Beryl Jones. Lleisiau o Lawr y Ffatri
Eitemau yn y stori hon:
(Noder bod Beryl yn chwaer i Averil Berrell VSW034) a recordiwyd ar gyfer y prosiect hwn hefyd)
Cadarnhaodd Beryl ei henw, ei henw cyn priodi – Beryl Matthews, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni: 19:9:1945
Cafodd ei geni a’i magu yn Garreg Lwyd, Graig Fawr, Pontarddulais – roedd ei thad yn golier a’i mam yn gwneud gwaith ty. Morwyn ffarm oedd ei mam wedi bod ac yn gwasanaethu yn Llunden yn carco tai i weinidogion. Aeth i Ysgol Gymraeg Pontarddulais (cyn ei galw’n Bryniago) – 1950 rywbeth. Roedd gyda’r cyntaf i fynd i mewn i ysgol Gymraeg y Bont – hi a’i chwaer hyn, Gwen. Roedd yn mwynhau’r ysgol ‘On i’n ddrwg, on i’n siarad lot.’ Aeth yn ei blaen i Pontarddulais Secondary Modern – doedd hi ddim wedi sefyll yr eleven+. ‘Dries i ddim o fe … ges i accident yn siew Bont a ballodd ‘n Fam adel i fi ishte fe wedyn.’ Byddai wedi hoffi cael y cyfle i sefyll yr arholiad ond ‘’n Fam odd yn gwneud y penderfyniad bryd ‘ny ac och chi’n gwrando ..’ Petai wedi pasio byddai wedi mynd i Gowerton (Girls’) Gram. Doedd hi ddim yn yr amser pan oedd plant yn mynd i Ystalyfera. Gadawodd yr ysgol yn 1960-61 yn 15 oed. ‘Wedon nhw wrtho i os on i’n gallu ffindio jobyn, gallen i fynd.’ Byddai wedi gorfod gorffen yr ysgol beth bynnag erbyn hynny – ni chai aros yn yr ysgol yn y Bont ar ôl cyrraedd 15.
Y jobyn cyntaf oedd pan aeth i Hodges, Fforest fach. Cafodd y gwaith trwy gnocio ar y drws a gofyn a oedd jobyn yn mynd. Roedd ei chwaer hynaf, Lena, oedd yn byw ym Mhontlliw wedi dweud wrthi ‘Paid di â mynd â Mami ‘da ti, a paid mynd â neb ‘da ti, neu byddan nhw’n galw ti’n chicken.’ Felly aeth ar ei phen ei hun, cnociodd y drws a chafodd job - i ddechrau ar y dydd Llun.
Roedd ganddi bedair chwaer ‘Odd Lena ni wedi bod yn Windsmoor’s … ar y sewing machines odd hi.’ Roedd y ffatri hon drws nesa i Hodges, lan yr hewl. Aeth hon yn Northgate wedyn. Roedd Lena wedi arwain y ffordd iddi hi (Doedd hi ddim yn dilyn Averil o gwbwl.)
4.05
Ond odd Averil hefyd wedi mynd i ffatri, on’d odd hi?
Ond yn yr offis odd Averil, odd Averil ddim ar y ffatri floor fel fi a Lena.
Roedd y chwaer arall, Gwen, ‘ag ychydig o nam arnodd i (ond sai’n credu bod nam arni) ond ballodd Mam adel iddi hi fynd i witho a pethach, so odd ddim o Gwen yn neud dim byd.
Cafodd hi interview ar gyfer y job yn Hodges. Roedd wedi bod yn gwnïo yn yr ysgol, ond heb ei pharatoi ar gyfer mynd am interview – dim CV na dim byd fel heddiw. ‘Es i â’n certificate ‘da fi. On i wedi câl certificate yn Cymraeg, RI, (neu RE) a Needlework a History.’ …
Shwt och chi wedi dewis Hodges ‘te?
Y ffatri gynta bases i ar y ffordd a gweud y gwir! Achos yn Fforest fach odd lot o ffatris ‘da chi bryd ‘ny. Odd Mettoy ‘da chi lan y top, just pot luck – ges i’r jobyn a gymres i e. Ond on nhw yn traino chi, chmbod, on nhw’n dysgu chi am gwpwl o wthnose cyn bo chi’n câl bod ar ben ‘ch hunan.’
Ffatri yn gwneud siwts dynion odd Hodges, ac roedden nhw’n gwneud trowsusau ar eu pennau eu hunain hefyd, - double-breasted neu single-breasted jackets; ‘ Och chi’n gorfod matcho’r leinin i fynd gyda’r siwt a phethe fel ‘na. A torri fe mas a marco fe ar gyfer y rhai odd yn gwnïo – i gâl gwbod ble yn union i ddodi’r pocedi a pethach a bwtwne i fatcho ..’
