Mair Richards. Lleisiau o Lawr y Ffatri
Eitemau yn y stori hon:
Ganwyd Mair yn Llanddewi Brefi, saith milltir o’r pentref. Ffarmwr oedd ei thad ac ar y fferm buodd ei mam yn gweithio hefyd. Unig blentyn oedd Mair. Aeth i’r ysgol gynradd yn Llanddewi, ac yna i’r ysgol uwchradd yn Nhregaron. Roedd wedi mwynhau ei hamser yn yr ysgol gynradd, ond nid oedd wedi mwynhau ei phrofiad yn yr ysgol uwchradd, ac fe adawodd yn bymtheng mlwydd oed. Aeth i weithio at un o’i pherthnasau ar fferm lawr ym Mumpsaint am dair blynedd. Roedd y ferch yn gorfod ymweld â’r ysbyty yn aml, ac roedd hyn yn golygu bod y fam i ffwrdd o’r fferm am sbel. Roedd yn hapus iawn yn y gwaith hwn. Roedd yn waith a oedd wedi cael ei drefnu cyn iddi adael yr ysgol, er nad oedd hi’n disgwyl i’r swydd barhau am dair blynedd.
Gorffennodd y gwaith gyda’i pherthynas, a chlywodd Mair am waith ym Mhont Llanio. Roedd un o’r merched a oedd yn gweithio yno’n gadael ac yn mynd i weithio mewn swyddfa yn Aberystwyth. Aeth Mair i gwrdd â’r rheolwr ac o ganlyniad buodd Mair yn gweithio’n y labordy am y flwyddyn gyntaf. Roedd toriadau ar y gweill yn y ffatri ar ôl hynny a fyddai’n golygu bod y sawl a oedd wedi cael eu cyflogau diwethaf yn colli’u swyddi’n gyntaf. Roedd swydd ar gael yn y swyddfa. Nid oedd gwaith swyddfa yn apelio llawer at Mair, ond awgrymodd y rheolwr ei bod hi’n ceisio am y swydd, ac y byddai’n ei rhoi ar brawf am dri mis. Dechreuodd yn y swydd ym mis Rhagfyr ond ernyn diwedd mis Mawrth roedd e dal heb sôn os oedd e’n hapus i Mair barhau’n y swydd neu beidio. Gofynnodd iddo ac roedd e’n hapus iawn ei bod yn cario ymlaen, buodd yno am naw mlynedd.
Roedd teimladau cymysg gan Mair am y swydd ar y dechrau oherwydd nid oedd ganddi lawer o hyder yn ei hun. Byddai Mair wedi bod wrth ei bodd yn mynd i nyrsio. Mae’n teimlo nad oedd wedi cael ei gwthio a’i hannog digon i wneud hyn.
00.05.57: ‘Yr adeg ‘nny, mynd allan a mynd i ennill. Fel ‘na o’dd hi.’
Ym Mhont Llanio roedd y gwaith yn y ‘lab’ yn golygu cymryd samplau o laeth a’u harbrofi. Roedd tair o ferched yn gweithio gyda’i gilydd yn gwneud y gwaith hwn. Y merched eraill oedd yn dangos iddi beth i wneud. Roedd yn nabod y merched eraill i gyd oedd yn gweithio yno cyn mynd i weithio yno ei hun. Gwneud llaeth powdwr (i anifeiliaid) oedd y ffatri erbyn bod Mair yn mynd i weithio yno. Buodd y ffatri’n cynhyrchu menyn cyn hynny. Nid oedd angen cymwysterau i weithio’n y labordy, ond roedd y ferch a weithiai fel ‘analyst’ yno wedi bod trwy’r coleg. Roedd 57 person yn gweithio yno ar y pryd. Roedd mecanic yno, a dyn yn gweithio’n y boiler house, dau ar y powdwr, a’r lleill ar y dec gyda’r llaeth.
