Averil Berrell. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Eitemau yn y stori hon:

Cadarnhaodd Averil mai’i henw yw Averil Berrell ac mai ‘Matthews’ oedd ei henw cyn priodi. Nododd ei chyfeiriad a’i dyddiad geni: 18: 4: 38.

Cafodd ei geni ‘fi’n credu’ y tu fas i Felindre. Mewn small holding ond wedyn symudodd y teulu, fel bod ei chwaer (sydd flwyddyn a mis yn iau na hi) wedi’i geni ar y mynydd uwchben Pontarddulais – Craig Fawr oedd enw’r ty. Noda nad ‘mynydd Garnswllt’ yw’r enw cywir am y mynydd hwn.

Meddai:

‘Fi ’di rhedeg lan a lawr hwnna milodd o weithe, ch’mbod, achos amser on i’n byw lan ‘na, odd y bys yn dod miwn i sgwâr Glyn-hir (Pontarddulais), a bydde’n dreifwr neu’r conductor yn gweld ni ar ben y mynydd yn rhedeg, a bydden nhw’n sefyll i ni. Nelen nhw ddim o hwnna nawr, nelen nhw?’

Aeth Averil i ysgol gynradd Pontarddulais ‘a dorres i nghalon’. Roedd hi’n bump oed. Bydden nhw’n mynd lawr i siopa o ben y mynydd i Bontarddulais bob dydd Gwener a odd hi ddim wedi meddwl bod neb arall yn byw yn unman arall! Pan adawodd ei mam hi yn yr ysgol – cafodd yr athrawes Miss Alexander drafferth gyda hi ‘on i’n pain iddi, … odd pawb arall, on nhw’n gyfarwydd - yn nabod y plant. Gerddes i mas o’r ysgol a ffindiodd rhywun fi ar y pafin, on i ddim yn gwbod pwy ffordd i fynd a on i’n llefen ...’ Oherwydd hyn cafodd ei chwaer ddechre’r ysgol yn beder oed.

Buodd hi’n y ddwy ysgol – y babanod a’r iau a wedyn lan i Top School – Y Secondary Mod. ‘Ath y cream … Geses i ringworm amser on i’n byti naw fi’n credu a on i gartre o’r ysgol am flwyddyn. So lle on i’n y scholarship class, on nhw’n galw fe’ ond roedd y rhai yn y scholarship class wedi cael blwyddyn ychwanegol – felly ‘no way’. Ond wedyn daeth hi i’r brig pan aeth hi i’r Top School achos roedd y cream wedi mynd i Dre-gwyr – y grammar school – bechgyn a merched.

3.05

Och chi siwr o fod yn drist am hynna och chi? Bo chi ddim wedi cal y cyfle …

Na on i ddim yn drist. On i’n enjoio bod one, two, three … chi’n gwbod pan chi’n cal ‘ch reports – one , two, three

Och chi ar y top fan ‘na?

On i’n very thrilled.

Faint odd ‘ch oed chi’n gadel ysgol wedyn?

Undeg pump.

Och chi’n gorffod gadel, ne beth odd y sefyllfa?

Na. … amser o’n i’n (13) neu’n undeg pedwar, dath rhywun i’r ysgol i siarad ambyti typewrito a pethe fel ‘na ‘chmbod a shorthand a on i’n dwlu, a on i’n moyn neud e. Er fi’n flin nawr, cofiwch, licen i fod yn nyrs, amser fi’n meddwl am e nawr, ond ma’n rhy hwyr. Ond odd ysgol yn Rhydaman (sai’n cofio’i enw e nawr) ond ysgol fach, fach odd hi, dim ond neud commercial subjects, och chi’n neud shorthand, typing, bookkeeping, English a Maths a ethes i fan’na am flwyddyn.

Mae Averil yn cofio mynd lan gyda’i mam a’i ffrind Ann Lloyd o Efail-wen gerllaw ar y bys i Rydaman a chafodd gyfweliad gan y brifathrawes. Bu hi yno am flwyddyn gyfan – ‘On i’n dwlu arno fe. Och chi’n gorffod mynd mas i gino .. dim school dinners …’

Pan oedd ar ei hail flwyddyn, pan oedd hi eisoes wedi cael rhai tystysgrifau arholiad – RSA (Royal School of Arts), neu LCC London Commercial College neu rywbeth, ond pan oedd hi gartre dros y Nadolig roedd ei Mam:

‘yn mynd mlân a mlân achos bo ni’n gorffod talu am yr ysgol - ethes i a’n satchel un bore Llun – on i fod i fynd nôl i’r ysgol... (Gofyn a ydw i eisiau recordio’r hanes hwn…) achos o’n ni’n byw mor bell roedd wastad ffrindie gyda ni lawr fan ‘na – och chi’n gallu gadel bags lawr yn tai cownsil y Bont’ (felly gadawodd ei bag yno a byddai’n ei gasglu ar y ffordd nôl). ‘A on i wedi câl llond pen, llond ceg o’n fam yn conan, so jwmpes i ar y bys a ethes i i’r Youth …. Employment Exchange yn Pontarddulais, pan ethes i miwn (na ewn yntefe!)

6.08

‘Yes,’ wedodd e ‘What can I do for you?’

‘I want to work please’ wedes i ‘and I want to work as a typist – a shorthand typist’

‘Well’ wedodd e ‘funny thing, we’ve just had a job come through today from Lightning Zip Factory in Waunarlwydd’.

