Augusta Davies. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Diolch am gytuno i siarad â fi, ewn ni reit nôl i’r dechrau a gaf i chi i gyflwyno eich hunan so os gaf i chi i weud wrtho i beth yw eich enw llawn chi, a wedyn ‘nny y cyfeiriad a dyddiad geni. So, enw gynta’.

Augusta Davies

A dyddiad geni.

8.8.45

A ble gesoch chi’ch geni?

Aberystwyth.

A beth oedd ych tad yn neud? Pwy waith oedd e?

Gweithio ar ffarm fi’n credu oedd e, lan ffor’ ‘nny. A symudon ni lawr i Felinfach. Oedd e’n gweithio yn y Milk Marketing yn Felinfach.

Oedd ych mam wedi bod yn gweithio o gwbwl?

Oedd hi’n neud home help.

A beth am frodyr a chwiorydd?

Dau frawd a tair ‘wha’r ‘da fi.

O’ch chi’n deulu eitha mawr te?

Chwech.

A ble y’ch chi’n ffito mewn. Chi yw’r ifanca, hena, neu yn y cenol?

Un cyn yr ifanca’.

A ble ethoch chi i’r ysgol?

Felinfach fwya.

Ysgol fach Felinfach ife?

Ysgol fach Felinfach a Ysgol Aberaeron.

A pwy oedran o’ch chi’n gadael ysgol?

Un deg chwech.

00.01.32: A ble ethoch chi ar ôl gadael ysgol? Beth nethoch chi?

Gweithio’n Llambed yn glanhau ty.

Ble o’ch chi’n byw pry’nny te?

Yn Felinfach.

Pam penderfynoch chi gadael ysgol? O’ch chi wedi cael y job gynta, neu jyst cwpla?

Wel, o’n i gatre. Oedd mam wedi marw. So oedd rhaid i fi mynd mas i weithio a gath ‘yn wha’r job i fi’n Llambed.

Am faint buoch chi’n neud y job ‘na?

Dwy flynedd fi’n credu. Wedyn priodes i a cael plant.

00.02.09: Beth oedd y jobyn nesa nethoch chi?

Mynd i’r ffactri.

A beth oedd enw’r ffactri?

Cardwells pryd ‘nny.

Cardwells yn Llambed, ife? Odych chi’n cofio pwy flwyddyn oedd honna?

Sixty Five fi’n credu oedd e.

A shwd ethoch chi ymbwytu cael job man’nny?

Jest mynd lan a gofyn am job, a dechre.

Pwy oedran oedd y plant wedyn te?

Oedd y ferch yn ddwy oed. So es i weithio man’nny wedyn am ‘bytu dair blynedd a ges i’r mab wedyn. So bennes i wedyn a es i nôl i Slimma, oedd e erbyn es i nôl.

00.02.52: Ond pan o’ch chi’n mynd ymbwytu cael job yn Cardwells oedd y groten yn ddwy, fel o’ch chi’n manajo wedyn?

Oedd mam yng nghyfreth yn watsho ar ei ôl hi.

A pam penderfynu mynd i weithio pryd’nny?

Wel, oedd hi moyn watsho ar ei hôl hi, so es i i whilo job wedyn.

O’ch chi wedi clywed bod jobs yn mynd yn Cardwells?

O’dd wastod jobs yn mynd ‘na ond’odd e.

O’dd e?

O’dd.

A gorfoch chi gael interview neu rywbeth?

Na, sa i’n credu. Dim pryd’nny.

Ne’ o’ch chi’n gorfod cael rhyw fath o test?

Na.

Oedd Phyllis yn sôn gynne bod hi, pan aeth hi am jobyn wedi gorfod neud rhywbeth. Na, Helena oedd yn sôn, sori, pan aeth hi oedd hi’n gorfod dangos bod hi’n gallu trafod y machine ife.

O ie, gyda Slimma. Ddim gyda Cardwells. So amser es i i gael jobyn nôl gyda Slimma wedyn, wel o’n i’n nabod y supervisor a pethach, o’n nhw’n gwbod bod fi wedi bod yn gwitho ‘na cyn ‘nny.

00.03.56: A ydych chi’n cofio’ch diwrnod cynta’ chi’n Cardwells te?

Nadw, ddim rili.

Smo chi’n gallw cofio unrhyw first impressions, mynd ‘na?

Na, o gwbwl, rili.

Faint o’dd yn gwitho ‘na pryd’nny, chi’n cofio?

Oedd tipyn yn gwitho ‘na, siwr o fod tua pedwar deg neu pump deg siwr o fod.

00.04.23: A beth yn gwmws oedd y jobyn o’ch chi wedi cael?

Fii’n credu mai ffedoge o’n nhw’n neud pryd’nny.

A o’ch chi’n machinist ar y ffedoge?

Ie.

O’ch chi’n nabod pobol erill ‘na ar y pryd?

O’n i’n nabod rhai o’ nhw, oedd.

Oedd eisie unrhyw qualifications i fynd mynd ‘na pryd’nny?

Na, dim byd.

Smo chi’n cofio’r diwrnod cynta’ wedoch chi, smo chi’n cofio cerdded mewn ‘na?

Na, fi ddim yn cofio mynd mewn ‘na. Dim o gwbwl.

00.05.06: Ydych chi’n cofio pwy amser o’ch chi’n dechre ‘na? Shifft dydd o’dd e, ife?

Ie, fi’n credu mai o wyth i bump oedd e.

A fel o’ch chi’n mynd ‘na o Felinfach?

O’n i’n byw yn Llambed erbyn ‘nny.

O’ch chi’n gallu cerdded i’r gwaith?

Cerdded i’r gwaith, ie.

00.05.30: O’ch chi’n gallu cloco mewn pyr’nny?

Cloco mewn a mas, o’n.

O’ch chi ar amser?

O’n, fi’n credu. Rhan fwya’r amser eniwê.

00.05.43: O’ch chi’n gweud bod pedwar deg rhywbeth yn gweithio ‘na pryd’nny, oedd dynion yn gweithio ‘na erbyn ‘nny?

Sa i’n cofio rhai gyda Slimma. Fi’n cofio Meic yn dod lawr o Aberystwyth. Fe oedd y mecanic, a fe oedd yn dod lawr â’r gwaith a oedd y cwbwl yn cael eu torri lan ym Machynlleth a oedd e’n dod lawr â gwaith bob dydd.

Pan ddechreuoch chi ‘na te, pwy oedd yn dangos chi beth i neud?

Wy’ ddim yn cofio pwy oedd yn treino ni pyr’nny. Achos o’dd Val nôl ar y machine pyr’nny eniwê. Fi’n credu taw dim ond y managers o’dd ‘na, dim ond Riley neu Helen Holt oedd hi.

