Meiryl James. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Cadarnhaodd Meiryl mai ei henw llawn yw Elinor Meiryl James a’i chyfenw cyn priodi oedd Jenkins. Nododd ei chyfeiriad a’i dyddiad geni: 10fed Chwefror 1938.

Cafodd ei geni yn yr ardal – rhwng Dihewyd a Mydroilyn, ond yn ddwy oed symudodd y teulu i Ddihewyd ac yna i bentref bach Troed-y-rhiw Capel y Brwyn ac mae’n byw yn ei chartref presennol ers chwarter canrif.

Beth odd ych rhieni chi’n neud?

Wel, chm’bod, odd mo menwod yn gwitho’r adeg ‘ny. … Odd small holding, lle bach ‘da nhw, lle on nhw’n cadw rhyw beder buwch a gwerthu llâth, y cyfnod cynta i Bont Llanio wrth gwrs nes bod y ffatri’n dod yn Felin Fach.

Mynychodd ysgolion Dihewyd ac yna i Ysgol Ramadeg (?) Aberaeron ar ôl pasio’r scholarship a chafodd chwech Lefel O (ansicr ai dyna’r enw amdanynt) mewn Cymrag, Daearyddiaeth, Scripture – methu cofio’r gweddill.

Och chi’n mwynhau’r ysgol? Och chi’n mwynhau’r gwaith?

On, wrth fy modd. Bydden i wedi aros am flynydde wedyn.

Gadawodd yr ysgol pan oedd bron â bod yn 19 oed. Roedd wedi meddwl mynd i ddysgu ond chafodd hi mo’i derbyn yng Ngholeg Bangor, ac yna trïodd am Shrewsbury (Amwythig), ond doedd dim English Language ganddi.

‘Wi’n cofio’n iawn amser es i am gyfweliad i Fangor, dwi’n cofio y sawl odd ‘n yn ‘n holi i’n gweud, a dyma beth wedodd hi, ma hwnna wedi sefyll yn ‘n meddwl i “You’ve got to impress me a big deal before I can accept you, because you haven’t got English Language”. A fel ‘ny fuodd hi.’

Triodd hi basio’r English Language ddwywaith. Wnaeth hi ddim sefyll Lefel A.

4.00

Doedd hi ddim eisiau gorffen ei haddysg ar y pryd,

‘Ond yn y dyffryn hyn nawr te, Dyffryn Aeron, yntefe, na’r unig man odd gwaith odd naill ai yn y ffatri laeth, achos odd honno wedi dod ‘no yntefe, neu odd Ffatri Slimma wedyn yn neud dillad chm’bod, yn Llambed, neu gwitho mewn siop. Wel … na’r unig beth odd i gâl bryd hynny yntefe i ferched. Odd dim morynion erbyn ‘ny, - odd rhai ar ffermydd … odd.’

Nododd hefyd ei bod wedi meddwl mynd am NDD (National Dairying Diploma) mewn Amaethyddiaeth ac roedd lle i astudio hyn yn Aberystwyth ond aeth hi ddim mor bell â hynny ‘chwaith.

Cafodd waith yn Felin Fach am eu bod yn chwilio am rywun yn y Labordy yno ar y pryd. Cafodd gyfweliad ‘a bues i’n lwcus’. Cafodd dwy ohonynt swydd yr un diwrnod. Ansicr a fu’n rhaid iddi ddangos tystysgrifau (ond mwy na thebyg hynny). Doedd dim rhaid bod ganddi gymwysterau mewn unrhyw bwnc gwyddonol achos byddent yn cael eu hyfforddi ar ôl dechrau.

Yr hyfforddiant oedd gweithio gyda rhywun arall nes eich bod yn dod i ddeall y gwaith. Un yn dysgu’r llall a bu hi’n dysgu rhai newydd ei hun – ‘lot ohonyn nhw’.

Dechreuodd hi yno yn 1957 – ar ddechrau’r flwyddyn a bu yno tan fis Chwefror 1968. Agorwyd y ffatri yn ffurfiol yn 1952 ond roedden nhw wedi bod yn cymryd llaeth ers 1951.

‘On ni gatre’n gwerthu llâth a wedyn on i ddim yn dwp, yn hollol dwp yntefe, ambyti y broses odd yn mynd mlân.’

Yn ei chartref bydden nhw’n gwerthu llaeth ac yn gwneud menyn, yn enwedig yn y gaeaf os byddai eira a’r lori laeth yn methu dod i gasglu’r llaeth. Mae’n cofio helpu gwneud y menyn trwy droi’r fudde. Doedden nhw ddim yn gwneud caws gartre.

8.03

Tshyrns oedd yn dal y llaeth – Mae’n cofio rhai 8 gâlwyn a rhai 5 gâlwyn cyn hynny, ond pan oedd hi’n gweithio yn y ffatri rhai 10 gâlwyn oedd yna.

Dim cof o’i diwrnod cyntaf am y ffatri. Ar ôl cyrraedd byddai’n tynnu ei chot a gwisgo overall wen a rhyw gap ac yna i mewn i’r Labordy.

Och chi’n gorfod prynu’r overall ne och chi’n câl honna?

Na, on nhw’n rhoi rheina, on, on. A wrth gwrs gyda ni yn y Labordy, achos bo ni’n iwso shwt gymint o asid, chm’bod, on nhw’n mynd yn dylle yn amal , yn gloi chm’bod yntefe, a hefyd on nhw’n dwyno (difwyno/ mynd yn frwnt), achos rhai gwyn on nhw, yr hen deip wrth gwrs, cotton yntefe, on nhw’n dwyno oherwydd on ni’n cario y poteli llâth ‘ma on ni’n mynd i brofi yntefe, mewn crate, a odd y crates ma’n câl ‘u rhoi lawr fan hyn a fan draw … on ni’n newid overall rhyw deirgwaith yr wthnos.

Doedd dim rhaid i’r merched olchi’r overalls – roedden nhw’n cael eu gyrru i ffwrdd i’w golchi. Mae’n ansicr a oedden nhw’n gwisgo menyg – ond bydden nhw yn gwisgo menyg i lanhau.

‘Ni odd yn gorfod glanhau’r Labordy wedyn, chm’bod, odd rhaid bod e’n lanwedd bob amser.’

Odd sgidie arbennig ne …?

Na. On ni’n gwisgo tipyn o wellingtons, achos y llefydd ‘ma – odd dwr ym mhob man, on nhw wastad â hose pipe fan hyna fan draw, yn golchi …

Ansicr pwy oedd piau’r wellingtons.