Wel i fi – on i ddim yn gwbod ble ddiawl odd hwnna, chmbod.

‘Can you explain to me where to go and how to …’

‘Yes’ wedodd e, ‘walk from here (a yn Pontardulais Road odd hwn – lan ar y top ar bwys y siop, chwel) – walk down to the bus station, you’ll catch a number 5 (na number six) over to Gowerton, you’ll change in Gowerton and catch a number 17 and you can ask them to drop you by the ICI.’

Wel, on i ddim yn gwbod ble on i’n mynd – odd dim amcan ‘da fi. A’r arian odd ‘da fi odd ‘n arian cino i, reit. So ethes i, des i off y bys, gerddes i lawr i’r ffatri – ffatri weddol newydd. Odd hi wedi dachre – wedi dod o Birmingham, wedi dachre yn Upper Bank yn Landore a wedyn – fi’n credu geson nhw grant, i agor hwn a odd lot yn dod o fan’ny ond on nhw ishe office girl. A na beth wedodd e wrtho i, ‘If you start there and you can work your way up if you work hard.’

A dyna fu. Cafodd hi’r swydd ac roedd hi’n dechrau am naw ac yn gorfod dala bys yn y Bont, a newid yn Gorseinon. Bu’n gwneud hyn am tua dwy-dair blynedd. Dechreuodd yno yn 1954 ac mae’n cofio’r dyddiad oherwydd:

‘… Fi’n cofio ethes i a’n fam a’n whiorydd, trip ysgol y Bont nawr, ethon ni i’r Festival of Britain yn Llunden, … a odd hwnna yn nineteen fifty one, ar ôl - nineteen fifty two buodd y brenin farw, a nineteen fifty three odd y Coronation a nineteen fifty four, dechreuodd Averil witho, a fi wedi gwitho ers hynny, er fi wedi enjoio fe cofiwch, ma’n rhaid i fi weud y gwir.’

8.15

Roedd ei mam ‘yn wyllt’ pan sylweddolodd hi beth oedd Averil wedi’i wneud. Ei mam a’i thad am nad oedd wedi gwneud beth odd hi i fod i’w wneud.

‘On nhw ddim yn mindio bo chi’n mynd i witho mewn ffatri?’

‘O nag on.’

Ei phae cyntaf oedd £1 19s 11d am wythnos o waith a chafodd yr un peth am fisoedd. Yna cafodd pay slip un diwrnod ac roedden nhw wedi tynnu deg ceiniog oddi wrthi am tax, ‘Wel, on i’n flabbergasted! – 10 cinog!’ Ond wedyn, ychydig o fisoedd yn ddiweddarach cafodd ei gwneud yn staff member, yn cael ei thalu bob mis ac agor cyfrif banc – lyfli!

Roedd ei thad yn golier a’i mam ddim wedi gweithio ar ôl priodi. Cyn hynny, roedd hi’n gwasanaethu yn nhy rhyw bregethwr yn Llundain gyferbyn â St Martins’ in the Fields. Averil oedd yr hynaf yn y teulu ‘so, chi’n gweld, on nhw gyd yn dilyn fi!’, wedyn roedd Lena ei chwaer arall hi – aeth hi ‘achos bo fi wedi pigo gyts lan a mynd i witho’, unwaith gorffennodd hi’r ysgol aeth yn syth i weithio yn y ffatri heb ofyn i’w mam na dim byd. Cafodd hi jobyn yn syth. Roedd ei chwaer Gwennie yn cael ffits, yn dilyn cwympo allan o high chair a gan mai flagstones oedd ar lawr eu ty ffarm, aeth hi’n unconscious a chysgu am tua 72 awr, ac ers hynny mae wedi bod yn cael ffitiau. Mae’n dal yn fyw. Cred i Lena fynd i weithio i ffatri Hodges a Beryl ei chwaer arall i Lamas Jamas yn Fforest Fach (NODER nad yw hyn yn gywir – yn Hodges bu Beryl yn gweithio – gweler ei chyfweliad VSW050).

Dim agwedd yn y teulu fod gwaith ffatri ddim cystal. Roedd ei thad yn dwlu ar waith ffarm hefyd a’i gwr wedyn ond doedd dim llawer o arian mewn gwaith o’r fath.

12.00

Cafodd gyfweliad ar gyfer gweithio yn Lightning Zips. Ddim yn gallu cofio beth oedden nhw wedi holi nac am beth roedden nhw’n chwilio. Roedd ‘certificates’ ganddi ond doedden nhw ddim arni’r diwrnod hwnnw. On nhw’n gwybod ei bod yn gallu teipio a gwneud tamed bach o shorthand ond ‘yn y ffatris da, a odd Lightning Zip Factory yn un o’r rhai gore rownd ‘ma, och chi’n cal mynd i’r coleg neu i’r tech. unwaith yr wythnos, ta beth och chi’n moyn neud – os och chi’n gwitho ar y ffactri floor, yn service girl, ar y machines, on nhw gyd yn gorffod cal diwrnod off a mynd i tech. a neud – odd rheini fi’n credu yn gorffod neud Saesneg a Mathemateg … basic’. On i’n neud Saesneg, Mathemateg a cario mlân gyda Shorthand a Typing. … Odd e’n marvellous, marvellous.’

