Beryl Evans. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

(Ar brydiau mae Beryl yn defnyddio tafodiaith yr ‘ife’ – lle mae’n cyfeirio at bawb gan gynnwys hi ei hunan yn y trydydd person)

Cadarnhaodd Beryl ei henw a’i chyfeiriad a nododd mai Beryl Thomas oedd hi cyn priodi. Cafodd ei geni ar 21 Mawrth, 1927.

Cafodd ei geni yn y dre (Llanelli) ond pan oedd hi’n ddwy flwydd oed symudodd y teulu i’r cartref lle mae hi’n byw yn bresennol. Cafodd ei brawd ieuengaf ei eni yn nhy ei mam-gu ddau ddrws i ffwrdd. Cyn i’w mam briodi roedd hi’n gweithio yn y brewery (Felinfoel ar draws yr hewl) ac roedd ei thad-cu yn saddler yn y brewery hefyd. ‘Blynydde nôl odd dim loris i gâl, ceffyle a ceirts odd.’ ‘Gweitho yn y gwaith’ yr oedd ei mam yn y brewery, ac roedd ei thad yn colier yn Tymbl. Roedd ganddi ddau frawd – aeth Malcolm i weithio yn y gwaith steel yn Dafen a cafodd Harry (yr un ifancaf) ei grefft fel saer yn gweithio gyda Bonville Thomas.

Aeth hi i’r ysgol – lawr wrth gwt yr ardd (yn Felinfoel) ac yno yr aeth y tri ohonynt. Bellach mae’r ysgol hon wedi’i thynnu i lawr. Yn y Rank Fawr oedd hon ond bellach mae wedi symud i Ynyswen. O’r ysgol gynradd aeth i Strade a ‘cwpla yn ‘r ysgol wrth gwrs – fourteen.’ Ysgol gymysg oedd hon. Ar ôl gadael aeth i weithio yn y brewery. Ar y dechrau roedd hi i lawr yn y bottling stores ‘llanw poteli, a mashîns yn mynd â nhw ar y conveyer belt … a dodi labels bach ar y poteli – mashîns yn neud rhain hefyd. Etho i o fy’nny i’r pop stores wedi ‘ny i witho yn y part le odd y pop yn câl ‘i neud. On i’n enjoio fan’ny ...’

Och chi’n falch i adel yr ysgol neu och chi’n teimlo licech chi fod wedi mynd mlân?

Wel, pryd hynny och chi’n dod i’r oedran – na’r unig beth odd i gâl – i fynd i witho. … Och chi’n difaru bo chi ddim wedi mynd mlân o gwbwl?

Na, nag on. … Y pae cynta geso i (yn y brewery) odd saith a whech yr wthnos, ac amser cwples i fifteen shillings odd e.

Bu’n gweithio yno pan oedd hi’n 14 oed tan 21 (sef tua 1941 tan 1948). Felly roedd hi’n gweithio yno adeg yr Ail Ryfel Byd. Roedd e bron drws nesa i’w chartref a fu dim rhaid iddi fynd i’r munitions na dim byd fel yna – cred ei bod yn rhy ifanc i hynny. Priododd yn 1948 (?) a symud i Lwynhendy i fyw. Priododd Donald Evans a phan briodon nhw roedd e’n gweithio yng ngwaith steel Bynea. Gadawodd hwnnw i fynd i weithio yn Fisher and Ludlow (yn gwneud ceir) ‘a tair blynedd odd e wedi gwitho fan’ny cyn bod e – accident yn digwydd iddo fe.’

5.00

Doedd hi ddim yn gweithio ar ôl priodi ‘on i’n meddwl, shwrne ma menyw yn priodi, bod y gwr fod ‘i chadw hi. A ‘na fel odd hi blynydde nôl, odd ddim menywod yn mynd i witho – yn ty on nhw, nagefe?

Cafodd un mab. Priododd pan oedd hi’n 21 (1949), ganwyd David ym mis Ionawr ac roedd hi’n 24 oed ym mis Mawrth. Arhosodd hi gartre i edrych ar ei ôl.

Boddodd ei gwr, Donald, yn afon Llwchwr (Loughor) wrth bysgota, ym mis Mehefin 1965. Dechreuodd hi yn y ffatri yn Bynea ym mis Ebrill 1966. Erbyn hynny roedd ei mab yn 14 oed. Doedd hi ddim eisiau mynd i weithio ond roedd yn rhaid iddi nawr. ‘Odd well ‘da fi fod yn ty, achos on i wedi arfer bod yn ty’ ond erbyn hyn roedd ei mab yn Strade, ac roedd hi’n hoffi bod yn y ty i’w dderbyn e gartre a’i ddodi e i fynd yn y bore.

