnna.

00.48.02: Ond shwd o’ch chi’n twmlo? O’ch chi wedi rhoi’ch arian chi i gyd.

Cwples i. I gave it all up. A o’dd e’n rhoi dwy bunt i fi.

Ond shwd o’ch chi, o’dd hwnna’n terrible bod chi wedi colli’ch mam, ond shwd o’ch chi’n twmlo ymbytu rhoi’r gwaith lan ‘fyd?

I nearly broke my heart. A o’dd gwaith y ty i gyd ‘da fi. A o’n nhw i gyd yn gwitho. Ta le o’n i wedi bod. O’n i’n caru, caru â’r gwr, tad y mab. O’n ni’n gwbod bod rhaid i fi neud bocsys i nhw. Dou focs i fynd i’r gwaith, tri yn y diwedd, achos o’dd ‘yn frawd ifanca i. That was in front of me every night before I came home from work, before I went to bed.

Ond o’ch chi ddim yn gweld cymint o bobl wedyn o’ch chi?

I couldn’t keep up with them.

00.48.46: Ond chi’n gwbod, pam chi’n mynd mewn i’r gwaith, ma’ hwnna fel social life bach wedyn.

It was, it was. Even on the travelling back and fore, was social.

O’ch chi’n gweld ishe hwnna?

I did. I nearly broke my heart.

Achos chi’n lico clebran.

Yes, yes, yes. O’n nhw’n dod i fisito fi wedyn. O’dd Dadi ddim yn relisho lot o hwnna.

Pam ‘nny te?

Na. Fi’n cofio Dadi’n dod gatre o’r gwaith, ac o’dd e’n ca’l cino, ac o’dd e’n mynd i orwedd, ishte’n yn y gader, yn y gegin, ac o’dd e’n ca’l awr neu ddwy fan’na. A wedyn bydde fe’n ca’l small tea fel ife, a se ffrind i fi ‘na, ‘don’t be long with your friend’.

00.49.27: A shwd o’ch chi’n twmlo wedyn?

Fel ti’n credu? I was very embarrassed. My father was a very strict man.

00.49.32: Pam o’ch chi’n credu o’dd e’n gweud ‘na te?

Well, my time was going on my friend. Ti’n deall fi. He was a selfish man. And a verystrict one.

O’ch chi’n twmlo bod y bois wedi cael mwy o siawns?

I was pregnant getting married. I don’t think he ever forgave me for that.

Ma’ pethach yn digwydd nagyn nhw. Nage chi yw’r cynta’.

I don’t think he ever forgave me. None of the boys were the same as me, but o’dd rhaid i fi fod ife, yr unig ferch a phopeth. Never mind.

00.50.10: O’ch chi’n twmlo bod y bois wedi cael mwy o siawns te, achos o‘ch chi wedi gorfod dod gatre, o’ch chi’n gorfod cadw gatre o’ch chi?

Cadwe ddim bachgen gatre twel a fi’n mynd i gwitho bydde fe. O’n i’n lot o waith ‘yn ty i’n fam all my life.

O’ch chi?

Yn groten yn ysgol. Fi o’dd yn neud y llestri i gyd ar ôl dod gatre o ysgol. The evening dinner, achos o’dd yr ysgol, on school days. On holidays wedyn ‘nny it was the middle of the day. And dinner was when my father came home from work.

00.50.43: Beth ymbytu pan ethoch chi i witho wedyn, o’ch chi still yn helpu yn y ty?