Y cwmniau oedd yn gwneud hyn odd ICI, British Steel, GPO – Electricity Board. Odd Lightning Zips yn dod o dan ICI – daeth y cwmni yno o Birmingham. Dim ond zips oedd yn cael eu cynhyrchu yn y ffatri.

‘Fi’n cofio terylene zips yn dod mas, ... rhai neilon, terylene a dath y Director lawr o Birmingham i siarad ‘da ni yn y gwaith.’

(stori am weld y Director ymhen blynyddoedd wedyn yn Birmingham a’i adnabod – pan oedd ei mab. Ian, yn cael ei radd yn y Brifysgol yno.)

Mae’n cofio chain zips yn cael eu gwneud yn y gwaith hefyd. Roedd peiriannau yn y gwaith yn torri tsaeniau lan yn ddannedd (teeth) a menywod yn dodi nhw gyda’i gilydd – fuodd hi ddim yn gwneud y rhain gan ei bod yn y swyddfa, ond roedd ffrindiau ganddi yn y ffatri.

Dim gwisg arbennig i fod yn y swyddfa – ‘Odd dim lot ‘da fi i gâl’. Cael gwisgo beth och chi’n moyn ac yn y ffatri ond odd y merched yno i gyd yn gwisgo overalls i gadw’u dillad yn deidi. Eu overalls nhw’u hunen odd y rheini – nid rhai’r ffatri.

14.31

Roedd hon yn ffatri bron yn newydd yn Waunarlwydd ac felly yn lân.

‘beautiful, beautiful – y staff toilets, workers’ toilets yn sheino – cleaners miwn dim ond i neud hynna. … unrhyw un odd yn dod ‘na, odd neb byth yn gadel, oni bai bo nhw’n mynd i gâl babis; pyrny odd pawb yn sefyll gartre gyda’ch plant – och chi ddim yn mynd i witho ar ôl câl plant fel ma nhw’n neud nawr.’

Yn y dechrau roedd hi fel messenger girl yn y swyddfa, rhedeg a mynd â’r mail i bobol. Odd swyddfeydd yn y ffatri felly roedd yn rhaid mynd trwy’r ffatri i fynd o un swyddfa i’r llall – i’r dispatch office. Yn y ffatri hefyd roedd ‘nyrs lyfli’ ac ambulance room - os byddech chi ddim yn hwylus neu yn dost, odd 3-4 gwely yna. Odd y nyrs yn qualified sister – a os bydde cwt bach ‘da chi a neb yn fodlon edrych arno gartre – yna mynd ag e i mewn at Sister Jones a byddech chi’n reit. Roedd hi’n llawn amser yn y gwaith.

Oriau gwaith 9 tan 5; ond 9 tan 4 ar ddydd Gwener. Dim shifft nos – fu hi ddim yn gweithio ar shifft nos (dim ond yn Securicor yn ddiweddarach).

Yn byw ym Mhontarddulais pan ddechreuodd hi yno – lan ar ben y mynydd.

‘Rhedeg lawr o ben y mynydd i ddal y bys – o Bont i Gorseinon, wedyn o Gorseinon i Gowerton a o Gowerton i Waunarlwydd.

Roedd digon o fysys i gael a deg munud rhwng bob un – digon o amser i newid o un i’r llall. Ar y ffordd adre – roedd hi’n gallu dal bws y ffatri oedd yn teithio i’r Bont gyda’r gweithwyr – felly ddim yn gorfod newid bysys. Dim talu i fynd ar fws y gwaith.

I ddod i’r gwaith bysys yn dod o St Thomas, Fforest fach, y Bont, Gorseinon, Tre-gwyr erbyn hanner awr wedi saith, ond gan ei bod hi’n dechrau am naw doedd hi ddim yn gallu mynd ar y bws hwn, ond roedd yn gallu mynd adre arno.

Amcanu bod tua 250 o fenywod yn gweithio yn y ffatri – lot fawr ohonyn nhw yn dodi’r zips at ei gilydd, dynion yn y chain department yn dodi dannedd y zips yn barod o’r wires, dynion yn y paint shop – dim menywod yno; dau fforman yn y dispatch+ 3-4 dyn yn cario’r bocsys ar ôl i’r merched eu pacio i’r loris oedd yn dod i mewn bron bob dydd a mynd â’r stwff i ’66 North Road, Leeds’ oedd un consignment ac i Chiswick? na Brentford’. Merched odd yn dodi’r labeli arno.

Ar ôl i Averil fod yno am dipyn cafodd ei symud i’r dispatch department ‘enjoies i hwnna. Och chi’n teipio invoices trwy’r amser ac wrth gwrs, beth bynnag oedd yr invoice, oedd hwnna’n gorfod matcho’r bocs cyn bod hwnna yn mynd at y lori a pethach fel’na’.

Rhwng bod yn messenger girl ac ar dispatch bu hi’n gweithio yn teipio yn y swyddfa yn gwneud orders fwya, yn y production line.

20.19

Roedd hi’n cymysgu tipyn gyda’r merched ar lawr y ffatri. Doedd hi ddim yn meddwl bod ei ffrindiau hi oedd ar y llawr yn meddwl ei bod hi mewn swydd uwch na nhw, ond ‘falle bod tamed bach bach’ o hynny yn wir. Cafodd y Manager a’r Deputy Manager eu hala lawr o Birmingham – cawson nhw dai (cyngor?) yn gloi achos bo nhw yn y jobyn yna, Mr Butcher oedd enw’r Manager a Mr Graves oedd y Deputy. Roedd merch Mr Graves yn gweithio yn y swyddfa yn yr ICI mawr.