Gweithio yn INA Needle and Bearings yn cynhyrchu bearings i bob math o bethe a’i gwaith hi oedd inspecto’r rheini cyn eu bod nhw’n cael mynd mas o’r ffatri. Yn Bynea. … ond yn yr assembly on i. Mae’r ffatri hon yn yr un safle heddiw. Cred bod tua 200 yn gweithio yno pan ddechreuodd hi. ‘Odd rhai merched yn gwitho lawr ar y press ond ar yr assembly on i. On ni’n lot fach ar yr assembly. Ond peder inspector on ni ar yr inspection, chwel.’ Yna fe ddechreuon nhw gyflogi rhagor a gwitho shiffts. ‘Bues i ddim yn gwitho shifts – dim ond dydd.’

Mae’n cofio’i diwrnod cyntaf yn y gwaith ‘Anghofia i byth mono fe … achos bo chi’n mynd miwn i le dierth, nagefe, a ddim yn nabod neb, lletwhith iawn odd e. On i’n timlo fel mynd gatre a gweud y gwir. Ond odd rhai merched neis ‘na a on nhw’n dodi chi’n gartrefol, a ddetho i i nabod nhw a ddetho i’n ffrindie â nhw i gyd. Ddetho i i enjoio ‘na wedyn ond ar y cynta on i ddim yn lico.’

8.16

Roedd y merched yn dod o bob man i’r ffatri – hi o Lwynhendy, eraill o Felinfoel, Dafen, Loughor…. Dod ar fysys service – gan eu bod yn rhedeg yn well nag y maen nhw heddi. Ac yna, cael lifft i’r gwaith. Bysys yn mynd lan i Loughor, troi rownd a dod nôl i Lanelli.

Pan ddechreuodd hi yno roedd pob un yn cael gwisgo’u overalls eu hunen ond cyn iddi gwpla roedd hyn wedi newid roedd y cwmni yn sypleio overalls i chi. Dim byd ar eu pennau, dim menyg a dim sgidie arbennig.

Oriau gwaith – wyth y bore tan hanner awr wedi pedwar. Mynd am wyth a chael cwarter awr (neu hanner awr??) i frecwast, amser cinio wedyn – ‘hanner awr, fi’n credu … ond odd yr amser yn mynd yn gloi, cofiwch chi. Pan chi’n fishi, ma’r amser yn mynd yn gloi.’ Mynd yn syth mewn i inspecto.

Pan ddechreuodd hi ‘menyw odd droston ni. Anghofia i byth moni, Mrs Lewis, a odd hi weddol o oedran – mynd mlân … a fi’n siwr taw un o Dafen odd hi. A odd hi itha neis, a odd hi’n dodi chi ar y ffordd – beth odd neud. Wrth gwrs och chi’n dod yn gyfarwydd wedyn a odd hi’n watsho beth och chi’n neud, chwel.’

Daeth hi i weithio i INA Bearings trwy Marian a oedd yn gweithio yn yr offis yno. Gwelodd hi un diwrnod a gofynnodd iddi ‘Gwranda Marian’ wedes i fel’na, ‘os chance am jobyn yn INA Needles?’ ‘Pam Beryl, ma fe’n moyn job’ medde hi. Trwyddi hi y cafodd y job. A chafodd interview. Doedd dim rhaid iddi ddangos bod ganddi sgiliau arbennig yn y cyfweliad ‘a weda i wrthoch chi – odd hi’n ffyrm neis i witho iddi.’ Nid yw’n gallu enwi y perchnogion – ond mae’r enw ar un llun (sef Schaeffler) ‘Schaeffler odd enw’r manager ond fi’n credu taw German firm odd hi.’ Mae ffatri Ina Needles ble roedd y gwaith tun arfer bod yn Bynea, ac roedd y rest (sef Thyssen’s …) lle roedd y gwaith steel.

