Eirwen Jones. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Ganed Eirwen ar 5 Tachwedd 1951. Roedd mam a thad Eirwen yn byw ym Mhonrhydfendigaid, yn Glynawen, ac mae’n un o naw o blant. Cafodd wyth plentyn cyntaf ei mam a’i thad eu geni adref (saith brawd ac un chwaer) ond fe gafodd hithau ei geni yn ysbyty’r Priory yng Nghaerfyrddin. Mae aelodau’r teulu dal yn cyfeirio ati fel babi’r teulu. Gweithio fel gwas ffarm oedd ei thad yn ei wneud pan oedd yn ifanc. Buodd yn byw yn Llundain am dair blynedd a gweithio ar rownd laeth ydoedd yno. Cafodd ei eni yn Nhreorci ac roedd yn saith mlwydd oed cyn iddo fynd i fyw yn Llandysul. Dim ond Saesneg roedd e’n ei siarad nes iddo ddod i Landysul. Ganed ei mam yn Ffair-rhos ac nid oedd yn gallu siarad Saesneg nes i’w brawd briodi â rhywun di-Gymraeg. Morwyn ffarm oedd mam Eirwen cyn priodi, yn codi am bump o’r gloch y bore i fynd at y gwartheg, yna’n mynd i neud y brecwast i’r gweision. Roedd yn gyfnod hapus i’w mam, ond yn waith caled iawn am gyflog bach. Aeth ei thad i weithio ar yr un ffarm â’i mam. Gadawodd ei mam hi’r ysgol yn bedair ar ddeg. Roedd yn well gan ei thad fynd i bysgota na mynd i’r ysgol. O Landysul oedd teulu tad Eirwen yn wreiddiol – crudd oedd ei thadcu, a oedd yn gwneud dillad hefyd. Hefyd, roedd yna siop gigydd yn y teulu a chafodd ei thad gyfle i weithio ynddi ond fe wrthododd. Roedd yn well ganddo weithio ar y fferm, yna aeth i Lundain.

Roedd ei thad yn gweithio ar y ‘tar’ amser rhyfel. Yna cafodd waith yn gyrru bysus, cyn mynd i weithio ym Mhont Llanio yn gyrru’r lori laeth. Felly, fe symudodd y teulu i Landdewi Brefi er mwyn cael bod yn agos i’r gwaith ym Mhont Llanio.

Aeth Eirwen i’r ysgol fach yn Llandewi Brefi, a’r ysgol uwchradd yn Nhregaron. Roedd Eirwen yn hoffi ysgol ac nid oedd yn colli diwrnod. Roedd ei mam yn gwneud yn siwr o hynny. Roedd yn dal y bws i fynd o Landdewi Brefi i Dregaron. Waunclawdd oedd enw’r tyddyn yn Llanddewi Brefi, lle roedd y teulu’n hunan gynhaliol. Roedd y plant i gyd yn awyddus i fynd allan i weithio ac ennill arian. Roedd ei mam yn siopa’n Llambed bob dydd Mawrth lle roedd y rhai â siopau i gyd yn ei hadnabod. (Roedd y farchnad yn Llambed ac yn Nhregaron bob yn ail wythnos.) Byddai ei mam yn cario’r negeseuon i gyd adre ar y bws. Byddai stondinwyr y farchnad yn cadw pethau iddi erbyn iddi ddod. Roedd yn mynd mewn i’r siop ddillad yn Llambed a mynd â sawl siwt adref i’r bois i gael treial. Mewn pythefnos, byddai’n mynd nôl â’r rhai nad oedd eu hangen, a byddai’n talu fel roedd yn gallu.

00.09.30: ‘O’dd pobol yn nabod ei gilydd mor dda, ac o’dd gyda nhw cymint o ffydd.