Roedd hi’n gweithio yn y dispatch pan gaeodd y ffatri lawr. Bu hi’n gweithio yn Lightning Fasteners tan tua 1961-2; priododd hi yn 1959 ac roedd hi’n gweithio yn y Zips; ond ar ôl bod yn briod tair blynedd cafodd chwech ohonynt eu symud (fi a Glenys – odd Glenys yn widw, odd, a pwy arall ath?’ Aeth tair ohonynt i’r ICI mawr ac aeth tair arall i’r titanium factory – roedd hon wedi agor erbyn hyn. Yn yr ICI mawr ammunitions on nhw’n neud adeg y rhyfel – odd camouflage gwyrdd a llwyd dros y bilding mawr. Gwneud steel on nhw pan aeth hi i weithio yna – ingots a slabs a’r casting shop yn rolio a rolio nhw nes bo nhw’n dene. Dynion oedd yn hon ran fwyaf – dim ond cwpwl bach o fenywod oedd yna. Cwpwl bach o fenywod yn yr ICI – yn yr inspection department, lot o ferched yn y swyddfeydd a’r un peth yn yr extrusion mill – merched yn y swyddfa a dynion a dynion yn y gwaith ei hunan.

Yn y Lightning Zips ar lawr y ffatri roedd hanner a hanner y supervisors yn ddynion/menywod. ‘Ond odd e mor neis chwel, odd rhan fwya yn galw nhw ‘da’u enw cynta.’ Nid Miss Howells ond Elaine ….

23.33

Newidiodd gwaith y ffatri tra bu hi yno o wneud chain zips i terylene / nylon zips – na fel on nhw’n gwella. ‘A fi’n cofio trouser zips yn dod mewn. Achos trouser zip mae e’n straight  am sbel a ma curve ar y gwaelod er mwyn i chi gallu gwnio fe mewn yn deidi i’r trowser.’ …

Odd defnyddie’n brin … yn y cyfnod o’ch chi ‘na yn 1954.. ?

Na, on i’n cal popeth lawr o Birmingham, ‘na’r head office … ond wedi ‘ny wi’n siwr bo ni wedi cal grant da’r Swyddfa Gymreig neu ta beth odd e – ne’r Government a wedyn, achos ar ôl bod ‘na am sbel decidon nhw bo nhw’n caead e. A odd neb yn gwbod pam on nhw’n caead e.

Caewyd y ffatri zips yn gyfangwbl tua 1962. Ac anfonwyd popeth nôl i Birmingham. Doedd neb yn gwybod beth oedd y rheswm dros hynny. Cred Averil iddyn nhw drin y gweithwyr yn dda ar yr adeg hynny. Achos roedd dwy ffrind iddi (mae’n dangos llun un ohonyn nhw – flynyddoedd yn ddiweddarach) – ron nhw’n mynd i seino ar y dôl achos bo nhw wedi cael eu gwneud yn redundant, a wedyn yn mynd i’r Dragon (gwesty crand) am de! (cyfeiria at y lluniau eto).

‘Amser on ni’n gwitho ‘na, dechreuon ni fynd mas amser Nadolig. A fi’n credu on ni’n naw merch yn mynd ‘da’n gilydd. … odd rhain i gyd yn y swyddfeydd … a deceidon ni bo ni’n mynd mas bob Nadolig i rywle neis. Cantîn lyfli yna, ‘Music while you work’ a ‘Workers’ Playtime’ arno, bwyd lyfli yn y cantîn; a achos bo fi ddim yn gallu mynd ‘da nhw pan on nhw’n mynd i’r Dragon, achos bo fi’n gwitho, deceidon ni gwrdd bob mish. Wel nawr te, o 1962 mlân, ni wedi cwrdda bob mish, nes - a ni still yn cwrdda nawr, a ni lawr i ddwy. Ond dyn ni ddim yn mynd nawr cweit bob mish, ni’n mynd bob hanner tymor. …

Odd tamed bach o ddrygioni chmbod, yn mynd mlan yn y ffatri …?

Amser Nadolig, odd.

Cred Averil eu bod nhw’n chwarae triciau ar ferched newydd ond doedd hi ddim yn gwybod beth oedden nhw. Chafodd hi mo hynny ei hun, ond mae’n cofio merched yn dweud eu bod yn eu hela i ercid pethach. Neu hela’r bechgyn ifanc – roedd service boys – gyda nhw hefyd – eu hanfon nhw i’r stores i ofyn am ‘pound of this’ – pethach nad oedd modd eu cael …

A on nhw’n mynd ond on nhw?, achos y peth yw, flynydde nôl, os odd rhywun yn gweud wrthoch chi am neud rhywbeth, och chi’n neud e, dim argiwo fel man nhw’n neud nawr.’

Bechgyn tua 15 oed fyddai’r rhain – a merched hefyd.

Odd ofon rhai merched arna i yn y ffatri.

Pam ‘ny?

O, on nhw mor ffit a gas – w – ych-a-fi. Yn byw yn Tre-gwyr, rhai ohonyn nhw. … mwy ewn, mwy ffit, le on i country bumkin, yn hen ffasiwn, on nhw ddim, on nhw?

Beth odd iaith y ffatri? – achos ych chi’n Gymraes …

O Sisneg. … odd Gwyn Davies, un o’r Managers, - Dispatch Manager, odd e’n dod o

Burry Port. Odd e’n siarad Cymrâg â fi, braidd neb arall.

28.22

A hyd yn oed, odd y merched i gyd – neb ohonyn nhw.

Mae’n ansicr pa driciau oedd yn cael eu chwarae adeg y Nadolig. Sonia am y saer yn y gwaith, Mr Griffiths, ei fod wedi gwneud stand i ddal cutlery iddi a bod hwn ganddi heddiw. Fe wnaeth e hwn iddi am ei fod yn ei hoffi (nid hi ofynnodd) ‘am bo fi’n ferch neis – yn  deidi’. Sôn am ei bartner hefyd.

Odd iaith rhai o’r menywod yn fras?

Odd, odd, on i ddim yn lico fe.

Odd neb yn stopo hwnna?

Weithe bydde’r supervisor yn dweud, ‘now cut it out’ neu rywbeth fel’na.‘

Dim ond rhyw bump allan o tua cant o’r merched oedd yn siarad fel hyn – dim lot. Amser Nadolig, roedd y ffatri yn trefnu Dinner dance i’r gweithwyr ond fyddai hi byth yn mynd gan nad yw’n hoffi pethau fel yna. Roedd Christmas Party i’r plant ond doedd dim plant ganddi hi. Yn y cantîn y byddai hwnna’n cael ei gynnal.

Tua 50 o ddynion oedd yn gweithio yno. Llawer mwy o ferched. ‘A unwaith och chi wedi dod i witho ‘na, och chi’n palo lan ‘da rhywun. Sai’n gwbod faint briododd o ‘na’.

30.36

Dim tîmau pel-droed na chorau na dim byd cymdeithasol, ond odd social club a tennis courts a squash courts a pavilion lovely yna – yn ymyl y ffatri. Gallai unrhyw un eu defnyddio gyda’r nos neu ar ddiwrnod bant, neu amser cinio weithie. Ond doedd dim llawer o amser, amser cinio – hanner awr yn unig.

Yn ystod y bore byddech chi’n cael te neu goffi o troli bach yn dod rownd, ‘Odd dim arian ‘da fi, so on i wastad yn ifed dwr ne rywbeth.’ Coffee break yn y bore, hanner awr i ginio a coffee break yn y prynhawn. Roedd hi’n mynd i’r cantîn amser cinio – oedd e’n subsidised – odd e’n tshêp iawn. Roedd e’n fwyd da.

Chi YN cofio’ch payslip cynta. Beth fyddech chi wedi neud â’r arian? Och chi’n câl cadw fe, neu roi e i’ch mam?

(Chwerthiniad bach) Na’r trwbwl – roi e i‘n fam. Popeth – a bydde hi’n rhoi swllt yr wythnos, na swllt y dydd, i fi nôl am fwyd – i’n gino i, a’r arian bys i fi. Fi’n cofio wedi ‘ny cocso am ragor o arian, achos odd y merched odd gyda fi yn câl cadw’u arian, nag on nhw? A odd hi’n pallu, so (beth ‘nes i wedi ‘ny?) (Odi hwnna arno o hyd?) Wel, decides i wedi ‘ny siarad â un o’r merched fi’n cwrdda nawr (ma’r nall, Rose, wedi marw), a gweud wrtho hi bo fi ddim yn câl pyrnu dillad na dim byd, on i’n rili llwm, on i fel church mouse; ond on nhw gyd mor neis i fi ‘chwel, y bobol mor neis i fi, so deceidon ni wedyn – odd un o’r bechgyn – odd e’n mynd i’r Air Force, Gareth, a on nhw’n gweud ‘He’s worried about his mother being on her own’ (Odd hi wedi claddu’i gwr) a – pwy oedran on i pryd hynny? – undeg wyth ife?, a dyma nhw’n gweud wrth Gareth ‘Ask you mother does she want a little girl to come and live with her?’ So dâth e nôl a gweud ‘Ie’ – wel achos on i dim ond undeg wyth, ‘chwel, a dauddeg un odd yr oedran, wel odd ‘n boss i Mr Ottenbolson (?) - fi’n credu odd e’n Swedish neu rywbeth, wedodd e, ‘Listen now, Averil,’ wedodd fe, ‘I’ll get in touch with a solicitor friend of mine, and see the situation.’ On i’n gallu mynd? A dâth e nôl a wedodd e, ‘Yes’, bo fi’n gallu mynd ond i ofalu bo fi ddim yn mynd i drwbwl, neu bydde’r heddlu yn gallu hala fi gartre. On i’n meddwl ‘Nagw i’n mynd i neud ‘na boi! No way!’

Roedd y fenyw hon yn byw yn Fforest fach ac roedd hyn yn llawer mwy cyfleus iddi hi i’r gwaith, beth bynnag.

Chi’n dipyn o rebel fi’n meddwl Averil.

Wel na, circumstances sy’n hala fi’n rebel. Wel, sa i – wel gobitho i Dduw bo fi ddim, dwi ddim yn ferch sy’n moyn ‘n ffordd ‘n hunan na pethach fel ‘na, ond ma circumstances weithe – dyn nhw ddim yn reit. On nhw ddim yn reit.

Roedd Undeb Llafur yn y gwaith ond doeddech chi ddim yn cael bod yn aelod dan 18 oed. Roedd yn rhaid ymuno wedyn. O sabwynt y payslip, cred bod yswiriant yn cael ei dynnu allan ohono hefyd (+treth) ar y dechre. ‘Peth arall wonderful odd ‘da nhw (ife da nhw ges i nhw neu gyda ICI?) - och chi’n câl shares – on nhw’n rhoi shares i chi. A fi’n cofio ni ferched yn ishte – och chi’n câl nhw – on nhw tua punt neu two pound yr un, a on nhw gyd yn pregethu – ‘We’ll keep them ‘til they’re five pound.’ A unwaith on nhw’n bum punt on nhw’n mynd i werthu nhw, a wedes i, ‘Oh, I don’t know, … we’ll keep them ‘til ten.’

Mae hi wedi cadw ei rhai hi – aethon nhw lan i twelve. – Gan ei fod yn gwmni da i weithio iddo doedd neb yn moyn gadael – ‘Chmbod – neb.’ Hyd yn oed pan oedd pobol yn dod i oedran riteiro, on nhw ddim yn moyn mynd. ‘Na, odd e’n lle lyfli.’ Dim cof beth oedd enw’r Undeb Llafur ond bydde’r arian aelodaeth yn dod allan o’i phae. Cwpwl o geinioge fyddai hynny.

36.07

Fu dim un streic – ‘Byth streic’. Fu hi ddim yn swyddog Undeb ‘Sai’n lico ..’ Credu bod yr arian yn mynd i’r Blaid Lafur ond ‘Dwi ddim yn political … dwi ddim yn lico fe.’ (Sôn am Question Time – a bod pop-stars twp yn siarad fwy o sens yn aml)

Doedd y gwaith ddim yn beryglus o gwbwl. Gallasai’r chain machines fod, ond roedd guards drostyn nhw. Doedd dim Health and Safety ond roedd popeth yn deidi yna. Mae’n credu y byddai’r dynion a’r rhai newydd yn dechrau yn y gwaith wedi cael gwersi ar weithio’n ddiogel – ond chafodd hi ddim. Gyda’r chain machines och chi’n ffido wires mewn iddo fe, ond dyw hi ddim yn cofio unrhyw un yn cael accident fawr yna.

Gallech fynd at y nyrs am unrhyw beth – pen tost .. a bydde lot o’r merched yn mynd ati adeg periods. Gallech chi gael tabledi ganddi a wedyn fydde dim rhaid i chi hala arian i brynu rhai eich hunan.

Roedd y gwres yn y ffatri’n neis a’r gole yn iawn. ‘Odd enw lyfli i’r ffatri – Lightning Zip Factory, Glasnant Works, Waunarlwydd.’

Toiledau neis hefyd. Byddai ‘Workers’ Playtime arno ar y tannoy. A ‘na fe, achos on i ar y switchboard hefyd – ces i ‘nysgu hwnna – un ar ddeg fi’n credu odd Workers’ Playtime - eleven ‘til twelve, och chi’n gorffod … odd y wireless … a fi odd yn troi e arno wedi ‘ny.’ Dyma’r unig raglen oedd yn cael ei chwarae o’r radio.

Roedd y menywod yn canu wrth eu gwaith – yn aml. Dyw Averil ddim yn cofio beth oedd yn cael ei ganu – pop, na fyddai hi’n ei wybod gan ei bod yn hen-ffasiwn. Roedd y menywod yn hapus yn eu gwaith.

Roedden nhw’n gorfod gwneud y ‘Basic base rate, a wedyn on nhw’n cael bonus. Ddim yn cofio faint – ond hyn a hyn y dydd. Fu Averil ddim yng ngofal yr arian yn y ffatri o gwbl – yn gwneud y pae ond bu’n gwneud hynny yn yr ICI mawr. Byddai hi’n cael mynd ar y dechrau, bob dydd Llun i’r tech. mawr coch ar ben Mount Pleasant (Abertawe) ac wedyn agorodd Coleg Gorseinon – roedd hi’n un o’r rhai cyntaf yn y coleg hwn, - ac yn astudio Saesneg, a Shorthand Typing a Maths a Book-keeping. Y merched yn y swyddfa i gyd yn neud Saesneg a Typing a Maths.

Mi roedd swn yn y ffatri ond dim swn uchel ofnadw. Roedd y merched yn cael siarad wrth eu gwaith. ‘Ond bo nhw ddim yn stopo gwitho. Odd rhaid iddyn nhw gadw gwitho. … on nhw’n dod, … sai’n gwbod fel on nhw’n gallu neud e mor gloi, achos on nhw braidd ddim yn dishgwl arno fe. On nhw’n pigo pethach lan, y sliders (y sliders yw top .. y zip) … yr un chubby yw’r slider; pulley oedd y nall, a bydden nhw’n dodi fe .. a stampo’r mashîn lawr a hwnna’n cloi nhw ‘da’i gilydd a rhedeg lan a lawr y zip wedi ‘ny.’ Roedd yr holl ddarnau hyn wedi cael eu gwneud ar y mashîn yn y gwaith. Dyw Averil ddim yn credu bod y gwaith wedi effeithio ar iechyd y menywod ‘achos odd yr environment mor neis iddyn nhw witho.’

42.10

Dyw hi ddim yn cofio lot yn gweithio yno ar ôl cael plant. Roedd gan ei ffrind Iris (?) ferch ond roedd ei mam hi’n byw’n agos ati. Mae’n cofio Diane (y ferch) yn pasio’r scholarship i fynd i Glan-mor.

Bu Averil yn Lightning Zips tan tua 1962 ac yna symudodd i’r ICI mawr a bu yno tan iddi gael ei mab Ian yn 1967. Roedd wedi priodi yn 1959. Roedd y rhan fwya’n gadael pan yn cael eu plentyn cyntaf. Roedd yn cael gweithio tra’i bod yn disgwyl – credu eu bod yn gweithio lan i dri mis (neu chwe mis) ond oherwydd ei phwysau gwaed hi a toxaemia mor isel, ‘Fi’n cofio gweud wrth y merched bo fi’n mynd i gâl babi, (September bydde fe?) a on i wedi colli babi cyn ‘ny, a wedodd Dr Williams lan yr ‘ewl wrtho i, ‘Once you think you’ve gone, come back and see me.’ A on i mor chuffed nawr, ethes i weld e, ‘Right’ wedodd e, ‘Home to bed.’

Felly chafodd hi ddim mynd nôl i’r gwaith o gwbwl, a bu yn y gwely nes iddi eni’r babi ym mis Mai. Bu mewn ac allan o Mount Pleasant am fisoedd. Gorffennodd hi yn October 66 ond aeth ei notice ddim i mewn – dwedwyd wrthi am beidio anfon ei notice i mewn nes geni’r babi i wneud yn siwr bod popeth yn iawn. Mae’r ffatri hon yn dal i weithio yn Waunarlwydd nawr.

Cwrddodd â’i gwr, Howard, trwy ffrind yn y ffatri. Roedd hi’n service girl mas ar y sliders, ac roedd hi’n rhedeg trip i fireworks Porth-cawl.Doedd Averil ddim eisie mynd achos roedden nhw i gyd wedi paro lan, ond dwedodd y ferch y byddai Cyril yn dod gyda hi ac eistedd gyda hi. Gweithio ar fferm oedd e - ? tu fas i Dre-gwyr, dod ar ei feic ond doedd hi ddim yn ei ffansïo o gwbl. Ond yna, daeth dyn arall â push-bike ramshackle, (dim fel un Cyril), yn rili frwnt, a phenderfynodd ei fod e’n iawn! Roedd ei ffrind yn nabod Howard yn dda a chytunodd e i ddod ar y trip. ‘Odd Howard yn shei ofnadw, cofiwch – fi oedd y blabber yn ty ni.’ Teithion nhw o Dre-gwyr, bron i Borth-cawl a ddwedodd e ddim gair. Ond fel roedden nhw’n mynd i mewn i Borth-cawl dwedodd e ‘Look at those cows in the field over there.’ Ac felly y bu hi ers hynny.

Gweithio ar fferm oedd e – Rhian Fawr ? ond aeth ei gefn yn dost. Felly gofynnodd I’r Manager a allai e gael swydd yn yr ICI mawr ar y slitting machines ac yno bu e nes iddo gael y strôc. Cafodd e’r strôc pan oedd y bechgyn Ian a Paul tua 4/5 neu 3 /4 oed – (felly tua 1971) ac roedd e yn yr ambiwlans rwm a sister fan’ny, pentost oedd ganddo. Roedd Averil erbyn hyn wedi dechrau cwrs nursery nurse a chan mai dim ond un car oedd ganddyn nhw – hi oedd â’r car, a châi Howard ddim mynd adre nes bod Averil gartre. Daeth hi adre a daethpwyd ag e adre mewn works’ ambulance - hyn ar y dydd Mercher. Yna yn ystod y nos ar y nos Wener cafodd strôc ddychrynllyd. Mae’n nodi i Howard drio mynd i’r Army, a gwrthodon nhw ei gymryd e a’i anfon nôl at ei ddoctor ond wnaeth Howard ddim byd am y peth. Bu e’n yr ICI am tua 9 mlynedd.

49.12

Yn y ffatri byddai Averil yn cael pythefnos o wyliau y flwyddyn – wythnos ddiwetha July a’r cynta o Awst, heb son am ddydd Nadolig a Boxing Day a pethach fel ‘na – bron tair wythnos o wylie. Roedd y ffatri ar gau yr amserau hyn. Pawb yn mynd eu ffordd eu hunen.

Ond gyda’r rhai iau – ‘odd camp site ‘da nhw i’r youngsters dan undeg wyth a och chi’n gallu mynd … a odd e’n weddol tshêp,’ Aeth hi lan ‘na – jyst tu fas i Worcester oedd e, a chafodd bwl o appendix, felly bu hi yn yr ambulance tent, yn gorwedd fan’ny yn gwneud dim byd. Aeth tua 5-6 ohonyn nhw o’r gwaith i’r camp. Roedden nhw’n cysgu mewn tent – ac roedd hyn yn dipyn o newid iddi. Mae’n cofio nhw’n dweud ‘Come and queue up now to get your paliasses (?) – Wel – beth diawl yw hwnna? Sai’n gwbod! - … canvas mawr a man nhw’n llanw fe â gwellt a chi’n dodi shîten ar ben hwnna i chi gal cysgu arno fe.' Roedd hwn yn syth ar y llawr. Roedd tent mawr yno a phobl yn dod mewn i wneud bwyd iddyn nhw. Unwaith aeth hi yno ac roedd yn rhaid bod dan 18 i fynd yno.

