Eirlys Lewis. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Ganed Eirlys yng Ngarnswllt, tua dwy filltir o Rydaman, ‘pentre, diwylliedig, Cymreig iawn’ ar 1 Mawrth 1949. Aeth i’r ysgol gynradd yno, lle roedd tua chwe deg o blant. Roedd y plant di-Gymraeg a aethai yno’n dysgu Cymraeg yn gyflym iawn. Aethai Eirlys i’r capel bob dydd Sul, ‘fel pob plentyn arall’.

Glowr oedd ei thad. Nid oedd ei mam yn gweithio. Roedd Eirlys yn un o chwech o blant, ac roedd Eirlys yn un o driawd (triplets). Yn anffodus bu farw un o’i brodyr yn fach iawn.

Aeth i’r ysgol eilradd ym Mhontarddulais. Gadawodd yr ysgol yn bymtheng mlwydd oed a dechreuodd yn y gwaith ar y bore dydd Llun canlynol yn ffatri Pullman Flexolators, Rhydaman. Roedd digon o swyddi yn Rhydaman ar y pryd. Roedd ei thad wedi mynd gyda hi i’r ffatri er mwyn sicrhau ei bod yn cael swydd.

Nid oedd Eirlys yn mwynhau’r ysgol ac roedd yn teimlo’n falch ei bod yn gadael. Roedd Eirlys yn gwybod am y ffatri cyn mynd i weithio yno. Roedd y ffatri yn cynhyrchu seddi ceir, sbrings ar gyfer gwelyau, ayyb. Roedd lot fawr o’r pentre’n gweithio yno. Dechreuodd ffrind Eirlys weithio yno yr un pryd â hi. Tua blwyddyn ar ôl iddynt ddechrau yn Pullman Flexolators, fe glywodd Eirlys fod yna beryg y byddai’r ffatri’n cau. Penderfynodd Eirlys symud ond arhosodd ei ffrind a buodd hi yno tan tua phum mlynedd yn ôl.

02.43: Fe ddywedodd Eirlys, ‘Dewises i symud ‘mla’n a symud ‘mla’n nes i o un lle i’r lle wedyn ‘nny’.

Mae’n cofio’n teimlo’n nerfus iawn ar ei diwrnod cyntaf yn Pullman’s, ond eto’i gyd gan ei bod hi’n nabod lot o bobol oedd yn gweithio yno roedd yn teimlo’n eithaf gartrefol – yn barod i’w helpu, ac yn cadw llygad arni. Mae Eirlys yn amcangyfrif roedd tua dau gant yn gweithio yno ar y pryd. (Mae hefyd yn dweud roedd i fyny at bum cant yn gweithio yno.) Pobol leol oedd y gweithwyr – o lefydd fel Betws, Brynaman. Roedd y swn mawr yn y ffatri wedi gwneud tipyn o argraff arni’r diwrnod cyntaf roedd hi yno, a theimlai’n ofnus. O fewn wythnos roedd wedi cyfarwyddo â’r swn, ac roedd pawb yn ei helpu. Teithiai i’r ffatri ar y bws cyhoeddus – James’s buses – yn dod lan o Rydaman i’r Garnswllt.

Roedd y gwaith yn dechrau am wyth o’r gloch y bore ac yn gorffen am hanner awr wedi pedwar. Roedd yn ddiwrnod hir i ferch pymtheng mlwydd oed – gyda rhyw hanner awr i gino. Y ‘supervisor’ oedd wedi dangos i Eirlys beth i neud pan ddechreuodd yn y ffatri ac yn sicrhau ei bod yn iawn. Teimlai eu bod yn dda yn gofalu am y gweithwyr newydd. Roedd cymysgedd o ddynion a menywod yn gweithio yn Pullman’s. Nid oedd y merched yn cael weldo. ‘Wire forming’ oedd enw’r gwaith roedd Eirlys yn ei wneud, ac yn ôl Eirlys roedd yn waith rhwydd. Gwaith ar dasg neu‘piece work’ oedd y gwaith, ac roedd hyn yn ffafrio Eirlys achos roedd yn gallu gweithio’n gyflym.

Roedd mam a thad Eirlys yn falch ei bod yn gweithio. Nid oedd mynd ymlaen yn yr ysgol yn opsiwn iddi oherwydd ei bod wedi methu’r 11+. Gallai fod wedi mynd i ysgol nos ond unwaith roedd wedi dechrau ‘ennill’ nid oedd ganddi ddiddordeb. Mynd mas i weithio oedd cymhelliad Eirlys ar y pryd. Roedd digon o waith yn Rhydaman yn y dyddiau hyn – nid oedd angen mynd yn bellach. Roedd tipyn o waith ar gael yn y siopau hefyd er nad oedd y math yma o waith yn apelio ati.

00.07.00: Dywedodd, ‘Roedd hwyl i gael mewn ffatri, chi’n griw gyda’ch gilydd ac mae pob un â’i stori.’

Buodd brawd Eirlys yn gweithio yno hefyd, ond nid oeddynt yn cymryd unrhyw sylw o’i gilydd yn y gwaith ac nid oedd yn ei weld e’n amal achos roedd e’n gweithio mewn adran arall. Roedd hi’n cael llai o arian na’i brawd, gan ei bod yn ifancach (ac o bosib yn cael llai am ei bod yn fenyw, ond nid oedd hyn yn ei phoeni ar y pryd.)

Nid oedd angen unrhyw gymwysterau i weithio yno. Os oedd unrhyw un yn dechrau yno ac yn methu ymdopi gyda’r gwaith byddai rhywun yn ei helpu. Roedd ganddynt berson swyddogol yn eu dysgu, ond roedd ambell ferch ifanc yn teimlo’n rhy swil i ofyn am help, a byddai un o’i chyd-weithwyr yn ei helpu.

Roeddynt yn llenwi tocynnau er mwyn cofnodi ei gwaith ac roedd manion fel sgriws yn cael eu pwyso, a’r gweithwyr yn cael eu talu wrth y pwysau. Nid oedd Eirlys yn teimlo bod y gwaith yn undonnog, achos roedd yn cael symud o gwmpas o un swydd i’r llall. Roedd yn dysgu’r ‘cyfan’ wedyn.

Roedd pawb yn dod ‘mla’ yn dda achos roedd yr awyrgylch yn dda. Roedd ambell un yn cwympo mas, ond rhai ‘od’ oedd rheiny.

00.10.18: Dywedodd Eirlys am y cydweithio, ‘Ma’ pobol heddi yn fwy hunanol. Yr adeg hynny roedd mwy o gyd-dynnu a hefyd oeddech chi’n nabod llawer iawn o’r bobol oedd yno ... ac o’ch chi’n fwy ewn wedyn i siarad â nhw.’

Roedd cyfle i ennill arian da, os oeddech chi’n barod i weithio. Os oeddech chi’n cerdded o gwmpas ac yn siarad, a gwastraffu amser o’ch chi ddim yn ennill yr arian.

Roedd rhaid cloco mewn yn y bore, cloco mewn a mas i fynd i ginio, a cloco mas ar ddiwedd y dydd. Arferai Eirlys mynd â bwyd ei hun i’r gwaith. Roedd Eirlys yn cael siarad wrth wneud ei gwaith, ond bod y gwaith yn cael ei wneud yn iawn. Roedd y ‘benshys’ wrth ochor ei gilydd, gyda lle i’r gweithwyr i gadw’u gwaith.

Roedd y radio yn chwarae drwy’r dydd. (Mae Eirlys yn credu taw Radio One oedd yn chwarae.)

Ar ddiwrnod o waith roedd Eirlys yn cloco mewn a byddai’r ‘foreman’ yn dweud wrthi beth roedd hi fod i neud y diwrnod hwnnw. Roedd brêc yn y bore a phaned o de. Byddai troli’n dod o gwmpas i le oedd Eirlys yn gweithio. Roedd hanner awr o egwyl amser cinio hefyd, ond dim byd yn ystod y prynhawn. Roedd gweithwyr yn ysmygu wrth eu gwaith. Mae Eirlys yn cofio’r ‘foreman’ yn cerdded o gwmpas gyda sigaret yn ei geg ac yn gweiddi am rywbeth.

O ran y gyfundrefn yn y ffatri roedd y supervisor, y foreman, y rheolwr, ac roedd popeth yn gweithio’n dda yno. Roedd undeb yno – roedd hi’n ‘closed shop’ felly roedd yn rhaid fod yn aelod, ond nid oedd yn rhaid i ganran o’ch arian fynd i’r Blaid Lafur. Dyna’r hyn roedd Eirlys yn ei wneud – dim ond talu’r arian i’r undeb byddai hi’n ei wneud. Credai Eirlys ei bod hi’n bwysig bod gan y gweithwyr undeb. Ar y dechrau roedd yn bosib mynd at y rheolwr os oedd problem, ond fel roedd amser yn mynd yn ei flaen yn ystod ei gyrfa ni fyddai hyn yn bosib. Roedd yn rhaid gweld foreman yn gyntaf, ac felly roedd yr angen am undeb yn fwy.

Roedd gwaith yn gofyn am sgiliau arbennig er enghraifft swydd ‘machine setter’ – a oedd yn gosod y peiriannau. Dynion oedd y rhain i gyd yr adeg hynny ac fel arfer roeddynt wedi cael prentisiaeth. Petai’r cyfle wedi bodoli i Eirlys hoffai fod wedi gwneud prentisiaeth ei hun. Cafodd y cyfle yn ddiweddarach yn ystod ei gyrfa.

Roedd y menywod a weithiai yn Pullman’s ar y pryd yn gymysgedd o fenywod priod, a sengl. Dim ond shifft dydd oedd yn bodoli ar y pryd. Roedd menywod â phlant bach yn gweithio yno hefyd, pan roedd ‘mamgu’ ar gael i warchod. Cyflog Eirlys ar y pryd oedd rhyw dair punt a deg swllt. Allan o’r arian hwnnw roedd Eirlys yn talu ‘lojins’ i’w mam, a defnyddio’r gweddill fel roedd hi eisiau. Byddai Eirlys yn mynd i’r pictiwrs yn Rhydaman, neu i’r clwb pobl ifainc yn y capel, cyngherddau a dramau yn y neuadd. Roedd pawb yn mynd.

Roedd yn cael ei thalu bob wythnos – roedd dydd Gwener yn ddiwrnod mawr. Nid oedd percs am weithio yn y ffatri, ac nid oedd dim byd ychwanegol amser Nadolig chwaith a’r wahan i ‘eich gwyliau o’ch chi’n deilwng ohono fe.’ O ran yr arian i’r undeb penderfyniad Eirlys oedd nad oedd eisiau i unrhyw arian fynd i’r Blaid Lafur. Nid oedd hyn yn benderfyniad poblogaidd ar y pryd, ond mae Eirlys yn genedlaetholwraig, ac nid hyn yn ei phoeni.

00.22.10: Dywedodd Eirlys, ‘Yr adeg ‘nny os oedd rhywun yn dweud wrtho chi am wneud rhywbeth o’ch chi’n ‘i wneud e’.... Nhw oedd y bos.’

Mae Eirlys yn gymeriad cryf, ond fel hyn roedd hi’n teimlo hefyd, ac roedd hi’n dangos parch at y rheolwyr.

Roedd y gwaith yn waith brwnt. Roedd y ffatri yn darparu ffedogau a byddai Eirlys yn mynd â’r rhain adref i’w golchi. Roedd un job o fewn y ffatri’n beryglus sef rhoi cot o baent ar bethau. Roedd pethau’n cael eu dipio i mewn i asid yn gyntaf i’w glanhau, ac yna’n mynd mewn i’r paent. Buodd Eirlys yn gwneud y swydd hon, ond nid oedd gogls na dim byd yn cael eu darparu i ddiogelu ei llygaid, dim ond y ffedog a phâr o fenyg. Nid yw Eirlys yn cofio am unrhyw ddamweiniau’n digwydd yn ffatri Pullman’s yn Rhydaman. Roedd yn cael ambell gwt ar ei bys oherwydd ei bod yn troi weiars, ond nid oedd sôn am roi’r mân anafiadau yma i lawr ar y llyfr. Roedd yna nyrs barhaol yno.

00.24.20: Dywedodd, ‘Os y’ch chi’n tisian heddi chi’n gorfod rhoi fe lawr ar y llyfr, weden i’.

Cred Eirlys bod yna swyddog yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch, ond nid oedd llawer o ‘ffys’ am y peth – un o’r gweithwyr ydoedd, nid rhywun o’r swyddfa.

Roedd y cyfleusterau’n y ffatri i gyd yn lan – er enghraifft y tai bach, ayyb, ystafell gotiau i newid dillad. Roedd un person yn gyfrifol am lanhau’r tai bach, ond roedd gweithwyr unigol yn gyfrifol am gadw’r safle ble roedden nhw’n gweithio’n lan.

Pe bai rhywun yn cael ei ddal yn cloco dros rywun arall roedd yn bosib colli swydd, felly nid oedd gweithwyr yn gwneud hyn yn aml. Roedd y ffatri’n dwym yn yr haf, ac yn oer yn y gaeaf.

Roedd cymdeithas a charwriaethau yn y ffatri. Cyfarfu Eirlys â chydweithwraig o’r Garnant pwy ddwarnod oedd wedi cyfarfod â’r gwr yn y ffatri. Roedd llawer iawn o dynnu coes os oedd rhywun ifanc yn dechrau’n y ffatri. Mae Eirlys yn cofio merch ifanc yn dechrau a oedd ychydig yn ‘araf’ a dywedwyd wrthi am fynd lawr i’r storfa i ôl ‘elbow grease’. Roedd y bachan yn y storfa yn gwybod yn union beth oedd yn mynd ‘mlaen a rhoddodd dun o rywbeth iddi ddod nôl gyda hi. Roedd yn sbort diniwed.

00.29.15: ‘Roedd lot o dynnu coes diniwed a phawb yn cael sbri’.

Buodd Eirlys yn gweithio’n Pullman’s am ddwy neu dair blynedd.

00.29.57: Dywedodd Eirlys am yr hyn ddysgodd yn y ffatri, ‘Dysgu byw ‘da pobol o bob math, o bob rhyw a bob llun, ‘u agwedd nhw, o’ch chi’n dysgu popeth. Ffordd o fyw. O’ch chi’n dysgu shwd gymint wrthyn nhw.... O’dd e’n addysg a gweud y gwir.’

00.30.34: ‘Ar ôl wythnos o’dd e fel bod chi wedi bod yno am oes achos o’dd pawb morgaredig, ac yn moyn edrych ar ôl chi.’

Nid oedd clybiau cymdeithasol yn y ffatri hon. Roedd yr wythnos waith yn bump diwrnod. Weithiau roedd gwaith ar y dydd Sadwrn ond nid oedd hwn yn ofynnol. Roedd yr wythnos waith yn 48 awr. Roedd yn bosib gweithio gor-amser os oeddech eisiau hefyd, ac os oedd y gwaith ar gael, ond byddai’n rhaid cerdded adref wedyn oherwydd byddai’r bws wedi mynd! Roedd Eirlys yn gwneud hyn. Nid oedd unrhyw agwedd o’r gwaith nad oedd Eirlys ddim yn ei mwynhau. Roedd Eirlys yn cael gwyliau’r banc yn rhydd a rhyw bythefnos o wyliau’r flwyddyn. Byddai Eirlys yn mynd allan ar y nos Sadwrn gyda rhai o’i chyd-weithwyr. Roedd awyrgylch gyffrous yn y ffatri y diwrnod cyn ‘shut-down’ fel adeg Nadolig yn y ffatri.

Ar y bws i’r gwaith gwelai Eirlys weithwyr o’r un pentre’ â hi’n mynd i ffatrioedd eraill hefyd, ac roedd tipyn o sbort i’w gael ar y bws. Nid oedd Eirlys wedi methu’r bws unwaith.

Ar ôl sbel prynodd feic i fynd i’r gwaith, er mwyn cael arbed arian. Prynodd y beic yn Waldrons yn yr arcêd yn Rhydaman am ‘16 guineas’. Roedd yn gadael y ty am hanner awr wedi saith y bore bryd hynny.

Ystyriwyd bod y cyflog yn eithaf da o’i gymharu â’r cyflog yn y siopau. Roedd gweithio mewn ffatri yn rhoi mwy o ryddid, achos roedd dydd Sadwrn yn rhydd rhan fwya’r amser.

Roedd tueddiad i’r iaith i fod yn ‘wael’ (hy lot o regi) ond roedd Eirlys wedi cyfarwyddo â’r peth yn gyflym. Roedd hyder gan y merched i ddweud yr hyn oedden nhw eisiau. Roedd dynion a merched yn cymysgu’n rhwydd yn y ffatri. Roedd y gwaith wedi rhoi lot o hyder i Eirlys.

00.38.25 : ‘Na le ges i’n hyder i i fynd ‘mla’n.’

Roedd Eirlys yn gweithio yn ffatri Alan Paine yn Rhydaman, ac roedd y merched i gyd yn eistedd yn gweithio pan ddaeth y newyddion am drychineb Aberfan ar y radio.

Dywedodd, ‘Aeth pob peiriant yn fud’. Ac felly mae Eirlys yn cofio i’r dydd heddi’ ble roedd hi pan glywodd y newyddion.

O Pullman’s aeth Eirlys i weithio yn ffatri Alan Paine. Mae’n ystyried hyn fel camgymeriad mawr. Nid yw’n hoffi gwau na wnïo, a dim ond am naw mis buodd hi yno. Roedd y raddfa ar gyfer y ‘piece work’ yn fwy yno, ond nid oedd yn hapus yno. Symudodd oddi yno cyn ei bod hi’n cael ei thaflu allan. Roedd yr awyrgylch yn dda, gyda phawb yn cyd-dynnu, pawb yn cael sbri a’r radio ymlaen drwy’r dydd.

Oddi yno aeth i Mettoy a buodd yno am dair blynedd. Roedd Mettoy llawer yn fwy ‘strict’. Roedd llawer mwy o bobol yn gweithio yno, a ‘dim mor agos atoch chi’. Gweithiodd yn yr ‘Assembly’ yn Mettoy, yn rhoi’r ceir bach at ei gilydd. Roedd y gwaith yn iawn, ond ym marn Eirlys nid oedd yr awyrgylch gystal ag oedd yn Rhydaman. Daeth yn gyfarwydd â phethau yno, ond roedd ambell un yn fwy cas. Roedd rhai o’r merched eraill yn ‘ffit’ ofnadwy. Roedd yr arian yn Mettoy yn dda a bws yn teithio o’r Garnswllt i lawr i’r gwaith.

Nid oedd angen geirda i fynd o un ffatri i’r llall. Roeddech yn gallu cerdded i mewn i’r swyddfa a gofyn os oedd jobs yno, cael cyfweliad yn y man ac yna clywed o fewn diwrnod neu ddau os oeddech wedi cael swydd. I’r sawl oedd yn methu gwneud y gwaith roeddynt yn cael swydd wahanol i’w gwneud a byddai honno’n talu llai o arian. Yn anaml byddai rhywun yn cael y sac. Nid oes gan Eirlys gof bod streic wedi bod yn Mettoy tra bu hi yno. Dywedodd Eirlys am y gwahaniaeth yn y bobol yn Mettoy,

00.44.38: ‘O’ch chi nawr yn mynd mewn i’r ddinas ac oedd agwedd bobol yn wahanol. O’n i fel pobol cefen gwlad, o’n nhw’n meddwl bod rhywbeth yn bod arnom ni. ... O’n i ddim yn deall dim byd’.

Daeth i gymdeithasu gyda’r merched yn Mettoy, gydag amser. Aethant i glwb yn Townhil ac aros i lawr yn Abertawe, neu allan i Abertawe i gael bwyd. Roedd y profiadau newydd yn gyffrous, ond doedd dim yn well na mynd allan yng Ngarnswllt. Rhoddodd y gorau i’r gwaith yn Mettoy er mwyn mynd i weithio ar fferm ei hewyrthr, a oedd yn dioddef o salwch. Buodd yno am dua dwy flynedd. Roedd Eirlys yn ddigon hapus ar y fferm, er bod ganddi lai o gwmni yno, achos ei bod yn arfer treulio llawer o amser yno – pob penwythnos a phob gwyliau haf. Hi oedd yn godre ac yn mynd mas â’r llaeth. (Roedd rhaid golchi’r poteli llaeth bryd hynny.) Roedd yn cael llai o dâl am y gwaith hwn, ond roedd yn gwneud y gwaith er mwyn gwneud cymwynas â’i hewyrthr. Roedd dim llawer o amser yn rhydd gan Eirlys, ond roedd ei hanti yn mynnu eu bod yn cael diwrnod Nadolig yn rhydd er bod hyn yn golygu llawer mwy o waith. Roedd yn golygu mynd â’r llaeth mas y diwrnod cyn Nadolig, a’r noson honno ar gyfer dydd Nadolig. Roedd rhaid mynd rownd yn y prynhawn i gasglu poteli, ac wedyn roedd rhaid mynd i gasglu poteli ar ddiwrnod San Steffan. Ar ôl dwy flynedd ar y fferm Eirlys i Gaerdydd.

Cafodd Eirlys y swydd yng Nghaerdydd trwy fynd i’r Ganolfan Swyddi yn Rhydaman.

Roedd Eirlys a’i ffrind wedi penderfynu eu bod nhw eisiau mynd i ffwrdd i weithio. 1972 oedd y flwyddyn. Roedd Eirlys wedi dweud wrth y rhai yn y Ganolfan ei bod hi eisiau mynd i Gaerdydd i weithio. Cafodd lythyr yn dweud wrthi am fynd i gael cyfweliad yn Vandervell Products. Yn Nhremorfa, Caerdydd oedd y ffatri ac roedd yn cynhyrchu rhannau i geir a loris – bearings, washers, locker arms a phethau fel ‘na. Wythnos ar ôl cael cyfweliad cafodd lythyr yn dweud ei bod hi wedi cael ei derbyn. Roedd angen lle i fyw arni nawr! Roedd ei ffrind a oedd wedi ymgeisio ar gyfer swydd fel nyrs yn ysbyty’r Waun heb glywed eto, felly roedd yn rhaid i Eirlys fynd ar ben ei hunan bach. Cafodd bedsit yn Grangetown (Holmesdale Street) ond nid oedd ganddi syniad fel oedd mynd o’r bedsit i’r ffatri.

Un ystafell wely oedd y bedsit, ‘y cwbwl mewn un’, gyda dim ond un gwely dwbwl felly roedd rhaid rhannu. Y noson gyntaf yno eisteddodd wrth y ffenest, ar ei phen ei hun yn meddwl, ‘beth ar y ddaear odw i wedi’i neud ... yn nabod dim cwrcyn o neb’. Ar y dydd Sul roedd yn rhaid iddi fynd i ffeindio allan ble oedd y ffatri.

Roedd dwy shifft yn y ffatri – chwech o’r gloch tan ddau, a dau tan ddeg. Buodd yno am yn agos i ddeng mlynedd. Pan gafodd gyfweliad i fynd yno roedd y rheolwr wedi gofyn pob math o bethau fel paham roedd hi eisiau gweithio yno. Ymunodd ffrind Eirlys â hi rhyw fish ar ôl hynny ac roedd Eirlys yn gallu mynd â hi o gwmpas a dangos iddi ble oedd popeth.

Dechreuodd fel machine operator yn gweithio’r press machines mawr, ac wedyn aeth ar yr inspection line – yn archwilio popeth. Yna, daeth adran newydd yno ac o ganlyniad cafodd y merched gyfle i gael swydd gyda’r dynion, yr un fath â’r dynion. Fe dreiodd amdano fe ac fe gafodd y swydd gyda dwy ferch arall. Gorffennodd un o’r merched – nid oedd yn hoffi’r swydd. Roedd y swydd newydd yn golygu bod eisiau gosod y peiriannau newydd er mwyn cael eu rhedeg nhw. Roedd yn cael hyfforddiant er mwyn cael gwneud hyn. Yn Maidenhead oedd y ffatri fawr, ac roedd rhywun yn dod lawr o’r ffatri honno i’w hyfforddi nhw. Roeddynt yn cael dysgu yr un pryd â’r dynion. Roedd y dynion yn ddigon bodlon bod y merched yn cael cyfle ond nid oeddynt yn credu byddai’r merched yn gallu gwneud y gwaith. (Roedd hyn tua’r flwyddyn 1976 neu 1977).

00.54.55: Dywedodd, ‘Yn y diwedd droiodd hi mas bod ni’n well na nhw’.

Roedd angen lot o amynedd i wneud y swydd achos roeddynt yn gweithio ‘o fewn trwch blewyn’. Mae’n cofio fel ‘ddoe’ un o’r dynion yn dod ati a gofyn iddi am help. Nid oedd yn gallu cael pethau i weithio o gwbwl. Yn ystod y cyfnod ar ôl iddynt hyfforddi oedd hyn, ac roedd y dyn hwn wedi hyfforddi yr un pryd â hi. Yn ystod yr hyfforddiant agwedd y dyn hwn oedd na fyddai Eirlys yn gallu gwneud y swydd. Ac yna, ar ôl yr hyfforddiant cafodd e’r broblem fawr yma - roedd y rheolwyr eisiau’r nwyddau fynd allan, ac roeddynt yn aros amdanyn nhw. Roedd wedi trio hwn a trio’r llall. Pan ddaeth ati a gofyn am helpu dywedodd Eirlys wrtho byddai’n rhaid iddo aros am hanner awr cyn y gallai ddod i’w helpu.

00.56.01: Dywedodd, ‘Gath e bobi am hanner awr.’

Tynnodd hi ei waith e’n rhydd a dechrau o’r dechrau. Fe gafodd y peiriant i weithio. Yna roedd yn rhaid mynd â fe at inspector a siecio’r gwaith yn erbyn y cynlluniau. Ac oedd e’n iawn. Roedd Eirlys mor falch. Mae’n dweud bydd hi byth yn anghofio’r profiad. Roedd y dyn mewn cymaint o stâd yn dod ati hi. Dim ond hyn a hyn o ‘bearings’ oeddynt yn cael i wneud y peth, ac nid oeddynt eisiau eu gwastraffu. Roedd wedi gwastraffu hanner bocs, ac roedd hyn yn costi arian i’r cwmni.

Cafodd Eirlys ei chyfweld ar gyfer rhaglen Beti George gan Sulwyn Thomas, achos ei bod hi fel merch wedi cael y swydd gafodd hi. Gwnaeth Eirlys y cyfweliad yn Saesneg a mynnodd y BBC ei gael wedi ei gyfieithu i wneud yn siwr nad oedd wedi dweud rhywbeth nad oedd fod i ddweud.

00.58.10: ‘Na diwrnod gore ‘mywyd i, mas o bopeth’.

Y rheswm arhosodd yn Vandervell oedd achos ei bod hi wedi cael y cyfle hwn. Nid oedd un neu ddau o’r dynion gystal yn gwneud eu gwaith ag Eirlys, oherwydd nid oedd ganddynt ddigon o amynedd i weithio pethau allan yn iawn, i ystyried pethau cyn eu bod yn gwneud y peth i’r diwedd. Roedd y nwyddau’n ddrud iawn ac oes oeddynt yn eu difetha roedd yn gost mawr i’r cwmni. Roedd Eirlys wastad wedi ymddiddori mewn pethau tebyg – wastad yn ffidlan â beics, neu dractor gyda spaner yn ei llaw.

00.59.40: Dywedodd, ‘Sen i wedi cael y cyfle pan o’n i’n ieuengach fel ma’n nhw heddi sen i wedi mynd naill ai’n fecanic neu yn sa’r. O’dd gyda fi ddiddordeb yn ceir a pethe fel ‘nny, ond ces i ddim y cyfle pry’nny.’

Nid oedd y cyfle hwn wedi bodoli yn Pullman’s er bod cyfleoedd i’r bechgyn oedd yn gweithio’n Pullman’s.

Roedd clwb eu hunain yn Vandervell’s. Roedd Eirlys yn chwarae nine pin bowling gyda chlwb y gwaith yn erbyn clybiau eraill, bob wythnos. Roedd cinio Nadolig a thripiau i Maidenhead, achos dyna le oedd y fam ffatri. Un o fois yr undeb oedd yn trefnu’r trips yma, a hefyd roedd e’n aelod o’r clwb cymdeithasol. Roedd adeilad y clwb cymdeithasol ochor draw’r ffatri ac roedd yn cael ei rannu gyda GKN. Felly, roedd yr adnoddau a’r arian yn eithaf da. Roedd yr arian bron i ddwbl beth yr oedd yn ei gael yn Rhydaman.

Roedd profiad Eirlys yn wahanol yn Vandervells o’i gymharu â Rhydaman. I ddechrau, roedd Vandervells yn y ddinas. Roedd y bobl yn hollol wahanol – yn wahanol nid yn unig i Rydaman ond i Abertawe. Mae’n credu eu bod yn fwy cymdeithasol yng Nghaerdydd nag yn Abertawe, ac yn fwy croesawgar, yn enwedig pobl Butetown. Unwaith roeddech chi yn eu cwmni nhw roeddynt yn gofalu amdanoch chi wedyn. Tra bod Eirlys yn gweithio’n y ffatri yng Nghaerdydd roedd un fenyw wedi colli ei bysedd yn y gwaith. Rhoddodd ei llaw yn y peiriant fel roedd fod gwneud ond daeth y guard ddim lawr ac fe dorrodd y peiriant ei bysedd hi. Roedd Eirlys yno ar y pryd. Dywedodd, ‘Na swn oeraidd.’ Cafodd honno iawndal am y ddamwain oherwydd bod nam ar y peiriant.

Roedd streic tra bod Eirlys yn gweithio’n y ffatri yng Nghaerdydd, yn 1976. Ar y pryd roedd yn ddifrifol o dwym yn y ffatri. Fe dynnwyd y ffenestri o’r tô gan ei bod hi mor dwym a rhoi ffans mawr diwydiannol mewn. Roeddynt yn rhoi scwosh i’r gweithwyr. Tynnwyd darn o’r wal o’r cefn hefyd. Penderfynodd y gweithwyr fynd ar streic ond gwrthododd Eirlys. Ym marn Eirlys roedd y cwmni wedi gwneud popeth y gallen nhw i ddatrys problem y dymheredd. Dim ond o ryw ddau o’r gloch i bedwar o’r gloch roedd hi’n ddifrifol o dwym. Roedd Eirlys yn dadlau bod y cwmni’n gwneud cymaint ag y gallen nhw. Roedd gweithwyr yn cael mynd i’r drws i gael awyr iach am ddeng muned bob hanner awr, roeddynt yn dod â scwosh i’r gweithwyr, a dadl Eirlys oedd bod dim modd diffodd yr haul. Gwrthododd Eirlys fynd ar streic. Mae Eirlys yn credu bod hyn yn dangos cymaint oedd ei hyder wedi tyfu ers iddi fynd i weithio yng Nghaerdydd. Dim ond Eirlys ac un dyn arall gwrthododd fynd ar streic. O ganlyniad nid oedd neb yn siarad â nhw. Cafodd ei galw’n ‘bopeth’ gan y gweithwyr eraill ac roedd y menywod yn waeth na’r dynion. Onibai ei bod wedi gweithio mewn sawl ffatri cyn hynny ni fyddai wedi cael yr hyder i wrthod fynd ar streic. Roedd ar eraill ofn mynd yn erbyn yr undeb. Buodd yn ‘Coventry’ am dua pedwar mis. Daeth rhai byth i siarad â hi. Ond roedd rhaid galw ar wasanaeth Eirlys i drwsio’r peiriannau.

Yn ystod y cyfnod roedd yn Vandervell roedd yr undebau’n gryf, a phawb yn ymuno.

00.10.20: Dywedodd, ‘O’n nhw’n neud beth o’n nhw’n moyn .. mwy na beth oedd yn rhesymol i wneud.’

Dywedodd Eirlys pe bai’n rhesymol i fynd ar streic, byddai wedi mynd ar streic ei hun.

Gwelodd Eirlys nad oedd yr hyder gan ferched eraill i wthio’u hunain ymlaen i wneud yr un gwaith â hi. Dechreuodd tair ohonynt hyffforddi yr un pryd, ond dim ond dwy ohonynt gariodd ymlaen. Yn ôl Eirlys roedd gan y ferch a roddodd y gorau i’r hyfforddiant digon o allu, ond dim yr hyder i wneud y gwaith. Aeth hi nôl i weithio ar y peiriannau.

Buodd yn gweithio’n Vandervells o 1972 tan 1981. Caeodd y ffatri rhyw naw mis yn ddiweddarach. Penderfynodd orffen yn y ffatri er mwyn priodi. Dysgodd lawer yng Nghaerdydd. Un diwrnod tra roedd hi’n y ciw i gloco mas roedd yn siarad Cymraeg â merch o Ddolgellau, a daeth merch o Gaerdydd a dweud ‘do you mind not speaking that foreign language’. Dywedodd Eirlys a’i ffrind, ‘We are speaking our own language in our own country.’ Mae Eirlys yn sôn oedd pobol o Pakistan tu ôl iddyn nhw a neb yn dweud dim byd wrthyn nhw am siarad eu hiaith eu hunain. Ni ddywedwyd dim byd wrth Eirlys ar ôl hynny am siarad Cymraeg.

Nid oedd Eirlys eisiau gadael y ffatri. Aeth i ffermio gyda’r gwr. Roedd Eirlys yn gweld eisiau’r cwmni ar ôl gadael. Roedd cymdeithasu’n fwy pwysig i Eirlys yn ystod yr adeg buodd hi’n Vandervells achos ei bod yn hyn, ac roedd wedi cymysgu mwy gyda phobol.

Roedd Eirlys yn cymysgu gyda Chymry Cymraeg yn llefydd fel tafarn y Conway. Roedd yn aelod o Blaid Cymru felly roedd yn mynd i ddigwyddiadau gyda nhw.

Yng nghlwb cymdeithasol y ffatri, roedd tîm criced yn ogystal â chlwb bowls. (Nine pin bowling ydoedd dim deg.) Mae Eirlys yn amcangyfrif roedd tua phum cant o bobl yn gweithio yno. Roedd tair shifft – shifft dydd, shifft prynhawn a shifft nos – er nid oedd menywod yn cael gweithio shifft nos. Doedden nhw ddim yn cael cynnig gwneud shifft nos.

00.16.27: Dywedodd, ‘Gwahanu rhwng dynon a merched eto’.

Roedd Eirlys wedi gofyn os byddai’n cael gweithio shifft nos pan aeth i gael cyfweliad, ond fe ddywedwyd mai dim ond y dynion oedd yn gwneud hyn felly roedd y dewis ganddi o ddewis neu gwrthod cymryd y swydd.

O’i gymharu â Pullman’s roedd y gwaith yn Vandervell yn fwy caled. Roedd y peiriannau’n fwy o seis ( y ‘press machines’). Roedd merched eraill wedi mynd ymlaen i wneud yr un gwaith ag Eirlys yn y ffatri yn Maidenhead. Roedd teulu Eirlys yn gofyn pam ei bod yn gwneud yr un jobyn â dyn, ac roedd Eirlys yn dweud wrthynt mai achos ei bod hi llawn gystal â dyn, os nad yn well.

01.19.56: Dywedodd, ‘Oedd y cyfle ddim ar y dechre, pan ddechreues i’n bymtheg o’d. Ond fel o’n i’n newid swyddi o’dd mwy o gyfle’n dod, ac o’ch chi’ gallu gwi’tho lan yn fwy ac yn fwy. O’dd dim lot o ddiddordeb ‘da fi mewn mynd ‘mla’n mewn addysg. O’n i’n credu bod fi’n gallu neud swyddi fel hyn, bod y gallu ‘da fi. Bod fi’n gryf i neud e. A o’s o’n i’n cael y cyfle bydden i’n gallu neud e. A ges i’r cyfle ar y diwedd. Ond o’dd dim digon o gyfle. ‘Na’r unig bryd ges i gyfle o’dd wedi i fi fynd i Gaerdydd, i Vandervell Products. O’dd unrhyw ffactori arall bues i ynddo, o’dd dim cyfle o gwbwl, yn unman. Yr unig le ges i gyfle nes i neidio ato fe achos o’n i’n gwbod bydden i’n gallu neud e. A bydden i ‘di neud e’n gynt sen i wedi cael y cyfle. Fel o’n i’n gweud, sen i ‘di cael y cyfle’n gynt yn bymtheg oed, i fod fel mecanic, neu gwitho fel gwaith sa’r, bydden i ‘di neidio ato fe. Ma’n nhw’n gallu neud heddi. Ond ges i ddim o’r cyfle ‘nny. Ond o’dd rhaid neud y gore o beth o’dd ‘da fi wedyn.

Roedd ei gwaith yng Nghaerdydd yn waith caled. Weithiau byddai’n gweithio chwech diwrnod yr wythnos, achos roedd y cyflog yn dda.

Aeth i weithio yn ffatri laeth Llangadog am gyfnod byr. Yna, aeth i’r ffatri gaws yng Nghaerfyrddin. Nawr, roedd yn gweithio gyda phobl wledig.

01.22.44: Dywedodd, ‘O’n i nôl mewn ardal wledig Cymreig’. Ond nid oedd modd iddi ddefnyddio’r sgiliau oedd wedi’u dysgu yng Nghaerdydd.

Yn y ffatri yng Nghaerdydd y mwynhaodd fwya achos dyma le cafodd y profiadau mwyaf.

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VSW061.2.pdf