Roedd Eirwen yn helpu tipyn ar y tyddyn pan oedd yn tyfu i fyny. Roedd yn gorfod helpu yn y ty bob dydd Sadwrn, ac yn meddwl bod ei brodyr mor ffodus, achos nid oeddynt yn gorfod gwneud gwaith ty. (Nid oedd ei thad yn gwneud gwaith ty chwaith.) Roedd hi a’i chwaer yn gorfod glanhau’r llofft, brwsho, mynd allan â’r matiau. Yn y prynhawn roedd ei mam yn mynd ati i lanhau, a byddai Eirwen yn treulio’r prynhawn yn ei helpu.

Nid oedd Eirwen yn siwr beth roedd hi am wneud ar ôl gadael ysgol, ond fe aeth ei chwaer i nyrsio ac fe benderfynodd Eirwen ei dilyn. Gadawodd yr ysgol yn 1969, yn 17 mlwydd oed, ond roedd yn rhaid iddi fod yn 18 cyn dechrau nyrsio felly roedd yn rhaid aros blwyddyn. Aeth rheolwraig y cantîn ym Mhont Llanio yn dost, a rhoddodd y gorau i’r swydd. Dywedodd tad Eirwen wrthi bod y swydd ar gael.

00.13.01: ‘O’n i’n meddwl – grêt – fi’n dechre off fel manageress. Cafeteria manageress – instant! Ac o’n i’n lico’r syniad. Ac o’n i’n meddwl, reit, mi ddo i.’

Nid oedd cyfweliad ac mae Eirwen yn cyfaddef roeddynt yn ‘despret’ i lenwi’r swydd.

00.13.34: ‘O’dd merched gatre. O’dd dim o’r merched yn mynd allan i weithio… O’dd hi’n hawdd i ffindo gwaith.’

O ran disgwyliadau, byddai Eirwen wedi hoffi mynd i ddysgu ond ni chafodd y canlyniadau lefel O a oedd eu hangen. Yr opsiwn arall oedd mynd i nyrsio.

Ar y pryd roedd Eirwen eisiau mynd bant achos roedd hi’n gallu gweld byddai hyn yn rhoi mwy o brofiadau iddi. Roedd hi eisiau gweld y byd achos dros wyliau’r haf dim ond un trip i Aberystwyth byddai’n cael. Roedd yn cael trips ysgol Sul i lefydd fel Llandudno. Roedd hi erioed wedi bod i Abertawe neu Gaerdydd. Er hyn, roedd mynd i ffwrdd rhywbeth anodd achos roedd hi yn berson hiraethus, ac nid oedd eisiau mynd yn rhy bell. Roedd ei ffrindiau’n ddigon hapus yn priodi a sefyll yn eu dalgylch eu hunain ond roedd hi’n teimlo ei bod hi ychydig yn fwy mentrus. Ar ôl dechrau nyrsio roedd hi’n gallu mynd adre’n rheolaidd ar ddiwrnodau bant a wedyn roedd hi’n gweld ei ffrindiau a fyddai’n gofyn sut roedd hi’n ei wneud. Roedd yn cysylltu â’i mam trwy lythyr gan nad oedd ffôn adref.

Mae Eirwen yn sôn am gael ei danfon ar negeseuon i’w mam yn blentyn a gorfod cerdded milltiroedd. Roedd eu brodyr yn mynd gyda hi er mwyn ei hebrwng, ond hi oedd yr un a oedd yn gorfod mynd i mewn i’r siop a dweud beth oedd ei hangen tra bod eu brodyr yn aros y tu allan.

00.18.11: ‘Heddiw ma’ cymint o hyder ‘da plant…. O’n ni’n shei iawn i gyd a o’n i yn siarad Saesneg o gwbwl.’

Yn y tyddyn yn Llanddewi Brefi nid oedd dwr ganddynt yn y ty, nid oedd gwres canolog. Roedd lle tân agored ac roeddynt yn berwi tegell ar hwnna felly roeddynt yn gorfod aros sbel i gael cwpaned o de. Mewn padell o flaen y tân roeddynt yn cael bath a hynny ar nos Sul. Pan roedd ei mam yn dechrau rhoi’r bwyd roedd hi’n dechrau gyda’r hena – ei thad yn gyntaf ac yna gweithio ei ffordd trwy’r plant felly byddai Eirwen yn ddiwethaf bob tro.

