Enid Davies & Bronwen Williams. Lleisiau o Lawr y Ffatri
Eitemau yn y stori hon:
Ganed Nan yn Faerdre Fach, ger Castell Carreg Cennen ar 12 Ionawr, 1950. Roedd ei mam a’i thad yn ffermio. (Ni fuodd ei mam yn mynd allan i weithio erioed.) Pan roedd yn ddwy flwydd oed symudodd i Nantfforchog yn Gwynfe, ac aeth i Ysgol Gwynfe pan oedd tua pedair mlwydd oed. Aeth i Llandovery County High wedi hynny. (Ysgol Pantycelyn nawr.) Roedd yn bymtheng mlwydd oed yn gadael yr ysgol, ac yn falch pan ddaeth yr amser i adael oherwydd roedd yn casau’r ysgol. Byddai’n treulio oriau yn mynd i’r ysgol o Gwynfe i Lanymddyfri bob dydd – yn gyntaf byddai’n mynd ar y bws mini o Nantfforchog i’r Three Horse Shoes ac aros yno a chael bws ‘doubledecker’ Thomas Brothers i Lanymddyfri. Ar ôl hynny roedd yn cymryd bws arall i fynd lan trwy Myddfai yn y bore. Yn amal iawn roedd hi’n dywyll pan ddeuai adref ar ôl ysgol yn y gaeaf. Byddai wedi hoffi mynd i nyrsio ar ôl gadael yr ysgol, ond nid oedd hwn yn opsiwn oherwydd ei bod yn byw yng nghefn gwlad, ac nid oedd trafnidiaethar gael.
Cyn gadael yr ysgol roedd ganddi jobyn bach mewn siop leol yn gwerthu losin i Dai Bont, ar bwys y Three Horse Shoes. Roedd siop ganddi yn gwerthu bwyd ac ati. Roedd e’n ‘moonlight grocer’ yn mynd allan i ddelifro i ffermydd tua naw o’r gloch y nos, ac ar ddydd Sadwrn roedd hi’n cael gwerthi losin yn y siop. Roedd yn hoff o waith siop ac aeth ymlaen i fod yn fwtsher! Dyw hi ddim yn cofio cael tâl, ac yn credu efallai mai losin oedd hi’n cael yn lle hynny. Tua un deg pedwar mlwydd oed oedd hi ar y pryd, ac roedd hi’n cerdded dwy neu dair milltir i gyrraedd y siop.
Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio’n y Swyddfa Bost yn Llanwrda, yn gofalu am bedwar o blant bach. Buodd hi yno o’r Pasg tan yr haf. Roedd yn hoffi’r gwaith ond erbyn hyn yn credu nad oedd hi’n ddigon aeddfed i ofalu am y plant achos nid oedd hi’n fwy na phlentyn ei hun. Teimlai nad oedd hi’n ‘cut out’ i neud e.
Yn yr haf ar ôl iddi orffen yn yr ysgol fe ddechreuodd yn y ffatri. Ar y dechrau teithiai yno gyda’i mam neu’i thad, yna byddai’n cael lifft gyda bos y ffatri, Bert. Roedd ei mam neu’i thad yn mynd â hi tua milltir, yna roedd e’n ei phigo hi i fyny, ac ar y ffordd nôl byddai’n cael lifft ganddo nôl i’r un lle, a cherdded adref.
Nid yw’n cofio sut y cafodd hi’r swydd yn y ffatri, ond roedd yn falch i ddod nôl o Lanwrda achos roedd yn gallu byw gartref. Deva Dogware, Pontarlleche oedd enw’r ffatri.
Yn y ffatri ei gwaith oedd torri cadwyni, weldo, gwneud tipyn o bopeth. Weithiau byddai’n gwneud belts allan o gadwyni, a bydden nhw’n cael belts eu hunain wedi’u gwneud allan o ‘tshains’.
Tenynau cwn allan o gadwyni, oedd yn cael eu gwneud yno, gan gynnwys tenynau ar gyfer cwn y deillion. Roedd un rhan o’r ffatri yn gwneud y lledr a’r rhan arall yn gwneud y cadwyni. Dechreuodd Nan weithio yno yn 1965 neu 1966. Roedd yn mwynhau gweithio yn y ffatri ac yn nabod pawb oedd yn gweithio yno. Dim ond tua deg person weithiau yno, yn fechgyn ac yn ferched. Dau frawd o Loegr oedd perchenogion y ffatri. Daethan i Gymru a dechrau’r gwaith, a gweithiai eu gwragedd yn y swyddfa. Lleolwyd y ffatri rhwng Gwynfe a Llanddeusant, ar safle hen felin. Thomas Brothers, cwmni bysus oedd yno cyn hynny, a wedyn prynodd y ddau frawd y felin. Roedd rhieni Nan yn falch iawn ei bod hi wedi cael swydd. Roedd y ddau ohonynt wedi bod yn ffermio ar hyd eu hoes, ac nid oeddynt wedi arfer cael tâl.
Nid yw Nan yn cofio ei diwrnod cyntaf ond mae’n cofio eu tâl cyntaf, sef ‘two pound four and nine a week’ a chredai ar y pryd bod hyn yn lot o arian. Roedd yn gallu cynilo arian ar y tâl hwn. (Nid oedd yn gorfod talu arian petrol.) Nid oedd yn gorfod rhoi rhan o’i harian i’w mam a’i thad, ond ar ôl mynd adref byddai’n gwneud jobs o gwmpas y fferm.
Roedd yn un o bump o blant, yr ail yn y teulu. (Un chwaer yn hyn, dau frawd a chwaer yn ifancach.) Roedd ei chwaer hena’n gweithio adref ar y fferm ond pan welodd bod Nan yn ennill arian da aeth hi i weithio yn yr un lle â Nan. Digwyddodd hyn tua blwyddyn ar ôl i Nan ddechrau’n y ffatri.
Er ei bod yn ifanc iawn yn dechrau’n y gwaith, mae’n cofio mynd i ddawns yn Llandeilo, ac aeth hi a’i chwaer a deg swllt mewn arian gyda nhw, ac roedd digon gannddynt i fynd i mewn i’r ddawns, a mynd i’r ffair hefyd.
Roedd pawb oedd yn gweithio’n Deva Dogs yn dod o’r ardal, a tua’r un oedran. Nid oedd angen unrhyw gymwysterau i weithio yno, ‘dim ond bod chi’n fodlon gweithio’. Nid oedd prawf o unrhyw fath cyn dechrau, dim ond mynd yn syth amdani.
00.09.54: Dywedodd,
‘O’n nhw’n dangos i chi beth i neud, o’ch chi’n pigo fe lan mor rwydd, achos bod chi mor ifanc o’ch chi jest yn gallu neud e’.
Bert oedd y bos a’r perchennog, ac roedd e’n gweithio gyda’r gweithwyr. Roeddynt i gyd mewn un ystafell fawr ac roedd e’n y gornel yn weldo. Nid oedd yn strict, ac nid yw Nan yn cofio iddo roi stwr iddynt erioed.
Dywedodd,
‘O’dd e jest fel un o’ ni. O’n i’n meddwl bod e’n ancient.’
Roedd lot o swn tapo yn y ffatri, swn y morthwyl, a’r tsains yn y ‘vices’, swn y asetalîn, yr ocsigen a’r weldo. Roedd pawb yn canu, a phawb yn hapus. Caneuon Cymraeg a ganent rhan fwya’r amser.
Roedd yn gweithio o wyth y gloch y bore tan bump o’r gloch, pum diwrnod yr wythnos (er, weithiau, byddai’n gweithio fwy os oedd angen gorffen y gwaith ar gyfer archeb.)
Roedd brêc ar gyfer te yn y bore tua deg o’r gloch y bore. Mae’n disgrifio sut y byddai’n mynd lawr llawr yn ystod y brêc. Roedd ty bach yno, sinc a Geezer. Dyna lle roedden nhw’n llenwi’r cwpanau a’u golchi nhw - yn y sinc yn y ty bach.
00.12.30: Dywedodd,
‘O’n i’n meddwl bod e mor up-market, achos o’n i newydd gael dwr i’r ty gatre’.
Byddai Nan a’r merched yn eistedd ar ben y cadwyni i yfed y dishgled, gydag olew drostynt i gyd.
Nid oedd yn gwishgo iwnifform i fynd i’r gwaith, ond rhywbeth hen, a rhywbeth tywyll.
Roedd sbarcs yn hedfan allan o’r weldo a byddai’r dillad yn mynd yn “rhacs”. Gwisgai gogls i amddiffyn ei llygaid.
Yn ystod y diwrnod gwaith byddai’r merched yn cael ras i gael gweld pwy fyddai’r cyntaf i wneud 50 o ‘tsains’.
00.13.34: Dywedodd,
‘O’n i’n neud e’n sbort. O’dd yr amser yn mynd, yn hedfan’.
Roedd hi’n oer yn y ffatri ac roedd gwresogydd mawr yno yn chwythu awyr poeth allan.
Roedd brêc amser cinio ond nid yw Nan yn cofio bod na brêc yn y prynhawn. Nid oedd radio yno er mwyn diddanu’r merched ond roedden nhw’n gwneud eu sbort eu hunain. Roedd Nan yn mwynhau’r gwaith. Nid oedd y gwaith yn undonnog achos roedden nhw’n gwneud gwaith gwahanol o fewn o broses, er enghraifft ‘stretsho tsains’. Roedden nhw’n gwneud tipyn o bopeth yno.
Yn ôl Nan roedd pawb a fu’n gweithio yn Deva Dogs wedi cael sbort.
00.15.20: Dywedodd,
‘O’dd e ddim se chi’n meddwl am ffatri yn y dre ne rywbeth fel ‘na’. Nid yw Nan yn siwr beth fyddai wedi gwneud pe na bai’r ffatri wedi bodoli yng Ngwynfe. Nid oedd llawer o gyfleoedd yn bodoli yng nghefen gwlad.
00.15.46: Dywedodd,
‘Odd dim o’r cyfle ‘da ni i fynd i rywle, os nagon ni’n mynd o gatre’.
Byddai hi byth wedi ystyried gadael ei chynefin i fynd i chwilio am waith.
00.15.57: Dywedodd,
‘O’n ni’n ofan. Ni’n tamed bach o gachgwns! Chi’n gwbod fel ych chi’n y wlad, smo chi mor ffit â bobol y dre.’
Roedd y gwaith wedi aros yr un peth yn ystod y cyfnod roedd hi yno, ond adeg sioe Crufts byddai rhai o’r gweithwyr yn mynd i fyny yno yn sgil eu gwaith. Ni aeth Nan yno erioed. Nid yw’n cofio cael cynnig. Nid oedd yn gwybod beth oedd arwyddocâd “Crufts” beth bynnag.
Nid yw Nan yn ystyried bod y gwaith yn gofyn am sgiliau arbennig, er ei bod yn gwneud pethau fel weldo. Roedd pawb yn gwneud popeth.
Menywod sengl oedd y mwyafrif a weithiai yn y ffatri er roedd yna fenywod priod hefyd. Aeth y cyflog i fyny i dair punt, ond nid yw Nan yn cofio’r amgylchiadau. Byddai’n cael ei thalu bob wythnos – byddai’n cael amlen fach frown gyda’i henw arni. Roedd yn teimlo wedi’i chyffroi pan gafodd y pecyn pai cyntaf. Roedd yn lot o arian ar y pryd. Mae Nan yn credu bod y dynion yn cael eu talu’n fwy oherwydd eu bod yn defnyddio’r peiriannau. Nid yw Nan yn cofio colli gwaith, roedd hi wastod yno.
Roedd y merched yn gwneud ambell felt iddi’u hunain – ‘triple links neu double links’. Ond nid oedd y bosys yn gwybod am y percs yma. Hefyd byddent yn gwneud ambell ‘gaff i ddal samwn i rai o’r bois’.
Nid yw Nan yn cofio am unrhyw broblemau yn codi yn sgil y gwaith. Roedd Bert y bos yn gweithio ochr yn ochr â nhw. Os oedd rhywbeth yn bod roedd yn datrys y broblem. Ambell waith byddai problem yn codi os na fyddai’n gallu cyrraedd y gwaith, (er enghraifft achos yr eira) ac wedyn byddai Bert yn dod heibio. Rhan amla roedd hi’n cerdded i’w gyfarfod er mwyn cael lifft.
Nid oedd cantîn neu unrhyw le penodol i fwyta bwyd neu gael brêc. Roedd yr adeilad yn anferth. Roedd tua pedair ystafell lawr llawr. Roedd y peiriannau ble roeddynt yn weldo’r lincs. Roedd y bos wedi dyfeisio’r peiriannau i gyd eu hun. Roedd peiriant yno yn weldo pob linc. Roedd y cadwyni yn dod lan lofft a byddai Nan yn weldo’r rings i fynd pob ochor i’r tennyn.
Nid oedd nenfwd yn yr adeilad lan lofft, dim ond llechi ar y to. Cragen o adeilad ydoedd, neu sied.
00.23.35: Dywedodd,
‘Roedd e’n wael rili, yn meddwl nôl.... Ar y pryd oedd dim byd yn rong arno fe... O’dd e’n posh ar y pryd. Pan o’n ni’n gwitho ‘na o’dd e fel rhyw haven i ni gyd i ga’l cwrdd. O’n i’n cael sbri.’
Roedd hi’n oer yno – gwisgai hi yr un math o ddillad haf a gaeaf. Roedd hi’n eithaf tywyll yno, gydag ambell ‘strip light’, ‘jest digon i chi weld’.
Bert a Les Thomas oedd biau’r ffatri. Daeth un ferch i lawr o Lundain i weithio gyda nhw yn y swyddfa. Yvonne Dredge oedd ei henw, efallai. A daeth gwr o’r enw John Bunt. Nid oedd y gweithwyr yn y swyddfa yn ymwneud llawer â’r gweithwyr yn y ffatri.
O ran cael anafiadau yn y gwaith, nid yw Nan yn cofio neb yn cael ei anafu ond ambell waith byddai sbarcs o’r weldo yn rhoi llosgad iddynt. Roedd dim cymorth cyntaf ar gael a byddai’n poeri ar y llosgad, ei rwbio a chario ymlaen a’r gwaith!
Nid oedd unrhyw reolau fel y cyfryw yn y ffatri. Roedd hi’n mynd mewn am wyth o’r gloch ac yn dod allan am bump. Achos bod Bert yno gyda nhw nid oedd dim byd byth yn mynd o’i le. Roedd y cyfleusterau’n eithaf cyntefig – roedd dau dy bach, sinc tu allan a Geezer. Roedd cotiau’n cael eu hongian dros y ‘bannister’. Roedd lan lofft yn y ffactri’n un ystafell fawr a oedd yn agored gyda swyddfa’n y gornel. Dyna lle oedd pawb yn torri’r ‘tsains, dodi’r lincs, ‘roedd popeth yn mynd ymlaen fanna’. Roedd tair neu bedair mainc o weldars, ac roedd tri neu bedwar yn dodi’r lincs ar y ‘tsains’. Roedd eraill yn gwneud ‘swivels’.
00.29.52: Dywedodd,
‘O’dd e i gyd yn gweithio fel un ... O’n ni i gyd yn neud popeth’.
Lawr staer roedd y peiriannau mawr yn weldo’r lincs bach i gyd at ei gilydd. O’n nhw’n plêto’r ‘tsains’ wedyn fel eu bod yn disgleirio.
Nid oedd sôn am unrhyw reolau diogelwch. Nid oedd bocs cymorth cyntaf yno hyd yn oed.
00.31.25: Dywedodd,
‘O’n ni’n tough nuts, country bumpkins... O’dd neb yn conan.’
Roedd y ffatri yn gallu bod yn oer iawn, ac roedd gwresogydd yno yn chwythu awyr gynnes. Roedd yn arogli fel paraffîn. Nid oedd radio yn y ffatri. Ar y pryd, batrîs oedd yn rhedeg radios ac nid oedd neb yno yn gallu fforddio’r batrîs. Roedd y merched yn siarad wrth wneud ei gwaith, ac yn cael pwle o chwerthin i’r fath graddau nad oeddynt yn gallu ateb y bos pan fyddai’n gofyn iddynt beth oedd yn bod. Pwnc y sgwrs byddai beth oedd yn digwydd yn y gymdeithas Ffermwyr Ifainc, a phethau bob dydd.
Nid oedd y gweithwyr yn ysmygu wrth wneud eu gwaith. Roedd Nan yn ‘smoco’ ar y pryd – un bob nos Sadwrn er mwyn cael bod yn rhan o’r ‘gang’.
Nid yw Nan yn credu ei bod wedi dioddef unrhyw sgil effeithiau’n y ffatri ond i’r gwrthwyneb – mae’n credu taw gweithio yn Deva Dogs oedd wedi ei rhoi hi ar ben y ffordd a’i galluogi i wneud tipyn o bopeth.
00.34.37: Dywedodd,
‘Fi’n credu bod e wedi helpu fi. Sdim ofon neud dim byd arno i. Sdim ofon treial neud dim byd. Mae’i wedi bod yn good education.’
00.34.48: Pwy sgiliau dysgoch chi te?
Dywedodd,
‘Fel i iwso morthwyl, fel i iwso llif, fel i weldo, fel i ddod ‘mla’n â bobol, ryffan e. Ondpeidiwch â rhoi papur a pensil i fi’.
Roedd awyrgylch dda yn y ffatri, llawer o jocan a thynnu coes. Gorffennodd Nan yn Deva Dogware achos fe glywodd hi bod swydd yn mynd yn Rhydaman am saith bunt yr wythnos. Nid oedd sustem o shifftiau yn y ffatri yng Ngwynfe, ond pawb yn gweithio’r un oriau. Roeddynt yn gorfod cloco mewn yn y bore, a chloco allan cyn gadael. Weithiau, gweithiai ar ddydd Sadwrn os oedd angen gorffen ordor ond yn anaml oedd hyn.
Nid oedd cantîn yn y ffatri felly byddai Nan naill ai’n mynd â brechdanau neu’n mynd i siop Dai’r Bont i brynu rhywbeth fel pasti. Byddai bob tro yn trio mynd am dro amser cinio er mwyn cael awyr iach.
Trefnwyd penwythnosau i ffwrdd yn Llundain a Blackpool, ond nid yw Nan yn cofio cael gwyliau fel y cyfryw. Nid oedd ‘shut-down’ yn ystod yr haf, fel mewn ffatrïoedd mwy o faint. Ond mae Nan yn cofio mynd i rasus Llangadog ar wyl y banc yn ystod y cyfnod roedd yn gweithio’n Deva Dogs. Hefyd, yn ystod y cyfnod, mae Nan yn cofio cael amser i ffwrdd o’r gwaith i fynd i angladd ei hewyrth yn Birmingham, ond nid yw’n cofio os oedd wedi cael tâl am y diwrnod hwnnw ai peidio.
O ran y sgiliau ymarferol a oedd yn angenrheidiol i gyflawni gwaith y ffatri, roedd rhan fwya’r gweithwyr yn blant i ffarm, ac felly ym marn Nan yn gymwys i wneud y gwaith.
00.41.16: Dywedodd,
‘O’ch chi ddim yn ffysi am gael eich dwylo’n frwnt.... O’dd rheina â lot o brains, o’n nhw’n mynd off i college, o’n nhw. O’n nhw’n gwbod beth o’n nhw’n moyn neud’.
00.41.37: Dywedodd,
‘Os o’ch chi’n brainy o’ch chi ddim yn lico neud pethach practical. Fi nawr, sa i’n lico gwaith papur.’
Nid oedd cymaint o ddewis o waith na swyddi yng nghefn gwlad ac roedd Nan yn teimlo’n hapus bod ganddi gwaith yn y ffatri.
Roedd Nan yn dodi ‘arian mewn bob wythnos’ mewn pot yn y gwaith er mwyn cael mynd ar drips o’r gwaith. Aethon ni i Lundain un flwyddyn, a’r flwyddyn wedyn aethon nhw i Blackpool. “Jones International” oedd enw’r cwmni bysus ar y trip i Lundain a chawsant aduniad yn Ninbych y Pysgod tua phum mlynedd yn ôl. Roedd merch Bert a chymaint o’r gweithwyr eraill y llwyddon nhw i gael gafael arnynt yn yr aduniad yn y gwesty yn Ninbych y Pysgod, ac roedd Myrddin, yr un gyrrwr a fu ganddynt ar y trips i Lundain a Blackpoll gyda nhw ar y diwrnod hwnnw. Mae Myrddin o Jones International, Llandeilo yn dal i yrru bysus. Yn ystod y trip i Lundain buon nhw i Balas Buckingham a Petticoat Lane, lle cafodd ei llun wedi ei dynnu yn magu mwnci. Prynod pâr o bwts gwyn yno. Roedd hi’n meddwl bod Llundain yn frwnt – roedd ei dillad yn frwnt pan ddaeth hi adref. Roedd wedi gwneud dillad ei hun er mwyn mynd ar y trip.
Pan aethon nhw am drip i Blackpool cafodd rhai o’r bois datws wedi’u gwneud. (Roedd y merched yn eu gwylio yn cael eu tatws, ac yn llefain!) Yn wreiddiol roedden nhw wedi bwriadu cael llun neidr a dagyr, ond fel roedd un yn gweld un arall yn cael dolur wrth gael y tatws dibennodd un o’r bois i fyny gyda llun amlen a robin bach, bach ar ei fys bawd.
Nid oedd llawer o gymdeithasu y tu allan i’r gwaith ar wahan i yn y clwb Ffermwyr Ifainc. Roedd Nan mewn grwp pop gyda merched eraill o’r ffatri. Bydden nhw’n gwisgo sgertiau mini gyda boleros oren, a byddent yn cystadlu mewn cystadleuaethau capeli. Roedd Nan a’i chwaer, ac Enid (a oedd hefyd yn gweithio’n y ffatri: VSW018) yn grwp Gwynfe. Mae Nan yn cofio nhw’n eistedd yn y sêt fawr yn eu sgertiau mini oren llachar a’u bwts. Roedden nhw’n arfer ymarfer eu perfformiad yn y ffatri. Caneuon Cymraeg bydden nhw’n eu canu rhan amlaf.
Roedd y gweithwyr eraill yn y ffatri’n lleol, yn dod o Wynfe neu Llanddeusant. Nid oedd parti Nadolig, ond mae Nan yn cofio cael bocs mawr iawn o siocledi un Nadolig.
00.49.06: Dywedodd,
‘O’dd e ddim fel sweatshop fel y laundries. O’n i ddim yn cael hard time o gwbwl. O’dd hi’n itha neis i witho ‘na.’
Doedd dim goruwchwylwyr fel y cyfryw yn y ffatri. Bert oedd y bos ac roedd pawb yn gweithio oddi dano fe. ‘Roedd pawb ar yr un lefel. A ‘na beth oedd yn dda ymbytu fe ‘falle’.
Cymraeg oedd iaith y ffatri, ac os oedd rhywun di-Gymraeg yn dechrau yno, buan iawn oedden nhw’n siarad Cymraeg hefyd. Nid oedd Bert yn stopo unrhyw un i siarad Cymraeg.
00.50.57: ‘O’dd e’n amser hapus o’n fywyd i’.
Gorffennodd Nan yno pan roedd hi tua deunaw mlwydd oed. Dim ond tua dwy flynedd a hanner buodd hi yno.
00.51.25: Dywedodd am ei rhesymau am orffen yno, ‘Daeth engagement ring a mwy o arian.’
Aeth i weithio mewn ffatri yn Rhydaman (Alan Paine) ar ôl gadael Deva Dogs. Nid oedd yn hoffi’r ffatri honno. Roedd yn hollol wahanol.
00.51.46: Dywedodd,
‘O’ch chi yn teimlo bod chi mewn ffatri fan’na’.
Roedd wedi cael ei denu yno oherwydd bod yr arian yn saith bunt yr wythnos. Roedd hi’n gallu gyrru erbyn hynny, ond roedd yn casáu gweithio’n Alan Paine.
00.52.15: Dywedodd
‘O’dd pawb yn dishgwl arnoch chi fan’na fel sech chi wedi dod lawr o’r nefo’dd.’
Pan roedd rhywun newydd yn dechrau yno roedd pawb yn edrych arnyn nhw, ac nid oedd Nan wedi arfer â hyn yn Deva Dogware. Ta pwy oedd yn dechrau’n Deva Dogware, roedden nhw’n ei adnabod nhw cyn ei bod nhw’n dod. Roedd yn gorfod codi yn gynt yn y bore er mwyn teithio i’r gwaith yn Rhydaman. Roedd petrol yn costio ‘four and seven’. Nid oedd yn dyfaru gadael Deva Dogware achos roedd yr arian gymaint yn fwy.
00.53.53: Dywedodd,
‘O’ch chi ddim yn neud ffrindie mewn ffatri fel ‘na. O’ch chi’n eistedd yn eich sêt ac yn neud yr un peth o fore gwyn tan nos. O’ch chi’n mynd i ga’l cino, ac o’ch chi’n dod nôl a neud yr un peth. Ac o’ch chi’n mynd gatre. Ac oedd e fel, o’n i’n teimlo fel sen i mewn bocs.
Ffatri gwneud siwmperi oedd Alan Paine. Roedd hi’n gorfod eistedd yn yr un man, a dim ond cefn pen y person o’u blaen roedd hi’n ei weld, ac roedd ‘inspectors’ yn dod o gwmpas i siecio ac yn dweud, ‘do that again, do that again’. Gorffennodd yn y ffatri pan roedd hi’n disgwyl babi. Nid oedd yn adnabod neb yn y ffatri’n Rhydaman cyn dechrau yno. Chwaer Nan oedd wedi clywed bod gwaith ar gael yno, ac aeth y ddwy i’r ffatri gyda’i gilydd. Aeth merch arall o Wynfe gyda nhw. Byddai Nan ddim wedi gallu parhau i weithio’n Alan Paine.
00.56.15: Dywedodd,
‘O’dd e fel jail sentence. O’dd e’n horrible’.
Roedd yr adnoddau lot yn well yno – radio, cantîn, y tai bach, ‘cloakroom’, popeth.
00.56.40: Dywedodd,
‘Roedd popeth yn reit, ond y bobol yn rong... O’ch chi ddim yn gallu neud ffrindie, roedd pawb am eu hunain, pawb a’u gwaith, neud job a mynd gatre’.