arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Meriel Leyden. Lleisiau o Lawr y Ffatri

‘FFATRI TIC TOC'

Cyfwelai: VSW015 Mrs Meriel Leyden

Dyddiad: 20: 11: 2013

Cyfwelydd: Catrin Stevens ar ran Archif Menywod Cymru

Gadawodd Meriel yr ysgol yn bymtheg oed. Bu'n gweithio mewn siop cyn cael gwaith yn Ffatri Tic Toc. Bu yno o 1955 tan 1980, pan gaeodd y ffatri. Roedd yn rhaid cael prawf llygaid gan fod y gwaith gwneud watshys yn fân iawn. Roedd yn ffatri gartrefol Gymraeg. Doedden nhw ddim yn cael siarad wrth weithio, ond roedden nhw'n canu. Sonia am yr undeb a mynd ar streic oherwydd y gwres a'r oriau hir. Disgrifia bryfocio'r dynion adeg y Nadolig a'r prentisiaid newydd; cystadleuaeth Miss Tic Toc a chymdeithasu.

Eitemau yn y stori hwn

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Cyfweliad, Meriel Leyden. Lleisiau o Lawr y Ffatri

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llun: Offer gwaith Meriel Leyden, gefel fach,...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llun: Meriel yn derbyn ei wats ar ôl 25...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llun: Taith Ffatri Smith's Industries, o bosib...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llun: Taith Ffatri Smith's Industries, o bosib...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llun: Dathliad 'stop fortnight' yn Smith's...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llun: Dathliad 'stop fortnight' yn Smith's...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llun: Dathliad 'stop fortnight' yn Smith's...

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llun: Merched Smith's Industries yn dathlu'r...

Reit, galla i gael eich enw llawn chi?

Meriel Leyden

A beth oedd eich enw chi cyn priodi?

Griffiths.

A beth oedd dyddiad eich geni chi?

Gorffennaf 13, 1934.

Nawrte, ble gaethoch chi’ch geni? Un o ble ych chi?

Geson i’n geni yn Clydach, lan bwys yr ysbyty yn gwaelod Clydach; ac wedi byw yn Clydach eriôd.

A ble aethoch chi i’r ysgol?

Ysgol Hewl Twyn-y-bedw yn Clydach, a wedyn lan i’r top – wel ma ysgol Gymrâg ‘na nawr – Ysgol Gellionnen, ond yr ysgol Secondary Modern oedd e pan on i ‘na, ond ma hi wedi altro nawr, reit ar dop y tyle yn Gellionnen.

Faint oedd ‘ch oedran chi’n gadel yr ysgol?

O, undegpump

Och chi’n moyn gadel?

Hanner a hanner, ond on i’n timlo on i ddim digon da i fynd mlân, ch’mbod, yn rai pethach – Mathemateg a pethach on i’n wael yn …

Beth am ‘ch rhieni chi wedyn? Un o ble oedd ‘ch mam?

O Clydach, gynt oedd hi’n Paddeston (?) – teulu Cymrâg, lan bwys yr ysbyty a odd yn dad o Graig Cefn Parc

Felly ych chi’n lleol iawn fan hyn ‘te?

Odyn, odyn, ddim wedi mynd mâs o’r ardal.

Beth oedd gwaith ‘ch tad?

Fuodd e’n y gwaith glo, ond odd e wedi madel â’r gwaith glo – a cwpwl o fisoedd wedi ‘ny achos odd e ddim yn gwithio ‘na ragor, cath e’i galw lan i fynd i’r Rhyfel dwetha. Buodd yn y Rhyfel …sens .. tua saith mlynedd.

A dod nôl o’r Rhyfel, beth nâth e wedyn? Odd e’n gwitho wedyn?

Wel, odd e wedi cael ofan achos bo fe wedi gadel y gwaith glo achos be fe wedi câl ’i alw lan, âth e nôl i’r gwaith glo.

Odd ‘ch mam yn gwitho o gwbwl?

Ddim pan o’n i’n tyfu lan ch’mbod, na.

Fuodd hi’n gwitho allan o’r cartre o gwbwl, neu gwraig ty odd hi?

Gwraig ty odd hi - o’n ni’n tri o blant, na pedwar o blant wedyn; achos on i’n tri o blant, fi a dau frawd, a wedyn ar ôl i dad ddod nôl o’r Rhyfel gas ‘n whâr ‘i geni.

A beth odd gwaith rheiny? Beth odd ‘ch brodyr yn neud? On nhw’n hynach na chi?

Na, un yn henach – bues e’n porter yn ysbyty Clydach am flynydde, wetyn ath e i Gwaith y Mond. A’n ail frawd, âth e i Gwaith y Mond; chm’od – Inco oedd e ond ma enw arall nawr. A’n whâr wedi ‘ny – odd hi ‘di mynd mlân yn yr ysgol ond âth hi i witho yn Pontardawe – ‘na le odd swydd – ch’mbod na fel odd e –ch’mbod yn y council office . Odd hi wedyn ‘di sefyll fan ‘na nes bod hi’n câl y plant.

3.15

Beth ‘naethoch chi ar ôl gadel yr ysgol yn bymtheg ôd?

On i wedi mynd i witho mewn siop – Home and Colonial, odd lot o nhw’n yr ardal pryd ‘ny. On i wedi cwrdd â ngwr yntefe, a on i’n gwitho trwy’r dydd, dydd Sadwrn, a odd e off ar ddydd Sadwrn, so etho i lan i’r Smiths’ Industries Ystradgynlais, oedd e’n câl ‘i alw’n Tic Toc; a fuon i fan’na wedyn am …

Ble gwrddoch chi â’ch gwr, achos mae e’n dod o’r Iwerddon on’d yw e?

Ody, ond odd e wedi dod i fyw yn Glais, a odd e, on ni wedi cwrdda yn y parc yn Clydach.

Beth odd ‘i waith e?

Odd e’n mynd i’r Mond. Odd pawb yn yr ardal hon, odd lot o nhw yn gwithio yn y Mond. Odd e’n employment da, wedyn âth e draw i BP yn Baglan Bay wedi ‘ny. Mae hwnna wedi cau lawr nawr …

Ody, ody. Yn y Mond, odd lot o, odd menywod yn gwitho fan ‘na ar y pryd, neu dim ond dynion?

Na, dim ond dynion, ond menywod odd yn y cantîn i gyd, ch’mbod. Odd lot, lot o fenywod yn gwitho ‘na.

Wedyn, faint odd ‘ch oedran chi’n dechre, nawrte yn Smiths’ Industries, yn Tic Toc?

Un ar ucen, mmm … un ar ucen.

Och chi’n gorffod câl rhyw test, neu rywbeth? Shwt aethoch chi i withio ‘na?

On i ‘di hala form miwn a wedi ‘ny on i ‘di câl – on nhw’n testo chi – ‘ch llyged, achos pethach mân, mân ch’mbod. Och chi’n gorffod gwisgo glass - eyeglass trwy’r amser, a un part … beth och chi’n neud - och chi’n dishgwl trwy microscope i neud y pethach bach hyn ch’mbod, so och chi’n paso’r test os odd ‘ch llyged chi’n dda.

Reit, yr unig dest och chi’n gorffod neud odd i weld os odd ‘ch llyged chi … dim bo chi’n gorffod câl rhyw ‘A levels’ na ‘O levels’, na dim byd fel ‘na o gwbwl …

Na, na.

Dim byd fel ‘na o gwbwl? Pan aethoch chi ‘na chm’bod, gethoch chi fel cyfweliad, interview, o gwbwl neu?

O do, odd ‘na interview, a on i’n gorffod mynd am chest xray achos on nhw’n gorffod neud yn siwr bo chi – a on i’n gorffod mynd i weld y doctor, i weld bod popeth yn olreit o ran iechyd yntefe, a on nhw ddim yn cymryd chi os nag och chi’n … Na, ond odd y bechingalw, yr interview yn strict, odd popeth i neud â bo chi’n gallu gweld yn reit a deall, ch’mbod, odd dim ...

5.58

Och chi’n câl ‘ch hyfforddi wedi ‘ny wrth neud y gwaith, ch’mbod …?

On, on.

Reit, so am gyfnod och chi’n câl ‘ch dysgu shwt i neud e, ife? Shwt naethoch chi ‘ny?

Och chi’n gorffod mynd i wahanol llefydd, parts o fe. On i wedi dechre yn part, a pethach mwy mawr, ond on i ‘di mynd wedyn i part arall, on nhw’n symud pethach rownd, a wedyn on i ‘di mynd lan i’r assembly; ond och chi’n câl ‘ch dysgu ch’mbod , a och chi’n gorffod cario mlân ‘ch hunan wedi ‘ny. On i’n neud - yn un part on i’n dodi’r springs bach yn y watch – O! och chi’n gorffod bod yn garcus, och chi’n gorffod cinco nhw a pethach fel ‘na. A wedyn bydde rhywun yn - bydde inspection, chi’n gweld, yn tsieco lan, a wedyn, os odd lot o nhw’n wrong, och chi’n gorffod câl nhw nôl …

Och chi wedyn ‘te wedi dysgu lot o wahanol bethe cyn bo chi’n mynd i wneud, i arbenigo ar un peth?

O ie, ie.

Reit, reit, ocê, iawn. Odd ‘na lot o ferched o’r ardal ‘ma yn mynd lan i Tic Toc?

Wel, ddim gymint, ond odd lot fach o’r ardal hyn. Ond o’r ardal hyn lan; odd lot o lan Ystalyfera, Cwmllynfell, Cwm Twrch a Ystradgynlais; a beth odd yn dda lan ‘na – odd lot, lot o Gwmrâg ‘na a ch’mbod och chi’n timlo fwy cartrefol, achos dâth un ferch fach i witho ‘na, odd hi ‘di priodi, a odd hi arfer gwitho yn Mettoy a rheina lawr yn Fforestfach, a odd hi’n gweud, ‘O! na wahanieth oedd e. …’, gweud wrthoch chi’r gwir, nag odd e fel ffactri – odd gwaith mân ond odd e’n lân, - ond odd community spirit ‘na. Odd e, on i wedi mwynhau ‘na.

Da iawn. Reit, felly, beth on nhw’n gynhyrchu yn y ffatri i gyd – jyst watchys neu?

Wel, odd dau part ‘na. Odd un part yn neud clocs – ond on i ‘nawr, odd yr ardal on i yndo odd dim ond watchys, a watchys poced, ond y part on i’n gwitho odd ar y rhai lleia.

Watchys poced on nhw i gyd ife?

Na, na.

Watchys bach hefyd?

Watchys bach ch’mbod, … ond odd part odd ‘na – lines on nhw’n galw nhw, odd un lein a on nhw’n neud pocedi – i poced, ch’mbod, a wedyn odd un lein wedyn yn neud y rhai lleia a wedyn bydde un lein yn neud y rhai lleia. A on nhw’n paco nhw yn un lle a odd un part mawr – machine shop, on nhw neud lot o’r parte mwya, ch’mbod, a odd lot o machines mawr lawr fan’na, lot o waith mlân, ond on i’n beth on nhw’n galw fe - assembly.