Roedd penderfynu fynd i nyrsio y flwyddyn cyn mynd i weithio ym Mhont Llanio . Roedd wedi ymgeisio, a chael lle yn Aberystwyth. Roedd yn gwybod y byddai’n dechrau’r cwrs ar 4 Ionawr 1970. Roedd y swydd ym Mhont Llanio yn gyfle da iawn i ennill arian. Mae’n teimlo ei bod wedi rhoi ychydig o hyder iddi ar ôl gadael ysgol achos roedd gofyn iddi gyfathrebu gyda phobol eraill yn rhinwedd ei swydd. Roedd tua wyth deg o bobol yn gweithio yno. Dynion oedd y mwyafrif o’r gweithwyr yno ar y pryd. Dim ond tua pedair menyw oedd yno, erbyn hynny (yn y lab).

00.21.14: ‘O’dd e’n dipyn o gyfrifoldeb, yn edrych nôl, jest cael ‘yn nhaflu fan’na. Ges i ddim diwrnod â neb gyda fi yn gweud ‘tho fi beth i neud.’

Roedd Wil Bach wedi bod yn rhedeg y cantîn yn y cyfnod roedd Nansi (y cyn rheolwr) yn sâl, felly fe wedodd wrthi am roi crochan o ddwr ar y tân gydag wyth peint ynddo, a wedyn yn rhoi’r powdwr i wneud y soup. Byddai’n rhoi troiad iddo nawr ac yn y man. Roedd bara ffres yn cyrraedd er mwyn iddi wneud brechdanau, ac roedd yn gallu gwneud unrhyw frechdanau roedd hi eisiau. Roedd rhaid gofalu fod pob dim yn barod i’r lot cyntaf a ddeuai lan am hanner awr wedi naw.

Roedd yn cael lifft i’r gwaith gyda ‘Dai Bear’ er bod sawl un arall yn cynnig hefyd.

00.23.04: ‘O’n nhw’n bobol hyfryd, o’dd lot o sbort ‘da nhw’.

Dim ond hi oedd yn gweithio’n y cantîn ar ei phen ei hun. Roedd hi wedi bod yn helpu ei mam adref felly roedd ganddi dipyn o syniad o’r hyn oedd angen ei wneud. Roedd y prisiau wedi ysgrifennu lawr iddi.

Nid oedd yn teimlo’n swil yn y ffatri achos taw ffrindiau ei thad oedd rhan fwya’r gweithwyr, ac achos ei bod yn un o deulu mawr roedd hi’n gorfod sefyll lan dros hi ei hunan.

I Eirwen, fel merch ifanc, roedd y gweithwyr yn edrych yn hen. Am hanner awr wedi naw byddent yn dod i fyny o’r ffatri ac yn eistedd yno, ac ‘roedd lot o ddwli gyda nhw’. Byddent yn trio cydio ynddi a chael Eirwen i eistedd yn eu côl, neu gofyn iddi am gusan. Byddai Eirwen yn eu gyrru allan wedyn, ac yn cloi’r drws, achos ‘o’n nhw bach yn ddrwg.’

00.25.57: ‘Ond hollol, hollol diniwed. … Ond o’dd lot o ddireidi.’

Os oedd tad Eirwen yn dod roeddynt yn bihafio.

Roedd yn cloco mewn am wyth o’r gloch pan roedd yn cyrraedd, ac yn clocio allan am bedwar o gloch. Roedd rheolwr yno i siecio bod neb yn cloco mewn ar ran neb arall ond roedd hyn yn digwydd.

00.27.21: ‘O’dd pob drygioni’n cael ei wneud yn Pont Llanio.’

Roedd yn anodd darganfod pwy oedd wedi clocio mewn ar gyfer rhywun arall ac ni fyddai neb yn cyfaddef. Roedd rhai’n gadael a chael rhywun arall i gloco mas ar eu cyfer hefyd.

Roedd pwyslais mawr yn y ffatri ar lendid.

‘O’n i’n gorfod glanhau, glanhau, glanhau yn ddyddiol’.

Ond nid oedd neb yn siecio ei bod wedi gwneud hyn.

Pan roedd Eirwen yn yr ysgol roedd yn mynd gyda’i thad i gasglu tshyrns yn eithaf aml. Dyna ddiwrnod mas gorau’r gwyliau. Ambell waith byddai’n dod nôl â llo bach gyda fe ar y lori. Efallai byddai’n agor tshyrn a byddai Eirwen yn cael cymaint o laeth a fynnai.

Buodd un o frodyr Eirwen yn gweithio’n yr adran bowdwr yn y ffatri pan roedd Eirwen yn yr ysgol gynradd. Buodd yn gweithio yno am flynyddoedd a gweithio shifft nos roedd ef yn ei wneud. Pan roedd Eirwen yn groten nid oedd yn gallu deall paham roedd e’n y gwely yn ystod y dydd.

Cred Eirwen bod yna fwy o ferched yn gweithio’n y ffatri yn ystod y chwedegau ond roeddynt wedi cwtogi ar y rhifoedd oherwydd eu bod nhw wedi stopio gwneud menyn. Erbyn bod Eirwen yn mynd yno roedd lot o’r llaeth yn mynd i Felinfach hefyd. Caeodd y ffatri tua 1974 a buodd y ffactri’n lot mwy llewyrchus yn y chwedegau.

Pan ddechreuodd Eirwen yn y ffatri roedd yn teimlo mor gyffrous ei bod hi’n mynd i ennill arian. Roedd y cyflog tua chwe phunt yr wythnos ac roedd Eirwen yn hapus iawn gyda’r arian.

00.32.52: ‘Roedd e’n arian mawr i fi bryd ‘nny.’

Roedd Eirwen yn cynilo’r arian a phrynu dillad newydd i fynd i ffwrdd i nyrsio.

Pan roedd yn un ar bymtheg roedd yn byw gyferbyn â’r orsaf heddlu. Roedd gwraig y plismon yn gweithio mewn cartref, ac roedd ganddynt ferch fach a oedd wedi ei mabwysiadu a oedd tua chwe mlwydd oed. Roedd Eirwen yn mynd yno i aros dros nos achos bod ei mam allan yn y gwaith, a’r plisman allan ar alwad. Byddai Eirwen yn mynd â’i llyfrau ysgol gyda hi, ac yn aros dros nos. Roedd yn cael ‘dou a chwech’ yn gyflog, am aros yno dros nos. Byddai’n chwarae gydag Elizabeth, y ferch fach, ac yna’n mynd i fyny’r llofft tua naw o’r gloch gyda’i llyfrau. Ni fyddai ganddi unrhyw syniad am faint o’r amser byddai’r tad allan.

Buodd yn gweithio ym Mhont Llanio tua phum mis. Roedd yn gweithio pum niwrnod yr wythnos. Nid oedd y cantîn yn darparu bwyd ar ddydd Sadwrn. Nid oedd hyfforddiant fel y cyfryw ar gyfer y swydd, ar wahan i ddangos i Eirwen sut i wneud y soup. Daeth Wil Bach lan ar ddiwedd y diwrnod cyntaf i ddweud wrthi bod eisiau sychu’r byrddau. Yn ôl Eirwen, roedd Wil yn gymeriad.

00.36.09: ‘Un bach o’dd e. O’n i’n gallu cwmpo Wil, os o’dd Wil yn mynd yn ddrwg o’n i’n gallu cwmpo Wil. … O’n nhw’n tynnu co’s yn ofnadw. … O’dd e’n brofiad a fuodd yn help i fi ar ôl mynd bant… O’n i wedi dod yn gyfarwydd â siarad a ymwneud â pobol falle.’ ‘O’n i’n nyrsio wedyn, a nyrsio dynion a o’n i ddim yn ofan o gwbwl. O’n i wedi cyfarwyddo â tynnu co’s.’