Roedd yn gweithio i’r Milk Marketing Board ac roedd y brif swyddfa yn Thames Ditton, Surrey. Byddai’r ffatri wedi cynhyrchu hufen a chorddi’r hufen yn fenyn. Ond ar rai adegau o’r flwyddyn roedd llawer o’r llaeth yn mynd i ffatrïoedd eraill, - efallai y byddai ambell ffatri yn brin o laeth i wneud caws. ‘Helpu’n gilydd fel ‘na odd ffatrïoedd bryd ‘ny.’ Wedyn roedd skim milk yn dod mewn i Felin Fach er mwyn cynhyrchu powdwr – yn fwyd i anifeiliaid. Roedden nhw’n gorfod profi y menyn, y powdwr a’r skim, i gael gweld faint o hufen oedd ar ôl yn y skimmed.

12.00

Y broses: Byddai’r llaeth yn cyrraedd mewn tsiyrns ar loris. Byddai dreifyr y lori yn tynnu’r tsiyrns off, a byddent yn mynd ar conveyor a’u tipio. Cyn tipio’r tsiyrn byddai’r dreifyr yn tynnu’r label oddi ar y tshiyrn. Byddai chwech tsiyrn gydag ambell i fferm – dim llawer mwy yn ei chyfnod hi yno. Mae’n cofio yn ystod ambell haf y byddai 10 tsiyrn gan un neu ddwy fferm. Câi’r label ei basio i ferch mewn ciosg, a byddai hi wedyn yn gwybod faint o laeth oedd gan bob fferm – byddai’n cymryd y pwysau. Byddai’r llaeth yn mynd nesa i danc mawr, mawr yn dal miloedd o alwyni. Ond cyn ei fod e’n cael ei arllwys gyda’r mashîn oedd yn tipio’r tsiyrn, byddai hi’n dal peth ohono mewn potel – potel tua one third o beint, a byddent hwy wedi rhoi rhifau ar y poteli hyn a phapur ganddynt i gofnodi pwy oedd bia’r llaeth. Roedd tua 30 o wahanol ffermydd yr adeg hynny, (doedd ffermydd ddim yn cynhyrchu fel maen nhw’n neud heddi) – a 30 o samples gyda nhw. Bydden nhw’n cario’r poteli hyn mewn crates trwm o fetel – ‘Meddyliwch chi nawr am 30 o boteli, one third, a glass odd y poteli, odd e’n dipyn o bwyse. Odd ddim yn bell ‘da ni i fynd’.

Yna byddent yn dechrau ar y broses o desto. Y peth cyntaf oedd testo i weld rhag ofn bo fe’n sur. I wneud hynny byddai’n rhoi rhywfaint mewn test tube a rhoi hwnnw mewn peiriant i’w droi a phan fyddai e’n dod allan bydden nhw’n gallu gweld a oedd y llaeth yn sur neu beidio. Yn yr haf byddai’n gwynto llaeth o’r tsyrns eu hunain i weld a oedd e’n sur.

‘Chm’bod, chi’n gwitho ‘na a chi’n dod i nabod, mae’n rhyfedd, … on i’n amal yn meddwl bo fi’n nabod y ffermydd ‘ma i gyd, chm’bod … on nhw’n dod fel ‘sen nhw’n blant i chi ‘chm’bod – yn ffrindie.’

16.20

Och chi’n gallu gwynto llâth ffermydd gwahanol?

‘O, on, a odd wahanol wynt ‘da nhw ar wahanol adeg o’r flwyddyn. Mae’n dibynnu beth on nhw’n câl i fwyd, ‘u ffido. Os on nhw mas mewn porfa ffresh neu’n mynd i ga i bori rêp, ch’mbod, odd y smell dipyn yn wahanol.’

Cred bod rhywun yn gwynto yn well pan yn ifanc.

‘Bydden ni’n gofyn wedyn trannoeth i’r dreifyr ‘na gadw llâth y ffarm ‘na naill ochor i ni, tynnu nhw mas … a wedyn bydden ni’n profi wedyn bob un o’r tsiyrns ‘na, a os odd na fydden nhw’n paso’r test bydden nhw’n câl mynd nôl wedyn gyda’r dreifyr i fynd nôl i’r ffarm drannoth. A alla i weud wrthoch chi odd dim un dreifyr yn falch .. bo nhw’n mynd nôl.’

Dadansoddi llaeth roedd hi’n ei wneud a byddai’n testo wedyn am faint o fat oedd ynddo fe, a solids. ‘A odd hwnna’n bwysig. A os nag odd e lan i beth on nhw’n disgwyl, bydde ‘na brofi bob dydd hyd nes bo fe’n iawn. A wrth gwrs bydde’r ffermydd yn câl llythyron. Ni odd yn neud ‘na wedyn.’

Byddai sampl o hufen yn dod i lawr atynt bob rhyw awr i’w desto o danc mawr oedd yn dal yr hufen. Dylai fod wedi dweud bod y llaeth yn mynd o’r tanciau mawr, trwy broses o oeri, yna trwy bibau – yna roedd yr hufen yn cael ei gadw mewn tanciau a’r llaeth sgim yn cael ei chwythu drwy cones mawr ar wres o 120° Farenheit i’w droi yn bowdwr. Ac wrth iddo ddod mâs byddai dyn fan’ny’n bago fe – byddai’n dod trwy’r chute yn syth i mewn i’r bag. Doedd y dyn wrth y bag ddim yn cyffwrdd â’r powdwr, wedyn roedd sealer otomatig yn cau’r bag. Yna câi fynd allan i’r stordy.

Roedden nhw’n profi’r llaeth, yna’r llaeth sgim a’r hufen a’r powdwr. Yna byddent yn profi’r menyn gorffenedig. Dim ond y llaeth oedd yn gallu cael ei anfon yn ôl i’r ffermydd – ei roi i’r moch. Yr adeg hyn roedd lot o ffermydd yn cadw moch. ‘On nhw’n cadw moch achos bod llâth sur yn dod nôl, fi’n meddwl’ (chwerthin).

21.46

Faint ohonoch chi ferched fydde yn y labordy ‘ma nawr, gyda’ch gilydd?

Yn y gaea falle fydde un yn llai, achos fydde dim cymint o lâth i brofi. … Fe fuon ni’n saith ‘na ar y mwya, yr adeg on i ‘na ar wahan i’r … Head. Amser âth hi fwy prysur odd ‘na ferch o dano honno wedyn. Achos fydde llâth yn dod miwn saith dwrnod yr wythnos.