O safbwynt ei gwaith hi’n inspecto – roedd y merched eraill yn llanw’r bocsys yn yr assembly, ac roedd pethau o’r press yn dod lan atynt hefyd. Roedd pedair ohonynt wrthi ac ar ôl gwybod y job roedd yn dod yn rhwydd. Ar ôl i Mrs Lewis gwpla daeth dyn yn fforman arnynt. – George roedden nhw’n ei alw (dim gwybod ei surname). Teitl ‘Nage inspector – ar yr inspection.’ Menywod ar yr assembly ond dynion a menywod lawr ar y press.

Ddim yn credu bod pobol yn meddwl nad oedd gwaith ffatri ddim yn waith da, ‘achos odd pob un jyst yr un peth, nag on nhw?’

14.45

Och chi’n mwynhau’r gwaith?

… On i, enjoies i e … och chi gyda cwmpni … a och chi’n neud rhwbeth.’ Pan oedd y gwaith yn slac roedd hi’n boring. ‘Ond fynycha on nhw’n ffindo rhywbeth i chi neud’. Os nad oedd un o’r bearings yn iawn, byddai’n dweud wrth y fforman a byddai e’n dodi’r rheini ar naill ochor. Roedd yn rhaid iddyn nhw fod i gyd yr un siâp, a dim bai arno. Os oedd bai arno câi ei daflu allan. ‘Os odd lot o nhw – och chi’n meddwl bod rhywbeth yn bod ar y mashin odd yn neud nhw.’ Wedyn byddai’n rhaid gwneud y rheini’n iawn. Gwnaeth yr un job tra bu yn y ffatri a bu’n gweithio yno am 16 mlynedd.

Nid yw’n cofio ei chyflog cyntaf. Ond roedd rhaid iddi hi fynd i weithio – i gael arian, roedd David yn yr ysgol. Dim ond 38 oed oedd hi pan fu farw ei gwr, Donald ‘dim ond pension i David on i’n câl, achos on i dan oedran. Och chi fod yn forty cyn bo chi’n gallu câl pension. Wel, wedi ‘ny on i’n câl pension i David – hanner pensiwn odd hwnnw.’ Wedyn roedd David yn fifteen a daeth e adre o’r ysgol un diwrnod a dweud wrthi ei fod wedi bod yn chwilio am job a bod ganddo gyfweliad yn Bachelors’, Llanelli lawr y dociau fel trade - electrician. Roedd hi’n dymuno na châi e’r job, ond fe’i cafodd. Er iddo fynd i’r gwaith y bore cyntaf ar ei ben ei hun, roedd dyn a’i fab o Ben-y-graig yno hefyd a byth wedyn cafodd lifft nôl a mlaen gyda’r dyn yma. ‘Wel, wedi ‘ny, ar ôl iddo fe ddod mas o’i drêd (trade), odd y pension yn cwpla. … so bues i am ddwy flynedd a ceso i ddim dime. A fi’n cofio Fanw (mae ei llun yn un o’r llunie), ‘ma hi’n dod mlân ato fi ‘Beryl’ medde fe ‘Ife’n câl pensiwn nawr?’ ‘Nagw’ wedes i fel ‘na. Roedd ei gwr yn yr undeb yn Trostre, a thrwy Arthur y cafodd hi’r pensiwn nôl ‘A hanner pension geso i wedi ‘ny, nes bo fi’n sixty.’

Felly roedd yn RHAID iddi hi fynd i weithio (nid pin money oedd e iddi). Yna priododd David, yn 21 oed. Cyn gynted ag y dechreuodd hi’n ei gwaith cafodd dwlpyn ar ei brest –  ‘odd e seis wy’, heb ddweud wrth neb ond ei chwaer yng nghyfraith. Ond yn y gwaith un diwrnod aeth i weld y nyrs, a’i ddangos i’r nyrs, ac anfonodd hi Beryl i weld y doctor. Aeth hi i’w weld ‘acha dydd Gwener’, ysgrifennodd e lythyr ar unwaith i’r ysbyty (yr hen un), cafodd lythyr ar y dydd Llun i fynd i weld Dr John Davies ar y dydd Mawrth – cafodd driniaeth ar unwaith i dynnu’r fluid. Mae wedi bod yn iawn oddi ar hynny. Trwy hyn roedd David yn caru a gofynnodd am ganiatâd i briodi a chan ei bod hi’n meddwl bod y twlpyn ganddi rhoddodd ganiatâd iddo. Cafodd e ddwy ferch a maen nhw’n hapus.