Wel, na, cliro lan. A neud y llofft. ‘You do upstairs for me, and I’ll be happy’. A fi’n cofio un dydd Gwener, dethes i gatre, a ti’n gwbod y bys. Ethes i i’r gwaith a ges i ddannodd. Ti’n gwbod y bys o’dd y plant yn mynd i’r Gwendraeth school, dales i hwnna gatre, a o’dd y bys yn mynd lan i Drefach i droi rownd, ac o’n i’n dala fe i nôl i fynd lawr i Llanelli i dynnu dant. A o’dd y ddannodd ‘da fi, and I was bouncing. Des i gatre, a o’dd dim gas, dim ond ar ddydd Sadwrn. This was a Friday. Gas was on Saturday. I came home and I was going back on Saturday to have the gas. Dechreues i ar y llofft, g’leues i’r llofft i gyd i’n fam – y steire, y parlwr, y passage, y rwm cenol, a es i i’r gegin a o’dd bwyd yn barod. A mor gynted o’n i mewn y rwm y tân, o’dd y ddannodd yn dod nôl. Ti’n deall fi. That’s why I had done it all. I spent all day. A ti’n gwbod beth wedodd hi, ‘I hope you get toothache tomorrow again.’ O’n i’n wherthin nes bod fi’n dost, a dagre’n dod. ‘Don’t say that Mami, wedes i ‘tho ddi. Es i mewn y diwrnod ar ôl ‘nny a ges i fe mas. That’s when I started with Wyn Jones.

00.51.55: O’dd y bois yn gorfod helpu gatre?

David, coal. Alan, ashes. Randel, bugger off out to play. Nanette, dishes. Now then Doris, sit down a o’dd hi’n ishte lawr. Ac o’dd e’n ca’l chat ‘da ddi bob nos ar ôl cino.

00.52.20: O’ch chi’n gweud, o’ch chi’n lico smôc bach.

O’n nhw ddim yn bo’lon twel. A o’n ni fel ‘na twel, o dene. A ti’n gwbod beth o’n nhw meddwl, TB twel. TB o’dd yn background twel. That’s the only illness you had years ago.

00.52.33: Beth ymbytu pan o’ch chi’n gwaith wedyn? O’ch chi’n cael brêc? Chi’n gwbod, i fynd i gael smôc bach.

Ti’n gwbod, fordydd o’n i’n printo nawr, fel o’dd un. Ond y’t ti’n rowlo’r material a’r llall yn mesur e wedyn ‘nny. A un o’ch chi i fynd i’r toilet. A’r llall yn joino wedyn ‘nny. A o’t ti’n ca’l mwgyn bach. A pisho. A o’t ti’n dod nôl. O’t ti ddim yn hala amser ‘na. There was alway somebody there anyway. Yn neud yr un peth.

00.52.58: O’ch chi’n neud hwnna ar y slei fel wedyn ‘nny.

Nage ar y slei. They knew it. We were working hard cofia. They knew that too. O’dd y merched yn y rwm top yn gwbod bod ni’n ennill arian a ‘ca’ dy ben’ o’n i’n gweud ‘tho nhw. ‘Allet ti byth neud e’. They would shut up like that.

00.53.22: O’dd bechgyn ifainc yn gwitho ‘na?

Dim ond yn y colour house. A ar y machines. O’dd dim lot o machines ‘na twel. Tony Lewis o’dd y youngster ‘na. And my ex. Dou.

00.53.36: Pam o’dd rhywun fel ‘na’n dechre wedyn o’dd y menywod yn tynnu co’s?

Wel, o’dd tynnu co’s yn bobman twel o’dd e. Ond dim byd ... I wouldn’t stand for anything further, ti’n deall fi. ‘Watsha di, fydda i’n stripo ti, a clwmyd ti lan’. No, not if I was there. I had three brothers.

00.53.55: O’dd rhai’n gweud ‘na te?

Wel, o’dd. ‘Os dala i ti, tynna i dy drwser di lawr’. That type of saying. Nobody went too far in anything. Ac i ni Cymro fi’n credu are a bit more reserved.

00.54.14: Faint o ddyddie’r wthnos o’ch chi’n gwitho man’nny wedyn?

Five day week.

O’dd neb yn gwitho dydd Sadwrn?

O’n nhw’n dishgwl i chi, ac o’dd ‘yn dad yn pallu gadel fi fynd mewn, i neud sampls ar bore dydd Sadwrn. Ac o’dd e’n gweud, ‘she’s not going Dory’ achos o’dd e’n gwbod.

Pam ‘nny te?

O’dd e’n gwbod pwy gloch o’n i’n codi. O’dd five days yn ddigon. ‘Listen now Dadi, wedes i. ‘If I go in on Saturday, I’ll get a good pattern and an easier one for the week’. ‘You’re not going’. Ac o’n i’n gweud ‘tho Mami, ‘Mami, he’s not working there, he doesn’t know what’s expected.’