Alla i weud hyn nawr, ma fe wedi dod i’n meddwl i, on i’n selog iawn yn y capel, chm’bod yntefe, a wi’n cofio’r gweinidog yn gweud wrtha i, achos bo fi yn gorffod gwitho dydd Sul ‘chwel (dim bob dydd Sul) … a dyma beth wedodd y gweinidog wrtho i, “Meiryl, bydd rhaid câl six day cow ‘to!” …

Bydde rhywun off bron bob dydd yntefe achos bod y gwaith yn mynd saith diwrnod yr wthnos.

Caent time and a half am ddydd Sadwrn a double time am ddydd Sul. Gan fod y cyflog yn ddigon bach roedd hi eitha balch cael gweithio overtime.

O safbwynt merched eraill yn y ffatri – dwy yn y cantîn, pedair-bump yn yr offis. Fe fu adeg wedyn hefyd pan oedd un neu ddwy o ferched yn glanhau yno hefyd ond nid ar y dechrau. O safbwynt y dynion roedd y creamery hollol ar wahan i’r transport – roedd gwaith shifft drwy’r amser gyda’r dynion, - 3 shifft mewn 24 awr. Cred bod tua 100 o weithwyr yno. Dim byd arall i gael yn Nyffryn Aeron gyda’r crydd a’r gof wedi mynd.

25. 43

Ydych chi’n cofio faint odd ‘ch cyflog cynta o gwbwl?

Na, dwi ddim yn cofio’r un cynta, ond dwi’n cofio’r un dwetha: £8 7s 6c. (yn yr hen arian wrth gwrs) … ond yr un dwetha ges a fe gadwes i’r pacyn hynny, oedd e’n £10 50 ceiniog – achos ei bod wedi gweithio sawl dydd Sadwrn a dydd Sul (h.y. ar ben y tal sylfaenol o £8 7s 6c.)

Roedd y ffatri ar agor 24 awr drwy’r amser – ddim yn cau. Roedd hi’n gweithio gwaith shifft ar rota) a bu un amser, pan oedd y deputy boss wedi gorffen yna, yn second in command ac wedyn roedd yn rhaid iddi fod yna ddydd Sul hefyd. Yn ystod yr haf roedd y llaeth yn cynyddu a doedden nhw ddim yn gâllu ei gymryd i gyd yn yr oriau arferol (8 awr). Byddai’r lori gyntaf yn dod i mewn rhwng hanner awr wedi wyth i naw o’r gloch y bore, ac wedyn bydden nhw’n dod i mewn yn eu tro, Yn y gaeaf bydden nhw’n gorffen dod mewn tua dau o’r gloch y prynhawn. Ond fel bydde’r llâth yn cynyddu – falle yr ai yn bedwar o’r gloch, ond yn yr haf pan fyddai lot fwy o laeth, bydden nhw’n gorfod gweithio ymlaen tan naw – deg o’r gloch y nos. Heblaw hynny bydden nhw’n dechrau am wyth y bore a gorffen am bedwar. Dim ond y dynion oedd yn gweithio trwy’r nos.

Bydde’r cantîn yn cau am bedwar o’r gloch. ‘Bydden ni’n câl deg munud i gâl te deg yn y bore, a wedyn hanner awr i gino, a deg munud arall yn y prynhawn i gâl cwpaned o de.’ Cael y te yn y Labordy. Byddai’n mynd i’r cantîn i gael cinio – sandwiches a crisps oedd yno. ’A bydden ni’n byta rheini ar hast er mwyn câl mynd wedyn i’r games room, a… bydden ni’n câl whare skittles ne table tennis ne darts.’

O’r Labordy allen nhw ddim cael cinio yr un pryd oherwydd y gwaith. Byddai’r loris yn dod miwn a bydde rhifau gyda nhw ar y loris ac efallai y bydden nhw eisiau lori rhif 8 (dweder) – byddai’n rhaid iddyn nhw fod yna pan fyddai’r lori yna’n cyrraedd i godi sampl o’r llaeth. Yr amser cinio’n amrywio – rywbryd o ddeuddeg tan un.

31.35

Roedd safon glendid yn uchel yno. Bydden nhw’n gorfod golchi’r poteli llaeth oedd yn cario samples a’u steraliso a’r test tubes a’r pipettes. Roedd yr asid roedden nhw’n ei ddefnyddio yn beryglus.

On ni’n defnyddio’r asids ‘ma chwel, i roi ar ben y llâth a hwnnw odd yn separeto … yr hufen yntefe.

Odd rheina yn beryglus o gwbwl, yr asids?

On nhw’n beryglus iawn, iawn, on.

Odd llosgiade neu rywbeth fel ‘na?

Odd, odd – … na beth on ni’n neud wedyn os on ni’n câl e ar ein dwylo yntefe, bydden ni’n golchi fe dan y tap dwr ôr, a rhoi bicarbonate of soda wedyn ar y lle odd wedi llosgi a odd hwnna wedyn yn ‘i wella fe, chm’bod, yntefe.

Doedd hyn ddim yn digwydd yn aml ond roedd rhaid bod yn wyliadwrus.

A on ni’n câl pan on ni’n mynd ‘na, ‘na’r orders mowr on ni’n câl oedd i fod yn ofalus.

Achos fe allen ni gâl hwnna yn ‘n llyged.

Ddigwyddodd hynna o gwbwl?

Naddo ond (ansicr a oeddent yn gwisgo sbectol ond ddim yn credu hynny) … Ond rhan o’r amser on i ‘na odd merch odd wedi bod yn nyrsio a odd hi’n deall wedyn first aid, yntefe. Os odd rhywun yn câl cwt ar ei bys …

Cred o feddwl am y peth eu bod YN gwisgo menyg i drafod y llâth.

O safbwynt hyfforddiant ar y dechrau – yr hyd yn dibynnu ar y person oedd yn cael ei hyfforddi – rhai yn dysgu’n gynt nag eraill. Dim dosbarthiadau nos i wella sgiliau. Roedd y cyflog yr un peth o’r dechrau – dim cyfnod o brawf.

Roedd rheolwr ar y ffatri – Mr Rowlands oedd yno pan ddechreuodd hi. Roedd e a’r supervisor yn Gymry. Roedd Mr Rowlands wedi dod o ffatri laeth Pont Llanio pan agorwyd Felin Fach. Gadawodd e ymhen ychydig wedi iddi hi ddechrau yno a daeth‘Gog’ wedyn – un o’r gogledd - Mr Phillips – a bu ef yno tra bu hi yno. Bydde fe’n cerdded rownd ac yn nabod y gweithwyr. Roedd e’n dod i’r Labordy. Yn eu fridge nhw oedd e’n cadw’i lâth.