00.06.30: A pan buoch chi’n gwitho gyda Cardwells, ife’r un job o’ch chi’n neud trwy’r amser neu o’ch chi wedi newid job tra bod chi gyda Cardwell?

Rhywbeth tebyg o’n i’n neud trw’r amser rili. Wy’ ddim yn cofio beth nelon ni ar ôl y ffedoge eniwê.

O’ch chi’n joio’r gwaith?

O’n i’n joio gwnïo eniwê.

O’ch chi’n joio gwnïo cyn mynd ‘na?

Na, fi ddim yn credu bod fi ‘di gwnïo lot cyn mynd ‘na o gwbwl, eniwê. Dim ond gwmint a o’n i’n neud yn ysgol. Ond o’n i’n lico gwnïo, a craffts yn yr ysgol eniwê.

00.07.05: A beth oedd ‘na fwya pyr’nny, ife menywod priod fel chi?

Na, oedd bach o mixture ‘na.

Shwd awyrgylch oedd yn y ffatri, shwd atmosphere oedd ‘na chi’n gwbod.

Fi’n credu oedd e’n itha reit yn dechre ‘ffor ‘na, amser o’n i gyda Cardwells, achos o’dd e ddim yn grwp rhy fowr ontyfe.

00.07.28: Oedd pawb yn dod ‘mla’n yn weddol?

O’dd. Fi’n credu bod nhw.

00.07.35: O’ch chi’n fam â plentyn bach, o’ch chi’n gweld hwnna’n anodd?

Dim rili, nagoedd. Oedran ‘na.

Ond oedd help ych mam yng nghyfraith ‘da chi, wedoch chi, i garco’r un bach?

Oedd.

Chi’n gallu cofio faint o’ch chi’n cael eich talu?

Dim idea.

Odych chi’n cofio os o’ch chi’n meddwl bod e’n ....

O’dd e’n gwd arian ontyfe.

Chi’n cofio cael unrhyw codiad cyflog o gwbwl? Chi’n cofio sôn am, chi’n gwbod, ni’n mynd i gael pay rise nawr, neu unrhywbeth fel ‘na?

Fi’n credu o’n i’n cael e jest bob blwyddyn.

O’ch chi?

O’n. Yn April fi’n credu oedd e.

A shwd o’ch chi’n cael ych talu?

Gyda Cardwells arian, pay packet, ontyfe, bob wthnos.

Pa ddiwrnod o’r wythnos oedd hwnna?

Pob dydd Gwener.

O’ch chi’n joio dydd Gwener te o’ch chi?

Joio dydd Gwener.

O’dd pawb ar yr un rate chi’n gwbod ar y pryd neu oedd pawb ar pai gwahanol?

Fi’n credu amser cyn bod fi’n bennu ‘na os oedd mwya gyd o’ch chi’n neud, mwya i gyd o’ch chi’n cael ych talu fel.

Oedd targets oedd e?

Oedd targets, o’dd.

Oedd unrhyw percs i gael ‘da chi pryd’nny?

Dim ‘da Cardwells llawer, fi ddim yn credu.

00.09.02: Ac am faint o amser parodd e fel Cardwells te, achos aeth e’n Slimma wedyn dofe? Neu o’ch chi wedi bennu’n gynta yn Cardwells?

O’n i wedi bennu gynta yn Cardwells, a wedyn amser es i nôl oedd e’n Slimma.

O’ch chi wedi bennu i gael yr ail blentyn?

O’n.

A shwd o’ch chi’n teimlo ymbytu bennu wedyn?

Hiraeth y merched ontyfe.

O’ch chi wedi ffindo mas bod chi’n disgwyl, wedyn o’ch chi’n rhoi gwybod o’ch chi?

Ie.

Pryd oedd rhaid i chi gwpla? Chi’n gwbod beth wy’n meddwl, o’ch chi’n mynd i gael y babi. O’ch chi’n dri mis, neu pedwar mis, neu pum mis?

Na, fi’n credu taw saith mish oed.

O’ch chi’n eitha mowr te, tu ôl y machine ‘na.

Oedd rhai’n fwy na fi, amser o’n i’n bennu ‘na’n ddiweddar.

Oedd ‘na? Odych chi’n cofio os oedd Undeb, Union gyda Cardwell pan o’ch chi ‘na?

Fi ddim yn credu gyda Cardwells, nagoedd.

O’ch chi’n gwitho rhywbeth dros ych dillad, oedd iwnifform ne’ rywbeth ‘da chi gyda Cardwells?

Overall fi’n credu.

A, o’n nhw’n rhoi hwnna i chi?

Chi’n gwbod, a gweud y gwir, fi ddim yn cofio. Wedoch chi (Phyllis) bod chi, ontyfe. Sa i’n cofio.

Gesoch chi unrhyw accidents neu unrhyw ddamweinie erioed?

Naddo. Gath sawl un, ond dim fi.

Beth o’n nhw’n neud te, os o’n nhw’n cael accident?

Wel, gorffodd un fynd lawr i’r hospital. Gelon nhw hook, oedd hi’n, chi’n gwbod yr hooks chi’n rhoid ar trwser dynion, gath hi’r hook yn y bac, reit mewn.

Shwd oedd hi wedi llwyddo i neud hwnna te?

Digon rhwydd, digon rhwydd. Ond ma’ guards ar yr nodwydde i gyd nawr, so oedd dim lot yn cael damwain nawr.

Oedd unrhyw reolau Iechyd a Diogelwch, Health and Safety gyda Cardwells te?

Dim mor belled â fi’n cofio, nagoedd.

Shwd o’ch chi’n gweld, chi’n gwbod, ar ôl i chi cwpla gyda Cardwells, gesoch chi’r mab a wedyn ethoch chi nôl, chi’n gwbod pwy flwyddyn oedd hwnna?

Oedd y mab siwr o fod yn saith, wyth oed siwr o fod amser es i nôl.

A fel gesoch chi’ch job nôl ‘na te? O’ch chi’n gweud bod chi’n nabod y supervisor.

O’n i’n nabod y supervisor, manageress pryd’nny te.

Reit, ethoch chi mewn ‘na a gofyn dofe?

Ie.

Dyn neu fenyw oedd hi?

Honna oedd yn cael thirty years presentation.

A beth wedodd hi te?

Dechre so and so date ontyfe.

A shwd o’ch chi’n teimlo bytu mynd nôl wedyn?

Iawn. O’n i’n nabod lot o’r merched eniwê.

Oedd pethach wedi altro ‘na?