O’dd e’n meddwl bod e’n ormod i chi?

O’dd. O’dd.

O’dd e yn meddwl amdanoch chi te?

In a way, in a way. O’n i’n gweud ‘tho fe, ‘I’ll be better off all week for it’. O’t ti’n ca’l rhwyddach patrwn. Selfish o’dd e cofia, nage bloody kind hearted.

00.55.07: Just i chi ca’l gweud ‘tho fi ‘to nawr, pwy amser o’ch chi’n dechre a pwy amser o’ch chi’n cwpla wedyn?

O’n i’n dechre am wyth. A o’n i’n cwpla quarter to five fi’n credu.

Ma’n ddiwrnod itha hir.

It was long day a hanner awr o brêcs o’t ti’n ca’l cofia. Hanner awr o’t ti’n ca’l i gino. Nage awr i gino.

O’ch chi’n ca’l brêc yn y bore?

O’t. A awr i gino. Achos o’dd lot o’r merched yn mynd gatre i gino. Cerdded gatre a dod nôl. Bues i’n neud e tamed bach gyda Sally, wejen ‘yn frawd twel. O’n i ddim yn moyn neud e. O’n i moyn mynd i’r cantîn. Neud e i bleso’n fam o’n i’n neud. She can come to us for dinner o’dd Edna’n gweud. Ac o’n i’n mynd â’n sangwejes ‘da fi bob dydd lan ‘na. Ac o’n nhw gyd yn byta nhw gyda’r bwyd. I didn’t want the walk and the walk back.

O’ch chi’n ca’l smoco mewn fan’na wedyn te?

Yn y toilets. O’t ti ffaelu neud e bob man.

O’ch chi ddim yn ca’l neud e’n y cantîn?

Ie. A yn y toilet achos y thinners twel. It was flammable stuff. Highly flammable.

00.56.09: Ife dim ond shifft dydd o’dd ‘na?

Na. Dim ond dydd. A overtime.

A beth am cloco mewn wedyn?

Cloco mewn, cloco mas. Cloco mas i ga’l cino os o’t ti’n mynd gatre. Os o’t ti’n mynd i cantîn o’dd dim sihe.

Ond bydde dim digon o amser ‘da chi i fynd gatre amser cino.

Na, i ty Sally yn Ponthenri o’n i’n mynd twel. I didn’t want it.

O’ch chi’n gallu cheto tamed bach ar y cloco?

No. We never thought about it.

O’dd rhai erill yn neud e te?

No, I don’t think we did. Ti’n gwbod beth yw e, os o’s un yn dechre neud e, clapgi yn bobman. No, we never did that.

00.56.50: O’n nhw’n rhoi unrhywbeth am ddim i chi fel te, neu rhwbeth fel ‘na, ne o’ch chi’n gorfod talu?

Na, o’t ti’n talu amdano fe.

Talu am bopeth.

It was cheap but you paid. Mrs Beresford o Pontiets o’dd yn neud y te i ni. She was good. I liked Mrs Beresford.

Pwy o’dd yn glanhau ‘na te? O’dd rhywun yn glanhau?

Bowen Bach. Ti wedi clywed am Bowen Bach? Y Morrises. Ti’n gwbod Elfed Morris. Tad ei wraig e. Morris Bach. He was a lovely man. A o’dd brwsh ‘da fe. A ti’n gwbod beth yw material, y weave. O’dd e’n tynnu thread, wel o’dd e’n mynd, Iesu o’t ti’n gallu gweld beth o’n i ‘di printo’n mynd. ‘A ma’ fe ‘di dala whale o’n i’n gweud’.

O’dd e’n tynnu’r thread yn rhydd?

A ti’n gwbod Nadolig, o’dd pawb yn pyrnu drincs dofe. Wel, o’dd potel nawr ar waelod ‘yn ford ni. Y ford o’n i’n gweud. And it was a huge table. O’dd fifty two tablecloths arno fe twel ife, printo. ‘Chi’n gwbod bod hwn ‘da chi. O’dd e ffaelu’n deg a cofio’n enw i. ‘Chi’n gwbod bod hwn ‘da chi’. ‘Ydw, Bowen Bach, fi’n gwbod bod e ‘na’. A yn y diwedd ar ôl i fi neud e bytu five times, ‘Yfwch e, cerwch gatre â fe’. O’n i ddim yn moyn e. I’ve never been fond of a drink. And I’m still not. Never have.