37.00

On ni’n câl prynu llâth a menyn yn rhatach na beth fyddech chi’n siop chm’bod. … och chi yn câl mynd â faint och chi’n moyn … on i’n mynd â fel stên fach … a honno’n dala dou beint falle. … On ni’n talu ond yn rhatach.

Mynd â hwn adre – ond dim hufen. Buon nhw wedyn yn ystod y blynyddoedd cynta roedd hi yna yn neud powndi o fenyn (- nage hanner powndi) ac roedden nhw’n cael prynu dau bownd o fenyn yn rhatach yr wythnos hefyd. Rhyw ddwy / dair o ferched yn pacio’r menyn mewn bocsys. Y swyddfa fyddai’n cadw cownt o faint roedd pawb yn ei gael fel hyn.

Galw’r supervisor gyntaf yn Mrs Evans, ‘Na, on ni ddim yn ei galw wrth ei henw cyntaf’ ond byddai hi’n eu galw nhw wrth eu henwau cyntaf. Cymraes oedd hon – yn dod o Lanfair, ochr draw i Lambed. Gadawodd hi a phriodi a mynd i gadw ffarm. Wedyn daeth dwy ifanc allan o goleg – un o dan y llall yn y swydd; merched o Loegr oedden nhw.

‘Cymry on ni – y merched odd yn gwitho lawr yn y Labordy – ie, ac yn y swyddfa a’r cantîn, … Cymrag on ni gyd ond y ddwy ‘ma, y ddwy Saesnes ‘ma. Cymry odd fwya o’r staff odd yn y ffatri i gyd – odd dim llawer o Saeson ‘na. … Odd boiler rooms ‘na wedyn, le odd gwres yn ? y ffatri a yn twymo’r dwr, yr holl ddwr twym ‘ma odd isie, a odd dou yn gwitho fan ‘ny wedyn yn ffido y boilers. .. A wrth gwrs, yr adeg hyn on i ‘na nawr, odd trên yn dod i gasglu tipyn o’r llâth ‘ma. Odd e’n mynd off nawr i ffatrïodd erill, ‘chwel, - tancs mowr, tankers mowr .. A dim ond i Felin Fach odd hi’n dod – odd hi’n troi nôl – lein Llambed … Aberaeron. Ond wedi i’r trên i orffen rhedeg i Aberaeron odd hi dod wedyn i Felin Fach o achos y llâth ‘ma chwel.’

Ar ôl i’r tren stopio roedd y llaeth sgim yn mynd i ffwrdd mewn loriau tancers i ffatrïoedd yn Crudgington. Llangefni …

Roedd Llangefni a Wem yn neud caws. Yn yr haf byddai llawer gormod o laeth i’w gael i’w brosesu yn Felin Fach.

43.14

Pan och chi’n dechre chm’bod fel merch ifanc nawr, yn y ffatri, odd y lleill yn whare rhyw dricie bach arnoch chi? Odd ‘na rhyw drics bach on nhw’n whare ar y merched newydd?

Chi’n gwbod pan fyddwch chi’n câl troupe o ferched yn gwitho gyda’i gilydd yntefe, smo’r cytundeb ‘run peth a se dynion ‘da chi yntefe .., ond na, fydden i’n sobor iawn. Ond odd y dynion yn dod miwn i’r Labordy, dod â samples i ni chi’n gweld, … o hufen neu sgim … a odd, odd rhyw jôcs bach yn … Â i ddim i weud wrthoch chi beth odd mlân bryd hynny … odd lot o sbort ‘na.

Nid yw’n gallu meddwl am stori ar y pryd am hynny. ‘Troup o ferched ifanc on ni! Eitha drygionus ma rhaid i fi weud. … Fi’n cofio un o’r merched nawrte, a odd hi yn mynd draw nawr i’r hyn o’n i’n alw yn Powder Room a fan ‘ny odd bocs cardboard mawr i gâl … a odd y llawr odd fan’ny nawr yn glir, a un o ni’n mynd miwn i’r bocs a’r llall yn tynnu hi o un pen i’r llall. … rhyw ddwli fel ‘na chm’bod … dim byd cas.

A wrth gwrs on ni’n câl wedyn Parti Nadolig – bydde fe’n câl ‘i gynnal mewn hotel fel y Feathers yn Aberaeron, mynd lawr i Aberteifi, mynd lan i’r Marine yn Aberystwyth; a ni merched y Labordy odd yn neud hyn wedyn, ar ôl y gino wedyn bydden ni’n entyrteino … bydden ni’n canu amdano rhai ohonyn nhw, achos chi’n dod i nabod y bobol ‘ma yn dda, on’d ych chi? Bydden ni’n cwrdd â nhw’n amal yn y cantîn pan fydden ni’n câl bwyd, a bydden ni neud penillion – wel fi odd yn neud penillion, a ma nhw gen i o hyd, a bydden ni’n canu – rhyw entyrteinment bach fel ‘ny.’

A wedyn Nadolig (dim ar y dechre) roedd parti i blant y gweithwyr – lan at 11 oed. A bu hi’n un o’r rhai oedd yn mynd i siopa i gâl yr anrhegion i’r plant yn Aberystwyth. Erbyn hyn roedd car ganddi – dechreuodd yno yn 1957. Aeth dwy ohonyn nhw i siopa – un o’r swyddfa a hi, - on nhw’n gwybod oedran y plant. Prynu anrhegion yn Woolworth ac mae’n cofio mai dechrau mis Rhagfyr yr oedd yn mynd i siopa gan fod y parti ryw wythnos cyn y Nadolig, a’r tro hwnnw wnaethon nhw ddim cychwyn am adre tan wedi i’r siopau gau am hanner awr wdi pump, a hithau’n rhewi. Gollyngodd y ferch arall i lawr yng Nghilie Aeron ond yna wrth ddod lawr am adre lawr rhiw, aeth y car allan o gontrol ac i’r clawdd. Chafodd hi ddim dolur. Digwyddodd hynny tua 1962. Ansicr sut oedden nhw’n talu am y presentau. Merched y cantîn oedd yn gwneud y bwyd.

Ei chyflog cynta – roedd National Insurance a treth yn cael ei dynnu allan. ‘A odd chwech ceinog yn yr hen arian yn câl i dynnu allan ar gyfer y Social Club.’

49.50

Roedd yn perthyn i Undeb – roedd hi’n bwysig yn y ffatri. ‘Os bydde rhywun mewn trwbwl yntefe, bydde fe’n câl ‘i setlo ‘n bydde fe?’ Nid yw’n gâllu cofio enw’r undeb, nac os oedd Swyddog Undeb yn y ffatri na sut roedd yr arian yn cael ei gasglu.