Nid oedd Eirwen yn gweld llawer o’r merched eraill oedd yn gweithio’n y ffatri. Roedd hi wastad yn fwy ofnus ohonyn nhw ac yn poeni bydden nhw’n ei beirniadu, ond o’n nhw’n hyfryd.

Nid oedd Eirwen yn mynd allan yn ystod yr adeg yma. Mae ganddi gof o fynd allan i ddawns un neu ddau o weithiau yn unig. Ni fuodd hi mewn tafarn yn Llanddewi Brefi. Nid oedd yn mynd i dafarnau yn ystod y cyfnod hwn.

Nid oedd Eirwen yn talu am ddim byd yn y ffatri. Pan aeth i weithio’n y ffatri a gweld yr holl greision a’r siocledi roedd wrth ei bodd. O ganlyniad roedd wedi magu tipyn o bwysau.

Dynion oedd rheolwyr y ffatri a Saeson oeddynt, fynycha. Roedd un rheolwr yna drwy’r amser ond nid oedd Eirwen byth yn ei weld ef. Mae Eirwen yn ystyried bod y Bwrdd Marchnata Llaeth yn gwmni da i weithio iddyn nhw, ac yn garedig iawn. Roedd ei thad yn cael hampyr ganddynt bob blwyddyn yn cynnwys menyn, caws, tuniau ffrwythau, tuniau o eog, bocsys siocledi. Roeddynt yn cael cinio am ddim bob blwyddyn. Dyma’r unig achlysur byddai ei mam a’i thad yn mynd allan oedd cinio gwaith Pont Llanio.

Mae Eirwen yn disgrifio’r cwmni fel cyflogwr teg yn ôl y ffordd cafodd ei thad ei drin, a chael pensiwn wedi iddo ymddeol.

Buodd y gweithwyr yn y ffatri ar streic yn 1968 (cyn iddi weithio yno.) Nid yw Eirwen yn gwybod paham. Buodd ei thad ar streic hefyd felly, ond gwnaeth dim lles i’r ffatri yn y pen draw.

Roedd Eirwen yn gwisgo’r un math o overall â’r merched yn y labordy. Nid oedd yn gwisgo menyg i wneud y brechdanau. Os oedd digwydd bod problem gan Eirwen yn y gwaith byddai’n mynd at ei thad, ond mewn gwirionedd nid oedd ganddi neb drosti.

Nid oedd rheolau yn y ffatri.

00.48.22: ‘Os o’ch chi’n cwmpo, wel tyff ife. Os o’dd y llawr yn wlyb ac o’ch chi’n digwydd cwmpo wel tyff o’dd hi.’

Nid oedd Eirwen yn mynd i’r ty bach drwy’r dydd.

Roedd y ffatri’n swnllyd iawn ac roedd yn gallu clywed y peiriannau. Roedd y loriau yn chwythu allan lot o gemegau, ac roedd yn gallu aroglu’r petrol. Nid oedd y ffatri’n cael ei gwresogi ond roedd y gweithwyr yn gwisgo digon o ddillad amdanynt.

Roedd y cantîn yn brysur drw’r dydd. Byddai’n dechrau cau tua tri o’r gloch. Roedd llawer o’r gweithwyr yn ysmygu, ac roeddynt yn ysmygu’n y cantîn. Nid oedd Eirwen yn caniatau iddynt ddod mewn i’r gegin lle roedd hi’n gweithio ac ysmygu man hynny.

Mae Eirwen yn cofio’r tro cyntaf daeth ei thad i’r cantîn i gael bwyd ar ôl iddi ddechrau yno. Archebodd fwyd wrthi a rhoi’r arian iddi. Rhoiodd hi newid nôl iddo o fewn ciniog neu ddwy i’r hyn roedd e wedi rhoi iddi, ond mynnodd ei thad ei fod e’n talu’n iawn. Roedd y ffatri’n cadw i fynd drwy’r flwyddyn, ac roedd tad Eirwen yn gweithio dydd Nadolig yn casglu’r llaeth.

Roedd y gweithwyr eraill ym Mhont Llanio yn gwybod taw dros dro roedd Eirwen yno ac yn ei phoeni y byddai’n ffeindio rhyw ddyn ar ôl mynd i ffwrdd, ac i ‘watsho mas’ am ddoctoriaid tywyll eu croen. Roedd lot o hiwmor cefn gwlad yno. Cymraeg oedd iaith y ffatri, fwya. Roedd un neu ddau yn siarad Saesneg ond nid oedd Eirwen yn cyfathrebu llawer gyda nhw achos nid oedd yn siarad llawer o Saesneg ei hun. Roedd hyn yn broblem iddi pan aeth i nyrsio yn Aberystwyth, ac yn dipyn o sioc iddi taw Saesneg oedd y merched eraill. O ganlyniad, nid oedd Eirwen mor hyderus a theimlai’n israddol.

00.55.39: ‘O’n i’n teimlo, ma’ ‘da nhw fantes arna i.’

Pan gafodd canlyniadau ei harholiad nyrsio roedd wedi cael marc da, cystal os nad yn well na’r lleill na nhw, a thrwy hynny roedd wedi cael cyfle i ad-ennill ei hyder. Pan aeth ar y wards roedd yn gallu siarad Cymraeg, unwaith eto. Nid oedd wedi gorfod siarad Saesneg ym Mhont Llanio. Roedd teledu ganddi adref ond nid oedd yn cyfathrebu’n Saesneg. Mae Eirwen yn tristau i feddwl nad yw rhieni yn siarad Cymraeg â’u plant heddiw.

Yn ystod y cyfnod roedd yn gweithio ym Mhont Llanio nid oedd yn mynd allan yn y nos. Byddai’n chwarae tenis ar y stryd.

00.59.25: ‘O’dd e’n gyfnod neis iawn, achos o’n i’n teimlo, o’n i’n byw gatre hefyd, a o’dd hwnna wedi bod yn neis…. O’dd dim un homework ‘da fi, dim byd fel ‘na. So o’dd hwnna’n gyfnod hapus, hapus.’

Y capel nid y ffatri oedd y canolbwynt ar gyfer cymdeithasu.

‘Y capel o’dd yn dod â ni at ‘yn gilydd.’

Roedd Eirwen yn teimlo’n gyffrous am adael y ffatri achos ei bod hi’n mynd ymlaen i nyrsio. Roedd yn teimlo’n barod i adael y nyth. (Ond ar ôl mynd roedd ganddi hiraeth.)

Pan aeth i nyrsio roedd yn rhannu ystafell gydag un o’r merched eraill, a oedd yn hoffi mynd allan drwy’r amser ac yn ysmygu. Nid oedd Eirwen yn mynd allan nac yn ysmygu. Nid oedd y ferch yn ei hoffi oherwydd nid oedd Eirwen yn gallu cyfathrebu’n Saesneg a gofynnodd am gael ei symud i rannu gyda rhywun arall.

Mae Eirwen yn disgrifio bywyd ar yr aelwyd, lle roedd bwyd ar y ford drwy’r dydd.

Mae’n disgrifio ei hamser ym Mhont Llanio fel ‘cyfnod hapus .. o’dd e’n brofiad newydd.’ Roedd hi wastod wedi eisiau gweithio mewn siop hefyd, ac mae’n teimlo ei bod hi wedi cael y profiad hwnnw, mewn ffordd, trwy weithio ym Mhont Llanio. Roedd hi’n teimlo fel plentyn yn rhedeg siop fach.

01.05.20: ‘Tu ôl ‘yn feddwl o’n i’n gwbod bod ‘yn nhad ‘na, a gwbod bod e’n dod, os o’dd unrhyw beth, o’n i’n gwbod sen i ond yn gweud ‘tho fe, a bydde fe’n rhoi nhw yn eu lle. O’dd y dawn ‘nny gyda fe.’

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VSW055.2.pdf