A chi wedi gwitho digon mewn ..

Bues i tu ôl y bar am flynydde cofia. Pan o’dd y crwt yn tyfu lan, i dalu a o’dd e moyn mynd i Switzerland ‘da’r ysgol. A dechreues i’n y New Lodge. Three nights a week, ac o’dd e’n ca’l e ddydd Llun i fynd i ysgol i dalu am yr holiday.

Shwd ma’ hwnna’n comparo nawr a gweithio mewn ffactri?

Luxury. Luxury. A sbri. O’n i’n ca’l sbri yn y ffactri cofia. We enjoyed our laughs. A jocen rhywun, o’t ti’n gallu gweld e’n mynd lawr y fordydd.

Beth, un yn gweud e wrth y llall?

Pas e ‘mla’n. Pas e ‘mla’n.

Chi’n gallu cofio unrhyw un o’r jôcs?

Nadw. No. It’s a long time ago.

00.58.56: O’ch chi’n canu’n gwaith?

Pnawn dydd Gwener. A beth o’dd yr un o’n i’n lico? Rhwbeth ymbytu gwitho. Fi ffaelu cofio fe nawr. Pnawn dydd Gwener falle bydde rhywun yn dechre canu lan. A o’dd y deg ford yn canu. Good times cofia, friendly time. Good gang. Neb yn neud cam i neb arall. Ti’n gwbod. Achos dod di tair menyw ma’ bitsh yn un o’ nhw. Bydda’n onest nawr. Os o’s tair menyw ma’ un o’ nhw’n bitsh.

Fel o’ch chi’n rhoi stop ar hwnna te?

We had to be wise.

O’ch chi’n gorfod dod mla’n.

We did it. Respect. We all respected each other twel.

00.59.48: Pwy amser o’ch chi’n gadel yn y bore wedoch chi?

Beth wedes i ‘tho ti? O’n i’n dechre am wyth, twenty past seven lawr y steshon.

Os o’dd y bys yn mynd hebddo chi te, beth o’ch chi’n neud?

Jiawl, o’t ti ffaelu gadel iddo fe fynd hebddo ti, o’dd rhaid bod ti ‘na erbyn yr amser.

01.00.06: Colloch chi shifft erio’d?

O’n i’n mynd ar y beic wedyn ‘nny. Os o’n i’n colli bys o’n i’n dod gatre i ôl y beic.

01.00.18: O’dd dim unrhyw glwbe’n perthyn i’r gwaith te? O’dd rhai ffactris a fel Recreation Club, ne’r teip ‘na o beth?

No, nothing at all.

O’dd dim digon yn gwitho ‘na, o’dd e.

Duw, duw, o’dd digon yn gwitho ‘na but nothing like that. YM ar nos Wener. Ti’n gwbod, yn y ffactori dysgodd y merched fi i ddanso. O’n i’n gallu danso’n streit, dod i gornel o’n i ddim yn gwbod beth i neud. O’n i ffaelu troi rownd. Tony Scov ddangosodd i fi fel i droi rownd. Fi’n gallu cofio ‘na, o’dd ‘i fam yn gwitho ‘na, a’i ddwy wha’r.

01.00.56: Pam chi’n meddwl nôl am ych amser chi fan’na beth ych chi’n meddwl am?

Good times. Good fun. A comrades, ti’n gwbod. Comrades myn uffarn i, compansions.

01.01.16: Oes unrhywbeth...?

Ni’n gweld ‘yn gilydd nawr. Annie a Glenda. (VSW003) O’dd Annie’n gwitho’n y top twel. Glenda o’dd yn gwitho’n y printo ‘da fi. Glenda’n neisach merch na Annie. Annie’s a grumble. ‘Na whinge. Nawr twel. She was a bit in those days twel. Ond o’dd Glenda’n fwy hapus. Happy go lucky ti’n gwbod, ar y printo, o’dd hi’n gwitho’n galed. ‘Run peth â ni i gyd.