9.05

Beth odd agwedd y bobol leol at ferched odd yn gwitho mewn ffatri, ch’mbod, on nhw’n meddwl bod e’n waith da, neu … Beth odd pobol yn yr ardal ‘ma, odd ddim yn gwitho mewn ffactri, beth on nhw’n meddwl o merched ffatri.

Wel, am y ffactri ‘na, wi’n credu on nhw’n meddwl ‘Oh, you work in the Tick Tock, do you? Oh yes and …’. Wel, odd ffactris lan man hyn yn Pontardawe, ond na, odd dim lot o, ch’mbod, neb yn gweud. Wel odd e’n lân, achos on i’n gorffod dodi overall arno; on i’n gorffod watcho, odd dim ffenest yn gallu agor ‘na, achos on nhw ddim moyn i’r dwst fynd mewn at y watchys, … achos och chi’n gorffod bod mor garcus. Ie, odd neb yn gweud … ch’mbod.

Och chi’n cofio’ch diwrnod cynta ‘na o gwbwl?

O’n, a on i ddim yn lico fe, a detho i tsha thre a on i’n gweud ‘Wi ddim yn timlo fel mynd nôl ‘na’, a pan on i wedi dechre odd e o hanner awr wedi saith yn y bore nes bo pump. Ond wedi ‘ny odd e – yr undeb a llai o orie, wedyn âth e o bump i hanner awr wedi pedwar, ond âth e wedi ‘ny i bedwar, na sori, i hanner awr wedi pedwar ond pedwar ar ddydd Gwener. On ni’n meddwl bo ni’n câl gwylie ar ddydd Gwener – o’n ni’n gorffen, fel odd yr orie yn mynd yn llai a on i’n dod yn fwy cyfarwydd ag e, ac etho i i’r part hyn a on i’n lico’r part hyn. Ond O, on i ddim yn lico fe yn y dechre.

Pam ‘ny te? Yr orie’n hir ife? Teimlo bod yr amser yn hir?

Odd yr orie’n hir, … odd pawb yn gartrefol ond och chi’n timlo yn yr un man ch’mbod, o’n i’n ffaelu rato (?) hyn ‘Oh! We were all like this when we start’ - allen i fod wedi llefen ar ‘n niwrnod cynta, on i ddim yn lico. A odd y foreman yn dod rownd a gweud – on i’n gweld e’n ddiarth.

Faint o ferched odd yn gwitho ‘na, fyddech chi’n gweud? Faint odd yn gwitho gyda chi yn ‘ch lle bach chi, nawr ‘te?

O, wel, odd byti hanner cant, dim ond o’r part ‘na beth o’n nhw’n galw’n assembly, y shop … ch’mbod.

Dros hanner cant yn y pishyn ‘na a hwnna dim ond pishyn bach o’r ffactri? Reit.

Ie, ie, a part, fel on i’n gweud, y machine shop, a part wedyn ‘ny lle odd lot o ddynion mwy ch’mbod, lawr y gwaelod. A dynion droston ni yntefe, ch’mbod ..

Felly odd ‘na ddynion yn gwitho ‘na. Tua faint o fenywod i gymharu â faint o ddynion? Odd mwy o fenywod?

O, mwy o menywod, achos y dynion o’dd dim ond y foremen, a’r charge hands a pethach fel ‘na ch’mbod. Odd lot, lot o fenywod yn gwitho ‘na.

A o’n nhw’n edrych ar ôl y perianne hefyd falle on nhw? – y dynion yn gofalu am y peirianne - maintenance hefyd?

O, ie, o’dd maintenance department ‘na ch’mbod – maintenance a machine shop a pethach fel ‘na.

Och chi’n cadw at ‘ch grwp bach o ffrindie yn y lle och chi’n gwitho, och chi?

Och chi’n dod yn gyfarwydd â nhw ch’mbod a on ni’n câl bach o sbort – odd dim radios ‘na na dim fel’na; so beth on ni’n neud – bydde grwp bach yn dechre canu a bydden ni i gyd yn cau.

Odd dim miwsig tra bo chi’n gwitho na dim byd fel ‘na?

Na, na, so odd y merched yn neud ‘u miwsig ‘u hunan.

Beth o’ch chi’n ganu nawr te?

Wel, o’dd un grwp bach, a Ruth odd enw’r fenyw hyn a bydde hi ‘Come on, ferched “Calon Lân ..” a bydde pawb yn mwynha a wedyn pan fydde’n Nadolig yn dod bydden ni’n canu carolau, fel o’n ni’n gwitho, ch’mbod … a odd, o’n ni’n cal …

Felly, jyst rhywun yn dechre fe a rhywun yn mwynhau canu. Odd hwnna’n help i chi, chi’n meddwl, i witho?

O, o’dd – o’n i yn --- gallech chi feddwl bod ni i gyd yn nabod ers blynydde, ac os bydde rhywun newydd yn dechre, ‘ma’r amser bydde hi’n setlo lawr, ch’mbod.

13.10

O’dd y canu’n help i chi, ch’mbod, i gâl y pethe’n iawn wrth witho – câl y rythm neu rywbeth fel ‘na neu jyst?

O’dd e wedi mynd, o’n i ddim yn … o’dd e’n rhwbeth o’dd yn dod i chi, fel, ch’mbod. On nhw bach yn strict ‘na cofiwch. Och chi ddim fod i siarad, o’n ni yn siarad, ond o’ch chi ddim fod i siarad. O’n nhw nôl a mlân, y foremen a’r charge hands lan a lawr. Odd y charge hands yn dod i neud pethach i chi, odd y foremen os odd pethe’n mynd yn wrong, on nhw’n gofalu ‘te ife, achos on nhw’n gorffod watsho pethe’n mynd mlan yntefe …

Och chi ddim fod i siarad te?

Na, o’ch chi fod mynd mlân â’ch gwaith.

O’ch chi fod i ganolbwyntio te ife?

Nag odd e’r teip o waith, odd e’n lot o waith, o’ch chi’n ffaelu, o’ch chi i fod i ddishgwl, a o’n i chwel, o’dd job bach ‘da fi, o’n i lawr fel hyn – reit lawr fel hyn …

Gyda eyeglass fel ‘na?

Ie, gyda’r eyeglass yna.

O’dd hwnna siwr o fod yn drwm odd e, ch’mbod?

O’dd, o’dd e, ie. A golau lawr ar ben, lawr fel na.

Am faint fyddech chi’n gorffod canolbwyntio fel ‘na ar y tro ‘te?

Wel, trwy’r dydd! O’ch chi’n câl hanner awr i gino. Hanner awr wedi deuddeg i un a och chi’n câl unarddeg nawr - dishgled o de ond och chi fod i sefyll fan’na. Nag on ni’n mynd fel grwp – on ni’n sefyll fan ‘na, ond o’n ni yn mynd i cantîn o hanner awr wedi deuddeg i un, neu ta ble och chi’n moyn. Yn yr (h)af on ni’n iste mâs, ch’mbod.

Ond och chi’n gorffod iste wrth ‘ch station wedyn - wrth ‘ch set. Odd rhywun yn dod rownd â te i chi ‘te oedd e? Shwt och chi’n câl ‘ch te?

On nhw’n dod â te rownd, ond o’dd lot o ni, fel odd blynydde’n mynd mlân yn mynd â’n fflasgs ‘n hunen ch’mbod, a’n dishgle’n hunen. Ond och chi ddim fod i fyta, na ddim fod i fyta, achos y crumbs yn mynd miwn i’r watchys, chi’n gweld, a chi ddim … so o’n ni’n mynd wedi ‘ny - hanner awr . Odd rhai yn sneakan – yn mynd â pethach yn dawel fach, ch’mbod … ond na – o’n nhw yn strict fel na; wel on nhw’n gorffod bod gyda watchys ond on nhw?

So, odd y shifft – beth odd y prif amser och chi wedi gwitho ‘te? Faint o’r gloch o’ch chi’n dechre yn y bore?

Hanner awr wedi saith i …

Bump ife?

Ie, a wedyn âth e mlân i hanner awr wedi pedwar wedi ‘ny. Hanner awr odd e ond hanner awr .. (esgusodwch fi). A wedi ‘ny odd y bysys yn dod – O! odd e’n bechingalw i weld y bysys o’dd yn dod miwn i’r ffactri ch’mbod i bigo chi lan – dod â chi yn y bore …

15.44

So, o’dd bys yn dod â chi o Glydach …?

Ie, … nage, nage .. on i’n dala bysys o Glydach yntife, ond o’n nhw’n dod o - draw o Gwmllynfell a Rhydaman a wedyn bydden nhw’n mynd o Seven Sisters draw o fan’na a bobman, a wedyn bydden nhw’n dod nol wedyn i bigo nhw nôl chwel. Ond on i’n gwitho ‘na pan âth - chi’n cofio Godre’r Graig a’r hewl yn mynd? Wel, o’n i’n mynd fan ‘na am sbel, o’n i’n câl bys lawr, o’n i’n gorffod dod off y bys ‘na wedi ‘ny, croesi’r hewl acha pafin bach, a’r bys yn cwnnu ni lan yr ochor arall – chi’n cofio - odd yr hewl wedi mynd, o’n i ‘na’r amser ‘ny.

Odd bys ‘da Tic Toc yn dod i moyn chi fan hyn odd e? Neu o’ch chi’n dal service bus?

Na, na on ni’n dala service bus. Service bus odd ‘da ni on i’n mynd ar ei gyfer e, ond odd lot o’r llefydd hyn nawr fel Seven Sisters a Banwen a draw fan’na, o’n nhw’n câl bysys yn dod â nhw a pigo nhw lan. Ond O! pan och chi’n mynd mâs yn y nos, odd e’n gomical, unwaith odd y bell yn mynd, wel, odd e, wel, odd e’n bechingalw i watchan e, o’dd neb yn cered e  – on nhw gyd yn raso mâs i ddala’r bys a gorffod cloco mâs chwel. On ni’n mynd fel anifeilied yn dod mâs o’r sw!

Och chi’n gorffod dal service bus gartre wedyn?

O’n, o’n ond odd e jyst fan’na ch’mbod. Ond fel âth amser mlan, blynydde mlân, odd rhai yn cal ceir yntefe, so wedi ‘ny o’n i, yn y diwedd o’dd menyw fach o Graig Cefn Parc , o’dd hi’n dod â car wrth ‘i hunan, so beth on i’n neud wedi ‘ny, - o’dd hi wrth ‘i hunan a odd tair o ni – o’n i’n rhoi, talu iddi hi wedi ‘ny. … So odd e fwy cyfleus wedi ‘ny.

O’dd y rhai odd yn câl bysys, gwedwch o Gwmllynfell .. o’n nhw’n gorffod talu am y bysys ‘na?