Roedd y merched yn y lab yn gorfod gwisgo overalls gwyn. Roedd Mair yn gwisgho iwniform glas pan weithiai’n y swyddfa. Nid oedd yn hapus iawn ei bod wedi mynd o’r lab i’r swyddfa ar y cychwyn, oherwydd ei diffyg hyder, ond roedd yn iawn ar ôl ymgymryd â’r gwaith. Y rheolwr ei hun oedd yn dangos i Mair beth i wneud yn y swyddfa. Buodd tri rheolwr gwahanol yno tra bod Mair yn gweithio’n y swyddfa ac roedd yn dod ymlaen yn dda gyda nhw. Cymraeg oedd iaith y rheolwyr ar y pryd ac roeddynt yn deg iawn gyda’r gweithwyr.
Roedd gweithwyr y lab a gweithwyr y swyddfa yn dechrau yr un pryd, sef hanner awr wedi wyth ac yn gorffen tua hanner awr wedi pedwar. Roedd yn cael brêc yn y bore – te deg – ac amser cinio ac roedd ystafell ar gael lle roedd y gweithwyr yn chwarae table tennis. Roedd yna frêc yn y prynhawn hefyd. Roedd cantîn ar gael yn darparu soup neu frechdanau, ond roedd rhan fwya’r gyrrwyr yn mynd â brechdanau eu hunain . Nid oedd radio yn cael ei chwarae yn ystod y dydd. Roedd sawl un o’r merched yn gwau neu’n gwneud crochet pan oeddynt yn cael brêc.
Pan ddechreuodd Mair yn y ffatri merched di-briod oedd y rhai a oedd yn gweithio yno, ond erbyn 1960 roedd menywod priod yn cael gweithio yno. Nid oedd mamau â phlant bach yn gweithio yno. Nid yw Mair yn cofio faint roedd yn cael ei thalu, ond roedd yn cael tua dwy bunt yn fwy yn y swyddfa nag oedd yn cael am weithio’n y lab, ac roedd yn cael codiad cyflog bob blwyddyn. Nid oedd merched eraill yn gweithio’n y swyddfa gyda hi. Roedd y cyflogau’n cael eu paratoi yn ffatri Felinfach, ac roedd pob dim yn cael ei ddanfon i Bont Llanio. Ar ddydd Gwener roedd Mair yn mynd i fanc Barclays yn Nhregaron gyda’r rheolwr i gael yr arian ac yn llenwi’r amlenni ar gyfer y cyflogau, er mwyn i’r gweithwyr eu casglu ar ddiwedd y dydd.
Roedd digon o dynnu coes yn y ffatri. Mae Mair yn cofio streic a buodd yno yn y chwedegau ac roedd hwnnw’n gyfnod digon diflas. Nid yw Mair yn siwr beth oedd achos y streic – nid oedd yn fater a oedd wedi codi ym Mhont Llanio, ond yn rhywbeth oedd wedi codi yn y ffatri’n Felinfach.
00.19.47: ‘O’n i ddim yn gwbod dim fod y peth fod ‘mla’n ac amser o’n i’n mynd lawr at y ffatri, ‘ma nhw’n stopo fi. A finne ddim fod i mynd mewn trw’r giât. Ac o’dd y rheolwr tu fewn, yn gweud ‘dewch mewn’.... Y gweithwyr i gyd, o’n nhw wedi mynd mas rhan fwya i gyd ar streic ond am un dreifar. A o’dd hwnnw, ar y lori, ar yr iard yn barod i fynd allan, ac o’dd e man’nny ond o’dd e ddim yn ca’l paso.... O’dd y rheolwr yn gweud ‘tho fi am fynd mewn a’r bois yn gweud am bido. Wel, arno fe o’n i’n mynd i rondo ontyfe... O’dd e tipyn bach yn lletwhith chi’n gwbod.’
Roedd rhai o’r ffermwyr yn dod mewn i’r ffatri i helpu yn ystod y cyfnod hwn achos roedd rhaid cadw pethau i fynd. Roedd un ferch wedi dod mewn â llaeth ac aeth i helpu ar y dec.