Nid yw’n gallu cofio llawer o anghydfod yno. ‘Ma’n rhaid gweud odd ‘na gydwitho da yna. … Odd pawb yn falch i gâl gwaith fi’n credu achos odd dim amrywieth gwaith yn Dyffryn Aeron. .. Achos on nhw’n dod o Lanybydder, on nhw’n dod o Synod Inn, on nhw’n dod o gyfeiriad Llan-non, Llanrhystud, on nhw’n dod o dipyn o wahanol lefydd … a rhai o nhw o eitha pell.’

Sut och chi’n mynd nôl a mlân i’ch gwaith?

… Ar ôl gwitho yna bum mlynedd, on i wedi cadw tipyn o arian, on i wedi safio tipyn o arian, a fe brynes i gar, a ‘ma llun y car ... Morris 1000 a’i number e odd MEJ 358 – fi’n cofio’r number ‘na. Cyn hynny on i’n gorffod mynd â beic dwy filltir lawr i Cribyn, a rhywun odd yn gwitho yn y ffatri wedyn odd yn dod trwy Cribyn, a on i’n câl lifft (a nôl gyda’r nos). Roedd llond car ohonyn nhw’n mynd fel hyn – cyn amser rheolau seat belts!

Mae’n cofio ffwdan ambell i aeaf – ar eira mawr ac yn methu dod gartref i fyny’r rhiwie o Felin Fach a gorfod cael ei gwthio – ‘Mwy o sbri na dim byd arall’.

Yn y flwyddyn nawrte 63 … gethon ni eira mowr. A fe gerddes i chm’bod – na chi p’run mor gydwybodol on i yn ‘ng ngwaith – fe gerddes i o gartre i’r gwaith a phan gyrhaeddes i, fe wedodd y rheolwraig wrtho i ‘Wel, Meiryl fach i beth och chi (odd dim ffôn ‘da ni i gâl gartre … ).’ Arhoses i ‘na ryw ddwy-dair awr a wedodd hi ‘Na fe, gallwch chi fynd nawr.’ Cafodd lifft i Felin Fach a cherddodd adre … chwech a hanner (milltir) un ffordd.

Byddai’n cloco i mewn yn y bore ac allan gyda’r hwyr. ‘Yn ôl yr orie on ni wedi gwitho on ni’n câl ‘n talu.’ Fyddai hi byth yn hwyr felly nid yw’n gwybod a oedd cosb am hynny. Pan fyddai’n cyrraedd byddai’n siarad â gweithwyr eraill yn y cloakroom... ond fydden nhw ddim yn dechrau ar eu gwaith tan wyth o’r gloch. Gorffen o bedwar i bump. Weithiau byddai’r sawl a oedd yn rhoi lifft iddi â diwrnod rhydd ac i ddod adre byddai’n dal bws Crossville i Gribyn a cherdded y ddwy filltir adre.

55.36

Roedd rhif ganddi fel gweithwraig ond nid yw’n gâllu ei gofio er mai’r un un fu ganddi am ei hamser yno. Byddai’r rhif ar y garden cloco mewn ac ar y pecyn pae. Arian parod oedd y pae.

Beth och chi’n neud â’ch arian bob wthnos? Och chi’n gorfod rhoi e i’ch rhieni?

Wel, on i’n spoilt. Na, on i’n talu dim a gweud y gwir wrthoch chi. On i’n cadw peth at wario yntefe – on i’n Steddfoda lot, yn cystadlu yntefe. … a wedyn whist drive neu  gyngerdd. Ar wahan i hynny wedyn on i’n safio … ges i gar. … weda i wrthoch chi pa mor awyddus on i i basio’r test, fe ges i e (y car) ym mis Mawrth … a bases i’r test … yn mis Ebrill 26 …’

Roedd yn gorfod dysgu gyda’r nos yn y tywyllwch! Cystadlu ar adrodd roedd hi’n ei wneud yn yr Eisteddfodau – mae ganddi lu o gwpanau yn y cwpwrdd yn y gornel. Ond erbyn hyn mae ei hwyrion wedi mynd â sawl un ohonynt. Byddai’n canu duets hefyd – dysgu hynny yn ysgol Aberaeron. Roedd y capel yn bwysig iawn hefyd – Capel yr Annibynwyr ac roedd hi’n dysgu’r plant yno. Ac yn organyddes yn ogystal am flynydde. Bu’n ysgrifennydd wedyn yn trefnu dramâu a chyngherddau i ddod yno. ‘Och chi’n gorffod neud ‘ch entyrteinment ‘ch hunan bryd hynny.’

Roedd un neu ddwy o ferched y ffatri yn debyg iddi hi yn cystadlu – ‘Odd pawb yn mynd i naill ai capel neu eglwys (bron pawb ddylen i ddweud) o ni’r merched yntefe.’ Yn ystod ei chyfnod hi yn y ffatri fe welodd hi lot o fynd a dod yna. Fe briododd y merched hyn yn eitha ifanc – roedd hi’n 27 yn priodi.

59.30

Och chi’n câl gwitho ar ôl priodi?

Dim yn y blynydde cynta. Os odd rhywun yn priodi odd hi’n gorffod bennu gwitho ‘na. Ond odd wedi dod erbyn on i, priodes i yn 1966, a adawes i yn 1968, ond odd y rheol newydd wedi dod mewn, yntefe, so fe aroses i wedyn y ddwy flynedd ‘na o 1966 hyd 1968. A wedyn es inne i blanta.

Och chi’n câl gwitho ‘na tra och chi’n disgwyl chm’bod?

Lan i saith mis. Fi’n credu mai fel’na odd hi yn gwaith yn bob man bryd ‘ny. … odd hi’n hen bryd achos on i’n handlo’r crates trwm ‘ma, chm’bod. … Ie, odd e’n amser cysurus dros ben, ma rhaid gweud. Fydden i ddim wedi gorffen ‘na onibai bo fi wedi mynd i blanta.’

Gwyliau – cred mai pythefnos oedden nhw’n gael ar y dechre ond iddo godi i dair wythnos wedyn. Roedd yn rhaid bwcio mlaen achos allai’r ffatri ddim cau ac nid oedd yn bosibl cael gwyliau gyda grwp o fenywod.

Chi’n cofio ble buoch chi ar ‘ch gwylie?

Dim unman! Na, gartre a mynd i rywle – y blynydde cynta ‘ma – odd dim car i gâl wrth gwrs, on ni’n dala bys a mynd i Aberystwyth. Odd mynd i Aberystwyth yn 1957 yn rhywbeth mowr achos dyna ble odd trips ysgol Sul ni’n mynd ‘chwel, yntefe. Ie, dwrnod bach fan hyn a fan draw … Odd rhai yn gwitho dydd Nadolig y cyfnod ‘na a trannoth y Nadolig yntefe. No, odd rhaid bod y llâth yn dod miwn a’r gwaith yn mynd mlân. … Odd dim sôn am Pasg pryn’ny … Capelwraig on i bryd ’ny ond fe droies i’r eglws wedyn, wedi priodi, a’r eglws yn cadw fwy o’r gwylie. …

Ond gyda’r Milk Marketing Board nawrte, on nhw’n rhoi wedyn gwylie spesial i rywun bob blwyddyn. On nhw’n gâlw fe yn Sydney Foster Award … a fe enilles i hwnna un flwyddyn – chwech ohonon ni i gyd, ond odd y chwech yna o ryw ffatrïodd erill, falle bo nhw yn y swyddfa, odd dim rhaid bo nhw’n gwitho yn y Labordy, a enilles i hwnna nawrte, nôl yn 1964 fi’n credu odd hi. A on ni’n câl wthnos o wylie wedyn a on i’n naïve iawn byti trafaelu gyda tren.

1.03.30

Mae’n sôn am deithio i Lundain ar y trên, i gwrdd â’r merched yma – o Gaerfyrddin. Wrth lwc roedd merch o Gribyn wedi priodi heddwas ac yn byw yn Llundain a daeth hi i’w chwrdd yn Paddington a mynd â hi i Thames Ditton a gofalu amdani yn dda.

Odd e’n wylie addysgiadol hefyd, … on ni’n symud wedyn o un man i’r llall – gwahanol ffatrïodd nawr a wedyn on ni’n sefyll wedyn yn gwahanol fanne. … Odd hi’n agoriad llygad mowr i fi achos on i ddim wedi bod ar wylie eriôd. – Falle bo fi’n anghywir i weud ‘na, do fues i’n aros ‘da modryb, ond dim byd mwy na ‘na chwel, yntefe.

Roedd y lleill yn dod o’r trefi mawr ac yn gyfarwydd â trafaelu. Ron nhw’n teithio mewn dau gar. Merched on nhw i gyd. (Mae’n cywiro’i hunan fan hyn – wrth fynd am gyfweliad y bu’n aros gyda’r ferch o Gribyn nid pan oedd hi’n mynd ar y gwylie – ‘Ma’r cof yn pallu chi’n gweld ar ôl yr holl flynydde ‘ma’).

Ges i gyfweliad a on i’n gorfod ysgrifennu wedyn hanes – ma hwnnw gen i rywle hefyd, wi’n siwr ‘i fod e, copi ohono fe.

Ych hanes chi’ch hunan ne hanes y gwaith?

Ie, beth dwi wedi’i weud wrthoch chi nawr – ond bo fi’n cofio fe’n well bryd hynny …

Odd hwnna yn fraint ac anrhydedd ‘te. … Y rheolwr ofynnodd i fi a on i’n fodlon.

A och chi’n câl tystysgrif, ne beth och chi’n gâl?

Na, na, ond fe gethon ni’n llun (copi ohono).

Mae’n sôn am gylchgrawn yr MMB oedd yn dod mâs bob tymor. Roedd yn rhoi hanes holl ffatrïoedd yr MMB. Ansicr a oeddent am ddim neu yn 6 cheiniog?

Odd hwnna’n cadw chi mewn cysylltiad â’r cwmni mewn ffordd on’d oedd e?

Odd, odd. Ond on ni ddim yn neud dim byd â ffatrïodd erill – hyd yn oed Pont Llanio chm’bod, odd ddim ond rhyw ddeuddeg milltir … na, na on ni ddim yn gwbod dim o’u hanes nhw. ..

A nawr, y flwyddyn orffennes i yn y ffatri nawr, 1968, odd pethe’n newid ‘na. Odd Pont Llanio yn cau, a odd llâth Pont Llanio wedyn i gyd yn dod lawr i Felin Fach. Ac fe gath lot o newid ddigwydd ‘na. On i’n gorffen yn mis Chwefror a wedyn yn mis Mai … yr un flwyddyn odd y llâth yn dod o Bont Llanio. … Ffatri fach odd Pont Llanio o’i chymharu â Felin Fach ... a wedyn bydde isie rhagor o staff.

1.08.50

Pan och chi’n gadel gaethoch chi barti ffarwel?

Do, a fe ges i bresant, .. bowlen odd hi, bowlen glass â coese iddi.

Cafodd hi a Harri, oedd ddim yn gwiethio yno ar y pryd, ddau blat (Minton China) yn anrheg gan Reolwr y Ffatri (Mae’n eu dangos yn y cwpwrdd). Dechreuodd Harri weithio yno ar ddiwedd 1967 (1957??) ond roedd e wedi dod o ffarm ac ar yr adeg yna roedd National Service mewn bod a os nag och chi’n neud gwaith amaethyddol och chi’n gorfod gwneud cyfnod o National Service. Dalion nhw lan ‘da fe wedyn a gwnaeth e ddwy flynedd yno, ond roedd hyn yn cyfrif at gael arian mas ar derfyn gweithio. Buodd e off am ddwy flynedd ac wedyn roedd yn rhaid iddyn nhw ei gymeryd yn ôl, so dath e nôl i witho i’r ffatri (bu e’n gwneud National Service o 1958-1960) – buodd e ‘na am rai blynydde wedyn. Gan ei bod hi’n ofni bod ar ei phen ei hunan yn y nos – gan ei fod e’n gwitho shift work (y tair shifft : 7y bore -3; 3-11; 11 y nos - 7 y bore mewn rota) gadawodd e’r ffatri a bu oddi yno am flynyddoedd wedyn – 12 mae’n credu, ond erbyn hyn roedd y plant wedi tyfu ac roedd ganddi gwmni yn y ty a ath e nôl i witho ‘na, yn 1974 ath e nôl. Erbyn hyn roedd pethau’n  wahanol.

Y nosweth es i gyda fe gynta nawrte, odd dod gartre o Steddfod Ffald-y-brenin … - mis Ebrill odd hi ond on i’n nabod e achos on i’n gorffod mynd mâs dipyn o’r Labordy chi’n gweld, i moyn sample.

1:13:14

O safbwynt rheoliadau iechyd a diogelwch:

Yr amser ‘ny wedyn ‘te odd dim sôn am y pethe ‘na yntefe, ond os bydde rhywun wedi câl anlwc … bydde fe’n câl ‘i gofnodi mewn llyfyr, a’r dyddiad a beth odd e. Os odd isie mynd i’r ysbyty neu mynd at y doctor odd rhywun yn mynd â chi o’r gwaith.

Chafodd hi mo’r profiad hwn – bu hi’n lwcus iawn, iawn ‘ar wahan i gâl bach o losg falle gyda’r asids on i’n defnyddio ond on ni wedi câl ein trwyddedu bo ni’n golchi’r man hynny gyda dwr oer, yntefe. ‘

Doedd dim nyrs yn y gwaith. Dim ystafell arbennig chwaith. Roedd cloakroom ac i fan’ny bydde hi wedi mynd. Ond nid yw’n cofio neb yn sal ac yn gorfod mynd mâs o’r Labordy. Fydden nhw ddim wedi siarad am bethe fel periods yn y cyfnod hwn.

Odd hi’n swnllyd yna o gwbwl?

On ni’n dawel wrth ein gwaith, achos odd rhaid, yntefe.

Roedd peiriannau yn gwneud swn ond roeddech chi’n dod yn gyfarwydd ag e. Roedd ychydig bach o swn gan y testers ron nhw’n eu defnyddio. Roedd digon o ole yna ac roedd y gwres yn iawn. Nid yw’r gwaith wedi effeithio o gwbwl ar ei hiechyd hi.

On i’n lico llâth – O ie, ‘na beth on ni’n câl neud wedyn os och chi am, wedyn – och chi’n câl hifed y llâth yn y gwaith chm’bod, .. a wedyn on i’n mynd i’r cantîn, a on i’n llanw’r botel ‘ma – plasma bottle on i’n gâlw hi, - a on i’n llanw honno y bore, .. on nhw’n cadw peth llâth nôl yn y tsiyrns achos odd y gweithwyr yn gâller helpu’u hunen fan ‘ny i lâth – hyn a hyn on ni’n gâllu mynd yntefe. On i’n mynd â’r botel ‘na wedyn, odd neb llawer ar wahan i fi’n neud e, on i ddim yn lico te chi’n gweld, …. ac on i’n gyfarwydd â llâth – wedi câl ‘n magu ar y small holding. A on i’n rhoi’r botel yn y fridge a on i’n mynd â hi gyda fi wedyn i’r cantîn … on i’n mynd â bwyd ‘n hunan. On i’n prynu fe ambell waith, odd dim lot o ddewis chi’n gweld, o sandwiches bryd hynny, a wedyn sbam chi’n gweld a tomato yn yr haf, a on i’n mynd â bwyd ‘n hunan.

Ron nhw’n câl tipyn o sbri yn y cantîn, dodd e ddim yn fawr. Gweiddi a phryfocio’i gilydd - y dreifyrs, oedd mewn gan amla yr un pryd â nhw. Roedd y dreifyrs yn mynd allan i gasglu tsiyrns ddwywaith (y dydd) ar y ffermydd. Roedd y llaeth wedi’i bastwreidio eisoes yn y tair tsiyrn a oedd allan ar gyfer y gweithwyr.

Roedd toliedau ar eu cyfer – roedd rhywun yn eu glanhau. Roedden nhw’n gorfod gofalu fod yr offer yn y Labordy’n lân ac wedi’i steraleisio. Ond roedd rhywun yn dod i mewn i frwsio a golchi’r llawr wedi iddyn nhw orffen yno.

1:19:00

Doedd dim miwsig yn y gwaith a dim canu. ‘Dim ond i neud â gwaith’ roedden nhw’n cael siarad. Ambell sgwrs wrth iddynt olchi lan. ‘Odd gwaith golchi lan ofnadw ‘da ni chi’n gweld. – yr holl boteli a’r pipedi ‘ma a’r pethe on ni’n ddefnyddio yn y gwaith.’ ‘On nhw itha strict’. ‘Odd gwahanol waith chi’n gweld yntefe – bydde un yn neud un peth am rai wthnose; wedyn bydde dwy wastad nawr – pan fydden ni’n mynd mâs o’r Labordy i colecto’r llâth yn y poteli bydde rhaid câl dwy at hynny. Bydde un yn y ciosg ‘ma yn codi enwe y ffermydd ‘ma a’r rhif arno fe a bydde’r llall yn cymeryd y sampl.… UN waith y mis y bydde’n ni’n testo llâth ffarmwr os odd popeth yn iawn – on i’n gorfod neud e nes bo ni’n câl y result iawn.

Dim ond un ferch mae hi’n ei chofio’n smocio – a hithau wedi bod yn nyrs! Dim ond yn y cantîn roedd smocio – dim yn unman arall yn y ffatri. Smoco gyda cwpaned o de. ‘Na, on i ddim yn gweld smoco a on ni byth yn gweld stwmpyn, dim un man! .. On nhw’n ffysi iawn ambyti ‘na’.

Odd ‘na rai ffermwyr – och chi’n gweud ma unwaith y mis och chi’n profi’r llâth ‘ma – odd na rai ffermwyr yn gallu dod rownd i hynna mewn unrhyw ffordd?

O odd! On nhw lot o ffrindie ‘da’r dreifyr yntefe, a fi’n credu bod tipyn o backhanders yn paso, odd ‘na ryw storie bach amdanyn nhw …

Beth on nhw neud – bydde’r dreifyr yn dweud – “Ma nhw wedi profi’ch llâth chi ddo” ife?

Na fe.

A wedyn, beth fydde’n digwydd i’r llâth? Beth fydden nhw’n neud â’r llâth wedyn ‘te? Shwt bydden nhw’n twyllo?

Wi’n credu bod rhai ohonyn nhw yn codi’r hufen o’r tsiyrns a neud menyn gartre ag e. Wel, odd storie yn mynd ar hyd lle. Ond ma’n rhyfedd, glywes i mo hynny amser on i’n gwitho ‘na. On nhw’n ofalus bo nhw ddim yn gweud wrtho i. Wedi hynny glywes i am hynny yntefe.

Stopiodd hynny pan ddaeth y tankers.

I: 23:19

A wedyn ‘te fe weles i Iawerodd o withe falwod mewn tsiyrn, do! A weles i llygoden. ‘Na shwt odd ‘na’n digwydd - … yn yr haf amser bydde gwres mawr ‘da hi, a bydde’r ffermwyr yn rhoi’r tsiyrns ‘ma mâs ar y stand lâth, a falle bydden nhw’n mynd am y dydd i rywle chi’n gweld i witho … wedyn wrth gwrs on nhw’n gadel caead y tsiyrn yn gil-agor, ar agor chi’n gweld yntefe, a falle, wi ddim yn gwbod, bod rhai ffermwyr yn mynd mâs â llâth nosweth cyn ‘ny chi’n gweld, a odd y falwaden ma yn ffindio’i ffordd miwn, do. Wel bydden ni wedyn yn cadw’r tsiyrn ‘na nôl.

Byddai’r tsiyrn yna yn mynd yn ôl i’r ffarm heb ei thrin?

A ‘na beth odd yn digwydd wedyn, amser ‘ny, yn y dechre myno, odd dim coolers i gâl gyda’r ffermwyr ‘ma ar ‘u ffermydd chwel yntefe, a wedyn on nhw’n oeri’r llâth mewn twba ne rywbeth, ne falle dan pistyll ne rywbeth, a bydde’r caead ‘to yn gil-agored .. Odd ffermwyr sir Aberteifi i fod yn enwog am roi dwr ar lâth, odd ‘na dystioleth o hynny o gwbwl?

Na, dos ‘da fi ddim un dystioleth. Yn Llunden falle …

Odd ‘na rai pobol wedyn odd yn ffindio ffordd o fynd â mwy na’u siâr o lâth a menyn o’r ffatri? Odd hwnna’n digwydd?

Llâth odd, achos on ni’n câl helpu’n hunen i lâth. Ond dim menyn – on ni’n prynu’r menyn.

Yr ochr gymdeithasol – ‘Fuon ni’n câl “It’s a Knock-out” yn yr haf. Ond fe ddath miwn wedyn mae’n debyg, fues i ddim – on i ddim yn un odd yn mynd i dafarn – fuodd ‘na beth whare mewn tafarne – darts. Wi ddim yn credu bod e’n rhan o’r gwaith.

Os ych chi’n meddwl nôl nawr, at y cyfnod pan och chi yn y ffatri, allech chi weud bo chi wedi mwynhau ‘na. Beth yw’ch argraffiade chi nawr?

O on! On i wedi mwynhau dros ben. Fydden i ddim wedi dymuno gwitho yn unman arall. Yr adeg hyn nawr odd y Ffatri Slimma ‘ma yn Llambed, a mae’n debyg bod y nhw yn talu i’w cyflogwyr (?) nhw yn debyg iawn i beth on ni’n câl yn Felin Fach. Dyna’r gwaith odd yn talu ore .. a bydden i byth yn meddwl (roedd Slimma yn talu rywbeth tebyg felly) – Fwynheues i’r un ar ddeg mlynedd fues i yna, merched bach neis i witho ‘da nhw a on i’n cymdeithasu ambell waith yn y nos – anamal iawn on ni’n neud ‘ny. … Odd lot o sbri gyda ni yn y cantîn chm’bod yntefe, os on ni wedi bod yn rhywle.

1:27:36

Och chi’n mynd i briodase’ch gilydd er hynny on’d och chi? Odd hwnna’n rhywbeth. Dwedwch wrtho i beth odd yn digwydd bryd hynny.

On ni ddim yn guests … a on ni’n câl amser off nawr, ryw awr falle, os bydde un ohonon ni’n priodi, a mynd wedyn i’r capel ne’r eglws, a fan’ny priododd pawb yn ystod yr amser bues i ‘na, a on ni’n mynd i fan‘ny wedyn a neud ‘Guard of Honour’ dros y drws – yr eglwys neu’r capel, .. a on ni’n mynd â rhywbeth on ni’n ddefnyddio yn y Labordy wedyn, a rhoi rheini uwchben y priodfab a’r briodferch amser on nhw’n dod mâs.

Och chi yn eich gwisgoedd on’d och chi?

On, on, on ni’n lân. … Achos fe briododd lot o ferched yn y cyfnod bues i yna.

Odd ‘na rywbeth … Beth fyddech chi’n gweud fyddech chi wedi’i fwynhau? Y gwaith? Neu y gwmnieth neu’r ddau beth neu beth?

Ie, ie, y cymdeithasu - y gwmnieth fel och chi’n gweud – cydwitho, achos on ni yn cydwitho yn dda. Fel on i’n gweud wrthoch chi, fydden ni – un yn neud rhywbeth, neu ddwy .. och chi’n dod mlân yn iawn.

Chi’n cofio unrhyw un yn câl sac o gwbwl ‘na?

Na na, ond fe fuodd un yn lwcus i gâl ‘i chadw. Pryd hynny wedes i bo fi’n feichiog neu bydde hi wedi câl mynd. … Odd hi’n ferch neis. Achos odd ‘na rywun yn dod rownd unwaith y mis nawr, on ni ddim yn gwbod pwy ddwrnod odd e’n dod na dim byd, na amser y dydd na dim byd, a wedyn on ni’n gorffod cadw wedyn, y llâth ‘ma yn y boteli fydden ni wedi’u casglu o’r tsiyrns falle am naw y bore – on ni’n gorffod cadw nhw wedyn tan prynhawn, - beth on nhw’n gâlw’r dyn ‘na odd yn dod rownd? Wel i tsecio odd e’n dod - ‘n gwaith ni. Odd e wedyn yn cymeryd sample o’r rhai o’r poteli ‘ma – gwedwch rhyw ddeuddeg sampl, ac yn ail-neud nhw ar ein hole ni, i gâl gweld a on ni wedi neud e’n iawn. … On ni byth yn gwbod pryd odd e’n dod, na. …

Wrth gwrs, bydde fe’n neud reports wedyn a fuodd un ferch, odd hi wedi câl mwy na unwaith un mis … – pethe ddim yn iawn, a bydde hi wedi câl mynd onibai bo fi wedi gweud bo fi’n mynd.

Yr adeg ‘ma och chi ddim yn mynd fel ma nhw heddi i weud wrth bawb ”O fi’n disgwl babi”. Och chi ddim yn gweud nes bod e’n amlwg.’

Ar ôl gadael – cafodd dri o blant. Aeth hi ddim yn ôl i weithio yn y ffatri. Pan oedd yr hynaf yn ddeg oed aeth i weithio fel Home Help, blwyddyn a hanner sydd rhwng pob plentyn. Fe orffennodd yr MMB wedyn ac fe werthon nhw’r ffatri i Dairy Crest, on nhw’n cynhyrchu yr un beth. Wedyn gwerthwyd y ffatri sawl tro ac mae’n cynhyrchu powdwr a llâth o hyd.

Mae’n dal mewn cysylltiad â rhai o’r merched yn y gwaith – merched lleol on nhw – briodon nhw i gyd o’i blân hi. Ar y dechrau bydden nhw’n neud tipyn mwy, ‘dim bo ni’n siarad am yr hen amser, achos nawr, “Ble ma’r plant … “ a pethe fel’na sy ar ‘n meddwl ni. … Ambell waith ‘yn ni’n gweud “Wyt ti’n cofio …?” 

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VSW053.2.pdf