O’n, o’n i’n gorffod talu am y bysys chwel. O’n. Ond o’dd e’n bechingalw i weld – pawb yn mynd ‘i ffordde, i wahanol ffordde … a dod yn y bore.

Och chi’n gorffod cloco miwn yn y bore?

O’n , o’n.

A’n y nos wedyn?

A mâs yn y nos. A sech chi’n cloco miwn ar ôl seven thirty ar y cloc, o’ch chi’n colli cwarter, ac os os chi ar ôl cwarter i wyth o’ch chi’n colli hanner awr, a fel ‘na odd hi.

Chi’n cofio beth o’dd ‘ch tâl cynta chi nawr ‘te? Y ‘ch paypacket? Bob wythnos och chi’n câl ‘ch talu ife?

Ie, o, beth o’dd e? Wi ddim yn gwbod os odd e’n wyth punt rywbeth … ?

Pryd dechreuoch chi? Beth odd y dyddiad? Pwy flwyddyn?

Ym Mawrth - O yn 1955 … a o’n i ‘di gorffen yn 1980.

Dauddeg pum mlynedd?

18.59

Ie, a bydden i ddim wedi gorffen bryd ‘ny, wi ddim yn credu, sen nhw ddim wedi cau lawr. O, o’dd y tristwch ‘na, achos odd lot yn dibynnu arno fe, reit rownd yr ardal ‘na, yn dibynnu ar y lle.

O’ch chi, nawr’te yn briod pan ddechreuoch chi ‘te, och chi?

O’n i wedi bod yn briod tair wythnos (chwerthin).

Reit, wedyn, pan och chi’n dod gartre â’r paypacket ‘ma, beth odd yn digwydd i’r paypacket? Sut o’ch chi’n defnyddio’ch pae? Achos odd ‘ch gwr yn ennill hefyd on’d oedd e? Beth och chi wedi brynu nawr’te, beth o’ch chi’n brynu gyda’ch …?

Wel, o’n ni’n byw ‘da mam am sbel fach, ond on ni wedi prynu ty bach, chi’n gwbod, o’n ni’n prynu at y ty - … excitement wedi ‘ny – talu at y ty, achos newydd briodi o’n ni ch’mbod, so o’dd arian y ddou yn mynd at ‘ny.

O’ch chi’n meddwl am ‘ch tâl chi fel rhywbeth extra neu o’dd e’n rhywbeth … ch’mbod achos weithe o’n nhw’n meddwl bod merched ddim ond yn mynd mâs i ennill, ch’mbod, pinmoney? O’ch chi’n meddwl amdano fe fel rhywbeth mwy na ‘na?

(Pin-money, ie). Ie, o’n i yn, achos odd e’n helpu i brynu pethach at y ty fel ‘na ch’mbod yntefe? O na, o’dd lot yn - fel pin-money, cofiwch.

Reit, os och chi’n gwitho, fyddech chi’n meddwl am ych hunan fel rhywun â sgil – skilled work o’dd hwnna? Shwt odd e’n cal ‘i …

Wel, ‘na beth od, o’n i wedi ffindio hen … hen - nawr ac yn y man on nhw’n hala agreement ‘ma a semi-skilled, ond nag o’n i’n meddwl fel ‘na – ond semi-skilled odd e’n câl ‘i alw.

Ond odd e’n skilled mewn gwirionedd on’d odd e, siwr o fod? Mae’n siwr bod e’n neud gwahanieth I’r arian o’ch chi’n câl, os o’ch chi’n skilled neu’n semi-skilled, o’dd e?

Na, o’dd e’n meddwl faint och chi’n neud yn y dydd. Och chi’n câl bonus chi’n gweld – a o’ch chi’n gorffod neud – O wi ddim yn cofio nawr, achos o’n i ddim, o’n i ddim yr un mwya bechingalw?, ond na o’dd, och chi’n gorffod neud, o wn i ddim faint y dydd, o’r rhai bach hyn; on nhw acha trays bach, seis ‘na â twlle; och chi’n dodi hairsprings ‘te mewn fan’na, och chi’n dodi nhw mewn fan’na. O och chi’n gorffod neud byti naw cant y dydd.

Arglwydd mawr! Och chi’n dod i ben â neud ‘na?

Mwya, ond os o’ch chi’n siarad, odd ‘da chi ddim amser i siarad o’ch chi’n gorfod … , odd e’n dibynnu ch’mbod; on i’n câl mwy o bae wedyn yntefe?

So o’ch chi’n câl mwy o bae ‘n extra os os chi …?

Ie, bonus, chi’n gweld, o’ch chi’n gorffod neud (yn plygu lawr yn gwisgo’r eyeglass).

O’dd hwnna’n waith caled ‘te?

Odd e’n waith caled ar y lliced ch’mbod a och chi lawr fel hyn o hyd. Ond nag on i’n gwisgo glasses bryd ‘ny. Yn ddiweddar, yn y blynydde diwetha ‘ma, ma’n lliced i wedi mynd. Ma’n nhw wedi bod yn dda am flynydde.

Chi’n meddwl mai effaith y gwaith yw hwnna?

Alle fe fod, chwel, bownd o fod yntefe, ch’mbod.

22.02

Dyw’ch cefen chi ddim wedi mynd – yn pwyso lawr fel ‘na trwy’r amser?

Na, na, na. …

Beth o’ch chi’n wisgo nawrte i’r gwaith a pwy o’dd yn rhoi hwnna i chi neu o’ch chi’n prynu fe’ch hunan ne…?

Wel, yn y dechre, o’ch chi’n gwisgo overalls gwyn, sleeves hir, yn botwno’n y bac a o’n nhw lan i fan hyn. Ond fel o’dd amser yn mynd mlân o’dd pethach wedi gwella a merched wedi gofyn os gallsen ni brynu rhai’n hunen a o’n ni’n prynu rhai lliwgar yntefe a dim gymaint o … Achos pan o’n i wedi dechre ‘na o’dd dim, o’dd dim ffenestr ar agor ‘na, o’dd dim ffenest ar agor pan o’n i’n gorffen, ond o’n nhw wedi relacso bach ar yr – achos geson ni (h)af twym, twym; wel chi’n gwybod, dim ffenest ar agor, o’dd streic wedi ‘ny! (chwerthin) O’n nhw’n ffaelu câl y ffenest ar agor ond o’n nhw ‘di dod â pethach miwn o’n nhw’n gallu … fan …

So am y dillad cynta ‘ma nawr - yr overalls mawr ‘ma, pwy ddefnydd o’n nhw – cotton?

Cotton, ie. Wi’n ‘di whilo am lun – odd llun y merched i gyd yndyn nhw ond dwi’n ffaelu’n deg â ffindio fe. A Mam, yn ty Mam, (ma hi di marw) o’n i’n gadel llunie, a wetws y gwr wythnos hyn ‘I bet that was with your mother – you don’t know where your mother’s things are …’ O’n nhw’n botwno lan fan hyn – o’n nhw’n hela fi meddwl am operating - chm’bod – gowns. A o’n nhw’n cauad fan hyn.

O’ch chi’n câl rheina gyda’r gwaith? O’n nhw’n rhoi rheina i chi …?

O , odd neb yn lico nhw lot.

O’n nhw’n golchi nhw wedyn i chi?

Na, och chi’n gorffod golchi’ch hunen a och chi’n gorffod tynnu nhw off cyn mynd mas o’r …

Beth am y pen, o’ch chi’n gorffod gwisgo rhywbeth dros ‘ch gwallt?

Na, na.

A sgidie cyffredin ife?

O ie, sgidie cyffredin, ie.

O’ch chi’n iste lawr wrth witho nawr o’ch chi?

O’ch chi’n eiste lawr trwy’r dydd. ‘Odd rhai yn wahanol - part. O’n ni’n whech – ni o’dd â’r job hyn – wel, tu ol i chi wedyn falle bydde hi’n iste lan a rhoi thing bach a dim ond hwpo fe miwn i neud twll a bydde hi’n presso – O’n ni i gyd yn neud yn wahanol part o watsh ch’mbod.

Rhan o Assembly odd e ‘te?

Ie, ‘na chi, rhan o assembly. A wedyn rownd y cornel o’n nhw’n câl ‘u paco.

So, o’n nhw’n mynd wrthoch chi wedyn at rywun arall i neud … Beth fydde’r peth nesa wedyn i gâl ‘i neud.

Wel, o’n i’n doti’r hairsprings ‘ma miwn, a wetyn odd y ferch tu ôl yn cydio part bach ohono fe lan a doti fe miwn i’r machine bach hyn a o’dd hi’n presso a oedd e’n cydio mewn anchor bach – o bach, bach – o’ch chi’n câl gwaith gweld e - a wetyn odd e’n mynd lan i doti ar hwn a ar wheel bach arall a fel ‘na odd e’n mynd ch’mbod.

25.07

Och chi’n gweld y rhai oedd berchen y lle o gwbwl – on nhw’n dod i’r ffatri?

O’n, o’n nhw’n dod.

Pwy o’n nhw? Chi’n cofio nhw?

O’dd y dyn ‘na o’dd yn y llun ‘da fi nawr – Mr Boult, yn byw yn Clydach. Godws e ty yn Clydach …

O’dd e berchen e neu manager o’dd e …?

Na, na Smiths’ Industries - watchys – so nhw’n mynd nawr – watch Smiths – o’n nhw boblogedd iawn a Smiths clocks – cloc larwm. On nhw drws nesa - yr un grounds ond drws nesa … a o’dd y fformen wedyn; dâth lot lawr i witho ‘na, a o’dd tai tu ôl wedi câl ‘u bildo yn Ystradgynlais a o’dd y dynion, o’n nhw’n byw yn y tai – wi’n credu tai y ffactri (o’n nhw’n dai neis). Ond, o’n nhw ‘di dod o part o fe yn Cheltenham?

O, o Loeger ‘te – wedi dod yn special i witho. O’n nhw’n arbennig o skilled – neu beth odd? – o’dd mwy o sgilie gyda nhw?

Wel, o’n nhw’n deall y watchys a wedyn on nhw’n mynd rownd a gweld parts – nhw o’dd y fformen a dynion mwy lan na’r fformen, ch’mbod.

Oedd ‘da chi – pwy o’dd yn dweud wrthoch chi beth i wneud bob dydd? Pwy o’dd y person o’dd yn gweud hynna? Beth o’dd enw’r swydd ‘na?

Fforman o’n nhw wedyn ‘ny. Ond och chi nawr och chi’n gwbod beth och chi’n mynd i neud bob dydd, pan och chi’n mynd mewn, ch’mbod - ar y lein och chi’n troi rownd neu’i troi a’i godi fe lan - odd y ferch ddiwetha wedi’i neud e ch’mbod – yn yr assembly wedyn – o’ch chi’n gwbod .

So beth o’dd gwaith - Y fforman o’dd yn gwneud ‘na - a dynion o’dd y fformen ife i gyd?

Dynion odd y fformen i gyd

Dim un menyw?