Oedd pethach wedi altro, oedd.

Fel y’ch chi’n meddwl oedd pethach wedi altro?

Oedd pawb â targets a pethach pyr’nny ontyfe. A o’n nhw’n dod rownd bob dwy awr i weld faint o waith o’ch chi wedi’i neud.

O’n nhw’n fwy strict o’n nhw?

O’n nhw’n fwy strict, o’n.

Oedd y mab yn wyth pyr’nny oedd e, a beth yw oedran e nawr? Wy’n treial gweithio mas pwy flwyddyn oedd hwnna?

Mark yn ... (19) 68 gath e ei eni, so seventy five, seventy six? Seventy six.

A pan o’ch chi’n mynd nôl wedyn o’ch chi’n gweud bod chi’n mynd nôl i weithio gyda Slimma ife, oedd pethach wedi altro tamed bach, oedd mwy yn gwitho ‘na pyr’nny?

Lot mwy, oedd.

A fel oedd awyrgylch, naws y ffactri wedi newid wedech chi, yr atmosphere? Oedd e’n teimlo’n wahanol i chi?

Oedd achos oedd shwd gwmint yn gweithio ‘na pyr’nny wedyn o’ch chi ddim yn gallu cymysu gyda pawb ontyfe. ‘Na’i gyd o’ch chi’n cymysgu gyda wedyn oedd y grwp bach o’ch chi’n gweithio gyda.

00.13.17: Oedd mwy o reole, mwy o rules a regulations gyda Slimma te? O’ch chi’n gweud bod targets gyda nhw, lle oedd ‘na ddim gyda Cardwells, oedd mwy o reole ‘da nhw am bethe, fel Health and Safety er enghraifft?

Oedd Health and Safety ‘da ni, oedd Union ‘da ni.

A shwd beth oedd y Union?

Oedd e’n very good.

O’ch chi wedi gorfod mynd atyn nhw erioed i gael help am unrhywbeth?

Naddo, dim o gwbwl.

O’ch chi’n gorfod talu am hwnna wedyn?

O’ch chi’n talu so much yr wythnos am yr Union, o’ch. O’n nhw’n tynnu mas o’ch pai chi.

Oedd dim ots ‘da chi talu?

Na.

00.14.01: A oedd y ffactri ei hunan yn edrych yn wahanol pan ethoch chi nôl? Chi’n gwbod yr un adeilad ond cwmni gwahanol, pobol wahanol, oedd y conditions wedi newid o gwbwl?

Oedd y ffactri’n fwy o seis i ddechre achos o’n nhw wedi adio dou lot ‘mla’n iddo fe. O’n nhw wedi adio un lot lan erbyn es i nôl, ond amser o’n i’n gweithio ‘na o’n nhw wedi adio part arall iddo fe wedyn.

A faint oedd yn gweithio ‘na chi’n meddwl, pan ethoch chi nôl? Rough guess.

Dros gant, siwr o fod.

Ife menywod yn bennaf oedd dal i witho ‘na?

Na, dynon a chwbwl ‘na erbyn ‘nny.

Pa jobsys oedd y dynion yn neud te?

Dynion yn neud popeth, ar y machines, loado, presso.

Oedd dynon yn gweithio fel machinists o gwbwl?

Oedd.

Oedd e?

Oedd.

A shwd o’n nhw’n dod ‘mla’n gyda’r merched te?

Iawn. Iawn. Oedd bois bach yn dod mas o’r ysgol, ac o’n nhw’n dod i witho ‘da ni ar y machine.

A shwd o’ch chi’n treto nhw? O’ch chi’n tynnu coes?

Wel, dependo shwd crwt oedd yn eiste ar bwys chi ife. O’ch chi’n cael lot o sbort ‘da nhw.

00.15.18: A pwy oedd yn dysgu nhw beth i neud wedyn?

Trainees yn dysgu nhw i neud e.

O’ch chi’n gorfod treino bobol ne’ o’ch chi jest yn cario ‘mla’n gyda’ch gwaith?

O’n i’n cario ‘mla’n gyda’n gwaith.

A pan o’ch chi yn Slimma wedyn, yn gynta i gyd pan o’ch chi’n Cardwells, chi’n cofio os o’n nhw’n whare miwsig i chi’n Cardwells?

Sa i yn cofio Cardwells, nadw. Ond gyda Slimma oedd y radio arno.

Pa sianel oedd hi chi’n cofio?

Un fi’n credu, mwy na ...

Oedd pobol yn canu ‘na?

Jiw, jiw, oedd.

Beth o’ch chi’n canu, chi’n cofio?

Beth oedd ar y miwsig ontyfe.

O’ch chi’n cael sbort ‘na te?

Oedd ni’n cael lot o sbort ‘na ontyfe ond erbyn y diwedd, oedd hi wedi mynd y last pum mlynedd diwetha, oedd pethach wedi altro lot ‘na. Mwy caled.

Beth y targets, chi’n meddwl?

Targets yn mynd yn galed, oedd.

O’ch chi’n gallu cyrraedd nhw?

O’n.

O’ch chi’n gallu siarad wrth wneud eich gwaith?

Allech chi byth â cael conversation ‘da neb gyda’ch gwaith achos oedd gymint o swn ond gyda’r machines a’r radio. O’ch chi’n gallu gweud cwpwl o eirie wrth yr un yn y ffrynt, ond oedd ‘da chi ddim amser rili i siarad achos bydde’r groten yn y ffrynt, sy’n eiste tu blaen i chi ddim yn cael amser i, bydde hi ddim yn gallu troi rownd i siarad â chi, heblaw bod hi mas o waith, byddech chi’n gallu cario ‘mla’n, a bydde rhywun yn siarad â chi ontyfe.

00.16.53: Os o’ch chi yn siarad bydde supervisor neu rywun yn gweud ‘tho chi am bido?

Dim as long bod chi’n gallu neud ych targets. Ond sech chi ddim yn gallu neud ych targets, ‘dde rhywun siwr o weud rhywbeth.

00.17.12: O’ch chi’n cael brêcs wedyn yn Slimma?

O’n. Deg munud yn y bore, hanner awr yn y prynhawn, a deg munud yn, wel yn y prynhawn te, late afternoon.

Pwy amser o’ch chi’n dechre’n Slimma wedyn?

Fi’n credu amser o’n i’n bennu ‘na o’n i siwr o fod yn dechre am hanner awr wedi saith.

00.17.37: A pwy amser o’ch chi’n bennu wedoch chi?