01.01.46: Fi’n gwbod i’ch chi wedi joio. O’dd unrhyw downside iddo fe?

Na. Not really. No. We weren’t down types. We worked hard, ta ble o’dd dance, o’t ti’n gwbod. A o’n i’n wherthin. O’dd ‘yn dad i’n strict. A o’n i’n mynd lan i Ammanford ambell i waith, a ti’n gwbod y bys diwetha, beth o’dd e half past eleven, sen i’n colli hwnna, celen i ddim gofyn heb son am fynd. A o’dd y merched yn galw fi mas, achos fi’n lico sbri ‘run peth â nhw. ‘Dere ‘mla’n’. Ti’n gallu switsho hwnna off. .... Onest. I wouldn’t have been allowed to go again. End of subject. O’dd ‘yn dad yn strict iawn ti’n gwbod. A watsha beth ddigwyddodd i fi. I was pregnant, I had to get married.

Ma’ hwnna wedi digwydd i lot.

Oh yes. Especially in that time.

01.02.34: Beth o’dd ych oedran chi’n priodi?

O’n i’n twenty. I was twenty, nege youngster o’n i. Ac o’n i wedi caru fe am flynydde. Blynydde. Ond o’dd ‘yn fam wedi marw twel, and I was home. He was working and I wasn’t. O’n i’n gwitho’n yr un ffactri twel. I wouldn’t have missed any of it for the world. Not one thing. Only I wish my mother had lived. Because I was very tied. O’dd lot o waith ‘da fi. A ti’n gwbod beth o’dd e, o’dd ‘yn fam mor dda. O’dd hi’n gallu troi llaw at bopeth. O’n i’n gallu cwcwn cofia achos I had a good cookery teacher at school. Ond o’n i ffaelu neud beth o’dd ‘yn fam yn neud. O’n i ffaelu neud e mor dda â’n fam.

O’ch chi’n ifanc ‘fyd.

O’dd ‘yn frodyr i’n meddwl bod e. ‘It’s good Nanette, don’t worry’.

01.03.30: Beth o’dd ych oedran chi pan farwodd ych mam?

Nineteen neu twenty. Twenty. ‘Na ti. Gorfes i gwpla.

01.03.43: Ond o’ch chi’n priodi whap ar ôl ‘nny o’ch chi?

O na, o’dd sbel fach, sbel fach. About a year.

O’ch chi’n twmlo’n trapped fan’na wedyn te?

You didn’t think of it as being trapped. Ti’n deall fi? Yr unig wahanieth o’dd, o’dd cwmpni ‘da fi. O’dd lawer fwy o waith.

Mwy o waith gatre na gwitho’n y ffactri?

Na, na ar ôl ca’l y crwt. When I got pregnant. A o’dd e’n jelys o bopeth o’n i’n neud. Ti’n gwbod, nny. Ar ôl i’n fam i farw, we were close before that, me and my brothers, and my father and mother, but we were more so after my mother died. Ti’n deall fi?

O’ch chi’n tynnu at eich gilydd.

Ti’n closáu. O’dd dim ishe i ni weud dim byd. O’n ni’n gwbod wrth ‘yn gilydd, beth o’dd yn bod, a os o’dd ishe neud rhwbeth, ti’n gwbod,‘come on, I’ll do that for you’. And this that and the other.

Chi wedi gwitho mewn tipyn o lefydd te.

Na, not really.

O’ch chi wedi gwitho’n y New Lodge dofe.