21.05

Roedd y nyrs yn y gwaith yn gallu helpu os oedd cwt gyda rywun neu os odd rhywun yn dost. Chafwyd dim accident trwm yn y gwaith, ond roedd rhai’n cael cytiau yna. Falle byddai un o’r bearings yn siarp, a gallai eich bys fynd i mewn i fashîn. Y cwmni oedd yn talu am y nyrs.

Byddai rheolwr y gwaith yn cerdded rownd weithiau ond fydden nhw fel gweithwyr ddim yn siarad â nhw. Rheolau: ‘Nag on nhw’n smoco yn y gwaith. Bryd hynny os on nhw’n smoco on nhw’n câl sbel falle, … ond dim yn y gwaith.’ Yn cael smoco yn y toilets neu yn y lobi lle roedd dillad yn cael eu cadw. Pan oedd hi’n gweithio yno doedd dim llawer yna ond roedd hi’n neis. Bellach mae wedi ymestyn llawer. Dim bwyta wrth y gwaith, - gallai fynd ar y bearings. Tua hanner awr wedi naw yn cael toriad i gael brecwast - dishgled o de neu goffi a snac o’r cantîn. Cael cinio yn y cantîn hefyd – fyddai gweithwyr y press ddim yn mynd i gael brecwast yr un amser â nhw, ond amser cinio roedd popeth yn cwpla. Fynychaf byddai hi yn mynd â’i bwyd ei hunan.

Roedd menywod priod (dyna oedd yna fwyaf) a menywod sengl yn gweithio yno. Rhai o’r menywod â phlant – byddai David wedi cyrraedd adre o’i blaen hi, a byddai wedi ymolch a newid cyn iddi gyrraedd. Wedyn byddai hi’n gwneud bwyd i’r ddau ohonyn nhw.

Doedd ei gwaith hi ddim yn frwnt o gwbwl. Roedd toilets gan y menywod a’r dynion ar wahan ac roeddynt yn lân. Cred bod rhai o’r menywod yn pryfocio’r dynion a’r dynion yn tynnu coes y menywod – ‘On nhw’n lico craco jôcs, yn enwedig un o Ben-clawdd.’ Dim tynnu coes merch newydd – yn hytrach roedden nhw’n dda wrthyn nhw. ‘Se un o’r offices yn dod lawr i’r assembly, chmbod, on ni’n tynnu côs wedi ‘ny.’

On nhw’n gweld rhai’r offices yn wahanol on nhw?

O, on. On nhw tamed bach yn uwch na ni a wedyn on nhw’n watcho rheini chwel.’ Roedd lot fach yn gweithio yn y swyddfeydd hefyd ond nid yw’n gwybod faint.

26. 37

Doedd neb yn man-ladrata o’r ffatri – ‘doedd dim ‘na i chi pilffran.’

Roedd loris yn dod i nôl y bearings a mynd â nhw i ffatrioedd eraill. Roedden nhw’n eu pacio nhw yn y packing department. Odd dwy fenyw a dau ddyn yn y packing.

O safbwynt y cyflog – roedd e wedi mynd lan yn ystod ei chyfnod yno. Roedd y cyflog yn mynd lan bob blwyddyn. Roedd hi’n ei ystyried yn gyflog da iddi hi. Cael ei thalu bob dydd Gwener, mewn arian parod. O’r tal byddai’n talu’r undeb. Roedd yn perthyn i undeb ond ddim yn gwybod i ba un. ‘Ma undeb yn bwysig yn y gwaith. Gwedwch chi bod rhyw ffra(e) – ma’r undeb yn gallu wmladd drosto chi, nag yn nhw?’. Mae’n cofio streic yno – digwyddodd hynny pan gafodd Catherine (ei hwyres) ei geni ond nid yw’n cofio am beth roedd y streic. Tua 1972 felly. Roedd hi tu allan y ffatri a gwelodd ei mab, David, yn mynd heibio ar y motor-beic ar ei ffordd i’r ysbyty. Y ffactri i gyd ar streic – pawb yn yr un undeb ‘neu os nag on nhw – on nhw’n gorffod dod mas, achos on nhw’n ffaelu gwitho, chwel.’ Ansicr pam streicio – falle er mwyn cael rhagor o gyflog. Methu gweld beth arall allai e fod. Dim problem gyda’r amodau gwaith – yn neis o ran gwres. Roedd hi’n swnllyd lawr y press ‘ond le on ni, odd mashîns ‘na ond nag odd lot o stwr ar rheini, wath nag on i ar eu pwys nhw,’ Roedd hi’n ystafell fawr ac roedd hi’n y pen arall. Roedd rhyw 6 mashîn yn yr un ystafell â hi. Roedd dyn yno hefyd i reparo’r mashîns ac i helpu’r merched a fforman drostyn nhw hefyd.

Ansicr a oedd ei gwaith hi yn skilled, unskilled neu semi-skilled. ‘Odd rhaid i chi wbod eich job neu byddech chi’n ffaelu neud e.’

Roedd ei chyflog hi – iddi gael byw arno. Fu hi ddim yn swyddog undeb – roedd rhai yn y gwaith ond wnaeth hi mo’r gwaith hwn. Dim cof o unrhyw un yn cael anaf yn y gwaith. Dim cofio merched yn mynd at y nyrs achos periods.

33.30

Dim cerddoriaeth pan oedden nhw’n gweithio. Dim canu ychwaith ‘Clywech chi ddim ohono fe. Odd ambell un yn clebran â’i gilydd ond odd ddim miwsig – clywech chi ddim miwsig achos y mashins. … Se neb ambyti och chi yn siarad. Ond os och chi’n gweld rhywun och chi’n ffaelu siarad.’ Doedden nhw ddim yn hoffi i’r staff siarad, ond bydden nhw yn gwneud.

Dim effaith tymor hir ar ei hiechyd. Gweithio o ddydd Llun nes dydd Gwener; dydd Sadwrn a dydd Sul bant – i bawb ‘ond amser on nhw’n moyn i chi witho mlân.’ Bu hi’n ‘gwitho mlan’ ond pan aeth ei mam yn dost roedd hi’n ffaelu gwneud hynny. Gofyn iddi weithio ymlaen am eu bod wedi cael mwy o orders. Roedd mwy o dâl am hyn. Dechreuon nhw weithio shifftiau mewn sbel fach ar ôl iddi ddechrau gweithio yno. Shifftiau bore a phrynhawn i fenywod, un o chwech tan ddau a’r llall o ddau tan ddeg. Doedd y merched ddim yn gweithio nos – na’r dynion chwaith doedd hi ddim yn credu. Chafodd y pedair ohonyn nhw oedd yn inspecto ddim eu dodi ar shifft o gwbl. On nhw’n gorfod inspecto gwaith y ddwy shifft wedyn. Gorffennodd hi yno yn 1982 a dyw hi ddim yn gallu cofio lot ohono fe nawr.

Cloco miwn a cloco mas. Os och chi’n hwyr , ron nhw’n cropo chi. ‘Gwedwch chi nawr bo chi’n hwyr yn mynd i’r gwaith och chi’n cloco miwn, wel och chi’n câl ‘ch talu wrth pryd och chi’n bechingalw, gwedwch chi bod cwarter awr wedi mynd, bydden nhw’n cropo wedi ‘ny hanner awr wedi ‘ny … o’r cyflog.’ Doedd hi ddim yn credu y byddai rhai’n cloco mewn dros rywun arall – wnaeth hi mo hynny ‘bydde gormod o ofon arna i … wath wi’n credu on nhw’n watcho gormod’.

Roedd yn rhaid iddi gofnodi faint o waith roedd hi’n ei wneud y dydd – faint och chi wedi inspecto. Roedden nhw’n rhoi nifer penodol i chi a disgwyl i chi eu gwneud. ‘Och chi’n neud ‘ch gore i gwpla nhw. Odd ??? itha bishi cofiwch.’ Ddim yn gyfarwydd â’r term time and motion. ‘Och chi’n gorffod neud ‘ch whac. … Smo i’n credu llwyddes i ddim siwrne. On i’n pitsho miwn ta fel ma hi.’

38.10

Cred bod y gwaith yn cwpla adeg y gwylie. Cael dau neu dri diwrnod adeg y Pasg, a gwyliau banc ym mis Awst – cael pythefnos bant. Weithiau ai ar wyliau i ffwrdd bryd arall yn aros gartre yn carco ei mam a fu’n wael am flynydde. ‘“Gei di ddigon o holides ‘to, ar ôl i fi fynd o ‘ma” ‘na beth on i’n gâl.’ Bydde merched y ffatri yn mynd bant gyda’i gilydd ar ambell diwrnod ond doedden nhw ddim yn mynd ar wyliau gyda’i gilydd. Roedd y gwaith ei hunan yn trefnu cinio a dawns allan – yn aml byddent yn mynd i Goodwick (?) lawr yn Pwll (Llanelli) (aeth y Goodwick ar dân). Bydde’r rhan fwyaf o’r gweithwyr yn dod i hwn. Y bosys oedd yn trefnu hwn – cyn Nadolig.

Roedd y plant yn cael parti Nadolig – cael ei gynnal gan amlaf yn y neuadd yn Casllwchwr (Loughor). Y tro cyntaf aeth hi iddo – mynd â’i nith, Meinir, wnaeth hi – yn saith oed, yna roedd ganddi ddwy wyres – Catherine a Sarah i fynd i’r parti. Ansicr pwy oedd yn gwneud y bwyd, ond ‘odd gwledd ‘na iddyn nhw.’ Mae’n gwybod nad oedd hi ei hunan yn gwneud y bwyd. Roedd y plant yn cael presantau lyfli. Roedd ei hwyres Catherine yn un brysur iawn! Yr offis oedd yn rhoi presantau i’r plant. Dim present na bonws i’r gweithwyr adeg y Nadolig. Ond cafodd gloc i ddynodi ei bod wedi bod yno 15 years (gweler ffotograff). A chafodd watch ganddyn nhw – Swiss – ansicr pam – efallai ar ôl cyfnod o 10 mlynedd? Cynnal parti i roi’r gwobrwyon hyn ond ddim yn cofio ble bu hi – y Manager oedd yn eu cyflwyno ond nid yw’n gallu cofio enwau dim un o’r Managers fu yno yn ei chyfnod hi. Cyfeiria at yr un yn y llun ohoni hi a Jim Griffiths AS. ‘Odd sawl un bach neis ‘na, - rhai foreign on nhw ‘chwel.’

Roedd y gwaith wedi dechrau yn Bynea ym mis Ionawr (1966) a dechreuodd hi yno ym mis Ebrill. Daeth i’r safle yn Bynea o Dafen. A phan oedd ei gwr, Donald yn gweithio yn Fishers, ‘Odd e’n dod gatre a medde fe wrtho i, “ Gwranda Beryl” medde fe, “Licen i ddim gweld ti yn mynd i un ffactri i witho” medde fe wrtho i, achos odd e’n gwitho yn Fishers a odd menywod yn gwitho ‘na a odd e ddim yn lico fe. Odd e ddim yn lico menywod yn gwitho mewn ffactri. .. (ddim yn gwybod pam) Nag odd e’n lico gwitho ‘da menywod.’ Yn INA Bearings roedd y dynion ar wahan a doedden nhw ddim yn gweithio gyda’r menywod. Roedden nhw yn y tool room, a lawr y press, ac roedd rhai merched lawr fan hyn gyda nhw.

Amser cinio roedd bechgyn yn mynd mas i chwarae rygbi o’r ffatri. Mae’n cofio Derek Quinnell yn youngster yn gweithio yno. ‘Ar ôl cino odd e’n dod mewn a odd e’n ddugoch! Wedes i sawl gwaith wrtho fe “If your mother was to see you now, she wouldn’t be willing” … a shgwlwch fel ma fe wedi dod mlân. Seventeen odd e bryd hynny.’ Dim byd arall yna – dim tîmau na chôr na jazz band …. Roedd y bobol ifanc yn gallu mynd eu ffordd gyda’r nos ond byddai hi’n mynd adre bob amser. Roedd iaith ambell un o’r menywod yn frwnt ambell waith ond doedd hi ddim yn gwneud sylw ohonyn nhw. Eu gadael i fod.

47.00

Roedd ganddi gyfnither yn y gwaith a ddaeth yno ar ei hôl hi, ond yn y needle factory roedd hi’n gweithio – y nodwyddau oedd yn mynd i mewn i’r bearings.

Y fforman oedd wedi dysgu’r gwaith iddi hi ar y dechrau – roedd e gyda hi drwy’r dydd a bob dydd. Roeddech yn dysgu wrth fynd yn eich blaen. Fu hi ddim yn dysgu unrhyw un arall wedyn. ‘Dw i ddim yn credu dath unrhyw un newydd mewn – dim ond ni’n peder fuws yna tra on i ‘na’. Mae dwy o’r rhain bellach wedi marw.

Mae’n dweud stori am wr un o’r merched – Susan oedd yn byw yn Gorseinon neu Loughor, yn gyrru hers i’w mofyn o’r gwaith! Hanes y ddau yma.

I fynd i angladd neu achlysur arall o’r fath, byddai’n gofyn am amser bant ond yn colli pae am hynny. Dim syniad faint oedd ei phae hi yno o gwbwl. Cael eich talu dros y gwyliau a’r gwyliau banc. Cael amser bant Nadolig, Pasg a Sulgwyn. Cred ei bod yn gweithio ar ddydd Gwener y Groglith, felly dim ond dydd Llun y Pasg – un diwrnod oedd i ffwrdd bryd hynny.

Mynd i’r gwaith yn y bore – cerdded lawr o Benygraig i Bynea i ddal bws i’r gwaith, a bws nôl. Ond fel y daeth i nabod y bobol, cael lifft, gan ddyn oedd byw tua Rhydaman a oedd yn gweithio yn y tool room. Wedyn lifft gan ddyn o Felinfoel. Symudodd hi nol o Benygraig (Bynea) i Felinfoel – chysgodd hi ddim ym Mhenygraig am saith mlynedd – dod adre i helpu, gan fod ei brawd ieuenga oedd yn sengl yn byw yno ac yntau ddim yn iach ac yn gweithio yn Fishers. Hi’n dodi Malcolm i fynd i’r gwaith ar shifft bore a’i ddisgwyl e adre o shifft nos. Roedd ei mam yn cysgu yn y parlwr ac roedd yn rhaid iddi ei chodi hi a chynnau tân agored iddi cyn mynd i’r gwaith erbyn wyth y bore ei hun. Stori hir wedyn am ei mam yn altro’r ty  ar ôl i Beryl orffen gweithio … ac am y tân a Malcolm yn torri ei goes!

56.20

Sôn sut y mae wedi gorfod gofalu ar hyd ei hoes. Pan oedd hi’n y gwaith roedd yn dod adre i waith ty, ‘Smo i’n gwbod ffordd fi ‘di neud e a gweud yn iawn. … Wi wedi câl hi’n galed. ‘

Allech chi weud bo chi wedi mwynhau gwitho yn y ffatri?

On i, enjoies i tra on i yna.

Pam benderfynoch chi bennu wedyn?

Achos bo Mam yn dost, achos on i’n colli lot o waith i edrych ar ‘i hôl hi.’

Dyw hi ddim wedi cadw llawer o gysylltiad gyda’r menywod yn y gwaith ar ôl iddi gwpla. Mae’n cael cardie Nadolig gan ambell un ond dyw hi ddim yn eu gweld nhw. Ar ôl gadael bu gartre yn gofalu am ei mam a Malcolm. Bu farw Malcolm Ebrill diwethaf.

Argraffiadau o’r ffatri wrth edrych yn ôl?

‘Enjoies i yna tra on i ‘na. A’r cwmni oedd yna – enjoies i bob un ohonyn nhw.’

Mynd dros y ffotograffau:

1. Llun o Jim Griffiths AS a’r Manager a Beryl, - a’r bearings bach o’i blaen. Opening Day y gwaith, Mehefin 1966.

2. Parti’r gwaith. Rhai o’r offis, y Managers, nyrs a gweithwyr y cantîn yn y llinell ganol, mas yn y ffatri roedd y rhai blaen yn gweithio – bechgyn ifanc yn eu plith, yn y cefn – y fforman, pay man, Manager ac eraill. Dinner dance. – gallai fod yn y Stradey Park c. 1970au

3. Tystysgrif – deng mlyndd a heb golli lot o waith.

4. Parti Nadolig i’r plant – hi ar y dde. Neuadd Loughor. c. 1977.

5. Trip i Blackpool – hi yw’r bedwaredd o’r dde. Nhw yn trefnu hwn eu hunain.

6. Merched mewn cinio – ddim yn gwybod ble. Hi ar y chwith. Cymysgedd o weithwyr, dwy yn needles, gweddill ar y mashin a hi yn inspecto.

7. Gweithwyr yn eu overalls, tu allan i’r ffatri. Fflag ganddynt. Ansicr pryd – tua 1970au.

8. Eto tu allan i’r gwaith yn eistedd lawr – enwi’r merched: Minwel, Iris, hi Annette, Madge a merch oedd yn byw yn Glasfryn – pawb yn eu minis yn dangos eu coese. Eto c. 1970au.

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VSW025.2.pdf