Fi’n credu mai pump. O’n ni’n neud yr orie chi’n gwbod, ontyfe, beth oedd e, forty eight hours ife, a o’n i’n cael dydd Gwener off wedyn. Fuon ni’n dechre am wyth. A cael hanner diwrnod dydd Gwener. Ond amser elon nhw i dalu ni trw’r banc elon ni i ddechre wedyn am hanner awr wedi saith tan bump a cael dydd Gwener off.

00.18.12: Ar ochor cymdeithasol, ochor social y lle wedyn ‘nny. Shwd beth oedd hwnna te? Oedd lot o bobol yn socialiso, cymdeithasu gyda’i gilydd ‘na?

Oedd fi’n credu.

Ethoch chi ar unrhyw drips gyda Slimma?

O’n i’n mynd ar sawl trips bach. Dim cymint trips fel o’n i’n mynd gyda Cardwells. Buon ni yn Rhyl, o’n i’n mynd i sawl un gyda .... O’n ni’n neud e’n hunen ontyfe, ond o’n i yn mynd gyda Slimma. Fuon ni mas yn Ireland dwywaith.

Gyda Slimma?

Ie. Chi’n gwbod, neud trips ‘yn hunen ontyfe. Buon ni’n Bournemouth, Tom Jones.

Dofe?

Rhyw bethach fel ‘na ontyfe.

Ond oedd lot mwy pan o’ch chi gyda Cardwells oedd e?

Fi’n credu gyda Cardwells, oedd pawb yn mynd. Ond gyda Slimma oedd y lle wedi mynd mor fowr oedd bod chi’n mynd mewn grwps fel ontyfe.

00.19.18: Pwy le enjoioch chi fwya te chi’n meddwl, Cardwells neu Slimma? Fi’n gwbod yr un adeilad oedd e ond gyda pwy gwmni enjoioch chi fwya, Cardwells neu Slimma?

Y ddou rhwbeth tebyg rili.

Ond o’n nhw’n teimlo’n wahanol?

Yn ddiweddar oedd e wedi mynd gyda Slimma achos o’n nhw’n, chi’n gwbod y gwaith oedd popeth ife, a oedd ‘da chi ddim amser i whare ymbytu te fel.

Ond pan oedd e’n Cardwells oedd fwy o amser ‘da chi pyr’nny te, chi’n teimlo?

Oedd ddim o’r targets mor uchel. ‘Run peth â pob job ontyfe, mae’n mynd yn galetach ym bobman.

00.20.02: A pan o’ch chi gyda Cardwells wedyn pump diwrnod o’ch chi’n neud? Pump diwrnod yr wythnos.

Ie. Fi’n credu mai bod ni’n neud full five days fi’n credu.

A beth am y penwthnos?

Na, o’n i ddim yn gwitho ar y penwthnos.

A beth am gyda Slimma? O’ch chi’n neud mwy na pump?

Na, ond o’dd bach mwy o overtime gyda Slimma.

00.20.25: Os o’ch chi moyn e ife?

Os o’ch chi moyn e.

O’dd dim rhaid neud e?

O’dd dim rhaid i chi neud e, nago’dd.

O’dd shiffts yn Slimma te?

Nago’dd.

Ac o’ch chi’n gorfod cloco mewn yr un peth yn Slimma a Cardwells?

Yn y diwedd gyda Slimma o’ch chi jest yn ysgrifennu lawr ar ych timesheets faint o’r gloch o’ch chi’n dod mewn.

Oedd cantîn yn Slimma te?

Oedd.

Ac o’n nhw’n neud bwyd ‘na?

Ac o’n nhw’n neud bwyd ‘na. Cooked dinners bob dydd.

00.21.07: O’ch chi’n cael cino ‘na?

Dim yn amal achos o’n i’n dod gatre, o’n i’n gorfod neud cooked dinners gatre anyway ontyfe yn y nos. Ond, chi’n gwbod, os nagoedd amser ‘da chi neud sangwejes cyn mynd o’ch chi’n cael chips neu beth bynnag o’ch chi’n moyn yn gwaith ontyfe.

O ran gwyliau, wedyn ‘nny, holidays, o’ch chi’n cael rhywbeth tebyg pan o’ch chi’n Cardwells a wedyn pan o’ch chi’n Slimma, neu o’ch chi’n cael mwy gydag un neu’r llall?

Na, fi’n credu o’n i’n cael mwy yn Slimma.

Oedd amseroedd wedi mynd ‘mlaen erbyn ‘nny, o’n nhw. Chi’n gwbod oedd pobol yn cael mwy o wylie wedyn o’n nhw.

O’n i’n siwr o fod yn cael wythnos yn Whitsun, un wythnos yn July, pythefnos yn July ac August.

‘Na pryd oedd e’n ceued ife? Dyna pryd oedd e’n ceued.

Ie. October a wedyn Nadolig.

Pan o’ch chi’n Slimma te, oedd rhai ‘na’n mynd ar eu gwyliau gyda’i gilydd?

Oedd. Sawl un ohonyn nhw.

00.22.11: Ble o’n nhw’n mynd te?

Twrci, Sbaen.

O’ch chi ddim yn mynd gyda nhw?

Na, o’n i’n mynd gyda’r teulu ontyfe.

O’ch chi’n cael ych talu am wyliau banc wedyn?

O’n.

O’ch chi’n teimlo bod Cardwells yn gyflogwyr teg? O’n nhw’n deg ‘da chi?

O’n. Fi’n credu bod nhw.

A beth am Slimma wedyn?

Yn iawn.

00.22.50: Gwedwch chi bod chi eisiau amser off gyda Cardwells o’n nhw’n ddigon hapus, gwedwch chi bod angladd ne’ chi’n gwbod rhwbeth am resyme personol.

Bydden i’n cael mynd wedyn, bydden.

A beth am gyda Slimma te?

Iawn, os oedd angladd neu rywbeth fel ‘na.

O’ch chi’n cael ych talu am yr amser?

Na.

00.23.24: Ar yr ochor gymdeithasol ‘to wedyn ‘nny, oedd Cardwells yn trefnu rhywbeth arbennig i chi amser Nadolig, chi’n cofio?

Sa i’n credu.

A beth am Slimma?

Oedd wastod man’nny.

Beth oedd yn digwydd man’nny?

Parti Nadolig. Wel, parti Nadolig i bawb yn, bydden ni’n cael e’n Ty Glyn neu rywle fel ‘na chi’n gwbod ife ontyfe. A bydde parti y diwrnod o’n ni’n torri lan wedyn, oedd parti’n gwaith ‘da ni, a’r twrci a’r .... potel o win fi’n credu.

00.24.03: O’n nhw’n rhoi unrhyw percs i chi? Chi’n gwbod, o’ch chi’n cael unrhywbeth am ddim ‘da nhw?

Fi ddim yn gweud bod percs but oedd siop i gael gyda Slimma, a o’ch chi’n gallu prynu trwseri a pethach fan’nny. Seconds o’n nhw. O’ch chi’n gallu prynu nhw’n siepach na fydde outsiders yn gallu ontyfe.

O’ch chi’n prynu peth ohonyn nhw?

O’n i’n prynu lot o drwseri ‘na, o’n.

00.24.30: Oedd lot yn bod arnyn nhw te, bod nhw’n seconds?

Na, oedd dim byd. Byddech chi ddim yn gwbod bod nhw’n seconds heblaw bod rhywun yn dangos nhw i chi. Rhai pethach yn digon ontyfe.

O’dd y safon yn eithaf uchel te?

Oedd.

00.24.54: Allwch chi disgrifio’ch diwrnod gwaith yn Slimma i fi? Beth o’ch chi’n neud, o’ch chi’n cyrra’dd yn y bore, a beth oedd yn digwydd.

Cyrra’dd yn y bore. Wel, o’n i’n ‘float’. So os oedd rhywun ddim wedi troi lan y y gwaith o’n i’n gorfod jwmpo iddi machine nhw a neud e. Ond os o’dd pawb mewn bydden i’n helpu mas ble ma’ ishe gwaith, ishe rhoi bach o pwsh i’r gwaith ‘mla’n.

Ond fel o’ch chi’n gallu anelu am targets wedyn te, os taw ‘float’ o‘ch chi? Chi’n gwbood beth fi’n meddwl, achos o’ch chi’n neidio o un lle i’r llall o’ch chi.

Yn amal bydden nhw’n dod a teimo chi wedyn.

O’ch chi’n lico’r gwaith o fod yn ‘float’, ne bydde well ‘da chi fod mewn un man?

Na, o’n i’n joio bod yn ‘float’.

A beth amdano pan o’ch chi gyda Cardwells wedyn? O’ch chi mwy yn yr un lle?

Yr un man, more or less gyda Cardwells.

O’ch ch’n gweld hwnna’n undonnog, o’ch chi’n gweld hwnna’n monotonous wedyn?

Na, o’ch chi jest yn neud e a ‘run peth â rhywun yn gweithio mewn siop, ma’ nhw’n neud yr un peth bob dydd. Na, oedd e’n iawn.

00.26.06: Beth y’ch chi’n credu oedd pobol eraill yn meddwl o’r merched oedd yn gweithio’n Cardwells, ac yn hwyrach yn Slimma chi’n gwbod? Oedd rhai pobol yn gweud, o, mae’r merched ‘na ar arian da ne’ unrhywbeth fel ‘na. Chi’n cofio unrhywbeth fel ‘na?

Na, dim rili.

00.26.30: A shwd o’ch chi’n twmlo bod chi’n gweithio ‘na? O’ch chi’n teimlo’n prowd achos o’ch chi’n cynhyrchu stwff da nagoch chi?

O’n.

Shwd o’ch chi’n teimlo chi’n meddwl?

Eitha’ prowd achos chi’n gwbod, oedd even Marks and Spencers yn dod mas ambell waith a moyn sieco’ch gwaith chi. A oedd hi’n neis i weld nhw’n dod a sieco’ch gwaith chi a gweud bod y cwbwl yn iawn ontyfe.

O’ch chi’n cael unrhyw feedback wrthyn nhw i weud shwd o’ch chi’n neud?

Na, fi’n credu oedd y bosys yn, ond o’n i ddim.

00.27.08: O’dd mame â plant bach yn gweld hi’n anodd yn Cardwells ne’ Slimma te? Oedd dim lot o fame â plant bach yn gweithio’n Cardwells oedd e?

Dim yn Cardwells, nagoedd.

Yn Slimma, o’ch chi’ch hunan â plant bach o’ch chi. O’ch chi’n gweld e’n galed achos oedd y targets ‘ma gyda chi oedd e, a wedyn o’ch chi’n mynd gatre ac oedd y plant gyda chi wedyn.

Oedd, digon posib achos amser aeth hi’n rili galed ‘na oedd ‘yn blant i wedi tyfu lan eniwê. Ond oedd e yn gynnar i rai o nhw i fynd â plant i ble bynnag o’n nhw’n mynd â nhw ontyfe, achos o’n nhw’n dechre gwaith erbyn half past seven. Wel, oedd rhai o nhw oedd ‘da nhw rhyw ddeg milltir i drafeilu i’r gwaith ondoedd e.

Oedd dim creches i gael pyr’nny?

Nagoedd. Fuodd creche ‘da ni unwaith.

Dofe?

Do. Buon nhw’n dod mewn â plant i gwaith, ac oedd y bys yn mynd â nhw wedyn o Llambed lawr i Cardigan a oedd y creche lawr man’nny.

Jiw, o’n i ddim yn gwbod ‘na.

A o’n nhw’n dod nôl â nhw wedyn erbyn bydden ni’n bennu am bump.

00.28.30: A pryd oedd hwnna te?

Ma’ hynna’n mynd nôl tua twenty years ago, siwr o fod. Falle bach yn fwy falle. Fi ddim yn credu bod fe wedi para’n hir iawn ond fuodd e am sawl blwyddyn bach.

Pam oedd e ddim wedi para te?

Fi ddim yn gwbod.

Achos oedd siwr o fod galw amdano fe.

Oedd sawl plentyn yn mynd lawr i Cardigan.

Fel oedd rhan fwya pobol yn dod i’r gwaith te, i Slimma?

Yn ceir sen diweddar, ond buodd bysus yn rhedeg.

Bysus y gwaith o’n nhw?

Ie.

O le o’n nhw’n mynd fel arfer?

Oedd un yn mynd rownd Tregaron ffor’ ‘na fi’n credu a oedd un wedyn yn mynd lawr Llanybydder, rownd ffor’ ‘na.

O le oedd rhan fwya’r merched yn dod, achos o’n i’n siarad â Phyllis ac Olga gynne am Cardwells, yn gweud bod lot o’r merched yn dod, dim cymint o’r dre, ond o’r pentrefi o gwmpas.

Ie, rhan fwya nhw o ochor fas, ond oedd cwpwl o Llambed yn gweithio fan’na.

Yn Slimma ife?

O’dd, yn y diwedd.

Pam chi’n credu oedd ‘nny te, bod y rhan fwya nhw’n dod o’r pentrefi? Oedd lot mwy o bobol yn byw yn y dre oedd e?