Asgwrn gynnen yr anghydfod oedd rhywbeth ynglyn ag un o’r dreifars yn ffatri Felinfach ac mae Mair yn credu taw cefnogi’r achos yma oedd gweithwyr Pont Llanio. Mae’n cofio bod undeb yno, ond nid yw’n cofio pa un. Mae Mair yn cofio talu at aelodaeth o’r undeb.
Roedd pawb yn gorfod clocio mewn ac allan o’r ffatri. Pan ddechreuodd Mair weithio yno roedd yn mynd i dwmpath dawnsus mor bell â Bow Street, a Llanybydder.
Mae Mair yn credu bod y gweithwyr yn cael eu trin yn deg, ac ar wahan i adeg y streic, roedd y gweithwyr yn dod ymlaen yn dda gyda’r rheolwyr. O dan y rheolwr, roedd ‘foreman’ o’r enw Dai Evans, a oedd yn berchen ar dyddyn tu allan i Landdewi.
O ardal Llanddewi roedd y mwyafrif o’r gweithwyr yn dod. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf buodd yn gweithio ym Mhont Llanio seiclo i’r gwaith o Dregaron roedd Mair yn ei wneud, fel llawer o’r gweithwyr eraill. Roedd yn 19 mlwydd oed pan ddechreuodd weithio yno. Roedd rheolwr y gwaith yn cael car gan y Bwrdd Marchnata Llaeth i ddod i’r gwaith. (Roedd hefyd yn cael ty ganddynt.) Buodd gwraig y rheolwr yn dod mewn ambell brynhawn i deipio pan roedd yn brysur iawn yno.
O ran swn yn y ffatri, ar y dec roedd hi’n fwyaf swnllyd. Roedd y ffatri wedi’i gwresogi felly roedd hi’n ddigon cynnes yno a digon o olau yno. Roedd yn le bach o’i gymharu â ffatri Felinfach. Roedd Mair yn nabod rhai o’r bobl oedd yn gweithio’n Felinfach hefyd. Amser Nadolig roedd parti yn cael ei drefnu yn y ffatri ei hunan. Roeddynt yn cael draw mawr a rhyw fath o de ar ôl gwaith. Nid oeddynt yn gallu yfed alcohol yno.
Nid yw Mair yn ymwybodol am unrhyw weithwyr sydd wedi dioddef sgil effeithiau ar ôl gweithio’n y ffatri.
00.33.05: ‘Wy’n cofio’r bore nes i briodi – saith o’r gloch y bore a lori la’th. O’n i’n byw yn Nhregaron ar y pryd a’r lori la’th yn dod o ben draw’r stryd yn canu’r corn, a dim yn tynnu’i law o’r corn, wy’n cofio, a distyrbo pawb.’
Roedd Mair yn ffrindiau mawr gyda’r ferch oedd yn gweithio fel analyst yno. Roedd hi’n dod o Lanarth ac fe buodd hi’n lojo gydag un o’r gyrrwyr. Priododd Mair ym 1965 a chariodd ymlaen i weithio tan 1967, pan gafodd ei merch. Roedd ei gwr yn hapus ei bod yn cario ymlaen i weithio ar ôl priodi.
Ar ôl iddi orffen ym Mhont Llanio ni fuodd Mair yn gweithio am bedair blynedd ac yna aeth i weithio gydag Undeb Amaethwyr Cymru. Roedd wedi dysgu sut i deipio ym Mhont Llanio felly roedd yn gallu mynd ymlaen i’r swydd hon. Buodd gyda’r Undeb am ddwy flynedd ac yna buodd yn gofalu am ei mam. O fewn wythnosau i’w mam farw cafodd Mair ysgariad. Roedd hyn yn gyfnod anodd i Mair ac roedd yn rhaid iddi chwilio am swydd, ond cafodd waith mewn cartref hen bobl yn Llambed a buodd yno am ddeunaw mlynedd. Dyma’r swydd roedd Mair yn ei hoffi.