Ar ôl that was. After, years after. I dalu am i’r mab ca’l mynd i Switzerland i fynd i’r ysgol. That’s what that was for. Achos o’dd e’n gorfod byhafio. ‘Ti’n gwbod nawr, bydd Mami mas all sorts of time, a byddai’n dod nôl. ‘ Ac o’dd e’n gallu clywed. O’dd e’n gwbod pryd o’n i nôl. O’n i’n gweiddi arno fe, fi gatre. Ti’n gwbod ble ma’r New Lodge, yr hewl ‘na, fan’na o’n i’n byw twel. Ethes i o’r New Lodge i’r Legion. Achos o’dd Godfrey moyn i fi ddod ‘na, ac o’dd e’n gwbod bod rhain yn cwpla’n y New Lodge. Achos o’dd e ishe mynd i ga’l ‘i ddannedd wedi’u ‘neud. Ac o’dd y boi o’dd yn rhedeg y clwb, youngster o’dd e, o’dd e’n ifancach na fi. And he took it over, achos o’dd e’n syffro tamed bach â’i nerfs. O’n i’n siarad fel bat â fe. Dim byd di-ened. O’n i’n poeni fe ti’n gwbod. Gronda, wedes i, fwy o ‘na sydd ishe arno ti, i dynnu ti mas. Achos o’dd e’n syffro a’i nerfs e tamed bach, and he took it over to help his father and the committee. And he took it over and ran it. A iddo fe fynd i ga’l ‘i ddannedd e ‘di neud, dechreues i ‘na iddo fe ga’l days off. And we were like that. Big friends. O’n i’n gweud popeth wrtho fe.

01.06.13: Fi’n mynd i ddangos y llunie ‘ma i chi ‘to nawr, ych llunie chi. Allwch chi explaino beth sydd ynddyn nhw.

Nawr te, ti’n gweld beth o’n i’n gweud. Ti’n gwbod y material o’n i’n printo arno fe, twel e? We were having a piece, the cut offs to wrap around you to save your clothes. Because of the dye. Ti’n gallu gweld e ar ‘yn un i fan’na nawr? Paent?

Ydw, fi’n gallu gweld e.

That’s the paent.

Chi i gyd yn wherthin fan’na.

Happy. Happy as Larry. Co Glenda fan’na. Ti’n gweld hi.

Ydw, fi’n gweld hi.

A Brian o’dd hwnna.

Bydd rhaid i fi neud copi o hwnna iddi Nanette. Os alla i, naf i copi o hwnna iddi. Alla i roi fe iddi.

A ti’n gwbod. O i Glenda?

Ie, neud copi. Dim neud hwnna.

A o’t ti’n nabod Ken. Penny o’n nhw’n galw fe’n Ponthenri.

Nage Ken Rybish o’n nhw’n galw fe?

Ie, a buodd e’n gwitho ar y rybish. That’s Ken. Fe o’dd yn wheelo’r paent o’dd dros ben.

Ma’ rhwbeth ar ‘i ben e fan’na.

Tam.

Tam ar ‘i ben e.

Tam ar ‘i ben e rhag ofn bod e’n ca’l paent arno fe. And this was the same. Wedodd y Buttle wrthon ni, ‘Take whatever you want to do, in the carnival.’ Ethes i â material and I dyed it.

Chi’n siarad am garnifal Ponthenri nawr?

Ie, ie. O’n i ddim yn mynd i un Pontyberem ble o’n i’n byw. Popeth yn Ponthenri, o’n i’n neud e.

O’dd y ffactri’n ca’l ‘ffloat’ ‘na.

Ie, that’s what this is. We were the only two girls. The rest were dressed up as boys. Hawaiian ne rwbeth o’dd hi. Iesu, sa i’n cofio. Olive Lewis.

00.07.51: Pwy o’dd yn trefnu beth o’ch chi’n mynd i neud te?

Ni gyd. We were all the printers. All the printers. O’dd y rwm top yn neud rhwbeth arall.

01.08.01: O’ch chi’n edrych mla’n i hwnna bob blwyddyn te?

Yes. O’n i’n neud rhwbeth ynddo fe bob (blwyddyn). Meddyla faint o reina sy’ ‘di marw.

01.08.08: O’ch chi’n neud rhwbeth wahanol bob blwyddyn, yn y carnifal?

Yes, yes.

Chi’n cofio rhwbeth arall nethoch chi?

Davy Crockett. Beth o’n i yn ‘Davy Crockett’? Fi ffaelu cofio. Float, beth yw enw’r ffarm lan yn Myrtle Hill?

Pendderw ife?

Pendderw. Fe o’dd yn drifo twel. Meddyla di. Crist, allen i ‘di cwmpo off twel. Gas hwnna i ladd yn Pontiets, ti’n cofio? Y crwt bach ‘na.

O’ch chi’n ca’l drinc bach cyn mynd ar y float te?

Na. No drinking in those days. You were lucky if you had one in the evening. O’dd merched ddim yn yfed in those days.

O’dd rhai yn bownd o fod. O’dd neb yn te?

Shandi. Ne seidr. Sa i’n credu o’dd un o’n ni’n gwbod beth o’dd shorten. O’dd hwnna’n iawn i ti. Things have changed. O’dd dim lot o ferched yn mynd i dafarne. We were going to the kitchen in the Bridge in Pontiets. In the kitchen.

01.09.13: Beth, jest y merched?

A’r dynon yn y bar. That’s true for you. O’dd dim lounge neis ‘na pyr’nny.

O’ch chi ddim yn ca’l mynd i’r bar te?

No, you weren’t allowed in the bar. The bar was for dynon. A’r workies. A beth o’n i’n gweud, rhywun yn poeni, a gweud ‘ca’ dy ben, dy dadcu di o’dd un o’r gwaetha. ‘Fi’n gwbod ‘na, o’n i’n gweud.

Yn stopo menywod?

‘Cadwch y menywod mas’. Every club was for men only. Ponthenri ‘fyd. Men only.

01.09.51: O’dd hwnna ddim yn fair o’dd e?

Not really, o’dd e. Ond o’dd menywod ddim yn yfed anyway. Sherry Nadolig. Half of it was going in the cake, and the other half of it was ... But good old days cofia.

01.10.08: Gyda’r float nawr yn y carnifal, nege’r bosys o’dd yn gweud ‘tho chi am neud e? Chi o’dd yn moyn neud e ife?

Nage. No. Printers, printers o’n i i gyd yn hwnna. Our section. We worked hard, and we enjoyed, but no drinking. Ond o’n i’n smoco, ac o’dd hwnna’n grac i’n dad a’n fam. A fi ‘di cwpla, ers blynydde. Cwples i witho, a o’dd forty ‘da fi. A fel o’dd y pacyn yn dod i ben o’n i’n feddwl, ethes i lawr i New Lodge, ac o’n i’n cwrdd â’n frawd a’r mab a meddwl this is my last. A o’dd twenty ‘da fi’n y parlwr, barod i followo. Sa i’n gwbod ble a’th e, ma’ good idea ‘da fi.

Yes, a fi’n great grandmother, as you can see.

Fi’n galu gweld. Ma’ nhw’n joio byw ma’ siwr o fod.

I love him. I love him. I love him to bits. Byten i fe. A ti’n gwbod, ‘what do you want ma’ fe’n gweud fi’. Achos fi’n cnoi ei glustie fe rownd fan hyn, ddim yn gas. Ddim yn gas ti’n gwbod ife. So ti fod i slobran nhw.

Beth yw enw fe?

Jaden. A ma’ brawd ‘da fe, Logan. A ma’ croten fach ‘da’r wha’r arall, Sienna. She’s beautiful. Absolutely beautiful.

01.11.53: Ble ma’ nhw’n byw te?

Yr un hena, a’r ddau grwt yn Tymbl. Top Tymbl, ar bwys yr ysgol. Ti’n gwbod, top Tymbl. Ma’n fab, ei dadcu nhw, he’s not their father, step father. Ma’ fe’n galw ar y ffordd gatre o gwaith i fynd â fe lawr i’r swings reit ar bwys, swings y parc. Ar bwys le ma’ fe’n byw.

01.12.17: Yn Tymbl ma’r plant ‘na’n byw ife?

Na, na. Un o’ nhw. Nage, nage.

Achos fi ‘di cwrdd â un plentyn o’r enw Sienna lan yn Tymbl.

Na, babi yw hon. So ddi’n whech mis ‘to. Ar New Road ma’ ddi ar hyn o bryd gyda’n fab.

Sdim lot o Siennas i ga’l.

Isn’t it a beautiful name. O’dd e gyda ddi ers sbel. Do, do. O’dd dwy groten gyda gwraig Clint nawr te, when they met.

Ready made.

A o’dd e wedi bod yn, buon nhw’n byw, pyrnon nhw dy yn Gorslas – y ferch gynta’ o’ddgyda fe. Italian o’dd hi.

Troia i hwn off nawr te.

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VSW004.2.pdf