Fi ddim yn gwbod, ai ife o’n nhw’n mynd i siope yn Llambed, neu oedd lot yn mynd off i coleg a pethach fel ‘nny ontyfe. Oedd even y bois, a’r merched yn dod o’r dre yn y blynydde diwetha.

00.30.07: Oedd digon o waith i gael ‘na?

Oedd digon o waith ‘na oedd.

Oedd lot o bobol yn dechre a ffaelu neud y gwaith? Achos o’ch chi’n gweud o’dd y targets wedi mynd yn uchel nes ‘mla’n?

Oedd rhai, but dim llawer o’ nhw. ‘Ne bydde lot yn dod o’r ysgol a gweitho ‘da ni am dwy, dair blynedd a mynd ‘mla’n, felly bydden nhw yn dewis bod nhw moyn mynd i coleg ne’ rwbeth wedyn.

00.30.37: O’ch chi’n twmlo bod Slimma yn gyflogwyr teg te?

Fi’n credu bod nhw.

A pwy oedd y bosys man’nny te achos oedd e’n gwmni, eitha mowr oedd e. Oedd sawl safle.

Bydde nhw ond yn para am ddwy flynedd a wedyn bydde rhywun arall yn dod, bydden nhw’n ca’l promotion i mynd i rywle arall, chi’n gwbod ontyfe.

So oedd y bobol oedd drosto chi’n newid trw’r amser.

O’n.

A beth amdano pan o’ch chi’n Cardwells te, oedd yr un peth yn wir, achos oedd Cardwells yn Llambed oedd e.

Oedd.

A oedd Cardwells yn Machynlleth oedd e, oedd rhywle arall wedyn?

Wy’ ddim yn credu bod e, oedd e.

Phyllis: Stockport oedd y main office, main factory.

Augusta: Dim ‘run peth a oedd Slimma.

Ond buoch chi’n gweithio mewn sawl man i Slimma dofe? Neu pan aeth e’n Dewhirst oedd hwnna?

Nage, gyda Slimma bues i lawr yn Llandyfri, a ma’ Llandyfri wedi cau ers sawl, blynydde cyn bod ni’n cau.

Nhw oedd yn hala chi i Llandyfri ife?

Achos bod nhw eisie help ‘na. Oedd dim rhaid i chi fynd.

Pam o’ch chi’n mynd te?

Wel, o’n nhw’n gofyn i chi a o’ch chi’n mynd ontyfe.

00.32.02: A beth o’n nhw’n neud yn Llandyfri? O’n nhw’n neud gwahanol dillad?

Fi’n credu oedd Llandyfri’n neud yr un peth â ni, trwseri.

So oedd e’n ddigon (rhwydd) mynd o un lle i’r llall wedyn?

Oedd.

Tua faint oedd yn gweithio’n Llandyfri te?

Oedd dim lot yn Llandyfri. Fi’n credu mai rhyw dri deg.

Fel o’ch chi’n mynd i Llandyfri te?

Car yn mynd lawr â ni wedyn.

Car y gwaith oedd e.

Ie.

00.32.26: Buoch chi’n gweithio mewn un o’r safleoedd eraill?

Bues i lawr yn Abertawe unwaith neu ddwy. Lot yn gweithio man’nny. Oedd hi’n ffactri fawr.

O’ch chi’n lico gweithio lawr ‘na?

Oedd dim gwahaniaeth ‘da fi.

Sawl un oedd yn mynd lawr man’nny te?

Oedden ni’n llond car yn mynd lawr wedyn.

O’ch chi’n gorfod mynd lawr achos bod ordors ‘da nhw i neud neu achos bod pobol yn dost, neu beth oedd e?

Digon posib bod eisie pwsh ar yr ordors.

A shwd o’ch chi’n ffito mewn gyda pobol lawr fan’na te?

Iawn, iawn.

Ife floater o’ch chi lawr fan’na.

Wel, na. Beth bynnag o’n nhw moyn chi neud o’ch chi’n gorfod neud e ontyfe. Usually se chi’n, beth bynnag byddech chi’n neud yn Slimma yn Llambed, ‘na’r jobyn bydden nhw’n moyn i chi neud lawr fan’na, lawr yn Abertawe.

00.33.23: Gesoch chi ddim gofyn mynd i’r Undeb erioed ymbytu unrhywbeth?

Na.

Byddech chi’n gweud bod chi wedi enjoio’r gwaith?

O’n i’n joio’r gwaith.

Beth o’ch chi’n joio fwya?

Y merched. Wel o’n i’n joio gwnïo ontyfe.

Oedd rhai lletchwith yn gweithio ‘na ambell waith.

O’ch chi’n cael ambell un lletchwith.

A beth o’ch chi’n neud wedyn te?

Wel, jest gadael nhw i fod ar un ochor, ma’ lot gwell na cwmpo mas â nhw.

O’ch chi’n gweld lot o’r bobol o’ch chi’n gweithio gyda tu fas y gwaith?

Na, dim gymaint â ni heblaw sen i’n mynd mas i Llambed neu rywbeth chi’n gwbod ontyfe but na, ‘na’r unig pryd o’n i’n socialiso gyda merched gwaith oedd se parti’n mynd ‘mla’n ontyfe.

Ond os oedd parti neu rywbeth yn mynd ‘mla’n, rhywbeth o’n nhw wedi trefnu mewn lle arall bydde oedd ife?

Ie.

Ble o’ch chi’n mynd fynycha?

Mwy na thebyg bydde fe’n Llambed yn rhywle. Ne falle lawr yn Ty Glyn.

Ond chi oedd yn trefnu hwnna, neu rywun yn y gwaith, nage’r bosys oedd yn trefnu hwnna i chi ife? Pwy oedd yn trefnu fe?

Y Social Club.

00.34.43: Oedd Social Secretary ‘da’ch chi? Oedd e mor fformal ‘na?

Na, fi’n credu bod jest grwp bach o ferched a rheiny’n arrango pethach i gyd ontyfe.

00.35.02: Beth wedech chi o’ch chi ddim yn enjoio ymbytu’r gwaith te? Chi’n gwbod, ni gyd yn mynd yn ffed yp weithie. Beth o’ch chi ddim yn lico?

Fi ddim yn gweud bod fi ddim yn lico dim byd ‘na. Dim rili.

Am faint o amser buoch chi i gyd te? Buoch chi’n Cardwells am sawl blwyddyn?

Bues i’n Cardwells am ryw ddwy flynedd.

A beth am Slimma wedyn?

‘Bytu twenty five years.

Mae’n sbel ondywe? Ydych chi’n twmlo bod chi wedi cael y chance i neud popeth o’ch chi’n moyn yn Slimma?

O’n.

Gethoch chi unrhyw accident ‘na byth?

Dim byd. Dim byd.

O’ch chi ddim yn siarad gormod te?

Na.

Chi’n cofio, ar wahan i’r fenyw gyda’r bachyn, chi’n cofio unrhywbeth arall yn digwydd ‘na, unrhyw accident.

Ambell un yn cael nodwydd ontyfe.

Oedd e’n rhywbeth o’n nhw’n gallu sorto mas eu hunain?

Oedd. Fi’n credu mai dim ond un gath nodwydd reit trwy ei bys but fel o’n i’n gweud, oedd Health and Safety’n dod mewn wedyn ac oedd guards rownd nodwydde pawb a pethach a dyle neb cael accident rili. Chi’n gwbod ma’ fe yn digwydd ondywe.

Beth o’ch chi’n neud amser brêc te, o’ch chi’n mynd lan i’r cantîn amser brêc?

O’n. Erbyn bod chi’n cael cwpaned o de a chat bach bydde hi’n amser mynd nôl bydde hi.

Oedd rhai’n smoco pyr’nny?

Oedd.

Oedd lot mwy pyr’nny nagoedd e ‘na beth sydd nawr. Chi’n gwbod ma’ rheole ynglyn â hwnna wedi newid.

Wel, yn y diwedd o’n nhw wedi cael Smoking Area a Non Smoking Area so oedd choice ‘da chi mynd mewn i unrhyw un. A o’ch chi ddim yn gallu smoco’n y cantîn. Fi’n credu yn dechre o’dd un part o’r cantîn o’ch chi ddim yn smoco a’r part top wedyn o’ch chi’n gallu smoco.

00.37.08: Beth am y rhai oedd eisie smôc bach yn ystod y dydd? Chi’n gwbod os o’ch chi eisie smôc bach o’ch chi’n gallu mynd i’r toilets i gael un?

Dim fod. Dim fod.

A beth oedd y cyfleusterau yn Slimma fel te? Oedd y lle’n lan achos o’ch chi’n neud dillad ‘na.

Oedd cleaners ‘da ni, o’n nhw ‘da ni’n dod mewn yn y bore am wyth a o’n nhw’n bennu ‘run pryd â o’n nhw’n brwsho’r llawr a beth bynnag oedd eisie neud trw’r dydd ontyfe.

A oedd hi’n swnllyd achos y machines?

Ie.

Oedd hwnna’n stopo chi siarad peth siwr o fod?

Tamed bach oedd. Dim lot.

O’ch chi ddim yn cael dim byd am eich cluste?

Na. Ond oes oedd y radio arno o’ch chi ddim yn clywed y swn y machine. Ond se rhywun yn dod mewn i’r ffactri, “sa i’n gwbod shwt chi’n gallu gwitho’n y swn ‘na”. O’ch chi ynddo fe drw’r dydd, o’ch chi ddim yn clywed e.

00.38.11: Chi’n dod yn gyfarwydd â fe falle.

Ydych.

O’ch chi ddim yn clywed swn y machines ar ôl gadael y gwaith yn y nos?

Na.

Ma’ rhai menywod sydd wedi bod yn gweithio mewn ffatris gwahanol yn credu bod nhw wedi gweld effaith gweithio mewn ffactri – falle. O’n i’n siarad ag un yn ddiweddar. Oedd hi wedi bod yn gweithio lot yn yr oerfel, tynnu pethe mas o fridges, oedd hi’n teimlo bod ei dwylo hi wedi godded chi’n gwbod. Odych chi’n twmlo bod chi wedi diodde unrhyw side effects? Bysedd ife?

Fi ddim yn credu. Na, fi’n credu mae arthritis ‘da fi chi’n gwbod ontyfe a fi’m yn credu mai trwyddo’r gwaith yw e.

Byddwch chi byth yn gwbod ‘sbo.

Wel, ma’n wha’r ag e so …

Ma’ fe’n y teulu.

So hi wedi bod yn gwitho’n ffactri.

Beth am y llygaid? Oedd e ddim yn effeithio’r llygaid?

Na. Clyw tamed bach walle.

00.39.22: Oedd ych gwr yn hapus bod chi’n gweithio wedyn. Wy’ jest yn meddwl am ein sefyllfa ni. Oedd ‘yn dad, er enghraifft, yn pallu gadael ‘yn fam i fynd mas i weithio, ond oedd e’n hen ffasiwn iawn.

Na. Wedodd e dim byd erio’d.

00.39.38: Oedd e’n helpu gyda’r gwaith ty wedyn, gan bod chi’n gweithio ‘fyd?

Wel, oedd e’n gweithio ar y Cownsil yn dreifio lori so pan ddechreues i yn Slimma, nôl yn Slimma oedd e’n gweithio, unwaith oedd y job yn bennu oedd e’n bennu. Wel, amser oedd e’n casglu’n Llambed oedd e’n dechre am wyth, yn casglu am wyth ac yn bennu am half past twelve bob dydd. So oedd e gatre wedyn oedd e. So oedd e’n gallu neud lot.

Gwd. Pan o’ch chi’n cael brêc wedyn a o’ch chi’n siarad â’r merched am beth o’ch chi’n siarad fwya? Beth o’ch chi’n clebran?

‘Bytu popeth wy’n credu.

00.40.30: Pan oedd mwy o ddynion yn gweithio ‘na, oedd ambell i stori caru ‘na?

Oedd lot o storiau ymbytu caru ‘na a tynnu coes ontyfe.

Pwy oedd yn tynnu coes pwy te?

Wel, oedd y merched yn tynnu coes y bois neu … Merched yn tynnu coes y bois mwy na dim fi’n credu.

Beth o’n nhw’n neud, chi’n cofio, neu beth o’n nhw’n gweud?

Wel, dependo beth o’n nhw wedi bod yn neud weekend ontyfe.

Os oedd bechgyn ifainc yn dechre ‘na shwd oedd y menywod yn trin nhw?

Yn trin nhw’n iawn. Ambell i tawel ‘na, bachgen tawel amser o’n nhw’n dechre. Ond rhoi mis fach iddyn nhw o’n nhw’n altro lot.

Oedd rhaid iddyn nhw oedd e?

Oedd.

Oedd rhaid i chi dalu am bopeth o’ch chi’n cael yn y gwaith? Chi’n gwbod, os o’ch chi’n cael te nawr…

Oedd, popeth o’ch ch’n pyrnu’n gwaith, popeth o’ch chi’n cael yn gwaith, o’ch chi’n talu amdano fe, ontyfe. Te, coffi, oedd machine ‘na wedyn, so ...

Oedd machine ‘na erbyn y diwedd, oedd e? O’ch chi’n cael cino, ne o’ch chi ddim yn cael cino o’ch chi?

Na, o’n i ddim yn cael cino ‘na, na. Ambell i ddiwrnod bydden i’n cael bowled o chips neu rywbeth fel ‘na ontyfe. Neu tost yn y bore.

00.41.59: Ydych chi’n gallu cofio unrhyw ddigwyddiad, arbennig gwedwch, neu unrhyw ddiwrnod arbennig tra bod chi ‘na. Oedd unrhywbeth spesial wedi digwydd, neu unrhywun spesial wedi dod i weld chi? Oes un diwrnod yn aros yn y cof ‘da chi?

Dim rili, sa i’n credu.

Shwd byddech chi yn symo lan eich amser chi’n gweithio’n Cardwells a Slimma? Shwd byddech chi’n symo fel lan?

Wel, fi wedi enjoio. Digon hapus ‘na.

Os o’ch chi ddim wedi mynd i Cardwells, neu i Slimma te, ydych chi’n gallu meddwl am rywbeth arall licech chi wedi’i neud?

Dim rili. Nadw.

00.43.00: A beth ddigwyddodd pan adawoch chi wedyn?

Es i ddim nôl i weithio. Fues i ar y sic wedyn achos oedd arthritis arno i.

So shwd o’ch chi’n twmlo ymbytu gwitho wedyn?

Oedd hiraeth bod y lle’n cau ontyfe.

O’ch chi wedi, o’ch chi wedi mynd lan tan y diwedd yn Slimma? (Ife Dewhirst oedd e erbyn ‘nny neu Slimma?)

Dewhirst oedd e erbyn ‘nny.

Dewhirst erbyn ‘nny, ond o’ch chi wedi mynd lan at y diwedd nes bod nhw’n cwpla man’nny?

Do.

O’n i’n siarad â Helena gynne, o’ch chi ddim wedi cael lot o rybudd bod y lle’n cwpla, o’ch chi?

Ninety days.

Shwd o’ch chi’n teimlo pan glywoch chi hwnna te?

Hiraeth bod nhw’n cau ontyfe, ond wrth gwrs oedd ‘yn iechyd i’n torri pryd ‘nny ontyfe. So o’n i wedi mynd i weithio o naw tan dri, achos o’n i ffaelu neud yr hanner awr wedi saith tan bump. So rili, bydden i wedi gorfod rhoi i fyny cyn bod fi’n whechdeg ontyfe. But, oedd hiraeth bod nhw’n cau. Chi’n miso’r merched a’r cwmni ontyfe.

O’ch chi wedi mynd o naw tan dri, o’ch chi wedi mynd ato nhw a gofyn os allech chi neud llai o orie?

Do.

A shwd o’n nhw? O’n nhw wedi helpu?

Y manageress, do. Na’th hi. Oedd y bosys ddim yn hapus iawn, but fel wedodd hi. Wel, o’n i’n ffrindie gyda hi anyway. A fel wedodd hi, “either that or she’s got to finish.” Ges i wedyn, achos o’n nhw ddim yn fodlon bod part timers ‘na.

Ond oedd hwnna ddim yn flexible iawn oedd e, chi’n gwbod, yn gyffredinol. Mae’n amlwg bod nhw eisie cadw chi.

Oedd dwy wedi dechre o’r dechre ‘na, o‘n nhw’n gweithio o naw tan dri. Ond o’n nhw wedi dechre ers blynydde. Ond o’n nhw ddim yn fodlon bod neb yn gweitho part time ‘na nawr.

Ond beth o’ch chi’n gweld yn anodd te? O’ch chi’n gweud taw eich dwylo chi oedd y broblem?

Ie.

Ife cyrraedd y targets, achos o’ch chi’n gweud bod y targets yn mynd lan drw’r amser?

Ie.

O’n i jest yn siarad am eich iechyd chi ac o’ch chi’n gweud bod eich dwylo chi’n gwynegu ife, a wedyn ethoch chi i ofyn am neud llai o orie. Beth o’ch chi’n teimlo oedd y broblem, yr orie neu’r targets o fewn yr orie ‘na?

Yr orie rili achos gyda arthritis pan ych chi’n codi’n bore chi’n slow, chi ffaelu gwisgo a pethach, so o’n i’n gorfod codi’n gynt yn y bore i fynd i’r gwaith erbyn hanner awr wedi saith. A chi’n gwbod, chi’n stiff a pethach ife. Erbyn chi’n dod i’r prynhawn, chi’n dod i ben ag e ontyfe. But, oedd e yn galed a byddech chi’n bennu am bump, a byddech chi’n dod gatre, byddech chi’n stiff wedyn unwaith o’ch chi’n dechrau eiste lawr neu rywbeth ontyfe.

Y dwylo yn benna, ife?

Na, ma’ fe drosta i i gyd.

00.46.30: Falle o’dd e ddim yn helpu bod chi’n eiste fan’na trwy’r dydd ‘fyd oedd e?

Fel o’n i’n cario ‘mlae’n a pethach yn dydd, fel chi’n iwso’ch corff ma’ fe’n iawn ontyfe. Achos bues i’n gweithio ‘da Helena (Gregson) fan’na am sbel ar ôl bennu ond dim ond rhyw two or three hours, once a week chi’n gwbod.

Ma’ hwnna’n flexible beth bynnag wedyn ife. Ond ar y cyfan enjoioch chi ‘na?

Do, fi, do.

Ble joioch chi fwya? Cardwells neu Slimma?

Weden i Slimma fi’n credu. Sa i’n cofio lot o Cardwells. Ma’ fe’n mynd nôl blynydde ontyfe.

Ond beth enjoioch chi’n Slimma?

Joio gwnïo. Joio ‘da’r merched, er bod y gwaith yn galed ontyfe. Ond o’ch chi ynddo fe bob dydd so o’ch chi jest yn mynd ‘da’r flow ontyfe.

A shwd o’ch chi’n teimlo’n gweld y dryse ‘na’n cau wedyn? Fi’n gwbod bod chi wedi dod i’r man, a o’ch chi’n dechre meddwl am gwpla.

Sad i weld e’n cau ontyfe, dim dim ond i fi ond lot o youngsters bach erill oedd yn bennu’r ysgol a mynd i weithio ‘na ontyfe. Chi’n gwbod, oedd lot yn mynd ‘na o’r ysgol, para dou, tri blwyddyn falle a wedyn mynd i rywle arall wedyn ontyfe. Ddim yn gwbod beth i neud pan fydden nhw’n gadael ysgol.

Augusta, diolch yn fawr, diolch.

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VSW011.2.pdf