00.37.16: ‘Fel o’n i’n gweud, sen rhieni i wedi’n pwsho i fwy a gweud “ma’ rhaid i ti” yntyfe.’
Roedd teipiadur yn y swyddfa ym Mhont Llanio ac roedd y rheolwr yno, Gwynfryn Evans, wedi dweud wrthi am ymarfer teipio bob munud sbâr oedd ganddi.
Pythefnos o wyliau a gafai ym Mhont Llanio. Nid oedd y ffatri yn gallu cau ar gyfer cyfnod yn ystod yr haf fel rhai o’r ffatrïoedd oedd yn gwneud nwyddau. Roedd Mair yn gallu dewis pryd roedd yn cymryd y gwyliau. Os oedd Mair i ffwrdd roedd merch yn dod lan o’r swyddfa’n Felinfach.
Pan ddechreuodd Mair yn y ffatri roedd sustem shiffts yno, gyda gweithwyr yn gweithio dros nos. Roedd tri llwyth yn dod mewn o ardal Aberystwyth, a dau arall. Roedd tair ohonynt yn gweithio’n y lab ar y pryd, ac yn mynd mewn am yn ail wythnos. Roedd yn mynd mewn tua hanner awr wedi pump yn y nos ac roedd yn rhaid i’r foreman i fynd gatre â nhw.
Roedd y ffatri’n gweithio saith diwrnod yr wythnos, er nad oedd Mair yn gweithio dydd Sadwrn neu ddydd Sul. Roedd mam a thad Mair yn falch bod ganddi swydd. Roedd Mair yn cael tipyn o help gyda’r bachgen oedd yn gweithio’n y store room, a gyda’r rheolwr hefyd, felly os oedd yn rhaid iddi fynd rywle byddent yn gofalu bod y cownt wedi cael ei wneud ar ei rhan erbyn diwedd y dydd.
Gyda’r teulu roedd y gweithwyr yn mynd ar eu gwyliau yn hytrach na gyda chyd-weithwyr. Nid yw Mair yn cofio am unrhyw drips yn cael eu trefnu i’r gweithwyr.
Roedd Mair yn drist iawn pan fennodd y rheolwr Morlais Jones yn y ffatri. Roedd yn fachgen lleol o Ddyffryn Aeron, a chafodd swydd gyda’r Bwrdd yn Crudgington. Roedd y rheolwr yno wedi cael damwain fawr, a phenderfynwyd y byddai’n well iddo ddod i Bont Llanio i weithio gan fod y ffatri yna’n llai o faint a llai o gyfrifoldeb.
Roedd sibrydion ar led pan roedd Mair ym Mhont Llanio y byddai’r ffatri’n cau. Y syndod mwyaf oedd i’r ffatri yn Felinfach gau hefyd. Dywedodd Mair am ei hamser ym Mhont Llanio,
00.49.10: ‘O’n i ddim yn meddwl bydden i wedi dewis o ran hwnna, ond wedi gweud ‘na, o’dd e’n le mor gartefol a mor ... wel, o’dd rhywbeth yn bod arnoch chi os nad o’ch chi’n hapus ‘na. ‘
Roedd Mair yn drist iawn pan adawodd Pont Llanio. Dywedodd,
00.50.46: ‘Roedd dyn ar un llaw yn hapus bod e’n disgwl babi, ar y llaw arall wedyn o’n i’n teimlo bod fi’n colli cwmni ontyfe. ‘
Mae Mair yn disgrifio’r adeg cafodd waith yng nghartre Hafan Deg yn Llambed.
00.54.57:
Mae Mair yn disgrifio’i lluniau o Bont Llanio sy’n dangos Dai Evans, y foreman y tu allan i’r ffatri, y rheolwr Morlais Jones, merch o’r lab, mecanic, cinio’r ffatri bob Nadolig yn Marine Aberystwyth. Roedd y gwaith yn trefnu bws i’r gweithwyr a byddai adloniant yno hefyd.
Cymraeg oedd iaith y ffatri. Nid oedd Saeson yn gweithio yno’r adeg hynny.