Gwen Evans. Lleisiau o Lawr y Ffatri
Eitemau yn y stori hon:
Ganed Gwen ym mhentref Bancffosfelen, Pontyberem ar 4 Ionawr, 1922. Roedd ei thad yn lowr yng ngwaith glo Glynhebog, a bu farw yn 47 mlwydd oed oherwydd clefyd y llwch (“full silocosis”). Roedd ei mam yn dod o bentref Llansaint, ger Cydweli a buodd yn gweithio am gyfnod mewn siop ym Mancffosfelen, “siop Elis”. Roedd ei thad yn fab i ffarmo Bancffosfelen.
Roedd Gwen yn un o bump o blant – pedair merch ac un bachgen. Hi oedd yr ail o’r plant. Buodd i’r ysgol ym Mhontyberem, a gadawodd yn 14 mlwydd oed. Mae’n sôn am fois ifainc oedd yn gorffen ysgol yn 14 mlwydd oed ac wedi’u cyffroi gan eu bod nhw’n dechrau’n y gwaith glo ar y dydd Llun, ‘yn y crusher’, (yn pigo glo ar y tip) ond bod y bois hynny i gyd wedi marw.
Ar ôl iddi adael ysgol aeth Gwen i weithio ar fferm gyfagos ym Mancffosfelen yn mynd â llaeth o gwmpas. Y tâl oedd swllt yr wythnos, ac er ei bod yn gweithio ar ddydd Sul, nid oedd yn cael tâl ychwanegol.
00.03.30: Dywedodd,
“o’ch chi’n gorfod gweithio am ddim.”
Roedd yn codi am chwech o’r gloch y bore, ac nid oedd yn gorffen yn y gwaith tan tua saith o’r gloch y nos. Yn ystod yr haf, adeg lladd gwair, weithiau y byddai’n gorffen yn hwyrach.
Yn ystod yr adeg pan roedd Gwen yn gadael yr ysgol roedd yn gobeithio bod yn ‘dressmaker’ ond nid oedd ei mam yn gallu fforddio talu am yr hyfforddiant. Roedd yn siomedig nad oedd yn gallu mynd i gael prentisiaeth gwnïo. Arferai mynd lan i dy Amy Stevens i wnïo a phatsho bob hyn a hyn, a byddai’n cael swllt am ei gwaith.
Aeth o’r ffarm ar ôl sbel achos teimlai eu bod yn cymryd mantais ohoni, ac aeth i Bibwrlwyd a chael gwaith yn glanhau a sgrwbio lloriau. Roedd y gwaith yn golygu ei bod ar ei phengliniau rhan fwya’r bore, ac nid oedd yn hoff o’r gwaith.
Ar ôl i’r rhyfel dorri allan agorodd y ffatri yn Felinfoel, Llanelli. Roedd Gwen ar ddeall bod yn rhaid i’r ffatri i gyflogi un gweithiwr anabl am bob cant a gyflogwyd. Roedd gwendid ar fraich Gwen. Roedd wedi ei thorri, ac yn ei gweld hi’n anodd i drafod pwysau.
Er mwyn cael y swydd aeth lawr i’r ffatri ac ymgeisio. Ni wyddai dim am Morris Motors cyn mynd lawr yno, ac nid oedd wedi gweld ffatri erioed yn ei bywyd cyn hynny., ond teimlai nad oedd dim byd yn waeth na chael eich pwsho drwy’r amser.
Roedd y cyflog yn Morris Motors bron i ddwbwl yr hyn a gafai cyn hynny. Ei chyflog yn dod adref o Morris Motors bob wythnos oedd naw punt.
Roedd Gwen tua deunaw neu bedair ar bymtheng mlwydd oed pan ddechreuodd gweithio yn Morris Motors. Roedd yn dal y bws am chwech o’r gloch y bore er mwyn dechrau’r gwaith am hanner awr wedi saith. Roedd y bws yn gadael am chwech o’r gloch y bore er mwyn mynd ag un dyn lan i’r gwaith glo yng Nghwm-mawr. Gorffennai’r gwaith am bump o’r gloch yn y nos, ac roedd Gwen yn dal bws i fynd adref am chwech o’r gloch. Cyrhaeddai adref am bum munud i saith. Byddai’n cael bath, bwyd a mynd i’r gwely. Dywedodd nad oedd bywyd ganddi mewn gwirionedd.
Roedd mam Gwen yn fam dda, ond roedd yn hen ffasiwn, ac roedd yn rhaid iddi fod yn y ty yn y nos. Roedd ei mam yn falch iawn ei bod hi wedi cael swydd yn Morris Motors, fel oedd Gwen ei hun, ac yn falch ei bod yn cael dwbwl yr arian yn y swydd newydd. Gyda’r arian roedd yn ennill talai am gael mynd ar y bws, ac yn rhoi’r gweddill iddi mam. Rhoddai ei mam rhyw bump swllt iddi yn arian poced (allan o gyflog o chwe phunt neu saith bunt.) Roedd mam Gwen yn widw yn 47 mlwydd oed a chweugain yn unig yr wythnos fyddai’n ei gael felly roedd arian Gwen yn gyfraniad pwysig iawn.
Pan aeth Gwen i chwilio am swydd yn Morris Motors, aeth i lawr i Felinfoel gyda dwy ferch arall. Fe gafodd y tair swydd yno, ond ni fu’r ddwy arall yno’n hir. Nid oeddynt yn hoffi’r gwaith (ac roedd y ddwy ohonynt wedi priodi.)
Miss Wishard (?) oedd enw’r fenyw a oedd yn cyflogi staff newydd. Roedd Gwen wedi gallu dechrau wythnos ar ôl ymgeisio am swydd. Pan ddechreuodd yno roedd rhyw ddau neu dri o ddiwrnodau o hyfforddiant, ac ar ôl hynny roeddech chi ar eich pen eich hun fel petai! Roedd yn cael ei thalu yn ôl faint o waith roedd wedi ei wneud. Gwaith Gwen oedd gwneud y ‘radiators’ ac oherwydd y gwendid yn ei braich roedd yn gweld y gwaith yn anodd. Nid oedd yn gallu eu tynnu allan ei hun, ac roedd yn gorfod aros i un o’r labrwrs i ddod i’w helpu. Roedd Gwen yn gwneud yr un gwaith â phawb arall er gwaethaf yr anhawsterau y byddai’n cael oherwydd ei braich. Gwneud gwresogwyr ar gyfer awyrennau a cheir oedd ei gwaith, ac roedd yn mwynhau. Mae’n gwerthfawrogi taw yno cafodd hi ei bywoliaeth.
Teimlai bod y ffatri’n le anferthol pan ddechreuodd hi yno. Roedd dros ddwy fil o bobl yn gweithio yno bryd hynny, gan gynnwys lot o ferched o Bonthenri.
Teithiai i’r gwaith ar fws a ddisgrifiai fel bws ‘preifat’, er bod y bws hwnnw yn mynd â’r glowr hwnnw i lofa New Dunant yn gyntaf cyn mynd ymlaen i Morris Motors. Roedd llond bws o ferched yn teithio gyda’i gilydd, ac yn cael tipyn o sbort. Roedd un ferch yn dal y bws ar y sgwâr a’r gyrrwr, Jac y Sailor, yn aros iddi os na fyddai’n aros yno. Ond weithiai byddai’n ymuno â’r bws rhywle arall ar y ffordd, er enghraifft ar bwys Glynhebog. (A phawb i ddyfalu ble roedd hi wedi bod a beth roedd hi wedi bod yn neud!)
Er ei bod yn cael lot o sbri yn mynd ar y bws, teimlai bod dim bywyd ganddi’n gweithio’n y ffatri, achos roedd hi’n blino gymaint ar ôl dod adref.
Roedd y gwaith yn dechrau am hanner awr wedi saith yn y bore ac roedd deg munud o frêc am hanner awr wedi naw, i gael cwpaned o de. Roedden nhw’n cael hanner awr o frêc i ginio. Roedd y gwaith yn dibennu am hanner awr wedi pedwar, pump o’r gloch.
Er bod cantîn yn y gwaith roedd Gwen yn mynd â brechdanau i’r gwaith. Roedd ‘urn’ mawr yn dod â’r te o gwmpas llawr y ffatri, ac roedd yn costio ceiniog. Roedd y ffatri yn swnllyd iawn achos yr holl beiriannau trydanol yn ‘tampo’ drwy’r dydd.
Achos bod anabledd Gwen yn golygu bod labrwr yn gorfod ei helpu gyda’r gwaith roedd yn cael llai o arian na ferched eraill. Roeddynt yn categoreiddio ei swydd hi fel jobyn ysgafn ond ni allai Gwen ddadlau am y telerau neu ni fyddai ganddi swydd o gwbl.
Nid oedd y ddwy ferch arall a ddechreuodd yr un pryd â Gwen eisiau cario ymlaen i weithio yno oherwydd bod yn rhaid iddyn godi mor gynnar yn y bore. Nid oedd yr agwedd yma or’ gwaith yn trwblu Gwen. Ond ni aeth y ddwy arall i weithio mewn ffatrïoedd eraill.
Roedd llawer o bobl leol yn gweithio yno o bentrefi cyfagos yn y Cwm fel Tymbl, a Pontiets ac o dref Llanelli, ac o Dafen. Cymraeg oedd iaith y mwyafrif o fewn y ffatri.
Roedd ‘charge hands’ yno er mwyn rhoi hyfforddiant i weithwyr newydd. Roed rhain yn ddynion ac yn fenywod, ond menywod oedd yn gweithio yno fwyaf. Roedd lot o fechgyn yr ardal yn gweithio’n y gweithfydd glo, felly nid oeddynt yn cael eu gorfodi i weithio’n unman arall yn ystod blynyddoedd y rhyfel. Roedd y bechgyn nad oeddynt yn gweithio’n y gwaith glo yn gorfod mynd i’r fyddin.
Roedd lot o’r merched a weithiai yno wedi cael ‘call up’ ond nid dyma’r achos gyda Gwen. Roedd hi wedi dewis mynd yna i weithio
Roedd Gwen wedi cadw mewn cysylltiad gyda nifer o’r merched a weithiodd gyda hi yn Morris Motors fel Glenys Fawr tan yn gymharol ddiweddar, nes iddi fynd yn ffaeledig. Cafodd un ei chladdu’n ddiweddar, Ann McClean, a hefyd Peggy Dafen. Mae Gwen yn teimlo eu bod nhw i gyd wedi mynd bellach ar wahan i May o Cross Hands (VSW002) a oedd yn gweithio yno ar ddechrau’r rhyfel. Cyfarfu Gwen a May yn Morris Motors adeg y rhyfel.
Pan roedd hi’n gweithio yno roedd yn gweithio mewn un ‘Section’ arbennig, yn aros mewn un man yn y ffactri, ac felly roedd hi gyda’r un bobl drwy’r amser.
Roedd ‘ffys’ rhyfeddaf pan ddaeth yr Undeb yno gyntaf. Roedd yn talu ‘grot’ yr wythnos i’r Undeb, ac yn talu pob tair wythnos. Roedd rhaid gwneud hyn yn anhysbys felly byddai’n rhoi swllt a’i cherdyn er mwyn talu ‘ar y slei’. Yn ddiweddarach roedd yn orfodol i dalu’r Undeb. Nid oedd Gwen yn gwybod beth fyddai wedi digwydd pe bai rhywun yn cael ei ddal yn talu aelodaeth undeb, ond roedd hi’n gwbod ‘oedd e ddim fod’. Roedd dwy ferch yn yr undeb yn ei ‘Section’ yn casglu’r arian. Undeb y Transport and General Workers ydoedd. Mae’r cerdiau dal gan Gwen.
00.28.55: Dywedodd,
“O’ch chi ffaelu neud beth o’ch chi’n moyn â’ch bywyd”.
Roedd Gwen yn dod ymlaen yn dda gyda phawb yno, fel y bechgyn ar y peiriannau. Roedd dwy chwaer yno o’r enw Annie a Glenda o Bonthenri (VSW003), yn cweryla drwy’r amser gyda’i gilydd. Dwy gas oedden nhw i’w gilydd! Cofiai Gwen gweld y ddwy wastad yn eistedd ar stepen y drws tu fas eu ty. Nid oedd y ddwy yn cweryla gyda merched eraill.
Pan roedd Gwen yn ddeg mlwydd oed mae’n cofio lojyr mewn ty cyfagos yn cael ei ladd yn y gwaith glo, a daethpwyd adref â’r corff mewn cart gyda poni yn ei dynnu. Mae’n cofio gweld ei ‘sgidie hoelion’ yng nghefn y cart. Un o Dregaron oedd e. Pan roedd Gwen yn 31 mlwydd oed aeth o gwmpas sir Geredigion a galwodd mewn i dafarn ger Aberystwyth lle wnaeth hi ddigwydd cyfarfod â thad y bachgen. Pan laddwyd y bachgen aethon nhw nôl â’r corff i Dregaron.
Mae Gwen yn sôn am yr holl ddamweiniau a fu yn y pentref – yn y gweithfeydd glo; bws yn mynd lawr ar lein y rheilffordd (a chollodd y conductor yr arian i gyd!); rhai’n boddi yn y Pownd Mawr; tanad yn Glynhebog a rhai’n cael eu lladd.
Nid oedd tad Gwen eisiau i’w brawd i fynd i’r gwaith glo ac yn dweud wrtho ‘fyddi di’n gwerthu matsys ar yr hewl cyn byddid di’n mynd.’ Gan fod tad Gwen yn dioddef mor wael o glefyd y llwch, Gwen a’i chwaer byddai’n ei gario lawr o’r llofft. Byddai Dr Howells yn gofyn iddo bob dydd sut oedd e a byddai’n ateb, ‘Yn y front line heddi ‘to’. Nid oedd ganddo ddigon o anadl i siarad. Gwaith Glynhebog oedd y gwaith gwaethaf. Dauddeg chwech mlwydd oed oedd yr ifanca yno i gael ei gladdu. Gorffennodd y bachgen hwn yn y gwaith yn undeg pedwar mlwydd oed. Roedd yn marw o silicosis yn ddau ddeg chwech mlwydd oed.
Roedd tad Gwen yn chwerthin yn meddwl amdani’n gweithio’n Morris Motors. Dywedodd
ei thad, ‘Byddid di ddim yn hir ‘na Byddi di wedi danto’. Roedd Gwen yn gallu safio rhywfaint o’i chyflog. Mae’n cofio merched yn y gwaith yn prynu pethau, ac yn talu ‘clwb’ ar gyfer dillad, esgidiau, ayyb. Nid oedd Gwen yn cydfynd â hyn. Roedd wastod catalogs gan y merched ond credai Gwen mai mater o’r ffordd oedd person wedi cael ei godi oedd hyn.
Ambell i ddiwrnod roedd popeth yn mynd go chwith yn y gwaith. Ond diwrnodau eraill roedd pob dim yn mynd yn iawn.
00.41.00: Dywedodd,
‘Oedd dim un dau ddiwrnod yr un peth.’
Roedd Gwen yn gweithio gydag Annie a Glenda. Merched di-briod oedd y mwyafrif o’r merched oedd yn gweithio yno.
Buodd Gwen yn gweithio yno am drideg a saith o flynyddoedd, ac yn ystod y cyfnod hwnna un job buodd hi’n ei wneud, ar wahan i unwaith. Roedd yn gweithio ar y gwresogwyr, ac roedd charge hand o’r enw Wilf John o Gorseinon eisiau iddi fynd ar job fwy o faint. Gwrthododd Gwen. Roedd ganddi gerdyn anabledd felly nid oeddynt yn gallu ei gorfodi i symud. Roedd e’n pregethu wrthi ac atebodd hi fe nôl. Riportiodd e hi i’r swyddfa. Jest cyn cinio y diwrnod hwnnw aeth ei charge hand ati (Ivy Brown) a dweud, ‘Gwen you’re in the office after dinner’. Pan aeth i’r swyddfa roedd y bosys yno, y charge hand a phawb. Dangosodd Gwen ei cherdyn a dywedodd Ed y charge hand na wyddai bod ganddi gerdyn gwyrdd. A dyna ddiwedd ar y mater. Teimlai ei bod hi wedi gwneud y peth iawn yn amddiffyn ei hun. Roedd y charge hand hwnnw (Wilf John) yno am flynydde.
Dywedodd Gwen,
‘O’dd e’n ca’l y gwaith mas o’r merched, achos oedd ei ofon e arnyn nhw’.
Er bod Gwen yn credu bod angen gwrando ar y bos, dyw e ddim wastad yn iawn. A chafodd Wilf John ddim ei ffordd gyda Gwen! Roedd dau ‘white coat’ arall yno ac roedd y ddau yna’n grêt. Mae rhai od i gael a mae’n rhaid i chi weithio a dod i’w nabod nhw.
Nid yw Gwen yn cytuno â chweryla. Nid yw’n elwa neb. Roeddynt yn cael eu talu yn ôl faint oedden nhw wedi’u gwneud – “piece work”, ond roedd hyn yn fwy anodd i Gwen. Roedd Gwen yn rhan o’r Undeb cyn i’r Undeb ennill statws swyddogol yn y gwaith. Roedd yn cydfynd â chael Undeb.
00.50.29: Dywedodd,
‘Smoch chi fod o dan draed neb i weithio – ta beth yw job unrhyw berson smo chi fod o dan draed. .... Mae pawb i fod i weithio gyda’i gilydd. Sdim hen gwmpo mas i fod. Bydde pawb mwy hapus heb ‘nny.’
Roedd y charge hands yn gwisgo dillad gwyn a’r gweithwyr cyffredin yn gwisgo overalls gwyrdd. Cawsant dwy y flwyddyn, ac roedd Gwen yn golchi eu rhai hi bob penwythnos. Roedd y gwaith yn gallu bod yn frwnt, weithiau oherwydd ei fod yn waith seimllyd. Roedd y gwresogwyr ceir o faint gwahanol, yn dibynnu ar y car, ac roedd y rhai ar gyfer awyrennau yn fawr iawn. Tynnai’r dynion nhw allan i’r merched a’u rhoi nhw ar stand, ac os nag oeddynt wedi cael eu rhoi yn ddiogel ar y stand, byddent yn cwympo yn erbyn y merched. Mae gan Gwen lot o farciau ar ei choesau lle cwympodd y blocs. ‘All in a day’s work’.
Dywedodd,
‘Chi tamed gwell â conan. ‘
Nid yw Gwen yn cofio am unrhyw ddamweiniau mawr yn digwydd yno. Efallai byddai darn o ryw beiriant yn datgymalu a bwrw rhywun, a byddai hwnnw’n gorfod mynd i’r ysbyty ond nid yw Gwen yn ystyried y rhain yn ddamweiniau mawr.
Pan roedd Gwen yn cael cwt yn y gwaith roedd person cymorth cyntaf yn delio â fe. Roeddynt naill a’i mynd lan a’r gweithiwr i’r lle cymorth cyntaf yn y gwaith, neu i’r ysbyty. Roedd y cyfleusterau ar gyfer cymorth cyntaf yn dda.
Roedd y gwaith yn strict iawn am gloco mewn a chloco mas. Roedd neb fod i wneud hyn ar ran rywun arall, er bod hyn yn digwydd.
Roedd y cyfleusterau yno’n dda, a’r tai bach, enghraifft, yn lan. Roedd menyw glanhau yno drw’r dydd. Roedd y ffatri yn swnllyd iawn achos bod peiriannau trydan yn bango drw’r dydd. Mewn rhai mannau yn y ffatri roedd gweithwyr yn gwisgo rhywbeth dros y clustiau. Mae Gwen yn ystyried bod y gwaith wedi effeithio ei chlyw. Mae’n drwm iawn ei chlyw. Mae Gwen wedi mwynhau ei hamser yn y ffatri, er bod pethau’n anodd yno weithiau. Ni chafodd ei themptio erioed i fynd i chwilio am waith rhywle arall achos roedd hi’n mwynhau’r cwmni yn y ffatri. Mae Gwen yn canmol y cyfeusterau oedd yno – tywelion papur, sebon ag ati, ond roedd hi’n oer iawn yno ac ambell aeaf roedd yn rhaid iddynt weithio yn eu cotiau mawr.
Roedd dau o’r charge hands yn caniatáu i’r merched i siarad a chael “sbri bach”. Ond roedd un yn atgas (Wilf John). Roedd yn hala dwy neu dair o’r merched i lefain bob dydd.
01.01.25: Dywedodd,
‘Sneb fod i lefen yn eu gwaith’.
Roedd y charge hand hwnnw yn un a oedd yn mynd o gwmpas i ganu mewn eisteddfodau.
Roedd lot o jocan a thynnu coes yn mynd ymlaen yno. Roedd un gweithiwr cot wen o’r enw Jim, o ochrau Abertawe, ac os oedd e’n dod, a mynd at ei gariad, Enid, roedd pawb yn dechrau canu.
Roedd lot o ‘gario ‘mla’n’ yn digwydd yno.
Roedd un bachgen ifanc o Benygroes, Denzil Parker. Roedd e’n gwneud ffys o bawb, ac yn
hen ‘swc’ bach. Fe gafodd ‘call up’. Gwnaethpwyd casgliad iddo’n y ffatri oherwydd ei fod yn gadael i fynd i’r armi, ac fe brynwyd wats iddo. Roedd yn llefain yn gadael, ond fe ddaeth e nôl i’r ffatri.
Mae Gwen yn cofio pâr yn mynd off gyda’i gilydd. Ethon nhw i Lundain i fyw. Roedd y ddau yn briod a theuluoedd ganddynt. Roedd yn beth mawr yr adeg honno.
01.06.17: Dywedodd,
‘’Na’r unig beth am ffactris, mae’n tynnu diflastod fel yna’.
Priododd Gwen pan oedd yn 31 mlwydd oed a chariodd ymlaen i weithio. Roedd mam Gwen yn byw bryd hynny felly roedd ei mam yn gwneud bwyd. Pan ddeua adref byddai’n mynd i weithio yn yr ardd – roedd yn rhaid gwneud yr ardd.
Gweithiai bum diwrnod yr wythnos, a weithiau ar ddydd Sadwrn. Os oedden ‘nhw’n’ dweud ei bod yn gweithio dydd Sadwrn roedd rhaid gweithio. Roedd wedi arwyddo ei bod yn fodlon gweithio ‘over- time’.
Roedd sustem shiffts yno a buodd Gwen yn gweithio’r shifft nos am dipyn, er nid oedd yn hoff o wneud hyn. Golygai hyn bod ei mam ar ei phen ei hun yn y ty.
Pan fyddai’n cael brêc roedd hi’n siarad am dipyn o bopeth, am ‘ryw ddafad wedi torri’i choes’.
O ran gwyliau roeddynt yn cael pythefnos (wedi’i dalu) yn ystod yr haf. Roedd pawb off yr un pryd. Roedd hefyd yn cael Nadolig, Pasg a’r gwyliau banc yn rhydd. Os oedd eisiau amser yn rhydd o’r gwaith am resymau personol roedd yn rhaid gofyn, a byddai’r rheolwyr yn eu caniatáu rhai weithiau. Wrth gwrs, nid oedd y gwaith yn talu am yr amser rhydd hwn.
Roedd Gwen a tua 11 merch arall yn mynd ar eu gwyliau gyda’i gilydd dramor. Y tro cyntaf, daeth Gwen adref o’r gwaith a dweud wrth ei mam ei bod hi’n mynd i Benidorm gyda’r gwaith. Gofynnodd ei mam ble oedd Benidorm. Pallodd adael i Gwen fynd a gorfodd hi ganslo a cholli ei blaendal. Ar ôl iddi chladdu ei mam aeth bob blwyddyn a chael amser da. I Benidorm aeth hi dramor gynta. Buodd hefyd yn Malta. Ar ôl dod nôl o’r gwyliau ai mewn i’r gwaith a byddai’n dechrau talu mewn ar gyfer gwyliau y flwyddyn nesaf. Y merched yn y gwaith oedd yn trefnu’r gwyliau. Roedd pawb yn cydweld ac yn paso ble roeddynt am fynd. Ethon nhw i Lundain am y penwythnos unwaith. Fe gostiodd 27 swllt ar y trên.
Roedd clwb cymdeithasol yn Morris Motors ond ni fuodd Gwen yno erioed. Nid oedd ganddi ddiddordeb ynddo. Ond roedd e wastad yn llawn. Roedd lot o bobl yn mynd yno i chwarae bingo. Nid yw Gwen yn cytuno â’r bingo. Nid oedd Gwen yn yfed nac yn ysmygu ond roedd yn mwynhau mynd ar y gwyliau.
Amser Nadolig byddai pawb yn yfed.
Dywedodd,
‘Pawb a’i botel oedd hi’.
Roedd y merched yn yfed lot. Ac roedden nhw’n smoco hefyd. Roedd llawer ohonynt yn ysmygu wrth y peiriannau. Lice Gwen fynd nôl i’r ffatri i gael gweld sut mae pethau wedi newid. Mae’r gweithlu wedi mynd lawr o 2,000 i tua 200.
Amser Nadolig yn y ffatri roedd rhai mor feddw roedden nhw’n cael gwaith cerdded allan o’r giatiau. A byddai pawb wedi gwisgo lan yn dod i mewn i’r gwaith. Roedd rhai ohonynt yn mynd mewn i’r dre i wneud ffyliaid o’u hunain.
Gwelodd Gwen lawer o newidiadau yn ystod ei chyfnod yno. Credai eu bod wedi mynd yn fwy strict yno. Ond roedd mwy yn cael eu cyflogi yno drw’r amser felly mae Gwen yn credu roedd hyn yn angenrheidiol.
Dim ond dwy funud yn hwyr i’r gwaith oedd yn cael eu caniatáu. Os oedd rhywun yn dair munud yn hwyr byddant yn colli chwarter awr o gyflog. Roedd llawer o’r merched a weithiai yno yn aros am flynyddoedd. Roedd lot o’r merched wedi stico yno adeg y rhyfel achos roeddynt yn gwybod pe baent yn rhoi’ gorau iddi byddai’n rhaid iddynt fynd rhywle arall, a hwyrach byddai’r ffatri arall yn bell o adref.
Roedd lot o bobol o’r un teuluoedd yn gweithio yno. Nid yw Gwen yn cofio unrhyw un yn cael y sac oddi yno erioed.
Roedd y ffatri yn cynnal ‘Workers’ Playtime’ amser cinio a welodd Gwen llawr o sêr ffilmiau yn dod i mewn i’r ffatri, adeg y rhyfel. Falle byddai Edna Squires yno un wythnos. A rhywun arall yr wythnos wedyn. Byddent yn canu yng nghantîn y ffatri amser cinio.
Roedd Gwen yn talu at y ‘Social Club’ allan o’i chyflog, ond ni fuodd yno erioed. Ond nid oedd rhaid talu.
an roedd Gwen yn 59 mlwydd oed, ac wedi bod yno 37 o flynyddoedd cafodd drawiad ar y galon, a gorfodd hi orffen yno. Teimlodd y golled o orffen yn y gwaith – colli’r cwmni.
01.26.32: Dywedodd,
‘O’dd dim byd ‘da chi, dim byd’.
Pan briododd Gwen cafodd gloc yn anrheg yn y gwaith. Cafodd wats am bum mlynedd ar hugain o wasanaeth.
01.30.30: Dywedodd am ei hamser yno,
‘Os chi’n mynd, mae’n rhaid i chi fynd a dodi’ch meddwl nawr bod chi’n mynd i enjoio, smo chi fod i fynd yn groes gra’n.
01.30.58: ‘Ta le y’ch chi’n gweithio, ta beth y’ch chi’n neud chi’n cael eich ups and downs. Sdim bob dydd yn plein seilo’.