Roedd y dillad yn cael eu hystyried yn rhai gyda’r gorau. Ron nhw’n gwneud y siwtiau cyfan yn y ffatri – torri mas, steamo a presso hefyd.
Ar y dechrau cafodd ei hyfforddi ‘on nhw’n wonderful i fi, ma rhaid i fi weud.’
Merch fach arall oedd wedi cael ei hyfforddi cyn hynny oedd yn ei dysgu hi – achos roeddpawb yn symud ymlaen. Y dasg gyntaf gafodd hi oedd trio matcho’r leinin i fynd gyda certain fabrics – y lliwiau gwahanol. Roedd y leinin yn bwysig a byddai rhai eisiau cael aur y tu mewn. Roedd hwn yn archeb arbennig – nid dyma oedd y normal.
8.00
Roedd yn rhaid dewis y cotwm iawn i fynd gyda’r lliw. Nid yw Beryl yn gwybod o ble roedd y defnyddiau’n dod. ‘Dynion odd yn torri’r rheina mas achos odd e’n rhy drwm i’r merched i handlo siwr o fod.’ Yn y cutting room roedd hi – lle ron nhw’n torri’r cyfan lan ac yn ei rowlio i fynd mas i’r merched I wnïo – roedd llwyth o fenywod yn y sewing part. ‘Final assembly oedd e amser oedd e’n gorffen.’
Swyddi gwahanol – rhai jyst yn gwneud button holes, eraill jyst yn gwnio botymau arno. ‘Merched odd yn neud y machines, odd dim lot o fois – torri mas fydde’r bois achos odd machine mawr â blade arno fe chm’bod. Dynon odd yn torri mas.’ Roedden nhw’n defnyddio template i gael y gwahanol feintiau. Byddai ambell archeb unigol i’r ffatri hefyd a wedyn bydde’r person hynny yn dod i mewn i ddewis ei ffabrig ei hunan. Roedd supervisors yno i tsecio eich bod yn gwneud eich gwaith yn iawn. Rhannu ystafell waith gyda dynion – rhyw 10 o ferched – tair o’r merched yn dodi sialc ar y defnydd – wedi mesur gyda template i ddangos ble roedd splits i ddodi gathers. Wnaeth hi ddim sylwi fod ffasiynau yn newid yn yr amser y bu hi yno. ‘Sa i’n timlo bod siwts dynion wedi newid llawer iawn hyd heddi.’ Ron nhw’n gwneud gwasgodi hefyd. Dim crysau a theis. Byddai’r siwtiau yn cael eu pacio ac yn mynd o’r ffatri – un lle oedd Blackwood ac Abertawe a Llanelli wrth gwrs. Ron nhw’n mynd yn syth o’r ffatri i’r siope.
Roedd hi’n gwisgo overall, - gorfod ei gael ei hun. Ond pan aeth i weithio i Avon, roedd yn cael yr overalls ac roedd yn gorfod gwisgo steel toe caps.
Sut oedd hi’n teimlo yn gweithio yno, ‘On, odd Hodges yn gwd’. Mae’n cofio ei bod yn nervous ar ei diwrnod cyntaf. ‘On nhw good as gold.’
Roedd yn dechrau yn y bore c. 8 / 8.30 (ansicr) ac yn cael bys o Bontarddulais i Fforest fach. Roedd wedi aros yn y cutting room tra bu hi yno ond, ‘roeddech chi’n cael ‘ch stepo lan i wneud gwaith mwy cyfrifol fel och chi’n mynd mlân.’ Roedd y job gyntaf yn syml iawn – dim ond matcho’r leinin a rowlio’r ffabrig lan yn y trwser – wedyn symud i farcio’r leinin mas – ‘odd e lawer mwy cyfrifol, odd e? Se chi’n dodi’r marcyn yn y lle rong, odd hi’n ddim yn dda, odd hi. Os on nhw wedi torri fe wedyn odd hi’n too late.’ Roedd hi’n ddigon rhwydd i hyn ddigwydd. Supervisor oedd yn gofalu ei bod yn gwneud ei gwaith – menyw oedd dros y merched a dyn dros y dynion.
14.00
Chi’n cofio’ch cyflog cynta?
‘Dim lot … decpunt neu rywbeth fydde fe (yr wthnos)
A beth och chi’n neud â’ch arian?
Rhoi e i Mami.
I gyd?
I gyd a câl pump deg ceiniog yn ôl.
Ar gyfer beth bydde hwnnw wedyn?
Ble bynnag on i’n moyn mynd – i’r Tiv (Tivoli) ne rwbeth. …
Roedd hi’n cael arian i dalu bysys – ond wrth lwc roedd yn teithio ar season (ticket) – hyn yn tshepach. Roedd yn talu National Insurance a’r Undeb hefyd o’r cyflog.
Och chi’n aelod o’r undeb och chi?
Odd rhaid i ti fod ne bydde’r merched ddim yn fodlon gwitho gyda ti.
Odd e’n gryf?
On nhw’n gwd, on nhw’n gwd though, achos fi’n cofio pan on i’n dost (on i ddim yn dost lot, on i?) fi’n cofio bod gartre wthnos yn dost o’r gwaith a pan ethes i miwn, odd yr undeb yn rhoi arian i fi am bo fi wedi bod ar sick. …Ges i ddim o fe’n Avon …
Undeb y Clothing industry oedd e. Roedd hi’n aelod ond fu hi ddim yn Swyddog ond roedd yn gwybod pwy oedden nhw. On nhw’n cael eu hethol.
Felly odd yr undeb yn bwysig ‘na?
Odd, yn bwysig iawn. A odd e’n fwy pwysig yn Avon.
Mae Beryl yn credu iddynt gerdded allan ‘walk out’ un tro ond dim ond am awr neu rywbeth. Does ganddi ddim cof pam ond ‘pae siwr o fod’!
Erbyn iddi orffen yno roedd ei chyflog wedi mynd lan i tua £13 rhywbeth ac roedd yn dal i’w roi i’w mam – dyma pam y gadawodd Averil gartre mae’n credu (cadarnheir hyn gan recordiad Averil ei hun.)
Erbyn hyn roedd y teulu wedi dod i lawr o Garreg Lwyd i fyw ym Mhontarddulais – i Heol y Cae. Roedd hi’n haws dal y bws o’r King’s Hotel wedyn.
Cred mai semi-skilled oedd hi ond bod y rhai ar y machines yn skilled. Cred efallai eu bod yn cael mwy o gyflog na hi.
17.30
Roedd tax yn dod mas o’r pae hefyd ‘Chi wastad yn talu tax.’ £13 oedd ganddi yn mynd gartref. Cred bod rhai priod yn gweithio yno ond ‘ifanc, fi’n credu odd rhan fwya ohonon ni. – (o) Townhill, Blaenymaes … o Abertawe on nhw fwya.’ Doedd dim llawer o Bontarddulais yno – daeth Carol a Helen yno ar ei hôl hi. Saesneg oedd iaith y ffatri – roedd rhai yn siarad Cymraeg yno a doedd dim gwahaniaeth os oedd hi’n siarad Cymraeg.
Beth am y merched o Abertawe?
On nhw’n galw chi’n country bumkin and that’s about it. … On nhw’n lyfli. On i’n ffindio nhw’n grêt, grêt.
Nid yw’n cofio merched yn defnyddio iaith braidd yn fras yn Hodges. ‘Ma rhaid i fi ddweud, wi’n gwbod bo nhw’n gweud Swansea Jack, os yw Swansea Jack gyda chi mae e gyda chi all the way, chm’bod. … Os on nhw’n ffrind, on nhw’n ffrind. On nhw’n rili brilliant. On i’n ffindio nhw’n brilliant. … On nhw’n carco fi, whare teg iddyn nhw.’
Ni fu hi’n mynd i ddosbarthiadau y tu allan i’r gwaith i wella ei sgiliau.
Cael ei phecyn pae – mewn amlen a’r payslip y tu mewn. Arian oedd e.
Byddai’n gweithio o wyth hyd hanner awr wedi pedwar (neu bedwar) falle o ddydd Llun i ddydd Gwener. Weithiau byddai’n gweithio ar ambell ddydd Sadwrn os oedd orders wedi dod mewn ac eisiau iddynt fynd allan. Cael mwy o dal am hyn.
Yn gosod targed i weithio i gael rhagor o fonws wedyn. Cael targed debyg ar gyfer bob dydd. ‘Withes i ddim dydd Sul. Bydden i ddim wedi gwitho dydd Sul anyway.’
Er mai dim ond 50 ceiniog o’i chyflog roedd hi’n ei gael gan ei mam byddai’n ei safio yn Lloyd’s Bank … ar gyfer … y dyfodol.
Dim perks o weithio yno. Dim siwt i’w thad ychwaith! Welodd hi neb yn pilffro ychwaith.
Byddai’n bosibl i’r merched – y machinists - gael nodwydd trwy’u bysedd weithiau. Byddent yn mynd at y nyrs wedyn i’w gael wedi’i … Chafodd hi mohono ond fu hi ddim yn gweithio ar y machines. Nid yw’n cofio unrhyw beth cas yn digwydd yno.
Roedd nyrs yno’n llawn amser. ‘Bydde merched yn dod miwn â hangovers a whatever.’ Gallai merched fynd ati â periods ond aeth hi ddim. Nid yw’n cofio gorfod mynd ati o gwbl. Roedd fel syrjeri gyda’r nyrs. Nid oedd ambiwlans ar y safle.
Cred bod tua 300 yn gweithio yn y ffatri i gyd a lot fwy o fenywod na dynion, ‘achos chi’n ffindio fod menywod yn gallu gwneud gwaith bach itha ticklish, … mwy delicêt.’
24.27
Cred falle’u bod yn chwarae triciau bach ar ferched newydd ond fu hi ddim yn gwneud hynny a wnaethon nhw ddim ohono fe iddi hi, neu byddai wedi cofio. Roedd digon o banter rhwng y dynion a’r menywod, ond roedd y merched yn gweithio gyda’i gilydd y rhan fwya. Roedd dynion maintenance yno i drwsio’r machines.
Roedd digon o olau yno – fluorescent light. Roedd y gwres yn iawn. Nid ffatri newydd oedd hi. Roedd toiledau yno – yn lân wastod. Roedd y ffatri yn lân hefyd. ‘Odd pawb yn cadw’i batchyn yn lân.’ Roedd rhai yn dod mewn i lanhau a glanhau’r toilets a pethach fel ‘na. Bydden nhw wedi gwneud hyn cyn iddyn nhw ddod i mewn yn y bore. ‘Bydden nhw’n mynd i’r toilet i gâl ffag.’ Roedd y rhan fwyaf yn smoco ond doedd hi ddim. ‘Odd dim arian ‘da fi i smoco!’ (chwerthin). Doedd y merched ddim yn cael smocio wrth eu gwaith. Roedd toiledau’r dynion ar wahan.
Byddai miwsig yn chwarae yn y ffatri – ‘rybish! Odd miwsig arno trwy’r dydd’ Roedden nhw’n cael siarad wrth weithio. Roedd hi’n swnllyd lle roedd y machines ond fel arall ddim yn ddrwg. Bydde swn ble roedd y machines achos odd tua chwech rhes ohonyn nhw. Doedd neb yn eu stopio rhag siarad. Bydden nhw wedi siarad am beth fydden nhw wedi bod yn neud nos Sadwrn siwr o fod. I’r Tiv (Tivoli) roedd hi’n mynd. Cofia un o ferched Abertawe yn gofyn iddi ‘Are you coming to the Park with us?’ ‘No’ wedes i ‘There’s a park in the Bont.’ Pub on nhw’n meddwl wrth Park. ‘Nag on i’n gwbod bod pub i gâl yn Abertawe o’r enw Park.’
Och chi dipyn yn wahanol i bawb arall yn y gwaith. Och chi?
On, on i’n mynd i’r cwrdd. Nag odd neb arall yn mynd i’r cwrdd. … A odd pawb odd yn priodi, on nhw gyd yn priodi yn St Peter’s Church yn Cockett. Odd Harry Secombe ‘na ar y pryd, ond odd e? .. On i wedi priodi yn y Bont. Neu bydden nhw’n mynd i’r Registrar yn y Brangwyn.’
Cwrddodd â’i gwr lawr y monkey’s parade yn Pontarddulais. … Chi’n cerdded lan a lawr y Bont a siarad ‘da hwn a siarad ‘da hwnco. ..
Pryd odd hwnnw’n câl ‘i gynnal?
Bob nos Sul. Os nag och chi’n mynd i’r cwrdd och chi ddim yn câl mynd och chi? … Odd rhaid i chi fynd i’r cwrdd gynta neu gelen i ddim mynd ‘da Mami. Gang o ferched yn cwrdda a cal chat ife?
Roedd hi’n mynd i’r Gopa (capel) ar y dechrau ond cafodd ei Mam ychydig o ddigofaint gyda Davies y Gopa ac wedyn aethon nhw i’r Hope. Roedd y mynci pared ar hyd yr hewl fawr ym Mhontarddulais, o’r caffi gwaelod wrth ymyl y stesion - fan hynny roedd pawb yn ymgynnull. Roedd y bechgyn ‘yn dod lan o Gorseinon, o Ammanford, – odd Llangennech yn noted, … merched pert yn y Bont.’
Gwas ffarm oedd ei gwr ar y pryd ac wedyn aeth e ar y JCB. Un o Langennech yw e. Priodon nhw a dod i fyw yn yr Hendy – rhwng Llangennech a’r Bont. Cwplodd hi’r gwaith yn syth – roedd hi’n mynd i gael ei mab, Andrew. Doedd dim gorfodaeth arni i adael y ffatri. ‘Most probably bydden nhw wedi cymryd chi nôl, odd rhai merched yn mynd nôl.’ Ond doedd neb ganddi hi i garco Andrew bach.
32.20
Roedd stop fortnight yn y ffatri i gael gwyliau – cau lawr am bythefnos – wythnos olaf Gorffennaf dechrau Awst - ‘r un peth â’r miners. ‘Fues i byth ar wylie.’ Doedd dim shifftiau yn y ffatri – roedd pawb yn gweithio yr un oriau. Wrth gloco i mewn a’ch bod yn hwyr byddech chi’n cael eich cropo – colli cwarter awr o’r tâl.
Och chi’n gallu câl rhywun arall i gloco miwn yn eich lle chi withe?
Gallech chi ond bydden nhw’n colli’u job se nhw’n ffindo mas. Odd e ddim werth e odd e?… Nelen i mono fe.
Cred eu bod yn cael hanner awr i ginio ac roedd cantîn yn y ffatri. ‘On i’n gorffod mynd â sandwiches, on i ddim yn câl prynu bwyd.’ Roedden nhw’n cael bwyta’r sandwiches yn y cantîn. Roedd llawer o’r merched yn mynd allan i’r Joiners’ amser cinio - tafarn gyferbyn. ‘Es i ddim.’ Cred eu bod yn cael break yn y bore hefyd – ansicr am y prynhawn - ‘odd merched yn mynd mas i gâl ffag. On i’n mynd mas ‘da nhw wedyn i gâl break ife?’ Byddent yn cael Pasg bant – Good Friday a Easter Monday off. Does ganddi ddim llawer o gof o’r Sulgwyn. Nid yw’n credu eu bod yn cael eu talu bryd hynny. Byddai’n cael ei thalu adeg stop fortnight. Byddai’n cael amser bant Nadolig. Nid yw’n cofio mynd i angladd pan oedd hi’n gweithio yno.
O safbwynt salwch – ‘Fi’n cofio bod yn dost unwaith – on i ddim yn câl ‘n dalu wedyn ife? … Roiodd yr undeb rywbeth i fi – on i ddim yn erfyn e.’
Doedd y ffatri ddim yn trefnu unrhyw weithgareddau cymdeithasol – dim cinio Nadolig, na pharti i’r plant hyd y gwyr hi. Dim tîmau i’r dynion nac i’r merched.
Dim social club yno na grwp oedd yn trefnu pethau cymdeithasol.
O safbwynt ei theimladau yn gweithio yno – ‘On i’n mynd ‘na bob dydd anyway! Wi ddim yn gwbod a on i’n gorffod achos Mami … na, on i’n ddigon hapus yn mynd ‘na.’ Roedd hi’n enjoio’r gwaith yn iawn ac roedd hi’n bosibl symud ymlaen yno. Gallasai fod wedi symud ymlaen i wneud buttonholes – bydden nhw wedi ei hyfforddi hi. Bydden nhw’n gweud withe ‘We think you should move on now.’ Odd y supervisor yn gwbod pwy odd yn fodlon gwitho yntefe.
38.12
Roedd offis yno a byddai’r gwethwyr hyn yn dod mas i weld a oedd y bonus sheet yn iawn, i weld a och chi wedi tsheto (cheat) wrth ysgrifennu i lawr. Roedd rhai yn gwneud hynny i gael bonus. ‘Odd papur ‘da chi yn dodi’ch gwaith i gyd lawr – beth och chi ‘di neud trwy’r dydd – timesheet.’ Mae’n cofio’r term time and motion, ac roedden nhw’n gorfod gweithio yn ôl rhyw amser. Nid yw’n cofio unrhyw un yn cael y sac o’r gwaith. Doedd dim llawer yn symud i weithio mewn ffatri arall ‘On nhw either yn gadel achos priodi neu câl plant.’ Chafodd hi ddim parti gadael ‘on nhw’n falch gweld fi’n mynd siwr o fod!’ (chwerthin). On nhw’n casglu i roi anrhegion i chi, fair play – y merched … a’r dynion…. Ces i llien ford a napkins. .. Nhw odd yn rhoi e fi’n credu. On i ddim yn erfyn dim byd.’
Nid yw’n cadw cysylltiad gyda’r merched oedd yn gweithio gyda hi – dim ond Carol a Helen – o Pontarddulais beth bynnag. Mae’n gweld Carol yn y Bont o hyd ac mae’n cael carden Nadolig gan Helen. Daethant i’r gwaith ar ei hôl hi.
Ar ôl gadael bu’n magu’r plant – yna bu’n gweithio ar nos Sadwrn yn y Bird in Hand (tafarn) yna bu yng Nghlwb yr Hendy yn glanhau, yna bu yn y cantîn yn Morris Motors, ac yna bu yn Avon yn yr Hendy am beth amser – roedd hi gyda Rhidian’s Caterers ac yna daeth ordor mawr o fade – Iraqi boats a daeth y Manager ati a gofyn ‘Ti’n moyn jobyn ar y factory floor?’ A chytunodd. Welodd hi ddim llawer o ffatri Morris Motors achos roedd hi yn y cantîn. Fuodd hi ddim yna yn hir achos roedd ei ffrind Sandra yn gweithio yn y job centre ac yn cynnig job arall iddi.
Mae Avon Inflatables yn gwneud bade – ac maen nhw’n dal wrthi. Cred bod enw newydd arnynt nawr – Zodiac. Mae’n nodi hefyd bod cwmni arall wedi cymryd Hodges drosodd – Greenwood. Fu hi ddim yno’n hir wedyn. Roedden nhw’n gweld y bosys yn Hodges - Mr Gabriel oedd un ohonyn nhw ‘Fe intyrfiwodd fi – fe roiodd jobyn .’ Pan fyddai’n cerdded y shop floor byddai’n gofyn a oedd pethau’n iawn ac yn siarad â’r gweithwyr. Ei galw wrth ei henw ‘Beryl’ nid Miss Matthews. Cred y byddent wedi galw’r supervisor wrth yr enw ‘Mrs whatever ..’.
43. 30
Bu’n gweithio yn Avon Inflatables yn yr Hendy ac yn Dafen. Caeon nhw’r ffatri yn yr Hendy ac felly symudodd hi draw. Cred iddi dreulio peth amser rhwng y ddwy yn Morris Motors ac yna cafodd Huw Francis afael arni a dweud ‘Ma job yn mynd i ti yn Avon Inflatables os ti’n moyn.’ Roedd hi’n gweithio ar y shop floor yn Dafen. Roedd yn cael ei hyfforddi – tua 6-7 wythnos yn y ffatri ei hun. Roedd yn gweithio mewn grwp o dair wedyn a dyna’r patrwm yno. ‘Bues i’n neud, bildo’r cones. Chi’n gwbod dinghies, ma fel points ar y diwedd fan ‘na- och chi’n bildo rheina ar wahan i’r bad ei hunan. Wedyn fel odd e’n mynd lawr y lein, odd popeth yn câl ‘i joino miwn.' Roedd hwn o rubber. Roedd y dynion yn torri’r lleder mas – gwahanol feintiau gan fod y bade seisis gwahanol, ac och chi’n gorfod paneljoino wedyn – cael shîts gwahanol siap – gorfod joino hwnna i gyd gyda’i gilydd i ddod yn fad. Odd e’n mynd lawr y lein a bydde rhywun arall yn dodi’r cones arno, rhywun arall yn dodi’r battles (?) miwn, a odd y bois yn chwythu nhw lan i desto nhw ac wedyn byddai final join i ddodi nhw i gyd gyda’i gilydd – os bydde twll ynddo byddech chi’n ei gael yn ôl i reparo. Roedd lot o ferched yn gweithio fan hyn hefyd – 3-4 ohonyn nhw ar panel-join, dwy acha cones, 3 acha battles, a 4 acha final join. Ac roedd sawl lein debyg yno. Ac roedd rhai i lawr y gwaelod wedyn achos on nhw’n neud dinghies hefyd – hollol wahanol.
Yn y ffatri hon roedd y cwmni yn sypleio’r overall, ac och chi’n gorffod cael y steel toecaps arno achos on nhw’n drwm, ond on nhw? Ar ol joino’r chwech panel lleder, roedd pwysau gyda chi. ‘Odd e’n waith caled, … odd e’n gwd, enjoies i e. Fi still yn cysylltu â’r merched ‘na nawr.’ Bu yno am tua 10 mlynedd. Doedd hi ddim yn handlo machine o gwbwl. (Ffôn yn canu).
47.35
Dechreuodd yn Avon ddechrau’r 1980s a gorffen ddechrau’r 1990s. Dim menyg na dim am ei gwallt.
Nid yw’n cofio ei chyflog cyntaf yno ond ‘On i’n ennill arian da yn Avon … on i’n câl e i’n hunan hefyd! On i ddim yn gorffod ei roi e i Mami’. Pwrpas mynd i ennill cyflog oedd er mwyn ‘gwella’n bywyd ni fel teulu. Odd lot o ferched odd yn gwitho yn Avon yn gwitho jyst er mwyn câl holidays. Nag on i yn. On i’n safio. Wel, brynon ni’r ty hyn a neud e lan ife? … Education y bois odd number one… na beth odd ‘n nôd i.’ Cred mai ei gwr Gwyn oedd y prif enillydd arian yn y teulu ‘on i’n safio un fi, ch’mbod ... ishe neud yn siwr bod y bois yn iawn.’
‘Odd undeb yn Avon! (chwerthin). Industry thing odd e … Nelen nhw ddim gwitho ‘da chi … os nag och chi’n talu undeb. … Odd pawb yn talu’r undeb. Achos wedes i wrthyn nhw bo fi ddim yn ..credu mewn undeb ‘No I’m not paying …’ “Beryl” wedon nhw ‘you’re not working with us, cos, if we have a payrise, you’ll have a payrise,” A wedes i, ‘Oh well, that’s not fair, … I’ll have to pay it then. “Achos os on i’n moyn i’r cyflog fynd lan hefyd …’ On ni’n câl lot o bawb yn cerdded mas a this and that – odd lot o nonsense yn Avon. … achos os och chi’n câl ‘ch teimo ar rywbeth a’r boi ddim yn agrio (cytuno) (bugger odd e anyway) bydden nhw ‘Right we’re out now! We’re not agreeing to this.’
Roedd lot o time and motion yn Avon. Dechreuodd hi ar cones yna ac aeth hi ymlaen i panel join. Roedd y cones yn fach ac roedd rhaid gwneud lot ohonyn nhw i gael bonus, ond och chi’n bildo tua chwech bad y dydd a gorffen. Gwaith gwahanol. ‘Och chi’n câl y gliw wedyn yntefe a odd y gliw ‘na’n gwynto – och chi’n gorffod câl break every so often, neu byddech chi’n mynd as high as a kite.’ Dim mwgwd i rwystro hyn. … ‘Ond odd rhai yn câl warnings am sniffo.’ …
52.30
Och chi’n meddwl falle bod e’n beryglus i chi i fod yn gwynto fe?
Odd y menywod – on nhw’n meddwl ambyti’r arian ar ddiwedd yr wthnos. Odd e’n jobyn o waith, odd e?
Och chi ddim yn ymwybodol fod e wedi effeithio ar eich iechyd chi?
Falle bod e, sain gwbod. Cos pwy jobyn sy ddim yn danger anyway?’
Byddent yn gweithio mewn gangs bach yna. Dwy ar y cones a 4 ar y panel-join.
Nid oedd yn ystyried symud o wneud cones i’r bade yn fwy o sgil – dim ond job wahanol. Nid oedd mwy o dal. Nid yw’n sicr a oedd dynion yn cael mwy o dâl na’r menywod – roedd yn dibynnu ar eich gwaith.
Yn Avon achos y gliw roedd yn rhaid cael tymheredd arbennig drwy’r amser – haf a gaeaf. "On nhw’n carco’r tymheredd yn Avon." Roedd nyrs yma hefyd – yn llawn amser, ‘industrial nurses on nhw’n galw nhw.’ Roedd machinists fan hyn eto, ond nid yw’n cofio lot o gytiau .‘Hangovers odd fwya yn Avon.’
Roedd cwpwl o ferched o’r Hendy yn gweithio yna, ac o Dafen, Burry Port, Cydweli, Swiss Valley … Roedd Cymraeg yma – unwaith roedd hi’n gwybod fod rhywun yn siarad Cymraeg fyddai hi ddim yn siarad Saesneg gyda nhw. ‘Ges i’n dynnu lan unweth amdano fe. … y merched odd yn complaino bo fi’n siarad Cymrag a es i at y Manager, Huw Francis, a wedes i “Ma nhw’n complaino bo fi’n siarad Cymrag” wedes i, “Wel fi yng Nghymru nag w i?” “Odit, odit,” medde fe, “so ti’n neud dim byd yn rong” medde fe, “clatsh di bant.” Merched oedd yn meddwl eu bod dipyn bach yn well na hi on nhw. Ond roedd rhai eraill yn gofyn iddi siarad Cymraeg. ‘We love to hear you talk Welsh’ ‘Os dwi’n dechre ‘da rhywun yn Gymrag, Cymrag yw e.’
Roedd miwsig yn Avon hefyd. Roedd y merched yn canu yn Hodges wrth eu gwaith – canu gyda’r radio – Top of the Pops. Doedd carole ddim yn bwysig yno amser y Nadolig. Roedd rhai yn canu yn Avon hefyd ‘Nag on i – on i’n consentreto.’ O safbwynt bonus – byddech yn gwneud rhywfaint bob dydd ac os oeddech chi wedi gwneud tamaid bach ymlaen, - ‘gwedwch ar y dydd Mercher, … och chi’n neud tamed bach mlân, wedyn erbyn dydd Gwener odd dim rhaid i chi neud shwt gymint odd e? Os och chi wedi cyrradd y target odd dydd Gwener yn nice easy day.’ Roedd supervisor yma hefyd – Sian. Chafodd hi ddim cyfle i fod yn supervisor – doedd hi ddim eisiau bod.
57.50
Roedd gweithgareddau cymdeithasol yn Avon. Gwnaeth hi sponsored walk i Heol Goffa gyda nhw – i blant bach anabl oedd yn mynd mas i’r Olympics. Roedd y merched yn gweithio yno yn mynd mas adeg y Nadolig ond nid y cwmni ei hunan oedd yn trefnu hyn. Byddai pawb yn talu i mewn hyn a hyn yn barod i’r Nadolig – pawb yn prynu anrheg fach – tua £3-£5 a’u rhoi mewn twba a phawb yn cael anrheg fach.
Cred bod tîm soccer gan y bois, ond nid i’r merched. Dim netball na tenis, na chôr. Byddai mwy o’r merched yn Avon nag yn Hodges wedi bod yn ferched capel – enwi rhai – Joyce a Doris oedd yn gweithio gyda hi. ‘Odd dim lot yn mynd i’r cwrdd yn Abertawe.’ Does dim cof ganddi o barti i’r plant adeg y Nadolig. Ond cred eu bod yn mynd â nhw i’r Panto.
Ron nhw’n cael stop fortnight yn Avon hefyd. At hyn ron nhw’n cael wythnos y Sulgwyn bant. ‘Wthnos yr Urdd fi’n galw fe.’ Roedd Colin ei mab yn aelwyd yr Hendy. Roedd y ffatri’n cau.
Gweithiai yno (gadael cartre am 7.30) o wyth – cloco miwn am wyth, a byddai gartre erbyn tua hanner awr wedi pedwar – ‘eight hour shift’. Doedd dim shifftiau yn y ffatri. ‘On ni’n câl break yn y bore gyda Avon, cup of tea and a piece of toast, wedyn bydde amser cino, wedyn bydden ni’n câl cup of tea byti tri y prynhawn.’ Roedd cantîn yn Avon ond roedd hi’n dal i ddod â brechdane. “I’m not bringing money here, I’m taking it from here."
Wrth edrych yn ôl mae’n cofio bod ‘yr hen fenywod yn gas. Os nad och chi’n neud ‘ch bonus, odd yr hen fenywod yn terrible, terrible, un neu ddwy ohonyn nhw’. Roedden nhw wedi bod yno am amser ‘On nhw’n meddwl bo nhw berchen y lle,’ Roedd rhai ohonyn nhw wedi bod yno ers bod Avon lawr yn North Dock.
Nid yw’n cofio llawer o dynnu coes y dynion. Roedd y dynion yn gwybod y math o berson oedd hi – ‘We don’t want to play with her …’ Ni ddaeth ar draws harassment yn y gwaith o gwbwl – yn Hodges nac Avon. Yr unig drafferth gafodd hi yn Avon oedd am ei bod yn siarad Cymraeg. ‘On nhw’n gweud “Oh the Welshy’s coming again” ‘”So what,” wedes i, ‘”What country are you living in then?”
Doedd hi ddim yn credu bod hi wedi cael verbal abuse na dim byd fel’na gyda nhw. Byddai’n ffindio allan pwy oedd yn siarad Cymraeg. Roedd hi’n syndod faint oedd yn gallu siarad Cymraeg. Chafodd hi mo’r agwedd hon yn Hodges – cred ei bod hi hefyd yn meddwl gan ei bod yn Abertawe ac roedd yn ifancach hefyd – ‘On i ddim hanner mor ffit. Ddim hanner mor ffit. Ma ffatri yn dod â chi mas, dod â chi mas. Definite … Odd amser pan och chi ddim yn gweud bw wrth ba, chm’bod, ddim yn ateb neb nôl a sefyll lan dros ‘ch hunan, .. but once chi’n mynd i’r ffatri mae’n neud i chi dynnu’ch hunan mas a sefyll lan – a fi’n credu falle bod câl plant yn neud hynna hefyd. … yn diwedd chi’n mynd “Nag yn nhw’n mynd i ddamshel arno i ragor yntefe! Achos o ble on ’n dod – dim ond i’r cwrdd on i’n mynd gyda Mami, a cyngherdde yntefe .. cysgodol. .. a gweld fel ma’r rest yn byw. Synnon nhw’n byw dim byd fel ni. Achos ‘na fe, pan on i’n Hodges odd y merched yn gweud wrtho fi “What are you doing with your money now then Ber?” Wedes i ‘I give it to my mother.’ “You aren’t giving it all are you?” “Yes” wedes i – aethon nhw’n diwedd on nhw’n moyn ffidlan gyda’i docket hi, … On nhw’n moyn i Mami gâl un docket, er mwyn i fi gâl rhagor o arian. Odd y rhan fwya ohonyn nhw ddim ond yn rhoi cyflog rhywbeth iddi mame a on nhw’n câl cadw’r rest.’ Cyfeiria at ffrind iddi a gafodd gadw’i thâl i gyd o’r dechre a dim rhoi dim i’w mam. ‘Cofiwch chi ma fe’n dysgu chi – fi’n meddwl wedyn bo chi’n well off, chm’bod – mae fe wedi dysgu chi ffordd i garco’ch arian’ Doedd ei mam ddim yn cadw’r arian ar ei chyfer hi. Dyna wnaeth hi i’w meibion hi gyda’r arian roedden nhw’n ei gael am weithio yn yr haf. Byddai’n cadw peth ohono drostynt ac yna’n ei roi nol iddynt ar ddiwedd y gwyliau.