Dim un menyw.

O’ch chi ddim yn gallu mynd mlân - fysech chi wedi lico mynd lan i neud ‘na?

Na, odd dim un ohonyn nhw – na, dynion o’n nhw i gyd, ch’mbod.

Odd dim cyfle i fenyw neud y job?

O na, na.

Beth odd gwaith y chargehand te? O’ch chi’n sôn am chargehand o’ch chi – beth o’dd ‘i waith e? dynion o’n nhw hefyd?

Ie, ie. Wel o’n nhw gyda’r fformen ch’mbod – o’dd chargehand mwy o help i chi os o’ch chi’n gweud ‘O ma hwn …’ bydde fe’n iste gyda chi wedyn yn trial neud e, a o’dd fforman ambell waith, ond o’dd e mwy dros bawb – ie.

A dim menywod yn neud dim un o’r jobs ‘na?

Na, na.

Byddech chi wedi lico mynd mlân i neud rhywbeth arall neu o’dd hwnna’n olreit?

Wel, o’dd hwnna’n olreit ar y pryd ch’mbod, ie.

O’ch chi ddim yn ffindio’r gwaith ‘na yn undonog – rownd a rownd?

O’n, o’n, o’dd e yn. (Chwerthin) Wi’n credu ‘na pam o’n ni’n canu.

A o’ch chi’n sôn bo chi’n siarad – pwy iaith o’ch chi’n siarad fwya ‘na?

O Cwmrâg, ie. Cwmrâg. O’dd rhai Sisneg ‘na, ond o’dd gyment o Gwmrâg, a wi’n gorffod gweud, o’dd pawb mor gartrefol. O’ch chi’n dod miwn a os o’dd rhywbeth wedi bod yn mynd mlân o’ch chi’n, ch’mbod. Odd pawb mor gartrefol ‘na, achos lan Cwm Twrch, Cwmllynfell, Ystradgynlais o’n nhw i gyd yn Gwmrâg a wrth gwrs o’n nhw’n dod lawr … wi’n credu mai dyna beth o’dd mor dda ambyti fe bod cymint o Gwmrâg lan ‘na, chi’n gwbod.

28.24

Reit – o’ch chi’n briod on’d o’ch chi yn gwitho ‘na– Odd lot o fenywod priod yn gwitho yna?

O’dd, o’dd a lot yn priodi rownd yr amser ‘ny – yr oedran yntefe – o’dd lot yn priodi ch’mbod a o’ch chi’n câl (h)anes y briodas a o’n ni’n mynd i weld, ne o’n ni’n câl invite i peth o nhw, ond lot, lot yn priodi a wedyn lot lot yn gorffen i gâl plant yntife.

Gethoch chi blant?

Na,

Reit, beth o’dd yn digwydd wedyn os o’n nhw’n câl plant? On nhw’n gorffod gadel?

O’n nhw’n gorffod gadel. Ond o’dd peth o’n nhw’n dod nôl ond dim fel ma hi (h)eddi ch’mbod, ma maternity leave (h)eddi on’d os e? Wi ddim yn credu bod hwnna bryd ‘ny, ond falle o’dd e. Ond o’dd lot o nhw yn dod nôl. Fel on nhw’n gweud, o’dd rhai o nhw’n gweud o’n nhw’n gorffod dod nôl ife, ch’mbod.

Ond yn amlwg bo chi’n mwynhau’r gymdeithas yna beth bynnag am y gwaith ‘i hunan?

Na beth odd rhai yn gweud ‘Oh! I’m fed up here, but there we are, we have a laugh’ o’n nhw’n gweud ch’mbod.

Gethoch chi godiad cyflog o gwbwl – o’ch chi’n gweud mai rhywbeth fel wyth bunt o’ch chi’n gâl? Shwt odd hwnna’n gwitho? O’ch chi’n câl hyn a hyn bob blwyddyn yn fwy?

Ie, mynd lan a lan bob blwyddyn, o’n ni’n câl ‘na. Pythefnos o holidays – last week of … beth o’n nhw’n gweud - diwedd Chwefror a dechre Awst – o’dd y ffactri yn cau lawr wedyn am bythefnos chi’n gweld.

So wythnos ym mis Chwefror ife …?

Na wythnos yn - nace Chwefror.

Gorffennaf?

Gorffennaf, a wedyn wythnos last week of July first week of August - popeth yn cau lawr wedi ‘ny. Neb yn gwitho.

A beth o’ch chi’n neud yn ‘ch gwylie? Ble och chi’n mynd?

O, o’n ni’n dechre mynd – O o’n ni’n excited – ethon ni - y flwyddyn gynta ethon ni i Rimini ch’mbod. A o’n i’n meddwl bo fi’n wonderful - o ar ni, ch’mbod – rhywun ‘n mynd fan hyn a rhywun fan ‘na. A o’dd lot o excitement yn yr wthnos cyn bo ni’n torri lan, a bydde’r fformen yn gweud ‘Oh! Girls, we’ll be glad to see you all going out of the way’. A lot o sbort yn poeni’r dynion yn mynd mlân ‘na ch’mbod – poeni nhw – O!

Reit, odd ‘na unrhyw ‘perks’ wedyn o withio yn y ffactri? Fel, o’ch chi’n câl watchys yn tshepach neu clocs yn tshepach neu rywbeth fel’na?

O’n ni’n câl rywfaint off nhw, ch’mbod, o’n.

Unrhyw bryd yn y flwyddyn ne?

O ie, ie. Ond och chi’n gorffod mynd lan wedi ‘ny bwys y le o’n nhw – y main office – o’dd lle bach ‘da nhw fan ‘na a on nhw’n gwerthu jewellery a pethach – on ni’n câl tamed bach off fan ‘na. Ond am perks arall – na.

Odd siop fach ‘da nhw ‘na ‘te o’dd e?

Odd, ‘na fe.

Chi’n gwbod y shifts o’ch chi ‘di sôn amdanyn nhw nawr, och chi’n gweud bo chi’n gwitho – o’dd shifts yn y ffatri? On nhw’n gwitho nos ne ..?

O’dd, ond dim yn nos. Ond dechreuon nhw shifts a dâth lot o mame plant nôl. On nhw’n galw fe’n swing shift – odd e’n cario mlân – o’n ni’n gorffen am hanner awr wedi pedwar nawr, a o’n nhw’n dod miwn am hanner awr wedi pedwar i byti naw ne ddeg. Wel, o’dd e’n siwto nhw wedyn achos falle bod ‘u gwyr nhw’n gwitho yn y dydd a unwaith – o’n nhw’n gallu dod miwn wedyn achos o’dd rhywun ‘da’r plant, chi’n gweld. Odd lot yn gwitho shift a swing shift o’n nhw’n galw fe. Dechreuon nhw hwnna, ddim pan o’n i ‘na dechreuodd e a odd e’n boblogedd iawn.

Ond dim pam och chi ‘na o gwbwl? Ie amser o’ch chi na, ond fuoch chi ddim ar y swing shift o gwbwl?

Na, na o’dd e’n dechre fwyaf i rai odd â plant ch’mbod.

32.14

Reit, beth am undebe llafur nawrte? O’ch chi’n aelod o undeb?

O’n, odd yr undeb yn gryf ‘na.

Pa undeb odd hi?

AEU – Amalgamated Engineering Union – a dyn drosto ni am sbel – David Bowen odd e o …? Ystalyfera ond o’dd e’n gweud wrthon ni shwrne, ‘You’re like a lot of sheep. One says ‘out’ you all want to go out. You don’t think’. Geson ni sawl streic ‘na cofiwch.

O’ch chi’n ymuno ch’mbod – o’ch chi’n câl dewis p’run a och chi’n ymuno neu o’ch chi jyst yn teimlo bod rhaid i chi ymuno?

Wel, och chi’n timlo bod rhaid i chi ymuno – pawb yn, chmbod – ymuno, ie.

O’ch chi’n hapus bod yr arian ‘na’n mynd wedyn – achos odd e’n mynd i’r Blaid Lafur on’d odd e? O’ch chi’n hapus bod yr arian yn mynd i’r Blaid Lafur? O’dd dim trwbwl ambyti ‘na o gwbwl?

(Chwerthin) Wel, o’n i’n meddwl o’dd rhaid i ni – O’n nhw’n dod rownd i glasglu ch’mbod – yr undeb yntefe. Odd neb yn gweud dim.

O’n nhw’n casglu bob wthnos neu bob mis neu …?

Bob pythefnos.

Bob pythefnos. Faint o’ch chi’n gorfod talu at yr undeb?

O’dd e ddim lot. O jiw …

Odd ‘na sawl undeb ‘na neu jyst hwnna?

Na’r un un – p’run a o’dd undeb arall da’r fformyn a pethach. O’dd yr undeb yn gryf ‘na ch’mbod. O’n nhw’n erfyn i chi joino ‘ten.

O’ch chi’n sôn am gwpwl o streics nawr – am beth o’ch chi’n streico nawr. Gwedwch rai o’r hanesion.

Am bod hi’n rhy dwym – o’n ni’n ffaelu gwitho achos o’dd dim ffresh aer ‘da ni a geson ni hwnna’n streic.

Am faint fuoch chi mas ‘da hwnna?

Wi’n cretu buon ni bythti wthnos neu ddou mas ‘da hwnna. A wedyn geson ni ..

Pwy odd wedi dechre hwnna – pwy odd…?

Y merched i gyd yn conan – o! odd hi’n dwym ofnadw a dim bechingalw lan le o’n ni yntefe. ‘Oh, Come on’, merch o’dd ar yr undeb ‘da ni, ‘We can’t put up with this. We’ll have to call a strike’. A wedyn o’dd y dyn droston ni, mâs tu fâs, ar yr iard o’n ni’n cal y streic, ble o’n ni’n câl y bechingalw, so off â ni gyd sha thre. Geson ni streic am rywbeth arall – wi’n ffaelu cofio nawr – ambyti’r orie a fi’n cretu falle bod gwaith yn brin – fi’n cretu – rhywbeth fel ‘na. A o’n i’n dod sha thre a on i’n gweud wrth y gwr – ‘We’re on strike’. ‘Oh, what are you on strike for?’ ‘Well, I don’t really know’ (chwerthin). Mae’n gwyddil i weud – odd e’n explaino ond o’dd ffydd ‘da ni yndo fe a odd e’n explaino a on i’n meddwl – wel y peth on i ffaelu – wel odd hwnna’n reit bythti rhy dwym i witho ch’mbod.

35.19

O’ch chi’n meddwl bod y gweithwyr ‘na yn cael eu trin yn deg yn y ffatri, ch’mbod?

O o’n, on nhw’n câl ‘u trin yn deg – yn enwedig fel odd blynydde’n mynd mlân. Yn dechre o’dd e’n strict ofnadw ond fel o’dd blynydde’n mynd mlân odd lot o bethach wedi altro ‘na ch’mbod.

Fuoch chi’n un o swyddogion yr undeb o gwbwl, ‘ch hunan?

Na, na.

Reit, shwt o’ch chi’n edrych ar y swyddogion? Och chi’n sôn am un nawr – o’ch chi’n edrych lan atyn nhw a timlo bod nhw’n gwbod eu gwaith?

Wel o’dd, peth o nhw, ond o’dd un fenyw fach yn part arall nawr – Iris Badisson (?) o’dd hi’n dda ar yr undeb. Fues hi am flynydde ‘na a on i’n amal yn mynd a gofyn iddi hi. ‘Odych chi’n meddwl?’ ‘Watshwch nawr - pidwch â neud rhywbeth sili nawr, pethach - newch hwn.’ Odd hi’n gallu’n rhoi lot o bechingalw i chi ch’mbod.

Ond o’dd angen undeb ‘na yn odd e, ch’mbod?

O’dd, o’dd angen, o’dd ishe undeb ‘na ch’mbod, odd raid, neu bydden nhw wedi’n trin ni fel on nhw’n dewis, fi’n credo, ch’mbod. A pan on ni’n wmladd am gâl llai – o’n ni’n gwitho pedwar deg a phedwar o orie yr wthnos o’dd yr undeb yn wmladd i ni gâl gwithio llai, ch’mbod, âth e lawr i pedwar deg dau a âth e lawr yn y diwedd i pedwar deg. So yr undeb o’dd wedi ymladd am rheina yntefe?

O’ch chi’n sôn am gâl ‘ch talu; shwt o’ch chi’n câl ‘ch talu? O’ch chi’n câl arian mewn amlen …?

On, on

Arian parod o’dd e neu?

Arian parod, ie. A o’n nhw’n dod â fe rownd i wahanol part wedyn; on nhw’n dod â fe acha tray, dou o nhw, a o’dd enwe chi arno fe – odd clock numbers ‘da ni chwel.

Beth o’dd ‘ch number chi ‘te?

Wi’n cofio fe - pedwar saith saith.

Hwnna och chi’n ddefnyddio wrth cloco mewn a wrth gâl ‘ch pae hefyd. A shwt o’dd y bonus yn gwitho? Och chi’n câl hwnna bob wthnos?

O’dd e yn y pae – o’dd papur yn y pae yn gweud beth o’dd pethach – ‘se chi wedi câl – os o’ch chi’n colli cwarter awr o’dd e’n dod off, ne hanner awr, ac os o’ch chi ‘di câl diwrnod off os o’ch chi ‘di bod ar y – yn dost, o’dd e gyd fan’na – … ond (?) faint o dreth/ tax och chi’n dalu a pethach fel’na yn fan’na ch’mbod.

S’dim copi o hwnna ‘da chi o gwbwl?

Na, na, ffaelu ffindo un nawr – ch’mbod, se chi wedi dod byti ddoufish yn ôl on i’n cliro drâr mâs a ffindon ni sawl un ch’mbod – o! Os ffinda i un – hala i e mlân i chi.

Ocê, dim problem. O’dd e’n waith peryglus o gwbwl – o’ch chi wedi câl unrhyw anaf? O’ch chi ddim wedi câl unrhyw fath o anaf?

Na, na, ddim le on i ond o’dd parts ‘na odd – machines mawr yn y machine shop – o’dd sawl un wedi câl anaf ‘na

Beth o’n nhw wedi câl, chi’n cofio un o’r rheina?

Rhywbeth ‘u dwylo nhw’n mynd miwn i’r bechingalw ch’mbod.

Odd nyrs yn y gwaith wedyn?

O’dd, odd nyrs ‘da ni. O’dd part le odd y nyrs – ch’mbod os oes rhywun yn dost – yn amal o’dd merched yn paso mâs achos o’dd hi’n gallu bod mor dwym, wel o’dd hi’n mynd lawr at y nyrs wedi ‘ny.

O’ch chi’n sôn am y pae – os o’ch chi’n sal o’ch chi’n colli wedyn, arian os o’ch chi bant o gwbwl?

Nagoch chi’n câl ‘ch talu am – os o’ch chi yn dost, chwel, na.

39.00

Digwyddodd dim un damwen fawr do fe? Ych chi’n cofio damwen fawr yn y gwaith?

Na, na, alla i ddim cofio damwen fawr. O’n nhw’n cymysgu lot yn y cymundeb (cymuned?) – y rhai o’dd yn rhedeg y ffactri. On nhw’n dod â rhai miwn i roi gwâd, o’n nhw’n dod lan ‘na a o’ch chi’n gallu mynd lawr i’r nyrs i roi gwâd, o’n nhw yn pethach fel’na yn y gymuned, ch’mbod. O’n nhw’n dod rownd fel’na ch’mbod. A ‘na le odd e’n dangos y dynion lan – y merched i gyd yn folon rhoi gwâd ond odd y dynion yn pallu mynd! On nhw’n ofan! On nhw’n gweud ‘You go now’ – y merched yn poeni - ‘You go now’ ‘I’m not going to give blood’, a o’n nhw’n pallu mynd.

Y merched yn fwy dewr ‘te! O’dd hwnna’n digwydd – o’dd y cwmni yn caniatâu pobol i ddod mewn i neud hynna i ddangos bo nhw’n rhan o’r gymuned?

Ie, o’n nhw yn, ch’mbod. O’n nhw’n dda fel’na. A wedi ‘ny on ni’n rhoi, yn y dechre, o’n i’n casglu i roi, wi’n cofio o’dd cartre plant yn West Cross fan’na, a o’n ni’n casglu a on ni’n rhoi pethach at y Nadolig iddyn nhw.

Nazareth House o’dd hwnna?

Na ‘Ynys y Plant’ odd e. Ma fe wedi gorffen ers blynydde nawr. Ond o’n nhw’n neud lot a o’n nhw’n rhoi lot i Craig y Nos wedi ‘ny, achos o’dd Craig y Nos yn ysbyty bryd ‘ny chwel - at y TB.

O’ch chi’n casglu hwnna yn y ffactri wedyn?

O’n, o’n.

Ocê. O safbwynt iechyd a diogelwch – heddi ma rheole, pob math o reole, ond oes e, o’dd rheina i gâl slawer dydd?

Wel na – dim fel ma nhw dydd heddi ond o’dd lot o – beth galla i weld nawr – fi’n ffaelu cofio achos yn y part o’n i o’dd dim - ond lawr ble o’dd y machine shop, o’dd lot o … olew le o’dd y machines, chwel – o’n nhw’n gorffod watcho; o’n nhw’n gorffod gwisgo pethach fel bo nhw ddim yn gallu slipo a pethach fel’na chm’bod.

Reit, ocê. O’dd hi’n swnllyd o gwbwl yn y ffactri?

O’dd lawr – … ond ddim ble o’n ni – o’dd hi’n dawel, dawel. Merched o’dd yn neud y swn wrth siarad! O’dd e’n dawel – odd e weld fel dou part ch’mbod, o’ch chi’n gorffod mynd lawr nawr – os o’ch chi’n moyn mynd lawr i’r office i weld am rywbeth, ne os o’ch chi’n moyn mynd lawr i weld y nyrs, o’ch chi’n gorffod mynd trwyddo’r part ‘na – O o’n ni’n mynd ‘na a odd y swn - o’n nhw’n machines mawr le odd y dynion yn gwitho – o’n nhw’n neud y plâts a pethach i’r watchys, plâts a pethach arall a mynd trwyddo hwnna. Ond lan ‘da ni o’dd hi’n dawel achos dim ond - a peth arall o’n nhw’n (beth o’n i’n mynd i weud nawr?) bob nawr ac yn y man on nhw’n hala i moyn chi i gâl chat am attendance – o’n nhw’n keen fan’na. O’n i ddim, o’n i’n lwcus o’n i ddim wedi mynd lawr, ond os o’dd rhywun yn colli, a os o’ch chi ‘di bod yn ishe nawr, gwedwch am wthnos, er bo chi ‘di hala y papur nôl, o’dd un o’r personnel officers yn dod miwn i weld os o’ch chi’n olreit. A dod i weld os o’ch chi ‘di dod nôl i’r gwaith, yntefe. On nhw’n gweud – os bydde rhywun wedi bod off nawr yntefe – a wedi dod nôl, ‘Dâth Connie i weld chi?’ (hi o’dd y personnel ), ‘Na ddim tro hyn’ ch’mbod, o’n nhw’n keen fel’na ‘te.

43.00

O’n nhw’n cadw golwg arnoch chi ‘te?

O’n, o’n nhw YN ch’mbod fel’na, yntefe.

Och chi yn ..pryd o’ch chi’n mynd i’r toilet ‘te wrth wneud y gwaith yma? Och chi’n câl breaks – neu shwt o’dd hi’n gwitho?

O’ch chi’n mynd i’r toilet a o’n nhw, wel och chi’n gorffod mynd i’r toilet a jyst amser – yn amal o’dd merched yn mynd mâs i’r toilet â cigarette.

O’ch chi’n smoco?

Na, nag o’n i’n smoco. Ond o’dd hwnna wedi dod, ddim yn y dechre, ond dâth e’n dipyn mwy. Ond o’dd ‘da chi amser i fynd i’r toilet a golchi dwylo a pethach fel’na a o’ch chi’n gweld rhywun yn câl five minute chat, a mynd nôl wedi ‘ny.

O’n nhw’n câl smoco yn y toilets ‘te? O’n nhw ddim yn câl smoco wrth ‘u gwaith ‘te?

Na, na, na, na, ddim câl smoco fan’na o gwbwl.

Gan fod dynion yn gwitho ‘na. Shwt o’dd y menywod yn trin y dynion ch’mbod? O’n nhw’n tynnu côs nhw ne …?

O diar, diar, o’n ni’n tynnu côs nhw a coethan ‘da nhw! O…

Allwch chi feddwl am shwt o’ch chi’n neud e? Os stori ‘da chi am hynna o gwbwl?

Weda i un stori wrthoch chi. Ch’mbod Nadolig yn dod nawr yntefe, o’ch chi ddim fod mynd â drinks miwn o gwbwl, a nace o’n i’n ifed, ond o’dd un yn gweud ‘Let’s have a little sherry’ ond o’ch chi’n câl ‘ch searcho fel o’ch chi’n mynd miwn, so beth o’dd y merched yn neud o’dd …

Jyst Nadolig odd hwn?

O, dim ond Nadolig o’dd hwn, a o’n ni’n paco poteli neu beth odd ‘da ni, mewn papur Nadolig a esgus bo ni’n mynd miwn â anrheg i merched arall a wedi ‘ny o’n ni’n mynd mâs ar y toilet a … ond o’n nhw wedi dod i ddiall yn y diwedd, o’n nhw’n watchan, ch’mbod, - a o’n nhw’n mynd mâs a câl drink a dod miwn - a bydden nhw’n gweud ‘What’s going on here today? You’re back and fore out to that toilet – jiw, jiw’, a odd un o nhw’n gweud ‘Is there something wrong with your water or something?’ fel’na chmbod, ond o’n ni’n câl bach o sbort bryd ‘ny a – chi’n gwpod bo nhw’n gwpod ond o’n nhw’n olreit chi’n gwbod, a fformen a chargehand – o’dd ddim y bosys ddim yn dod rownd ‘da nhw. O, o’n ni’n poeni nhw o’n nhw ‘di câl .. O’dd merched , wel o’n i’n briod ar y pryd, on i’n ifanc ond o’dd lot o rai ifancach na fi ‘na, o’n nhw’n câl gafel ar y dynion a mynd â nhw mâs i’r toilet i’r wash part, (odd toilets mawr ‘na) a golchi’u gwallte nhw a pethach fel’na chi’n gwbod – dim ond sbort amser Nadolig nawr, ch’mbod. O, o’n nhw bach o ofan Nadolig!

Pwy ddynion odd rhain nawrte – dynion - y chargehands …?

O, nag odd y dynion – o’n nhw’n ofan dod ‘na fi’n cretu, o’n nhw’n ofan dod. Ond o’dd un o nhw, Mr Blake, odd e’n dod yn amal i weld ni – odd e’n olreit.

46.02

So o’n nhw’n mynd â nhw mâs i’r toilet a golchi’u gwallte nhw – yn y sinc?

Ie, ch’mbod, a threat - jocan nawr a gweud ‘O jiw, jiw, mae’r rhein yn mynd i stopo ni, ’ ond na ddim fel’na, ond on nhw’n dod a gafel a on nhw’n dod bwys y drws y toilet nawr (a odd entrance mawr ‘na) a on nhw’n gweud ‘Are you girls still in there? Come on now.’ A bydde un neu ddou yn cytsho yn nhw, ch’mbod.

Ond o! o’dd rhai, odd un dyn bach ‘na – Jones – o’dd e’n ddyn bach, odd e’n dwlu, dwlu côr, o’dd e’n côr Ystadgynlais, a o’dd e’n ishte’n neud jobyn bach, yn helpu chi mâs , a bydde fe’n canu ‘i hunan ch’mbod – o’dd e’n ddyn ffein. O’dd rhan fwya o nhw’r dynion, y fformen yn … O’n nhw’n gweud, ‘I’m not telling you again! Yap, yap, yapping. Now look’. O’ch chi’n câl row yn amal pan byddech chi’n mynd nôl. Ond on the whole, fel weta i, on nhw’n dda.

So, dod at orie gwaith nawr – sawl diwrnod o’r wthnos o’ch chi’n gwitho?

Pump diwarnod.

A beth o’dd yn digwydd ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul, o’dd y ffatri ar gau?

O’dd e ar gau ond se rhywun yn gwitho – o’n nhw yn gofyn i chi, ambell waith, delen nhw rownd acha dydd Gwener, os bysen ni’n folon gwitho bore dydd Satwrn – o’dd hwnna o hanner awr wedi saith i ddeuddeg wedi ‘ny chwel.

Pam o’dd ishe? Achos bod mwy o waith ne…?

Odd mwy o waith yn dod miwn a o’dd ishe’r orders i fynd mâs, ife. A on nhw’n gofyn ‘Will you work overtime?’ Ne o’n ni’n gwitho mlân yn y nos withe – o’n nhw’n gofyn i chi os och chi’n bolon gwitho mlân nes bo whech ne saith ne rywbeth – wi ddim yn cofio. Ond wi’n gwbod dydd Satwrn o hanner awr wedi saith i ddeuddeg.

O’ch chi’n câl tâl wedyn?

O, o’n ni’n câl ‘n talu overtime, chwel.

O’ch chi’n câl gwylie banc bant o gwbwl?

O’n, o’n ni’n câl dydd Gwener y Groglith a dydd Llun Pasg ond âth e wedi ‘ny i ddydd Llun a dydd Mawrth Pasg, yn lle dydd Gwener- gwplodd hwnna.

Pam odd hynny ‘te?

Wi ddim yn gwpod. O’dd lot yn neud fel’na ar y pryd. O’n nhw wedi altro. Ma fe nawr, s’dim lot o dydd Gwener … a wedi ‘ny o’n ni’n câl dou diwarnod ar Sulgwyn – dydd Llun a dydd Mawrth a gwyl y banc diwedd mis Awst yntefe – o’n ni’n câl rheina a Nadolig wrth gwrs.

O’ch chi’n câl ‘ch talu dros rheina?

O’n, o’n ni’n câl ‘n talu am rheina.

Reit, reit. Och chi câl – beth os bydde angladd ne rywbeth wedyn bod rhaid i chi fynd iddo fe – shwt o’ch chi’n câl diwrnod bant i rywbeth fel’na? Neu o’ch chi ddim yn gallu mynd? Shwt o’ch chi’n neud?

Wel, o’ch chi’n gorffod cymryd part o’ch gwylie – gwetwch nawr bod angladd dim ond o hanner dydd, wel, bydden i’n cymryd hanner dydd y flwyddyn (?). O, och chi’n câl, fel och chi’n mynd mlân, bob blwyddyn, o’ch chi’n câl extra (h)olidays ch’mbod, a wedi ‘ny byddech chi’n cymryd hanner dydd o rheina neu fel och chi’n moyn, ne rywbeth fel’na.

49.18

Wi wedi bod yn gofyn tamed bach, chi wedi sôn tamed bach am y Nadolig – o’ch chi’n câl partis Nadolig wedyn yn y ffatri fel .. neu o’ch chi’n mynd mâs yn y nos?

O’n ni’n mynd mâs. O’n nhw ddim, o’n nhw ddim yn rhoi dim fel’na i ni – o’dd y ffactri ddim yn rhoi dim i ni. Nag o’n ni’n câl dim extra na dim.

O’ch chi’n mynd lawr i’r cantîn? O’dd cino Nadolig ne rywbeth?

O’dd, o’dd cino Nadolig ‘na, o’n nhw’n neud y cino Nadolig, ond o’ch chi’n gorffod talu amdano fe. Ond o’dd y merched yn mynd mâs ch’mbod – mynd i gâl cino rywle a gwyr gyda ni a fydden ni’n câl cino – merch yn bwco yn rhywle ch’mbod. Ond na, o’dd ddim, o’n nhw’n neud cino (h)yfryd yn y cantîn, ond nag o’n nhw’n rhoi, nag o’n nhw’n …

O’n nhw ddim yn rhoi dim byd extra i chi?

O’n ni’n galw nhw’n bopeth ar y pryd! Na, nag o’n nhw’n rhoi dim!

Fel grwp, pa gang o’dd yn mynd ‘da chi? Y rhai odd yn gwitho gyda chi, ife?

Ie, ie.

Rhyw hanner cant ohonoch chi a’ch gwyr wedyn te, ife?

Ie, ie.

Reit, o’dd dim parti Nadolig i’r plant na dim byd fel’na ‘te?

O’dd , o’dd y plant, wi’n cofio, odd y plant, nawr pan on i’n gwitho ‘na yn y dechre, odd yn whâr yn fach, a o’n nhw rhoi, os odd brawd ne whâr , ne plant ‘ch hunen, on nhw’n hala nhw i’r pantomeim - yn Abertawe, ife? A wedi ‘ny o’n nhw’n câl partis yn y cantîn i blant. O na, o’n nhw’n neud pethach fel ‘na i’r .. ch’mbod.

Reit, o’dd ddim shwt beth i gâl â, yn rhai ffatrïoedd, odd ‘da nhw ‘Miss …’ ch’mbod, ‘Miss Tick Tock’ ne ‘Miss ..’

O do, buodd hwnna na, do, do am flynydde a odd clwb ‘da nhw lan yr (h)ewl, Tick Tock Club. O’dd e’n clwb lovely, a on nhw’n câl - pethach o’dd – bowls, cricket team a popeth fel’na i rai ch’mbod. A o’dd ‘Miss Tick Tock’ ‘na.

Pwy odd yn ‘i dewis hi nawr te?

O, o’dd rhai yn mynd mlân a dodi fe - ond gwplodd hwnna i gyd ch’mbod, blinidde dwetha, fi’n cretu fe gauws y Tick Tock Club lawr – Tote ‘da ni’n y Tick Tock.

Yn prynu fel loteri teip o beth, ife? Pwy o’dd yn gwerthu hwnna ‘te?

Ie, ie. Wi ddim yn cofio nawr. Nace drwy’r undeb o’n nhw’n gwerthu fe? Na-ce.

Jyst y bobol o’dd yn gofalu am yr ochor gymdeithasol?

Ie, ie. Na fe.

O’ch chi’n mynd i’r clwb o gwbwl?

O’n i wedi bod na’ pan o’dd pethach yn mynd mlân ‘na, shews a pethach a pan o’n nhw’n dewis Miss Tick Tock – odd hwnna’n regular.

52.05

A shwt – os o’dd Miss Tick Tock – o’dd hi’n gorffod gwisgo gwisg nofio ne – beth odd amdani?

O ie, wel, nofio pryd’ny, ne ffrog pert ch’mbod – o’dd hwnna ‘da nhw. Ond stopodd lot o hwnna yn y blynydde dwetha, a o! o’dd pethach wedi altro’n ofnadw ch’mbod. O’dd lot o bethach ‘di gorffen ‘na.

Yr ochor gymdeithasol wedi mynd lawr ife?

Ie, ie. Mynd lawr.

O’ch chi wedi trio fel Miss Tick Tock o gwbwl?

Nag on i (chwerthin). Fydden i wedi ond on i’n briod yntefe a odd lot o merched bach pert ‘na so, ch’mbod, a odd merched.

Shwt on nhw’n câl ‘u dewis? O’dd ‘na ddynion yn neu rhyw bobol yn dod? Dynion oedd yn beirniadu neu menywod?

Dynion? – wel na, cymysg ife, ch’mbod.

Reit, ocê. Och chi’n mynd ar drips wedyn o gwbwl?

O’n, o’n ni’n câl trips, ond ddim y gwaith chwel, – neud pethach ‘n hunen o’n ni’n mynd.

Ble o’ch chi’n mynd ar y tripie?

Ethon ni, un flwyddyn, i Llunden – ar y train o’dd hwnna. O’n nhw wedi rhedeg – o’dd hwnna dros y ffactri i gyd – smo i’n gwbod fel o’dd hwnna’n câl i – a o’n ni i gyd yn mynd ar y train ch’mbod i Llunden – on i’n excited reit – on ni’n mynd. … A falle bydde part bach hyn ‘O, dewch i ni gâl trip’ a ethon ni ..

Bydde hwnna ar ddydd Sadwrn wedyn bydde fe? Reit, pan fydde’r ffactri ar gau ‘te mewn ffordd?

Ie, ie.

O’ch chi’n sôn nawr falle bod tîm cricket ‘na. Odd ‘na rhyw dîm i’r merched?

Odd bowls ‘na – bowls i’r dynion, wi’n cretu, o’dd lot o bethach i’r dynion, wi’n cretu o’dd soccer club ‘da nhw. Ond wi ddim yn cretu bod lot i menywod er o’n i’n clywed bod menywod yn pethach

O’dd jazz group neu rywbeth fel’na? Jazz group neu rywbeth fel’na?

Nag wi’n cofio, na. O’dd pethach da’n mynd mlân ‘na – odd pethach da yn …

O’ch chi’n câl shows ble o’ch chi’n cymryd rhan o gwbwl ne …?

Na, na.

Dim byd fel ‘na. Reit, reit. Bands ne côr ne rhywbeth i ferched?

Na, na. Gallen nhw fod wedi câl côr ‘na, na o’dd dim côr ‘na.

O’n nhw’n dathlu Dydd Gwyl Dewi o gwbwl? Do’dd hwnna ddim yn ddiwrnod pwysig?

Na, dim ond bod y merched yn canu (chwerthin) a gyd o ni’n gwisgo’n cennin pedr, ife?

Dâth ‘na rywun pwysig i’r ffatri o gwbwl – ar ymweliad chi’n cofio, a rhyw ffys mawr yn câl ‘i neud?

O’dd – pwy odd wedi bod ‘na nawr? Dâth un o’r Prime Ministers ‘na – wi’n cretu taw – dim Hugh Gaitskell?

55.02

Harold Wilson ne ..?

Ie, fi’n cretu taw fe – na - odd Hugh Gaitskell?

Wel, odd e ddim yn brif weinidog ond o’dd ‘na Hugh Gaitskell i gâl – falle bo fe wedi bod. Wi’n cretu odd un o’r – ceson nhw sawl un achos odd e miwn yn – miwn yn – ch’mbod o’dd e’n enwog iawn, mewn ffordd, achos odd lle mawr ‘da nhw yn Cheltenham a pethach

Beth odd ‘da nhw’n Cheltenham ‘te? Ffatri arall?

Ie, yr un peth.

A, so ‘na pam odd rhein wedi symud o Cheltenham?

Âth cwpwl o’r menywod lan ‘na – am ryw reswm o’n nhw’n moyn dod â watch newydd mâs a âth cwpwl o nhw lan i weld beth o’n nhw’n neud, ch’mbod.

O safbwynt y gwaith o’ch chi’n neud, y gwaith manwl o’ch chi’n neud, o’dd hwnna wedi newid o gwbwl yn ystod yr amser buoch chi ‘na?

Na, achos o’n i’n neud yr un watch, ch’mbod.

Yr un watch yn mynd trwy’r cyfnod i gyd, ife?

Ie, ie. Daethon nhw â un newydd mâs yn y blinidde diwetha ond o’n i ‘di sefyll ar yr un un, a o’dd merched arall wedyn ‘di mynd ar hwnna ch’mbod – o’dd e’m bach yn fwy.

Och chi’n amlwg yn mwynhau gwitho’n y ffactri, o’ch chi?

O’n i yn, o’n i yn. Y diwrnod etho ni tsha thre, o’n i ‘di gorffen – o’n nhw wedi rhoi parti mawr pan o’dd e’n cau lawr – o, geson ni barti mawr, a yn y cantîn geson ni fe cofiwch; ond whare teg on nhw wedi … a dethon ni tsha thre nawr a dyma fi’n dod miwn nawr a medde’r gwr ‘How did it go today?’, a dyma fi’n llefen, a medde fe, ‘You wouldn’t make more fuss if I’d passed away!’ (chwerthin) – o’n i yn – a dâth y gwyr yn involved yn lot o’r pethach fan’ny ch’mbod – on nhw’n napod lot o’r … achos on ni’n mynd mâs, pethach yn mynd mlân a on ni’n mynd mâs – yn dod i napod y dynion, y bosys a pethach ch’mbod –

Fuoch chi ‘na am ddau ddeg pump o flynyddoedd – beth o’ch chi’n gâl nawrte am fod wedi aros mor hir?

Y watch ‘na! O, a geson ni ..

O’dd pawb yn câl hwnna os o’n nhw wedi bod ‘na?

Do, ond o’n nhw’n neud e bob blwyddyn – o’n nhw’n ffaelu neud e bob ? a blwyddyn etho fi miwn iddo fe o’dd e yn mis Mawrth a o’dd e’n cauad yn mis Mehefin, a o’n i’n becso nawr, ‘O wi ddim yn mynd i gâl ‘n watch’. Ond o’n nhw neud, dwi ddim yn gwbod faint, gyda’i gilydd; a o’n i wedi mynd – ma fe wedi cau lawr nawr –o’dd e yn Ynysmeudw – rhywbeth ar yr afon – odd e ar y cornel - ma fe wedi cauad lawr – lle fel, fel y llefydd hyn, fel Manor Park a rheina.

Hotel odd e ‘te?

A o’n ni’n câl gwd bwyd a pethach fel’na a wetyn o’n nhw’n galw chi lan , un gan un wedi ‘ny, y Managing Director y top un i roi watch i chi. So, na beth o’ch chi’n câl.

So, o’n nhw’n neud hwnna bob hyn a hyn, er mwyn câl grwp ‘da’i gilydd i neud e…?

So, se’n nhw’n neud e bob blwyddyn, bydde’n rhaid iddyn nhw gâl grwp yn bydde? So, o’n i wedi clywed nawr, o’n i’n gwpod bo fe’r flwyddyn hyn, ond o’n wedi clywed cwpwl o fisoedd cyn ‘ny bo fe’n cau lawr a o’n i’n meddwl ‘W!’ ac o’n i’n gweud wrth y gwr, ‘I want that …’ ‘Oh! I’m getting fed up of hearing about that gold watch!’

Ond ma hi ‘da chi, ac ma’ch enw chi ar y cefen ond yw hi?

58.30

Odi, odi. Wi’n doti fe fan’na, ch’mbod – hibo bob tro.

Chi’n gwisgo’r watch? Mae’n bert on’d yw hi?

Fi’n gwisgo fe, odw, ond nagw i’n mynd â hi off. A fi’n gweud wrth ‘y whâr nawr achos bo dim plant ‘da fi – ‘Bydd y watch yn dod i chi’.

Fyddech chi wedi gadel se’ch chi ‘di gallu mynd mlân? Neu odd y ffactri’n cau ond odd hi?

Na … achos beth on i bryd ‘ny? - pedwar deg a pedwar, wi’n cretu. Bydden i wedi sefyll mwy ch’mbod.

Beth naethoch chi ar ôl gorffen ‘n y ffatri?

Ar ôl gorffen yn y ffactri wedi ‘ny, etho i at rhywbeth gwahanol. On i’n ty am bach, a o’n i’n meddwl ‘O, jiw, ma raid i fi fynd i neud rwbath arall na bod yn ty’, ond o’n i ‘di danto nawr – o’n i’n gweld ishe cwmpni, a etho i i witho - o’dd cyfnither ‘da fi yn byw lawr yr (h)ewl a o’dd hi’n gwithio yn cartref hen oed yn Dreforys, a medde hi ‘Why don’t you go for some …’ ‘Oh, I don’t want to do that’, medde fi. ‘Well, I’m enjoying,’ medde hi. Ond dâth dim swydd lan, a dâth swydd lan i mynd ar y community – community care assistant, a o’n i’n meddwl ‘Mae’n wahaniath, a mae’n jobyn’, on i’n meddwl – etho fi a netho fi hwnna am thirteen years.

Joioch chi hwnna?

O’n i wedi joio fe ond O! o’dd e’n mynd yn galed. A ch’mbod beth o’n i ddim yn gweld yn deg – dan y Social Services o’dd e, o’n i ddim yn gweld nhw’n rhoi digon o amser i chi roi gofal i’r bobol – o’n i’n mynd i codi nhw yn y bore a taclu nhw a mynd nôl a taclu nhw yn y nos wedi ‘ny, a pethach fel ‘na, a gofalu ch’mbod am nhw, a bwyd a pethe, ond o’n i ddim yn, nage home help, - home helps o’dd gyda ni, dim ond gofalu am y person – ond o’n i’n timlo, ch’mbod, yn y dechre, fan’na ‘to, yn y dechre o’n nhw’n gweud wrthoch chi am fynd nôl yn prynhawn a ishte’n chatan ‘da nhw, ch’mbod – rhai unig, ond dorron nhw hwnna mâs wedyn, ‘Go in and do what you’ve got to do, nurse’ . O, o’n i’n ffaelu - yn genol y gaea, o’n i’n gweud wrth y bosys, yntefe, ‘You know, you can’t do a quick meal for them’. ‘Oh do salad for them!’. Yn genol y gaea! O, allen i weud lot am Social Services, o’n nhw ddim yn – a ma’n nhw’n wâth nawr – mae’n nhw’n gweud ‘Oh it’s worse now.’ So nhw’n rhoi, ch’mbod, chi’n gorffod rhoi gofal, chi’n ffaelu rysho rhai yn henach, nag ych chi? Chi’n gorffod rhoi gofal i nhw a on i’n timlo o’n i wedi câl dicon a o’n i’n meddwl mynd – o wel.

Pan chi’n edrych nôl ar y ffactri, beth fyddech chi’n gweud o’dd y pethe o’ch chi wedi mwynhau fwyaf ambyti gwitho ‘na?

Y cwmpni – ch’mbod y camaraderie fel – a ch’mbod yr arian, wrth gwrs, yntife? O’n i yn lico – o’n i’n dod nôl ambell i ddiwarnod cofiwch, a o’n i’n meddwl ‘O jiw, jiw, ma hwn yn mynd mlân a mlân’, a o’n i’n danto. O’n ni i gyd yn danto am yn ail, yntefe? Wel, y cwmpni a fi’n cretu lot o fe, fel fi ‘di gweud wrtho pawb, dros y blinidde, y Cwmrâg. Wi’n cretu sen i ‘di bod mewn ffactri, dim yn rong arnyn nhw, lawr yn Abertawe a pethach, wi ddim yn cretu bydde fe wedi bod ‘run peth.

Odd y grwp yn newid lot ch’mbod – odd y merched ‘na – o’n nhw’n gadel a rhai erill yn dod yn ‘u lle nhw? ‘On nhw gyd yn ffito mewn, o’n nhw?

Ie, o’n nhw’n ffito mewn ch’mbod. Ambell un ddim yn ..ond mwya o nhw yn ffito – a dynion ‘run peth ch’mbod, o’n nhw i gyd ’n ffito miwn.

1.02.02

Gaeodd y ffatri i gyd, i gyd, yr holl beth yn y mis Mehefin ar ôl i chi bennu? Neu o’dd peth ohono fe wedi mynd mlân?

Na, o’dd rhai wedi catw mlân i gâl gorffen lan a pethach fel ‘na – o’dd cwpwl o bethach i neud. O’n ni’n mynd yn batchys ‘te. Odd cwpwl ar ôl, c’lau lan. Ond âth e’n grôs wedyn ‘ny i – caeodd e lawr a agorws e lan fel ceir nawr a …

Neud clocs ceir ne rywbeth, ife?

O, beth odd enw nhw nawr? Ma fe lawr yn fflat nawr a ma fe’n Tesco newydd.

O reit.

O beth odd ‘i enw? – Lucas. Lucas – o’dd Lucas ddim i neud a Smiths wedyn ‘ny … ond o’dd Smiths wedi caead lawr a wi’n cretu bod Cheltenham ‘run peth.

Odd dim cyfle i chi fynd mlân i ffatri arall os o’ch chi ishe mynd mlân i ffatri arall?

Na, se un arall ‘na bydden i wedi mynd. Na.

Os o’dd menyw, merch newydd yn dechre yn y ffatri nawr, o’dd hi’n câl help ‘da chi, ne beth o’ch chi’n neud iddi?

O, o’n ni’n neud pethach ‘i poeni hi ch’mbod. O, o’n ni wedi hala un merch, a ma hwn yn jôcen âth trwy’r ffactri i gyd, o’n i’n gorffod câl screwdriver, odd e ‘da fi ginne, o ie, ‘na’r screwdriver, na seis y screwdriver on ni’n iwso.

Un bach, bach, on’d yw e?

A o’n i’n gorffod codi’r parts bach hyn lan ‘da – ie, tweezers (bach, bach) – watshwch hwnna nawr …

Pwy odd yn rhoi rhain i chi?

O, o’n nhw’n rhoi rheina i chi pan o’n ni’n dechre chwel. ‘Na mor fach odd y gwaith.

So, beth naethoch chi i’r ferch ‘ma druan ‘te?

O’n i’n gweud wrthon nhw, ‘You’ve got to go down now to the stores and you got to get a left-handed screwdriver’. A bydden nhw’n mynd a gofyn am left-handed screwdriver. O, o’dd honna’n (h)en jôc – reit trwyddo. Ch’mbod, sdim left- a right- handed screwdriver ‘na fe ch’mbod.

Beth arall o’ch chi’n neud iddyn nhw yn, beth o’ch chi’n neud, yn ‘ch gwaith chi? O’ch chi’n neud rhyw ddrygioni ‘da nhw wedyn?

Hwnna o’n i’n gweud wrthoch chi …

Gwedwch nawr ‘te.

O’n i, yr eyeglass hwn nawr – o’dd e’n mynd ar y llyged, a fydden nhw wedi câl rhein nawr ..

Dewch nôl i’r dechre hwnna – so, beth och chi’n neud nawrte ‘da’r merched ‘ma pan on nhw’n dechre?

On ni’n dodi’r pensil glas ‘yn a odd e’n dod mas, ife,

Ar yr eyeglass?

Ie, a odd hi’n codi fe lan a dodi e miwn yn ‘i llyged, ife, a phan o’ch chi’n tynnu hwnna off odd marc glas fan ‘yn, arni hi, (chwerthin) a fydde neb yn gweud dim wrthi hi, a o’dd hi’n mynd rownd, a smo neb yn gweud; a on nhw’n neud ’run peth i’r meics ‘yn (microscopes) – dou fan’na yntefe! On ni’n neud pethach drwg fel’na – (h)ala nhw lawr i moyn left -handed screwdriver a / neu right-handed –a wedi ‘ny, beth arall? o’dd lot o jocs yn mynd mlân ‘na. On i’n …

1.05.19

Beth am rhan arall o’r ffatri? Ch’mbod, rhan arall – o’n nhw ddim i gyd yn gwitho ‘da chi. Odd rhai yn gwitho ‘da microscopes o’ch chi’n neud ‘run peth?

Rest wedi ‘ny on o’n nhw ..

Pob un adran a’i ffordd fach i neud jocs ‘te?

Ie, o’dd lot o bethach drwg yn mynd mlân ‘na ch’mbod.

A shwt o’ch chi, och chi’n gweud hefyd – bo chi’n pryfoco’r dynion t’med bach? Beth o’ch chi’n neud ‘iddyn nhw – plago nhw?

Ie, ie, ie – o’n ni’n gweud a hala nhw miwn nawr - bydden nhw’n dod bwys drws y toilet – galw ni mas amser Nadolig - ‘Come on, now you’ve been a long time’ wel, bydde cwpwl o’r merched yn tynnu nhw miwn, a wrth ‘u teis nhw a phopeth a agor ‘u teis nhw a twlu dwr dros – wel, se’ch chi’n gweld y mes o’dd ‘da peth o nhw – o’n nhw’n gweud hi ar y pryd ond o’n nhw’n wherthin wedyn, ife.

O’ch chi’n neud rhywbeth arall – o’ch chi’n sôn bo chi’n neud rhywbeth i’w cefne nhw hefyd?

O on, bydden ni’n stico pethe ar ‘u cefne nhw a ysgrifennu – pan fydden nhw’n cerdded rownd ch’mbod.

On nhw ddim yn gwbod – beth o’ch chi’n ysgrifennu yn rhein?

O wel, pethach drwg ch’mbod. Wi ddim yn cofio beth, nawr. A wedi ‘ny bydden nhw’n canu wedyn. Odd un dyn – o’dd hwnna - odd e newydd ddod o’r airforce miwn ‘na a bod tro odd e’n mynd lan a lawr a o’n nhw’n gweud (CANU – cân filitaraidd) a stico plên ar ‘i gefen e, ch’mbod. O, o’dd lot o’r pethach o’n ni’n neud – pethach wi’n meddwl nawr o’n nhw’n sili ond ar y pryd o’n nhw’n … torri lan y monotony ife?

O’n nhw’n cadw chi fynd on’d on nhw. Ie grêt.

1.06.54

Nodiadau ar y lluniau a fenthycwyd …

Yr adysgrifiad ar gefn y watch gafodd hi:

Presented to M Leyden by Smiths’ Industries in appreciation of 25 years’ service. 28:3:80.

Llun 1: Y merched wedi mynd mas am night out – hi a’i chyfnither – y rhain i gyd yn yr un job, wedi mynd mas i gâl bach o sbort. Tua 25 oed. Yn yr Allt-wen. Taclu lan yn gwyliau’r haf – unrhyw excuse i fynd mas. Enwi – Angela, Mari … a hi a’i chyfnither

Nodi eu bod yn cadw cysylltiad ar ol i’r ffatri gau. On nhw wedi gweud bo nhw’n mynd i gâl re-union ond dou wedi mynd i fyw yn ymyl Fords’ yn Bridgend – ddim yn gallu câl gafel yndyn nhw. Ar y dechre yn mynd mas gyda’i gilydd weithie.

Noson arall - on I’n mynd mas bob Nadolig a bob (h)af. Un o’r merched yn gweud ‘Let’s have a night out’. Y ferch ar y chwith wedi mynd I fyw yn Canada.

Llun 3 – dynion yn hwn – y driver bus – o’n nhw wedi mynd allan i gastell yn Brecon – dinner -dance(?) Hi a’r gwr yn y blaen – ail ar y chwith. ‘O’dd y dynion yn conan weithie bod ni’n mynd mâs, dim ond y menywod ‘ Tua 24-26 oed.

Llun 4 – llun o’r merched o’r un noson – nodi bod sawl un ohonyn nhw wedi marw erbyn hyn.

Llun 5: Y Managing Director – Mr Boult - dros y ddwy ffatri (watchys a alarm clocks) o’dd yn Ystradgynlais, yn cyflwyno’r watch iddi hi. Yn 1980. Yn Glanafon.

1.11.57

Odd un neu ddau (o’r menywod) yn meddwl eu bod nhw’n fwy pwysig – y rhai yn y packing yn meddwl hynny. Fel odd un yn gweud ‘We’re all here from half past seven on – at the same time and we’re all going home …’ Na, odd lot o admin ‘na cofiwch – yn talu mâs a neud pethach ‘na, o’n nhw yn wahanol i ni achos on nhw’n…

Odd merched yn gwitho fan’na – yn y part ‘na – yn yr offis?

Yn yr offis, odd – clerical offis.

A o’n nhw’n meddwl bod nhw’n well ‘na chi?

O na, odd un neu ddou yn mynd i capel ni, nawr. O’n nhw’n gwithio ‘na – nagon nhw’n meddwl a nagon i’n meddwl, falle lot o’n i’n napod cwpwl o nhw cyn bo fi’n mynd ‘na ond on nhw’n lico gwitho na ‘fyd, ed. A personnel i gâl, menyw personnel, odd hi’n itha neis, ch’mbod.

Och chi’n sôn nawr am y capel. Faint o’r menywod ‘na fydden wedi bod yn mynd i’r capel amser ‘na ch’mbod?

Lot fach ond ddim gymint â ‘na. O’dd lot fach yn mynd ch’mbod – o’dd lot fach o lan Cwmllynfell yn mynd. A wedi ‘ny, wi’n cofio bob dydd Gwener y Groglith, pan o’n ni’n gwitho bryd ‘ny, bydden i’n rysho nawr – ddim yn gorffen nes bod pedwar. Wel o’dd Gymanfa ‘da fi yn y nos, bydden nhw’n gweud, ‘Go on now, rush now, you want to go out first, because you’ve got Gymanfa now’, ond âth hwnna wedi ‘ny – ethon ni i gâl dydd Mawrth yn lle dydd Gwener. Na, o’dd lot fach wedi câl ‘u codi yn capel, ond o’n nhw ddim yn mynd, yntefe.

Odd e’n dechre dirywio ‘te yn oedd e?

O’dd amser ‘ny. Achos o’ch chi’n mynd ‘Nagw i’n mynd racor, nagw i’n mynd racor’ Ond o’ch chi’n gweld on nhw wedi câl ‘u codi, ‘u codi, yn dda yn y capel.

Ond on nhw’n gwbod emyne? O’ch chi’n canu emyne?

O jiw, jiw.

Beth och chi’n canu fwya, emyne?

Bydde un yn dechre mynd i ganu ‘Rwy’n canu ‘ a o’dd un hen fenyw fach ‘Rwy’n canu fel cana’r aderyn …’ – o’n nhw’n mynd (ei bronnau) lan a lawr. A wedyn ‘O rwyf yn hoffi canu’ – yr emyne ‘na i gyd. Byth caneuon, wastad emyne

Achos ‘na beth o’ch chi’n gwbod - drwy’r capel yntefe?

Ie, a bo fi’n meddwl e nawr. Rhywun yn dechre

Canu’n Gymrag och chi ife?

Ie, mwya, chwel. Ambell waith gelen ni – fel bydde rhai newydd yn dod miwn ife, fel o’dd y blinidde’n mynd mlân, ‘Top of the Pops’ yntife, ond mwya o’n nhw’n dechre canu emyne a carolau amser y Nadolig. O’n ni’n canu carolau i gyd amser Nadolig. Dylen ni fod wedi câl côr ‘na achos o’dd wastad lot o ganu ‘na. Ma llaish ofnadw ‘da fi, ond ch’mbod o’dd lot o ganu ‘na.

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VSW015.2.pdf

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw