arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Eileen Davies. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Ffatri Ddillad Slimma-Dewhirst, Llandymddyfri (dechrau yn 1977)

Cyfwelai: VSW026 Eileen Davies

Dyddiad: 7.2.14

Cyfwelydd: Catrin Stevens ar ran Archif Menywod Cymru

Gadawodd Eileen yr ysgol yn 18 oed (1969) ar ôl gwneud Lefel A mewn gwnïo a bu'n dysgu dosbarthiadau nos a.y.b. tan ar ôl cael ei merch, yna dechreuodd (tua 1977) yn Slimma, Llanymddyfri. Roedd y ffatri'n cynhyrchu trowseri â chanol lastig i M&S. Doedd neb yn torri yno a phob un yn gwnïo darn gwahanol. Teimla Eileen fod merched fferm yn gyfarwydd â gwaith caled. Caent gyfarwyddyd manwl (e.e. sawl pwyth y fodfedd) gan M&S. Bu Eileen yn tsiecio'r nwyddau, yna'n llenwi bylchau. Dim digon o gyflymder i fod ar y lein. Bu hefyd yn ffatri Llambed ar y jîns. Ar ôl gadael coleg bu mewn ffatri fach ym Mynydd Cynffig yn gwneud dillad o frethyn Cymreig. Wrth tsiecio yn Slimma roedd yn anodd dweud wrth weithiwr am ail-wneud rhywbeth. Cafodd swydd goruchwylwraig. Byddai cynnen os byddai peiriannau'n torri a'r gwaith ar stop. Dim uchelgais gan y merched. Ddim yn aelod o'r Undeb. Roedd y tomennydd dillad yn amsugno'r sŵn. Iechyd a Diogelwch - cario pwysau trwm. Byddai merched yn mynd i'r dafarn ar ôl cael tâl dydd Gwener. Twrci'r un adeg y Nadolig. Gadawodd hi i briodi.

Eitemau yn y stori hwn

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Cyfweliad, Eileen Davies. Lleisiau o Lawr y Ffatri

mewngofnodi i gadw'r eitem hon A vector image of a star to represent action to save this item

Llun Eileen Davies a gweithwyr ffatri ddillad...

Ganed Eileen ar 21 Medi, 1951 yn ysbyty Glyn Nedd. (Roedd ei rhieni’n byw ym Mhowys, ac roedd angen Caesarian ar ei mam.) Roedd ei thad yn ffermio, a buodd ei mam yn gweithio adref gyda’i rhieni hi. Roedd ei mam eisiau mynd i nyrsio ond gan taw hi oedd yr ifancaf bu’n rhaid iddi aros adref a helpu yno.

Mae gan Eileen brawd a chwaer. (Eileen yw’r plenty canol.) Aeth i’r ysgol yng Nghwmdwr ar yr A40. Roedd ffarm y teulu yng Nghrugybwbach, ger Trecastell. Roedd yn hoff o’r ysgol. Aeth ymlaen i’r ysgol uwchradd yn Llanymddyfri. Gwnaeth ei harholiadau lefel A yn yr ysgol ac aeth i’r ysgol gelf yn Llanelli i wneud cwrs gwnïo. Fe geuodd ar ôl blwyddyn, felly aeth wedi hynny i wneud cwrs

yng Nghaerfyrddin. (Roedd wedi gwneud lefel A mewn gwnio.) Dywedodd Eileen eu bod yn newid y cyrsiau i gyd er mwyn cynnwys mwy o gynllunio, ond gwnïo roedd hi eisiau gwneud. Roeddynt eisiau iddi sefyll ymlaen am flwyddyn arall i wneud cwrs arall mewn cynllunio (HND efallai) ond fe adawodd. Ei bwriad ar y dechrau oedd dysgu gwnïo ond nid oedd yn gallu pasio ei lefel O yn Saesneg felly nid oedd yn gallu mynd mewn i unrhyw goleg fel y Drindod. Fel ‘absolute last resort’ aeth i goleg celf. Roedd yn teimlo’n ‘gutted’ nad oedd wedi gallu pasio’r arholiad Saesneg a mynd i ddysgu gwnïo. Ond aeth ymlaen i ddysgu dosbarthiadau nos ym Mrycheiniog beth bynnag, am dair neu bedair noson. Roedd y pwyslais ar yr ochor gymdeithasol yn hytrach na’r grefft. Roedd yn nabod lot o’r rhai yn y dosbarthiadau ac yn siarad Cymraeg â nhw, ac felly roedd yn ffeindio’r sefyllfa yn anodd achos bod rhai di-Gymraeg yn y dosbarth hefyd.

Y swydd gyntaf gafodd ar ôl gorffen yn y coleg oedd yn Aberhonddu yn altro dilliad a buodd yno am flwyddyn neu flwyddyn a hanner. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn gwneud y dosbarthiadau nos ac yn mynd draw i Ferthyr i wneud cwrs dysgu (‘teachers’ training) Ar ôl cael y plentyn cyntaf fe benderfynodd gweithio yn y dosbarthiadau nos yn unig. Roedd ei merch fach tua tair blwydd oed pan ddechreuodd weithio yn Slimma, Llanymddyfri (tua 1977).

Cafodd Eileen y swydd achos bod mam-yng-nghyfraith ei chwaer yn gwybod ei bod hi’n gallu gwnio ac wedi cynnig swydd iddi. Ond y swydd gyntaf a gafodd hi yno oedd siecio’r trwseri gorffenedig i weld os oedd unrhyw nam neu dyllau ynddynt. Nid oedd wir eisiau’r swydd. Roedd yn gwnïo iddi’i hun adref, ac fel y dywedodd hi roedd yn eithaf ‘cyffyrddus’ adref, ond roedd ei mam hi wedi ei hannog i fynd i weithio yno. Nid oedd wedi cael unrhyw fath o gyfweliad ond dywedodd amser hynny, ‘word of mouth’ oedd hi.

Os oedd angen cywiro unrhywbeth beth byddai’n gallu mynd ar un o’r peiriannau. Ar y pryd roedd tua tri deg o bobl yn gweithio yno ac roedd y ffatri yn cynhyrchu trwseri gyda gwregys ‘lastig i Marks and Spencers.

Roedd y rheolwraig (Pat Pegram) yn byw yn Tally, a’i gwr yn gweithio yn Fords, Abertawe. Nid oedd Eileen yn ei hadnabod cyn mynd i weithio yno. Roedd y merched eraill a weithiai yno wedi cael hyfforddiant. Nid oeddynt yn gwnïo dilledyn cyfan ond rhan ohono’n unig. Roedd y trwseri yn dod yno mewn darnu, ac yn ‘trafeilu’ o un ochr y sied i’r ochr arall wrth gael eu gwnïo. Nid oedd unrhyw ddeunydd yn cael ei dorri yno o gwbl. Roedd y darnau wedi cael eu torri’n barod ar safle arall. Buodd y darnau yn cael eu torri yn y ffatri yn Sgiwen (er bod peth ohonynt yn dod o Lambed ar un adeg.)

Roedd gan Eileen sgiliau gwnïo da, ond nid yw’n son am fod yn rhwystredig gyda’r gwaith. Mae’n sôn am ba mor rwydd oedd y gwaith, a’i fod yn arian da. Merched fferm oedd sawl un o’r gweithwyr – mae Eileen yn sôn bod merched fferm ‘yn gyfarwydd â gweithio.’ Roedd y gwaith yn dechrau am wyth o’r gloch y bore, ac yn gorffen am hanner awr wedi pedwar, neu bump o’r gloch y prynhawn.

‘O’dd rhaid i chi weithio ne gelech chi ddim ych talu.’

Roedd y merched yn gorfod gweithio i’w targedi, ond nid yw Eileen yn ystyried bod y targedi hynny’n uchel. Os oeddech yn cadw i fynd, oeddech chi’n iawn.

Roedd menywod ifainc a menywod hyn yn gweithio yno. Roedd yn gweithio diwrnod llawn o ddydd Llun i ddydd Iau, a hanner diwrnod ar ddydd Gwener (er bod hyn yn golygu gweithio tan dri o’r gloch fel arfer.) Weithiau roedd over time os oedd angen cael archeb allan neu ar gyfer ‘stock taking’.

Roedd yn reit swnllyd yno ond daeth yn gyfarwydd â’r swn. Anaml iawn byddai gweithwyr o ffatrïoedd eraill Slimma’n dod yno. Roeddynt yn cwrdd weithiau, os oedd unrhyw newidiadau o fewn y cwmni, ond ni newidiodd unrhywbeth yn ffatri Llaymddyfri dros y blynyddoedd. Dechreuodd wneud siorts ar un adeg, a buodd yn gwneud sgertiau hefyd, ond gwneud trwseri oedd y gwaith fynycha.

Roeddynt yn cael ymweliadau wrth y bosys a chynrychiolwyr o Marks and Spencers. Byddai pob dim yn cael ei gadw’n daclus ar gyfer ymweliadau Marks and Spencers. Roedd Marks and Spencer yn rhoi cyfarwyddiadau penodol iawn i’r cwmni, hyd yn oed er mwyn pennu sawl pwyth i’r modfedd roedd ei angen.

Ar ôl gweithio yn siecio’r dillad aeth Eileen ymlaen i weithio fel ‘float’ – sef rhywun oedd yn gwneud gwaith rhywun oedd yn absennol. Nid oedd ganddi darged pan oedd yn gweithio fel ‘float’. Roedd yn cael ei thalu’r cyflog sylfaenol ac nid oedd ganddi’r cyflymder oedd gan y merched hynny a wnai’r un swydd o fore gwyn tan nos. Nid oedd Eileen ar lein felly, ond nid oedd hyn yn ei phoeni oherwydd roedd dal yn cael ei chyflog.

Nid oedd angen cymwysterau o gwbl ar gyfer y swydd. Roedd rhai o’r merched wedi dechrau’n syth o’r ysgol. Mae Eileen yn dweud roedd modd trafod y defnydd mewn ffordd er mwyn gwnïo’n gynt – os oeddech yn gallu gwnïo o lun y trwser i lawr i’r gwaelod heb stopo, roeddech yn gallu gorffen y gwaith yn gynt.

Buodd Eileen yn ffatri Llambed am gyfnod yn gweithio ar jîns, ond roedd yn waith caled iawn. Hefyd, buodd yn gweithio mewn ffatri yn Kenfig Hill ar ôl gadael coleg am gyfnod o chwe wythnos, lle roeddynt yn gwneud dillad allan o frethyn Cymreig. Nid oedd yr un ohonynt yn mwynhau gweithio ar y clogynnau ar wahan i un ferch, ac roedd hi’n gallu ennill arian da. Roedd yn lle bach yn cynhyrchu gwaith arbenigol, ac nid oeddynt yn cynhyrchu llawer o ddillad. Nid oedd lein yno’n cynhyrchu’r dillad fel y cyfryw. Roedd dwy o’r merched felly yn gweithio ar y clogynnau, wedi creu ‘production line’ bach eu hunain ac yn ennill arian da. Arweiniodd hyn at gwympo mas.

O ran ei swydd yn siecio’r dillad yn Slimma, roedd Eileen yn torri’r edau i ffwrdd, siecio bod y labeli’n iawn, siecio bod dim tyllau yn ynddynt, troi nhw allan a’u staco nhw. Pan roedd Eileen yn darganfod twll yn un o’r trwseri roedd yn rhaid iddi ddanfon y dilledyn yn ôl at y person oedd wedi’i wnio. Roedd hyn yn gallu bod yn lletchwith weithiau. I Eileen y dewis oedd gwneud hyn gyda gwên ar yr wyneb neu wrth gwmpo mas â rhywun. Nid oedd Eileen byth yn cwmpo mas â neb. Roedd tyllau’n mynd yn y trwseri wrth i’r merched ymdrechu i orffen eu gwaith yn gynt (ac ennill bonws.)

Roedd cantîn bach yn y ffatri’n darparu brecwast. Roeddynt yn cael tua chwarter awr o frêc yn y bore. Roedd y merched yn cael mynd i’r toiled bryd bynnag y mynnent ac yn ‘cloncan’ fel roeddynt eisiau, er gwaetha’r swn. Byddent yn trafod pwy oedd wedi mynd mas gyda phwy, a’r swae arferol. Roedd y ffatri mor fach nid oeddynt yn cwympo mas yn aml, ond roedd hyn yn digwydd ambell waith. Roedd y merched i gyd yn nabod ei gilydd, ac yn dod o’r ardal – o Landymddyfri, Llangadog, Llanwrda. Yn ystod y cyfnod pan oedd Eileen yn goruwchwylio ac yn cyfweld ymgeiswyr ar gyfer swyddi’n y ffatri, roedd nabod teulu ac achau rhywun yn fantais. Hefyd, o ran ymddygiad roedd yn fantais ei bod hi’n gallu dweud wrth y merched ifainc am ‘fyhafio’ neu byddai eu mam neu eu tad yn ffeindio allan. Yn aml iawn, ni fyddai’r gweithwyr ifainc ar ddihun yn y bore am eu bod nhw wedi bod allan y noson gynt, a byddai’r gwaith yn arafu! Cyngor Eileen oedd,

00.33.43: ‘Prioda er mwyn tad, and let’s get back to normal.’

Roedd Pat, y rheolwraig wedi penderfynu y byddai Eileen yn rheoli’r lein, a dyna sut cafodd swydd oruwchwylwraig. Roedd rhan fwya’r lleill wedi bod yno’n hirrach nag Eileen. Hefyd, cafodd ei hethol fel cynrychiolydd undeb er nad oedd yn aelod o’r undeb.

Roedd dau fecanic yn teithio i lawr o Lambed i drwsio peiriannau pan roedd angen yn y ffatri yn Llanymddyfri. Pan roedd Eileen yn orwuchwylwraig roedd hi’n treio sortio unrhyw broblemau ar y peiriannau allan ei hun yn gyntaf, ac os oedd yn methu roedd hi’n galw mechanic i ddod lawr. Roedd blêds ar y peiriannau i dorri defnydd felly os nag oedd digon o awch arnynt byddai’r mecanic yn eu newid.

Nid oedd llawer o gyfle i’r merched a weithiai yno i ddatblygu yn eu gyrfaoedd oherwydd yr unig waith arall yno oedd gweithio fel goruchwylwraig neu reolwr, a byddai angen i rywun adael er mwyn cael swyddi fel hyn. Nid oedd staff yn gadael yn aml a buodd y rhan fwyaf ohonynt yno am flynyddoedd.

Roedd yn anodd i Eileen gymdeithasu â’r merched eraill tu allan i’r gwaith oherwydd roedd ganddi blentyn. Roedd y merched ifainc yn cymdeithasau tipyn gyda’i gilydd.

Roedd tipyn o dynnu coes yno, ond weithiau byddai’r ‘y crafangau mas’. Asgwrn y gynnen yn aml iawn oedd bod y merched yn teimlo eu bod ar eu colled os oedd problem gyda’r peiriannau a bod y gwaith ar stop.

00.38.38: ‘O’dd pob un yn cael y bai wedyn twel. Anybody in the line of fire. Gallen nhw weud beth bynnag o’n nhw’n moyn ato i. O’dd hwnna ddim yn meddwl bod fi’n codi ato fe.’

Roedd Eileen yn cynghori’r merched a oedd yn cwyno am unrhyw broblemau a fyddai’n effeithio ar eu bonws i’w chofnodi are u ‘timesheet’.

O ran sgiliau ymarferol mae Eileen yn dweud roedd yn rhoi’r jobs mwyaf hawdd i’r rhai a fyddai’n cael anhawster cyflawni jobs mwy anodd. Yna, efallai cai’r person hwnnw gyfle i fynd ar beiriant arall, ond os nag oedd pethau’n gweithio allan, roedd yn rhaid mynd nôl i’r job gwreiddiol. Ni fyddai gan y gweithiwr ddewis.

00.40.17: ‘Os ych chi’n gweld bod ddim o’r dawn gan rywun i neud jobyn bach eitha’ syml, chi’n ffeindio rhywbeth arall iddyn nhw neud…. Ma’ rhai â’r dawn i neud pethach, ac i neud beth chi’n gofyn iddyn nhw i neud’.

Roedd plant gan sawl un o’r merched a weithiai yna, fel Eileen ei hun. Roedd yr arian yn dda ac roedd Eileen yn ennill tua £100 yr wythnos pan roedd yn oruchwylwraig (30 mlynedd yn ôl). Gymerodd hi ddim sbel i ddod yn supervisor.

00.42.53: ‘O’dd dim aspirations ‘da’r merched if od lan fanna. (MAE’N RHOI EI LLAW LAN YN UCHEL) O’n nhw’n ddigon hapus i fod fanna. (MAE’N GOSTWNG EI LLAW.) …. O’dd dim gobeth ‘da nhw i fynd ymhellach.’

Os oedd merched yn gadael, gadael i fynd i gael plant a wnant.

Roedd siop ar y safle, yn y Portakabin ar yr iard. Roedd tipyn o ddillad yn cael eu gwerthu yno – tywelion, dillad dynion ayyb, ac nid yn unig y trwseri oedd yn cael eu gwneud yn y ffatri yn Llanymddyfri. (Seconds oedd y dillad hyn.)

Er bod Eileen wedi cael ei hethol i gynrychioli’r merched ar yr undeb, nid oedd yn aelod, nac yn talu aelodaeth. Esboniodd nad oedd yn aelod a chafodd ei hannog i ymuno a thalu ei dyled, ond gwrthododd.

00.45.38: Dywedodd, ‘O’’n i’n meddwl if I’ve got a battle to fight, I’ll fight it on my own…. I’ll fight my corner but I’m not fighting everybody elses.’

Pan roedd yn oruchwylwraig hi oedd yn mynd ag unrhyw gwynion at y rheolwyr, felly nid oedd yn gweld unrhyw ddiben mewn cael undeb mewn lle mor fach.

00.47.00: ‘O’ch chi’n clywed yn ddigon cloi os o’dd rhywun yn twmlo bod nhw’n ca’l cam.’

Roedd Eileen yn teimlo bod y gweithwyr yn cael eu trin yn deg yno. Os oedd problem

gyda’r peiriannau a’r mecanic yn methu dod, roedd hynny’n golygu bod problem gyda’r gwaith yn Llambed. Os oedd merched ar ‘downtime’ roedd Eileen yn eu cynghori ei roi hyn ar ei slips. Nid oedd yn bosib gweithio rhan amser yno.

Slimma a choleg Llanymddyfri oedd rhai o brif gyflogwyr yr ardal i fenywod. Roedd hi’n gallu mynd yn oer yn y ffatri yn ystod y gaeaf gan taw sied oedd yr adeilad, ond roedd yn gallu bod yn ferwedig yn ystod y gaeaf. Collwyd y cyflenwad trydan ar un adeg. Weithiai byddai Eileen yn mynd mewn yn gynnar yn y bore yn ystod yr haf os oedd y tywydd yn dwym, a gadael yn gynnar. Roedd yr adeilad ei hun yn rhyw fath o sied goncrit gyda thô asbestos a llawr sment. Pan roedd y llawr yn cael ei frwsio ac roedd llawer o lwch yn codi. Roedd glanhawraig ganddynt, a’r mecanics yn cynnal a chadw’r peiriannau, a’r merched yn cadw eu llefydd bach nhw’u hunain yn daclus.

Nid Eileen yn ystyried bod y gwaith yn beryglus, er bod ganddi frith gof o dorri ei bys a gorfod cael chwistrelliad tetanys. Roedd y cyfleusterau’n lan, ‘i’r dim’.

00.54.05: ‘O’dd tomenni o drwseri ymbytu. O’dd hi ddim yn wag ‘na byth. … O’dd y swn ddim yn mynd dim unman. O’t ti’n eitha’ buffered. O’dd y swn yn cael ei absorbo mewn i’r defnydd… You had sound barriers rownd i ti.’

Os oedd rhywun ddim yn teimlo’n gant y cant, a bod hyn yn effeithio’r perfformiad, roedd Eileen yn dodi rhywun arall ymlaen i’w helpu.

00.56.17: ‘Jobyn chi fel supervisor oedd cadw llygad ar y lein i neud yn siwr bod y gwaith yn rhedeg trwyddo.’

Roedd mwy o leins mewn ffatri fel Llambed, ac efallai’r gwaith yn fwy cymhleth. Yn Llanymddyfri roedd y trwseri yn eithaf plaem – dim poced, dim zips. Ond mae’r gwaith dal yn gorfod rhedeg yn rhwydd, yn union yr un peth â petaech chi’n gwneud jîns. Os oedd hi’n gweld bod rhywun ddim yn tynnu eu pwysau roedd yn rhaid gofyn beth oedd yn bod, a rhoi rhywun arall ymlaen i gael gwneud yn siwr bod y gwaith yn mynd trwyddo.

Cyn bod y ffatri’n cychwyn yn Llanymddyfri, roedd Slimma’n rhedeg bws gweithwyr o Lanymddyfri i Lambed. Roedd hynny’n golygu bod tua pymtheg yn teithio bob dydd. Penderfynwyd agor ffatri yn Llanymddyfri. Roedd y ffatri’n Llambed yn cynhyrchu’r un math o drwser â’r ffatri’n Llanymddyfri.

O ran Iechyd a Diogelwch cario pwysau oedd y peth pwysig. Sylweddolodd Eileen bod un o’r merched yn disgwyl babi, ond nid oedd wedi dweud wrth Eileen yn swyddogol. Roedd rhai o’r bwndeli o drwseri yn gallu bod yn eithaf trwm. Roedd Eileen yn dweud nad oedd yn gallu gwneud dim byd i helpu’r ferch nes ei bod hi’n rhoi gwybod iddi.

Nid oedd absenoldeb o’r ffatri’n gyffredin er bod ambell un yn cyrraedd yn hwyr, gan honni bod gwartheg ar yr heol. Roeddynt yn gwrando ar y radio (Radio 2) wrth wneud eu gwaith.

Daeth prentis ifanc i weithio yno am gyfnod, ond buodd e ddim yno’n hir iawn. Cred Eileen ei fod wedi mynd ymlaen i fod yn blismon. Nid oedd cloco mewn a mas gan fod y ffatri’n fach. Y menywod heb blant oedd fynycha’n sefyll ymlaen i weithio gor-amser pan roeddynt yn cael y cynnig.

Roedd cantîn yno ond bwydydd ysgafn oedd yn cael eu darparu, fel brechdanau a rôls ac roedd yn rhaid talu am y bwyd.

Roedd wythnos o wyliau amser Pasg, pythefnos yn ystod yr haf, tua pythefnos adeg Nadolig, ac roedd y ffatri’n cau ar eu cyfer. Roedd gwyliau’r banc yn rhydd hefyd. Os oedd angen amser off am resymau personol nid oedd hynny’n broblem ond yn achos Eileen roedd yn rhaid sorto’r peth allan gan ei bod yn oruwchwylwraig.

Nid oedd cefndir gwnïo gan y rheolwraig. Daeth o Lundain yn wreiddiol ac nid oes gan Eileen syniad sut lwyddodd i gael y swydd. Roedd Eileen, fel y merched eraill, yn teithio i’r gwaith mewn car, ac yn rhoi liffts i’w gilydd. Byddai’n gadael y ty am hanner awr wedi saith yn y bore.

Mae Eileen yn disgrifio gweithgareddau cymdeithasol y ffatri, fel ‘mynd mas’, a ‘hyfed.’ Fel arfer roeddynt yn dechrau ar brynhawn dydd Gwener – yn cael eu cyflog a ‘bant.’

Adeg Nadolig weithiau byddai parti Nadolig allan pan fyddai’r merched yn talu am eu cinio eu hunain neu weithiau cawsant barti yn y ffatri – ond ni fyddai llawer o waith yn cael ei wneud. Roedd y merched i gyd yn cael twrci gan y cwmni adeg Nadolig.

Roedd Eileen yn meddwl bod gweithio’n y ffatri’n ‘iawn’. Nid oedd ‘gofid’ yno. Gadawodd Eileen y ffatri pan briododd. Roedd tipyn o ansicrwydd o ran dyfodol y ffatri pan adawodd hi. Buodd yn gweithio yno rhan amser, ac roedd y rheolwraig eisiau iddi ddod yn ôl ond fe gariodd ymlaen i wnïo drwy’r amser. Buodd hefyd yn gweithio yn y coleg yn trwsio dillad y disgyblion. Roedd ei gwr wedi dweud wrthi nad oedd yn rhaid iddi weithio ac roedd yn hapus yn gweithio ar ei liwt ei hun.

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VSW026.2.pdf

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw