Gloria Brain. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Beth yw’ch enw chi?

Gloria Brain.

A pryd gesoch chi’ch geni? (Date of birth)

Thirty first, five, thirty three.

A ble o’dd ych tad yn gwitho?

Glynhebog.

Yn y gwaith glo.

Yn y gwaith glo yw e, ie.

A, o’dd ych mam yn gwitho?

Nagodd. O’dd hi’n gwitho cyn bod hi’n priodi.

Fel beth wedyn?

Fel gwinyddes.

O’dd crefft gyda hi te?

O’dd. O’dd.

Ble o’dd hi wedi bod yn gwitho cyn priodi te?

Buodd hi’n gwitho’n Bradford House yn Llanelli.

Beth o’dd Bradford House? Ife siop o’dd e?

Siop o’dd hi. Tipyn o bopeth. Fel haberdashery, popeth fel ‘na.

Ond gwnïo o’dd hi’n neud?

Gwnïo o’dd hi’n neud ‘na. Ie.

O’dd lle ‘na i wnïo?

O’dd, o’dd. Siwr o fod.

00.01.10: A ble dysgodd hi i wnïo?

Yn Pontiets. O’dd menywod o’dd yn moyn gwnïo, o’n nhw i gyd yn dysgu yn yr un man.

00.01.23: A ble ethoch chi i’r ysgol wedyn?

Ponthenri. Etho i y flwyddyn diwetha wedyn o un deg pedwar i pymtheg yn Stradey, Llanelli.

00.01.39: O’ch chi’n lico ysgol?

Wel, o’n i.

A pwy oedran o’ch chi’n gadel ysgol?

Un deg pump.

00.01.48: A shwd o’ch chi’n twmlo ymbytu gadel ysgol?

Wel, o’n i’n ddigon hapus.

00.01.57: A beth nethoch chi ar ôl gadel ysgol?

Helpu Mama gynta. A wedyn farwodd hi a fi o’dd yn cadw gatre wedyn.

00.02.05: A faint o blant o’ch chi i gyd?

Wyth. A fi o’dd y wheched.

A faint o fois o’dd ‘na?

Whech. A dwy ferch.

00.02.20: Pam o’ch chi’n gadel ysgol wedyn o’ch chi’n teimlo bod chi’n neud y penderfyniad ne’ o’dd e jyst rhwbeth o’dd yn digwydd?

Wel, beth o’dd wedi digwydd o’dd e.

00.02.30: O’dd ych mam wedi bod yn dost?

Wel, o’dd hi ddim yn dda. O’n i’n ca’l sefyll gatre o’r ysgol unwaith yr wythnos i olchi, achos ecsema ar ei dwylo hi, yn terrible, o’dd. A’i chefen hi, o’dd. So y fi o’dd yn helpu ddi, yn siopa, y fi o’dd yn golchi, a neud y ty, a o’dd hi’n ca’l neud wedyn y smwddo a’r bwyd.

Lwcus bod chi gyda ddi te.

Safies i lot o Mama, do.

00.03.01: Achos o’dd ych wha’r ddim yn hwylus iawn.

Un deg pedwar o’dd hi, a wedyn o’dd hi’n syffro â’r galon.

00.03.17: A wedyn ar ôl carco gatre, briodoch chi. Pwy oedran o’ch chi’n priodi?

Mis cyn bod hi’n un ar hugen ife.

A buoch chi’n fishi’n magu plant.

Pump.

Pump o blant?

Do.

Sawl bachgen a sawl merch?

Tri bachgen a dwy ferch.

00.03.38: Nes ‘mla’n wedyn ‘nny, ethoch chi mas i witho. Allwch chi weud ‘tho fi shwd gethoch chi job?

O’n i’n mynd i, beth ti’n galw fe nawr, lan yn yr Hall fan hyn, gyda, sa i’n cofio’r grwp, beth o’ch chi’n galw fe. Nege Women’s Institute. Guild o’n nhw’n galw fe. A fan ‘na o’n nhw’n siarad ymbytu’r ffactori a gweud bod eisiau rhai a, a wel geso i ddim o fe ar y dechre. A wedyn ..

Ond o’ch chi’n moyn mynd i witho pyr’nny?

O’dd dim amser ‘da fi fynd i witho. Ond o’dd yr un o’dd yn rhedeg e wedyn, Janice. Wel, o’dd hi wedi gofyn i fi wedyn ‘nny os o’n i job, a part time. A nawr ten, etho i am dri mish.

Ble o’dd hwnna wedyn?

Yn y ffactri.

Ffactri Ponthenri?

Ie. Chloride. A wedyn etho i, wel ‘na fe. ‘Na diwedd hwnna, tri mish. Wel, blwyddyn ar ôl ‘nny, wedyn dethon nhw lan i ofyn os o’n i moyn job. Etho i lawr ‘na wedyn, shifft work. Six till two, a two till ten.

00.05.06: Shwd o’dd hwnna’n siwto gyda’r plant?

O’dd e’n siwto. O’dd. Fel ‘na o’n i’n twmlo, bod e’n siwto’n well na half past seven till four.

00.05.16: Shwd o’ch chi’n twmlo ymbytu mynd mas i witho? O’dd digon o waith ‘da chi?

O’dd digon o waith ‘da fi ond o’dd ishe’r arian.

A ble o’dd ych gwr yn gwitho?

Cynheidre. Cynheidre.

O’ch chi’n twmlo bod rhaid i chi fynd?

Wel, i neud pethe’n rhwyddach, ond o’dd e’n effort i weud y gwir.

Fi’n siwr.

O’dd e yn.

00.05.45: I fynd nôl wedyn ‘nny i pryd dechreuoch chi, chi’n cofio pwy flwyddyn o’dd e?

Seventy Two. April.

Ife ‘na’r jobyn cynta’ o’ch chi wedi’i neud mewn lle o waith?

Ie. ‘Na’r unig beth o’n i wedi’i neud am dros Nadolig pam o’n i’n sixteen o’dd gwitho’n Woolworth am whech wthnos, ti’n gwbod dros y Christmas period. ‘Na i gyd.

00.06.20: A beth o’ch chi’n meddwl o’r ffactri fan hyn? Chi’n gwbod, y diwrnod cynta’ cerddoch chi mewn?

O’n i’n ddigon hapus. O’n i’n nabod pawb.

00.06.28: O’dd lot o’r pentre ‘na?

Wel, rhan fwya o’r pentre, a Pontyberem. O’ch chi’n home from home te.

00.06.34: Fel o’ch chi’n mynd i’r gwaith te?

Cerdded. Cerdded, ie. Ie, nabod pawb.

00.06.42: A beth am y lle ‘i hunan? O’dd lot o swn ‘na?

Wel, o’dd fel dou bilding. Yr Assembly ar Process. Wel, dechreues i off yn yr Assembly. Wel, wedyn newidon nhw fe, a dodi ni’n shiffts. A etho i i witho’n y proses. Lot fwy o swn fan’na achos y machines.

00.07.06: Beth yn gwmws o’dd y ffactri’n neud. Beth o’dd y product?

Batris.

Batris i geir neu batri i ..

Nage. O’n nhw’n neud batris at tipyn o bopeth. Alla i byth â gweud at beth o’n nhw’n iwso nhw i gyd. Ond batris i bopeth ‘na.

00.07.28: Pwy o’dd yn dangos i chi beth i neud?

Wel, o’dd charge hand ‘na.

O’ch chi’n ca’l training?

O’n nhw’n dangos ffordd i chi a wedyn cario mla’n. Gwahanieth jobs o’ch chi’n neud. O’n nhw’n dod mewn â pethach fel ‘sheets’ o’n nhw gynta. A wedyn o’n nhw’n ca’l ‘u torri i’r seis. Wel, wedyn o’n i’n dodi, weldo wedyn tags arno fe, negative a positive, wel wedyn o’dd rheiny’n ca’l mynd ar y plant. A wedyn o’n nhw’n ca’l mynd o fan’ny wedyn i’r Assembly. A o’n i ddim yn gwitho man’nny wedyn twel.

O’dd lot o fenywod yn gwitho ‘na te?

O’dd. Fwy o fenywod na dynon. Ond o’dd y dynon yn ca’l gwitho shifft nos.

O’dd shifft nos ‘na ‘fyd?

O’dd, o’dd. Wel, o’dd dim menywod yn ca’l gwitho shifft nos.

Pam ‘nny te?

Sa i’n gwbod. Sa i’n credu bod nhw’n neud e nawr odyn nhw.

Sa i’n gwbod.

Nadi. Sa i’n credu. Sa i’n credu o’n nhw’n neud e’n Morris Motors, menywod yn gwitho shifft nos.

00.08.44: O’dd y gwaith o’dd y dynon yn neud ‘na’n fwy trwm, ne’ o’n nhw’n neud yr un gwaith â’r menywod?

Na, y machinery ‘na. O’n nhw’n trîto’r, sa i’n gwbod beth o’dd e, pishys grey o’n nhw. Fel y plât. A wedyn o’n nhw’n dodi nhw, o’n nhw’n dodi rhyw stwff arnyn nhw, yn y plant a trîto nhw. A wedyn o’n nhw’n ca’l mynd o fan’nny i’r Assembly.

00.09.24: O’dd rhywun arall yn y teulu’n gwitho ‘na?

O’dd. Buodd Shirley, Helen a Norman.

Ych plant chi?

Ie.

Tri o’r plant.

Fuodd Norman yn gwitho’n permanent am sbel, ond dim ond amser holidês o’dd Helen a Shirley.

Holidês o’r coleg neu holidês o’r ysgol?

O’r ysgol gynta fi’n credu. A wedyn o’dd Shirley wedi dechre, yn y, yn y coleg. Wedyn gas i blwyddyn ar ôl ‘nny amser, amser o’dd y coleg wedi cwpla.

Ond o ran y menywod erill o’dd yn gwitho ‘na, o’ch chi’n nabod tipyn.

O’n i’n nabod jest nhw i gyd. Jest nhw i gyd. A’r dynon a chwbwl.

00.10.14: Ydych chi’n cofio’r diwrnod cynta’ ethoch chi ‘na?

Do. Yn yr Assembly gynta treies i, bues i A o’n nhw’n torri wedyn Viledon o’n nhw’n galw fe, a o’ch chi’n twymo rhyw wheel yn dwym iawn a o’dd e’n torri’r Viledon yn strips. A o’n ni’n iwso’r strips ‘nny wedyn i ddodi ar y batris. Fel sen nhw’n cadw’r stwff o’n nhw’n dodi arno fe, ar y batris.

O’ch chi’n twmlo bod e’n waith caled?

Nagodd. O’dd e ddim yn waith caled.

Achos o’ch chi wedi bod yn cadw gatre o’ch chi.

O’n, o’n i’n gyfarwydd â tipyn o waith.

00.11.08: O’ch chi’n gweud bod chi wedi mynd i’r Guild a clywed am y jobyn man’nny. A wedyn nethoch chi fe am damed bach o amser dofe gynta, a beth ddigwyddodd wedyn?

Wel, temporary o’dd e a dim ond am dri mish. Wel, wedyn mewn blwyddyn ar ôl ‘nny gofynnon nhw os o’n ni moyn permanent job.

A beth wedodd chi?

Wel etho i. O’n i’n meddwl, parith ddim hwn llawer eniwe. Naf i hwnna nawr te am sbel fach a wedyn o’n i’n meddwl falle bydden i’n gorfod cwpla ‘to, o’n i’n meddwl. A ‘na’r ffordd o’dd e’n mynd o un flwyddyn i’r llall.

00.11.44: O’dd digon o waith ‘na ar y pryd?

O’dd, o’dd.

Ar ôl y cyfnod cynta’ ‘na i gwpla, o’ch chi’n gweld ishe fe wedyn?

O’n i’n gweld ishe’r arian. O’dd dim amser ‘da fi i fod ‘na i fod yn iawn. O’n i’n gweud ‘na yn y gwaith, ‘sdim amser ‘da fi i fod ‘ma’.

00.12.05: Ond o’dd yr arian yn handi. Beth o’dd Cyril, y gwr yn meddwl o’ chi’n gwitho?

O’dd e ddim yn gweud dim. Dim yw dim. A gweud y gwir o’dd e ddim yn gweud dim.

00.12.21: O’dd e’n fodlon bod chi wedi mynd ‘na?

O’dd e ddim yn gweud dim. Na, o’dd e’n gwbod bod e’n lot i fi. Ond o’dd e ddim yn gweud lot o ddim.

00.12.34: Bytu faint o bobol o’dd yn gwitho ‘na i gyd?

Dros dou gant. O’dd, dou gant ‘na.

Ac o’ch chi’ neud yr un shifft drw’r amser ne o’ch chi’n newid?

Bob yn ail wthnos.

Os o’ch chi’n neud shifft dydd pwy amser o’ch chi’n dechre?

Wel, o’n i ar either bore neu prynhawn. O’dd hwnna yn y process. Os o’ch chi yn gwitho yn yr Assembly half past seven till four o’dd hi.

A beth o’dd well ‘da chi i neud?

Fi’n credu o’dd y shiffts yn well i fi.

Achos y plant?

Ie. O’n i wedi mynd am whech yn y bore, wel o’dd Cyril ‘ma wedyn amser y plant. Nage, o’dd e wedi mynd ‘fyd. Ond o’n i gatre wedi neud bwyd pan o’n nhw’n dod gatre o ysgol. A os nagon i ‘na pan o’dd y bwyd ‘i hunan yn ca’l ‘i fyta bydde Cyril ‘ma, er bydde amser ‘da fi i neud e. Dodi fe’n barod te, erbyn dou, cyn bod fi’n mynd i’r gwaith.

O’dd e’n tipyn o job te i sorto pawb mas.

A i siopa, o’dd e yn. O’dd e all go, o’dd.

00.13.56: A tra bod chi’n ‘na wedyn ‘nny o’ch chi wedi cadw neud yr un job ne o’ch chi wedi symud?

Symud rownd.

O’ch chi’n lico symud rownd?

O’dd ddim gwahanieth. Even ar y welding, o’dd rhaid cyrra’dd y peth yn iawn ne’ o’dd e’n drafferth.

O’ch chi yn fenyw briod yn gwitho ‘na te, o’dd ‘na fenywod o’dd ddim yn gwitho ‘na?

O’dd, ond ar yr ochor arall o’dd ‘na. Yn yr Assembly fi’n credu. O’dd cwpwl ‘na. Ddim llawer ddim yn briod. Menywod priod o’n nhw rhan fwya fi’n credu.

O’dd y gwaith yn siwto menywod priod te?

O’dd, o’dd.

Pam ‘nny te, achos yr orie?

Sa i’n gwbod. Wel, o’dd rhan fwya nhw’n gwitho half past seven till four. O’dd e’n siwto nhw, so.

00.14.51: A shwd beth o’dd yr arian? O’n nhw’n talu’n weddol?

O’n. Itha da.

00.14.57: Chi’n cofio faint o’ch chi’n ca’l?

Ma’ payslip ‘da fi’n rhywle ‘fyd. O’n i’n ca’l bytu seventeen pound. A o’dd hwnna’n dda pyr’nny.

00.15.10: Beth o’ch chi’n neud â’r arian ‘na wedyn?

Wel, helpu. Ca’l rhywbeth bach yn ty. O’n i ffaelu ca’l llawer cyn ‘nny. Ie.

O’ch chi’n ca’l codiad cyflog bob hyn a hyn?

O’n, wel o’n nhw’n gorfod, ffor’ mae e nawr, treial ca’l e erbyn April. O’n i’n ca’l e wedyn, rhywfaint bach, bob blwyddyn. Dim llawer ond o’dd e’n help.

Fel o’ch chi’n ca’l ych talu wedyn, pacyn ‘da chi? Fel o’n nhw’n talu wedyn, talu mas?

O ie, o’ch chi’n ca’l ych arian. O’ch chi’n ca’l slip bach y diwrnod cyn ‘nny. O’ch chi’n gwbod faint o’ch chi’n ca’l.

Pryd o’dd e’n dod, ar y dydd Gwener?

Dydd Gwener, ie.

O’dd dydd Gwener yn ddiwrnod da te?

O’dd. O’dd e ‘di mynd erbyn dydd Llun.

00.16.04: O’dd pawb yn ca’l ‘u talu yr un peth, ne’ o’dd rates gwahanol?

Na. I’r menywod, yr un rate. A’r dynon fi’n credu. Sa i’n gwbod ymbytu’r electricians a pethe fel ‘na. O’n i ddim yn gwbod ymbytu nhw, ond fi’n credu y ffor’ arall. Ond fi’n credu o’dd yr arian yn itha da er yn Morris Motors o’n nhw’n ca’l tipyn fwy. Ar y ceir.

00.16.32: Pam ‘nny te?

Sa i’n gwbod. O’dd lot o demand am geir a pethe twel. A wedyn o’n nhw’n ca’l ‘u talu’n well. Fi’n cofio o’n nhw’n ca’l ‘u talu’n rhyfedd o dda.

00.16.45: O’ch chi ddim yn tempted i fynd man’nny te?

Nagon i. O’dd e ar y drws fan hyn ‘da ni. O’dd e’n dda, ddim yn talu bys.

00.16.55: O’dd y ffactri ‘na’n rhedeg bys?

O’dd. Buon nhw’n rhedeg minibuses i rai nawr, o’dd ddim â ceir.

00.17.04: O’dd Undeb ‘da chi?

O’dd. O’dd Undeb, ond sa i’n gallu cofio enw’r Undeb.

00.17.12: O’n nhw’n itha da te?

Wel, itha da. O’dd.

Os o’dd problem wedyn ‘nny, beth o’ch chi’n neud?

Ie, mynd at yr Union wedyn.

O’ch chi’n aelod?

O’n. Fi’n credu o’dd pawb yn aelod o’r Undeb.

O’dd rhaid i chi fod o’dd ‘na?

O’dd. Fi’n credu o’dd pawb yn derbyn bod, bod ishe undeb.

00.17.36: O’ch chi’n twmlo bod y gweithwyr yn ca’l ‘u trin yn dda?

O’n, o’n. Fi’n meddwl ‘nny. Ie.

O’dd y gweithwyr yn dod ‘mla’n, o’ch chi’n dod ‘mla’n ‘da’r charge hands a pobol fel ‘na?

Ie, gewch chi, ti’n gwbod gei di, sdim popeth yn mynd yn reit drw’r amser. Yn unman.

00.18.11: A dynon neu fenywod o’dd y charge hands wedyn fel arfer?

Dynon a menywod. O’dd, ond o’dd ddim y menywod cymint dros y dynon. A o’dd menyw o Pontyberem, o’dd hi’n charge hand yn yr, beth ti’n galw fe, Process.

00.18.38: O’ch chi’n ca’l ych talu wrth yr awr te?

Wrth yr awr.

O’dd dim rhaid i chi gyrra’dd targed?

Na. O’n nhw’n dishgwl i chi neud so much, o’dd.

Beth os o’ch chi ffaelu cyrra’dd hwnna te?

Wel, o’ch chi yn, o’t ti yn, yn gallu cyrra’dd e.

00.18.58: O’dd rhai ffaelu neud y gwaith? Sdim pawb yn practical ydyn nhw?

Na. Fi’n credu o’dd pawb yn gallu.

Pan ethoch chi ‘na gynta’ o’ch chi’n gorfod neud interview neu ryw fath o dest i ddangos bod chi’n gallu..?

Na. Etho i i ga’l interview a siarad â fe. Ond o’n i yn yr Assembly y tro cynta, neud pethe bach simple, ond o’dd rhaid i ti neud so much. Achos gofnes i ‘faint o rein ti fod i neud nawr?. A ‘na’r ateb ges i ‘As humanly possible’. ‘Na beth wedodd e.

00.19.40: A shwd o’dd gwitho ‘na chi’n gwbod? O’dd lot o swn ‘na?

Ddim yn yr Assembly. Ond yn y Process o’dd swn y machine.

00.19.52: O’ch chi’n gallu clebran, gwedwch, gyda’r person nesa?

O’n, o’n. O’n i’n gallu clebran.

00.19.58: Beth o’ch chi’n clebran ymbytu?

Popeth. Popeth sy’n mynd bob dydd.

00.20.05: Beth o’ch chi’n gorfod gwishgo wedyn?

Overalls. Geson ni overalls. O’n i’n ca’l nhw.

00.20.14: Pwy o’dd yn golchi nhw te?

Wel, o’ch chi’n golchi nhw ych hunan. Ond o’ch chi’n ca’l overall.

Beth am ych tra’d?

O’n nhw’n gweud ‘tho chi am wishgo rhywbeth sensible, ne bydden nhw’n gweud ‘tho chi dyw rheina ddim yn gweud ‘tho chi sdim rheina’n suitable i fod yn y ffactori rhag ofn se rhywbeth yn cwmpo arno chi.

00.20.34: O’dd e’n lan ‘na?

O’dd lot o ddwst yn y Process.

O’dd masg ne rhwbeth ‘da chi te, i’r dwst?

Na, buon ni ddim â masg. Falle delen ni wedi ca’l nhw. Achos o’dd cadmium yn y batris. A sdim hwnna’n dda.

00.20.57: Ydych chi’n twmlo bod chi neu unrhyw un arall chi’n nabod wedi godde achos y gwaith?

Alla i byth â gweud ‘na, sa i’n gwbod. Walle bod fe ‘di neud drwg i ni. Sa i’n gwbod.

00.21.13: Chi’n cofio unrhyw accidents yn digwydd ‘na? O’dd damwain nawr ac yn y man?

Geso i wad ar ‘y mys.

Dofe?

O’dd ddim, o’dd ddim, o’dd rhwbeth yn dod lawr ‘na a dim, fel protection dros, gas e i neud wedyn. Gynta o’dd rhwbeth yn digwydd, pyrnny ma’n cael ei neud.

00.21.36: O’ch chi ddim yn gallu gofyn am compo am ych bys?

O’dd rhai’n dodi mewn.

O’n nhw?

O’n.

O’n nhw’n ca’l e te?

Wel, so chi’n clywed beth ma’n nhw’n gael ife. Ond allen i fod wedi dodi fe mewn. Ond o’n i’n meddwl, jiw, jiw sen i’n dodi fe mewn ne rwbeth falle sen i’n colli job. Twel. O’t ti’n meddwl am dy ..

O’ch chi’n ofon?

Ie.

00.22.05: Beth o’dd y rheole ‘na, chi’n cofio beth o’dd y rules?

Na. Dim rheole fel ‘nny.

Beth o’dd yn digwydd yn y bore? O’ch chi’n ca’l brêc ne rhwbeth?

O’dd. O’ch. O’ch chi’n dechre am whech a wedyn byddech chi’n ca’l brêc am hanner awr wedi naw.

Sbel cyn ca’l brêc nagodd e. O’dd e’n sbel cyn cael brêc?

O’t ti’n ca’l dished o de pan o’t ti’n arrivo. O’dd kettle a pethach ‘da ni. O’n i’n cadw’r kettle yn ‘yn locker i. O’n ni’n ca’l dished o de. O’dd, itha da.

00.22.46: Beth o’ch chi’n neud amser cino?

Wel, o’dd cantîn. Brecffast o’n i’n ca’l achos o’dd hi’n half past nine. A wedyn o’n i’n

mynd gatre wedyn am ddou.

00.23.03: O’dd pobol erill yn ca’l, o’dd dim cino ‘na?

O’dd cino ‘na i reina o’dd na tan half past four. O’n nhw’n ca’l fwy o gino fi’n credu.

00.23.14: O’n ni’n siarad ymbytu os o’dd e’n lan ne bido, ac o’ch chi’n gweud bod dwst. Beth am y toilets a pethach fel ‘na, o’dd llefydd fel ‘na’n lan?

O’dd, o’dd y toilets, o’dd.

00.23.24: O’dd rhywun gyda nhw’n cl’au ‘na?

O’dd, a wedyn o’ch chi’n ca’l tywel bach ych hunan, so.

O’n nhw’n rhoi hwnna i chi?

A wedyn, o’ch chi’n carco fe wedyn. Yn dishgwl ar ‘i ôl e a golchi fe.

00.23.40: Pwy ‘dd y bosys te? Ife rhai o rownd ffor’ hyn o’n nhw? Ne rhai o bant?

Rhai o bant o’n nhw.

O’n nhw ‘na yn itha amal?

O’n nhw ‘na drw’r amser.

O’n nhw?

O’n.

O’ch chi’n gweld nhw?

O’n. O’ch.

O’dd fel offis ‘na ne rhwbeth ‘na?

O’dd offis ‘na.

So o’ch chi’n itha cyfarwydd â nhw?

O’n. Ddim mor gyfarwydd â’r bosys ife, ond ..

O’n nhw’n dod rownd i weld beth o’ch chi’n neud?

O’n.

Ac o’ch chi’n gweud o’ch chi’n gallu clebran wrth neud y gwaith?

O’n.

00.24.17: O’ch chi ddim yn ca’l row am siarad?

Na. Na. Dim fel ‘na.

00.24.24: O’dd rhai yn ca’l y sac withe am neud rhwbeth?

O’n nhw’n ca’l ‘u tynnu lan os o’dd ddim y gwaith wedi cae’l ‘i neud. Ond dim lot weles i’n ca’l hwnna. Achos o’dd pawb yn treial neud ‘i waith.

00.24.46: O’dd e’n ole ‘na? O’dd ishe gole digon teidi i neud y gwaith.

O’dd gole fwy yn, yn y Process achos o’dd dim ffenestri ‘na. Wel, yn yr Assembly o’dd ffenestri.

Pam o’dd dim ffenestri yn y Process te?

Sa i’n gwbod. Sa i’n gwbod. Ma’ bownd o fod rhyw ddiben.

00.25.14: O’dd lot o bobol yn smoco ‘na pyr’nny? Meddwl am y brêcs nawr. Beth o‘n nhw’n neud pan o’n nhw ar brêc?

O’n nhw ddim fod i smoco mewn ble ma’r plant. Allwn nhw fynd mas wedyn i’r toilet ne rhwbeth i smoco. Na, o’n nhw ddim yn smoco.

00.25.35: Shwd o’dd y dynon a’r menywod yn dod ‘mla’n, achos i rai ‘na’r tro cynta, fel o’ch chi’n gweud, y tro cynta bod nhw wedi bod tu fas y ty i witho? Shwd o’n nhw’n dod ‘mla’n?

Yn olreit.

O’dd tynnu co’s ‘na?

O’dd. Lot o boeni a, o’dd. O’dd e’n le o’ch chi’n gwbod popeth o’dd yn mynd mla’n yn yr area. Popeth yn ca’l ei drafod yn y ffactori.

O’ch chi’n ca’l good gossip o’ch chi?

O’dd, o’dd. Dod i wbod popeth.

00.26.17: Pan o’dd rhai ifainc yn dechre wedyn o’dd tynnu co’s?

Buodd dim lot o rai ifainc ‘na, o’n i’n gweld.

Nagodd ‘na?

Ddim gwmint, dim lot o rai ifainc. O’n nhw’n fwy yn y thirties, ne ..

Pam ‘nny te?

Sa i’n gwbod. Sa i’n gwbod.

Falle achos taw gwaith rhan amser o‘dd peth o fe.

O’dd lot yn permanent ‘na. Ond walle o’n nhw’n moyn gwaith arall, sa i’n gwbod. Ond o’dd well ‘da nhw ca’l rhai dim yn rhy ifanc, achos o’dd rheina o’dd yn henach yn cadw ‘u gwaith, ddim yn colli.

Ma’ hwnna’n ddiddorol ondywe? A o’ch chi’n gweud bod chi’n gwitho y patrwm ‘na,

rhan amser ar y dechre. Sawl diwrnod wedyn?

Bob nos wedyn am bump diwrnod.

00.27.14: O’dd y ffactori ar agor ar ddydd Sadwrn?

O’dd.

A dydd Sul?

Sa i’n cofio os o’dd e ar ddydd Sul, ond bues i ddim yn gwitho dydd Sul. Bues i’n gwitho bore dydd Sadwrn. Ond sa i’n cofio os o’dd e ar ddydd Sul.

00.27.31: O’dd hwnna’n extra o’dd e? Gwitho dydd Sadwrn?

Wel, pan o’dd ishe gwaith mas ne rwbeth, a o’n nhw’n gweud bod gwaith acha bore dydd Sadwrn, os o’ch chi moyn e, ond ambell i waith o’n nhw’n dishgwl chi ddod ife.

O’n nhw?

Wel, ie.

O’ch chi’n twmlo bod rhaid i chi weud bod chi’n dod?

O’n i’n mynd eniwe.

Achos o’dd llond ty o blant ‘da chi.

Wel, o’n i nôl erbyn amser cino chwel. Acha dydd Sadwrn wedyn o’n i nôl am bytu deuddeg.

00.28.02: O’ch chi’n gorfod cloco mewn wedyn?

O’n. Cloco mewn. O’ch chi’n ca’l dwy funed. Ond os o’ch chi’n mynd fwy na dwy funed, o’ch chi’n ca’l ych torri lawr chwarter awr. So yn amal walle fydden i’n dod yn hwyr, bydde rhywun yn watsho chi’n dod, a jest cloco chi mewn fel bod chi ddim yn colli’r cwarter awr. Fel ‘na o’n nhw’n neud.

Whare teg, mae’n lot i golli chwarter awr ydyw e, achos dwy funed bach.

Ody. Ond o’t ti’n ca’l dwy funed. Ond os o’dd e dros dwy funed ...

O’ch chi’n gweud o’ch chi’n gwitho ambell i bore dydd Sadwrn wedyn, o’dd yr arian yn well ar ddydd Sadwrn?

Sa i’n cofio nawr. Fi’n credu o’dd e rhywfaint yn well ar fore dydd Sadwrn. O’dd. Ond amser holidês, os o’ch chi’n colli cyn yr holidê, se ti’n colli nawr, y diwrnod cyn yr holidê, fydde ti ddim yn ca’l dy holidê pay am Bank Holiday a pethe fel ‘na. Ne ddim yn dod mewn ar ôl Bank Holiday. Wel, netho i fe fel ‘na, wel chi’n dysgu dofe. O’n i ddim yn gallu ca’l e wedyn.

00.29.24: Ma’n golled mowr ondywe?

Ody.

00.29.27: O’n nhw’n itha strict fel ‘na te?

O’n, ie.

Ond o’ch chi wedi colli pai fel ‘na wedoch chi?

O’n. Ddim yn mynd mewn y diwrnod cynta’. A wedyn ‘na fel, netho i ddim o fe wedyn.

00.29.41: Pam ethoch chi ddim mewn, chi’n cofio?

Nadw. Siwr o fod rhwbeth ‘mla’n fan hyn. ‘Neith dim diwrnod gwahanieth’. Ond o’t ti’n colli dy holidê – y dydd Llun wedyn, a’r dydd Mawrth. Colli dou ddiwrnod wedyn.

O’ch chi yn ca’l ych talu am Bank Holidays a beth o’dd yn digwydd yn yr haf wedyn te? O’dd y lle’n ceued, achos o’dd lot off yr un pryd?

O’dd, o’dd. O’dd y ffactri i gyd yn ceued wedyn, amser holidês y colliers a pethe fel ‘na. Achos ‘n nhw ddim yn dechre’r plant un diwrnod, a dod nôl. O’dd well ‘da ni ceued hi lawr i gyd.

00.30.27: Bydde pawb ishe fod off yr un pryd.

Na. Bydde rhaid i ti ca’l pobol i witho ar y plant. A wedyn o’n nhw ddim yn gallu dechre, start a finish fel ‘na ar y plant. O’dd well ‘da nhw i ga’l e complete. Ceued e lawr te.

00.30.46: Beth o’dd y social life fel te? O’dd rhai yn mynd ar trips ne’ o’dd rhwbeth fel ‘na?

Na, na. Dim fel ‘nny.

Ond o’dd plant ‘da chi beth bynnag o’dd e.

O’dd, ie.

00.31.00: Os o’ch chi moyn amser off, gwedwch chi bod angladd ne rwbeth fel ‘na.

O’n nhw’n itha da. O’n.

Ond gwedwch chi bod chi’n cymryd amser off, fel ‘na, o’ch chi’n ca’l ych talu.

Nagoch. Os o’ch chi’n cymryd amser off o’ch chi’n colli.

00.31.20: O’ch chi’n gweud bod chi’n gallu cerdded i’r gwaith o fan hyn a o’dd pobol erill yn dod o’r pentrefi ar y bysus ife.

Ie, wel ne’ceir.

Beth o’dd y pella’ o’dd rhai’n dod?

Ammanford.

00.31.40: O’dd pobol yn lico gwitho ‘na chi’n meddwl?

Wel, fi’n credu o’n nhw.

00.31.45: Edrych nôl nawr shwd ych chi’n twmlo am y gwaith ‘na?

O’n i’n meddwl bod e’n itha da.

00.31.57: O’dd dim clwbe, o’dd dim clwbe’n perthyn i’r gwaith te?

Na, na. Geson ni cino Nadolig a pethe fel ‘na os o’ch chi’n moyn mynd ne rwbeth fel ‘na.

Ym ble o’dd e wedyn?

O’dd dim dal. Ble ethon ni nawr, un tro. Llandyfaelog. Fi’n cofio ethon ni fan ‘na.

I’r Red Lion?

Ie. Ti ‘di bod ‘na?

Wy’ ‘di bod ‘na. Ydw. O’n nhw’n trefnu bys i chi?

Bys.

O’n nhw’n talu?

O, na. O’dd rhaid i chi dalu dros ych hunan.

O’n nhw’n cynnig unrhyw percs te, o’dd e ddim fel gwitho, gwedwch chi o’dd Nanette yn son am witho’n y ffactri llieini ford. Achos o’ch chi ddim yn gwitho rhywle ble o’ch chi’n gallu ca’l pethe’n siep, y product, o’ch chi’n gallu ca’l rhwbeth arall ‘da nhw?

Dim byd. Batris, o’t ti ddim yn gallu pyrnu batris o ‘na. Ond gweda di bod ishe batri, fel sa i’n gwbod os ishe batri car. O’t ti’n gallu gofyn o’n nhw’n gallu delifro i’r ffactri, a talu am ‘na.

O’ch chi’n ca’l e’n siepach?

Siwr o fod. Siwr o fod. Netho i ddim ohono fe un tro. ‘Run peth â Morris Motors, se ti moyn car, gele ti fe’n siepach.

00.33.25: Beth o’dd yn digwydd os o’dd rhywun yn gadel te? O’ch chi’n ca’l noson mas ne o’n nhw’n casglu?

Wel se rheina o’dd yn gwitho ‘da hi, falle bydden nhw’n trefnu rhywbeth ‘i hunen.

00.33.40: O’dd rhai’n mynd mas i ga’l peint amser cino ten?

O’dd yr Incline opposite.

Sdim lot o fynd ar hwnna nawr o’s e?

Nago’s.

Blynydde nôl o’dd pethe ddim mor, chi’n gwbod o’n nhw ddim yn edrych lawr ar hwnna o’n nhw?

Ie, walle. Sa i’n gwbod. Falle o’dd rhai wedi bod ‘na cyn mynd i’r gwaith, sa i’n gwbod. Ond, bydde ti ddim yn ca’l mynd ar y Process enwê se ti wedi cael drinc.

00.34.13: Pam chi’n edrych nôl ar ych amser chi fanna nawr, beth sy’n aros yn ych meddwl chi?

Wel, fi’n lwcus bod fi wedi gallu mynd ife. Fel ‘na fi’n twmlo.

00.34.25: A shwd o’ch chi’n twmlo am y cwmni?

Gwd. O’dd y cwmni’n itha da. Ddim yn sefyll ‘run peth o hyd ond ..

O’ch chi ffaelu pigo pwy o’ch chi’n gwitho gyda?

Na.

O’n nhw’n gweud ‘tho chi le i fynd?

Gwahanieth job, o’dd dim dal.

Gethoch chi rhywun pwysig yn dod i weld chi yn y ffactri unwaith? Gethoch chi ddim Prince Charles ne’ neb fel ‘na?

Diar mi, naddo. Na.

00.35.01: A pryd dibennoch chi wedyn?

1979.

A shwd digwyddodd hwnna?

Geso ni wybod ar January 9th bod y ffactri’n ceued, ac o’n nhw’n gorfod rhoi tri mish wedyn a cwplodd hi ar March, diwedd March.

00.35.18: A shwd o’ch chi’n twmlo?

Wel, o’ch chi yn twmlo’n itha fflat ymbytu fe. O’n.

Ethoch chi i witho rhywle arall wedyn?

Naddo. Dim o gwbwl wedyn.

00.35.30: O’dd hwnna wedi siwto chi fanna wedyn?

Wel, o’dd. O’dd e wedi siwto fi’n iawn.

00.35.37: Chi wedi cadw mewn cysylltiad ‘da bobol o’dd yn gwitho ‘na?

Wel, wy’n nabod lot ohonyn nhw nawr sy’n, ma’ lot ohonyn nhw wedi marw a gweud y gwir. A ma’ rhai ohonyn nhw wedi mynd i gwaith arall a..

00.35.57: Ond pan ffindoch chi mas bod e’n ceued, o’ch chi ddim yn dishgwl hwnna?

Nagon.

O’dd dim rhai wedi bod yn clebran cyn ‘nny, yn gweud swae?

Gweud dim. O’dd dim wedi dod mas.

00.36.08: Pam o’ch chi’n gwitho ‘na, ffindoch chi mas bod y lle’n cau, o’dd llai o waith ‘da chi i neud?

O’dd dim lot yn cael ‘i neud wedyn dofe. O’dd popeth wedi mynd.

Ond cyn bod y news yn dod o’ch chi ddim yn gweld y gwaith yn slaco?

Na, na. Dim, achos fi’n credu a’th e rhywle arall, y ffactri. Fi’n credu ethon nhw i Redditch. Fi’n credu o’dd y ffactri yn Redditch. So fanna fi’n credu o’dd e’n mynd.

00.36.40: Pam ych chi’n edrych nôl ar yr amser ‘na nawr, os rhywbeth yn aros yn ych

cof chi ymbytu fe?

Na. Nago’s.

Beth am y cwmni?

Chi’n misso’r cwmni. Ie, misso’r cwmni.

00.37.04: Pwy iaith o’dd pawb yn siarad, wedyn?

Wel, o’dd rhai, Cymra’g o’n i’n siarad er o’dd ambell i un Saesneg ‘na, ond Cymra’g o’dd rhan fwya’.

00.37.18: O’n i’n meddwl ymbytu carnifal Ponthenri, pwy ddwarnod. O’dd ‘float’ gyda’r ffactori?

O’dd y ffactori yn gwd amser y carnifal. O diar mi, o’dd. Fi’n cofio o’dd un dyn ‘na o’dd yn charge hand a o’dd e’n dda ar neud pethe co’d a pethe. A o’dd e’n neud coffin lawr ‘na.

I bwy o’dd e?

Sa i’n cofio.

O’dd hwnna’n mynd ar y float o’dd e?

O’dd.

Achos o’dd y carnifal yn rhwbeth mowr yn y pentre?

O’dd carnifal Ponthenri yn rhyfedd o dda.

I ystyried o’dd Ponthenri ddim yn un o’r pentrefi mwya o’dd e.

Na ond o’dd well carnifals ‘da ni na o’dd yn trefydd. O’dd e’n dda.

Ac o’dd float gyda’r ffactori.

Sawl float o’r ffactori.

O’dd ‘na, mwy na un?

Cwpwl yn neud fel hyn a cwpwl yn neud fel arall.

Pwy o’dd yn trefnu hwnna te?

O’dd dim dal pwy o’dd yn neud e. Gwahanieth rhai. Gwahanieth rhai.

O’s llunie gyda chi o’r amser buoch chi myn’co?

Dim llunie ‘da fi o yn y ffactori, nago’dd. Nethon ni ddim ‘na ‘fyd.

Ond o’ch chi’n gweud falle bod payslip ‘da chi’n rhywle?

Payslips ‘da fi’n rhywle. O’s. Fi’n credu bod un ‘da fi. Achos am y blynydde cynta’ o’n nhw’n neud non-contributory pension. A wel, ond stopon nhw neud hwnna wedyn, ond o’t ti ffaelu ca’l hwnna mas pan o’n i’n cwpla. O’dd rhaid i fi sefyll nes bod fi’n sixty, neu fifty. Sixty falle.

Jiw, chi wedi aros sbel amdano fe.

Fifty falle, fifty. Ond o’dd rhaid i ti cadw’r pishin papur hyn pyr’nny a hala fe odd pan bydde ti’n dod i oedran. A wedyn o’t ti’n ca’l e. Geso i bytu five hundred ne rwbeth. A noncontributory o’dd e. One payment off. Achos ofnes i os allen i ga’l e pam o’n i’n cwpla. Jiw, o’n i’n meddwl falle cyrhaedden i ddim yr oedran ‘na. ‘O, na. Alle ti ddim â ca’l e’. O’n nhw ddim yn rhoi ‘na.

00.39.40: Gorffoch chi aros?

Gorffon ni aros, do.

O’dd dim whant arnoch chi whilo rhywbeth arall, rhyw jobyn arall ar ôl ‘nny?

Na. Wel, wedyn o’dd y plant wedi dod i ennill ‘u hunain. So netho i ddim wedyn.

00.40.01: Beth o’ch chi’n gweld ishe te? O’ch chi’n gweld ishe’r arian?

O’n, a’r cwmni o’n. Er rili o’dd digon o waith ‘da fi gatre.

00.40.10: Shwd o’ch chi’n twmlo pam o’ch chi’n gwitho ‘na? Chi’n gwbod o’dd lot ‘da chi neud gatre, o’ch chi’n twmlo’n ffed yp yn y ffactori withe?

Na, weden i ddim ‘na. O’n i byth yn twmlo’n ffed yp ‘na, byth.

O’ch chi’n twmlo bod y gwaith yn galed?

Nagon. Ddim yn galed.

Ond o’ch chi’n neud yr un peth drw’r amser.

Na, o’dd gwahanieth job bach ‘na. O’dd.

O’dd rhai pethe o’dd hi’n hato neud?

Na, dim fel ‘nny.

Beth am y dwst te?

O’dd e yn ddwstlyd iawn ‘na. O’dd. O’dd e yn ddwstlyd yn y Process.

Ma’ dwst yn mynd bobman ondywe?

Ody. O’dd. Ond so ti’n meddwl ar y pryd.

A beth am unrhyw chemicals te, o’ch chi’n gorfod gwitho gyda stwff gwahanol.

Wel, o’n i ddim yn gwitho ‘da’r pethe ‘na. Ond o’n nhw’n gwishgo gloves yn yr Assembly am rai pethe.

00.41.24: Shwd o’ch chi’n teimlo pan dda’th y plant i witho ‘na te, ych plant chi?

Wel, olreit.

O’ch chi’n gallu helpu nhw?

Na, o’n i ddim yn mynd atyn nhw o gwbwl.

O’ch chi ddim yn ca’l o’ch chi?

Wel, o’n i’n meddwl, na, o’n i’n cadw off.

00.41.40: Achos buodd Norman yn gwitho ‘na am sbel.

Do. Sa i’n cofio am faint buodd e. Ond o’dd e ar y plant a popeth. O’dd. Dysgodd e lot fan’na. Achos na’th e management a pethach wedyn. Do, dysgodd e lot ‘na. A wedyn gas e redundancy a aeth e i man arall wedyn.

00.42.12: Pan gaeodd y ffactori fan hyn o’dd e’n itha ergyd i’r pentre.

O’dd o’n itha ergyd. Fi’n cofio pyr’nny ddechreuodd pethe mynd yn wa’th drw’r wlad. Achos ethon nhw lawr i’r Town Hall a pethach i brotesto fan hyn a fel co a gofyn i’r sai’n gwbod pwy o’dd yr MP ar y pryd. Ond allech chi ddim neud dim byd ymbytu fe.

Beth ddigwyddodd i ran fwya’r bobol o’dd yn gwitho fan hyn?

Geson nhw jobs yn manne erill. A o’dd rhai yn gweud ‘Na’r peth gore digwyddodd’.

Pam ‘nny te?

Wedi ca’l jobyn yn well. Ond o’dd lot o’ nhw. So nhw wedi gwitho wedyn.

Wel, o’dd e’n gyfleus fan hyn o’dd e.

O’dd e yn. O’dd e’n dda.

00.43.02: Pam o’ch chi’n clywed, o’n i’n siarad am Morris Motors gynne, clywed bod arian yn well fan’na o’ch chi ddim yn ca’l ych tempto?

Nagon i. O’dd well ‘da fi ca’l dim cwmint, a cyfleustra fan hyn. Er o’n nhw’n ca’l ffein yn amal ymbytu gadel stwff mewn i’r afon. O’n nhw’n ca’l ffein o hyd.

00.43.28: Beth o’dd yn digwydd i’r pysgod?

Walle bydde’r pysgod yn ca’l ‘u lladd a pethe.

Pwy o’dd yn gyfrifol am neud ‘na te?

O’n nhw’n ca’l Health and Safety a pethe fel ‘na. Ond o’n nhw’n ca’l ‘u ffein.

O’dd lot o Health and Safety lle o’ch chi’n y cwestiwn, yn ych gwaith chi, chi’n gwbod o’dd rheole strict, achos chi’n gwbod fel mae e heddi. Ma’ Health and Safety am bopeth.

Popeth. Na, o’dd e’n itha da. Ond os o’dd rhywun yn ca’l drwg ife, pyr’nny o’dd e’n.

00.44.05: Chi’n nabod rhywun o’dd wedi cael drwg?

Sa i’n gwbod. Dim rili. Na.

Os chi’n edrych nôl ar yr amser ‘na nawr, shwd bydde chi’n symo fe lan?

Wel, o’dd e’n itha hapus.

A o’ch chi’n itha parod i witho.

O’n.

O’ch chi’n nabod pobol o’dd ddim ishe bod ‘na, gwitho a ffaelu godded e.

Pawb yn falch o’r arian. Ne bydden nhw ddim ‘na.

00.44.40: O’dd rhai wedi mynd o’r gwaith glo i fan’na te?

O’dd. O’dd rhai wedi ca’l drwg yn y gwaith glo a pethe a wedi dod mas o’r gwaith glo, a o’n nhw’n mynd fan’na. ‘Na fel o’n i’n gweld rhai wedi ca’l drwg yn y gwaith glo a’n cael gwaith fan’na wedyn.

00.45.09: A beth o’dd attitude pobol atoch chi, os o’ch chi’n gweud fi’n gwitho’n y ffactri, beth o’dd pobol yn meddwl?

Sa i’n gwbod. Fi’n gweud digon, yn y ffactori bues i. O’n i’n digon hapus yn y ffactori.

O’dd pobol yn dod ‘mla’n yn weddol? Pam ych chi’n gwitho’n agos gyda pobol sma’ rhaid i chi ddod ‘mla’n os e?

O’s, o’s. Ond sdim pethe’n dda o hyd. Byth.

Diolch yn fawr.

Hyd 45 muned

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VSW005.2.pdf