Oedd yna unrhyw harassment yn y gwaith? … Ma tipyn o sôn am hyn diwrnode ‘ma.

Os, os, ond y peth yw chwel, pyrny odd pobol yn cymryd e, nag efe? Chmbod pan on i’r cerdded trwy’r ffatri bydde rhywun yn rhoi slapen ar ‘n dîn i, bydden i’n gweud ‘Keep your hands to yourself boy!’ a cadw cerdded. Chmbod fydden i ddim yn neud y ffys nawr.’

Odd ’na bobol wedyn yn pilffro o gwbwl yn y ffatri - yn mynd â zips gartre?

Odd, odd rhan fwya o’r merched fi’n gwbod, sai’n credu es i â braidd dim un – os on i’n moyn un, gelen i os bydden i’n gofyn i’r supervisor, … câl un (dim rhaid talu) .. dim ond gweud y lliw a pethach fel’na. Fi’n cofio’r rhester nawr – rhif a lliwie’r zips – … odd different rhif ‘da nhw. Ma rhai o’r merched hyn ‘da fi nawr (cyfeirio at y ffotograff) – ma nhw wedi ymddeol ers forty years, a ma still zips ‘da nhw yn y ty.’ Dyw Averil ddim yn siwr a oedd y cwmni’n gwybod fod hyn yn mynd ymlaen a doedden nhw ddim yn chwilio’r merched wrth iddyn nhw adael y gwaith. ‘Falle wthnos hyn bydden nhw’n mynd â deg, ‘chwel sech chi’n mynd â deg wthnos hyn, falle byddech chi ddim yn mynd â dim am sbel wedyn, meddwl odw i nawr, achos ‘nes i ddim o fe, a mynd â deg (zip) mewn mish, wel, gwedwch bo chi’n neud ‘na am flwyddyn, nag efe? – bydde digon ‘da chi.’ Doedd Averil ddim yn gwneud ei dillad ei hunan, achos odd Iris nawr, a bu farw llynedd yn gofyn iddi hi ‘Averil what colour zip do you want, what size do you want?’ God I don’t. .. A fi’n cofio rhai mawr yn dod miwn – rhai mawr i neud cushions … yr un lleia fi’n credu, odd 3-4 inches, a on nhw’n mynd lan i twenty eight – thirty inches.’ Roedd lliwiau gwahanol – three five five odd gwyn a three five six odd du. Fu hi ddim yn ordro ar ran y ffatri. Ond bu hi’n eu dipatcho – yn ôl yr ordor oedd wedi dod miwn. ‘Falle bydden nhw’n gofyn am deg glas ten inch a so many coch ..’ Bydden nhw’n mynd i Birmingham, Leeds, Paisley Glasgow, i ffatrïoedd oedd yn gwneud dillad a Brentford, Middlesex.

Mae’n gyfarwydd â’r termau ‘Time and Motion’ sef ‘dyn â stop watch a clipboard a shîten papur a bydde fe’n gweud nawr “Pick up … slider, neu rywbeth, and place it there …” – roedd e’n fanwl iawn am sut oedd pethe’n cael eu gwneud – bu hi’n teipo sawl un o’r reports. Oedd e’n gweud pob peth odd ishe’i neud – yn gwmws. Bydden nhw’n amseru pob peth ‘ac os odd e’n meddwl bo chi’n loetran bydde fe’n dweud “You can take two minutes off that, you can do that a bit .. fel ‘na.” Roedd pedwar ‘time and motion’ dyn gyda ni – mwy yn yr ICI achos odd e’n lle mor fawr.’

55.30

Doedd dim perks i’r gwaith. Roedd cinio Nadolig a amser Pasg bydden nhw’n cael cwpla’n gynnar ar ddydd Gwener y Groglith ‘Fi bob amser wedi gwitho ar ddydd Gwener y Groglith … ond fi’n cofio mynd a naethon nhw decido neud cyngerdd jyst mas o’r bobol odd yn gwitho yn y ffatri – a na pryd ych chi’n câl sioc, nag efe? Bernice Evans, o Mount Pleasant odd hi’n byw – odd llais contralto mwya hyfryd da hi. Brenda Davies, nawr, odd hi’n canu. … fysech chi’n gweld nhw byddech chi’n meddwl “Allith hon ddim neud lot” ond odd talent ‘da lot ohonyn nhw, ond nag odd e’n mynd yn bellach. …Dyle’r ddwy ‘na fod fel opera singers dim gwitho mewn zip factory, chmbod.’ Cawson nhw sawl cyngerdd fel hyn. Y works council oedd yn trefnu hyn. Byddech chi’n foto am berson i gynrychioli’ch department chi ac mae’n credu mai’r Manager oedd y Chair person, a bydden nhw’n gweud os bydde ishe i ni neud rhywbeth yn well, neu ishe rywbeth arnon ni. Fu Averil ddim ar hwn o gwbl. Doedd hi ddim ishe bod arno. ‘On i’n rhy dwp, bydden i ddim wedi gallu neud e.’

Aeth hi ddim nol I’r ffatri ar ol geni’r bechgyn – byddai wedi hoffi hynny ond erbyn hynny roedd Dorothy Neyland wedi dweud wrthi am fynd i wneud gwaith meithrin (gyd phlant bach) – fel arall bydde hi wedi hoffi gwneud hynny.

Beth yw’r atgofion mwya sydd gyda chi o fod yn gwitho yn y ffatri?

Hapusrwydd, a mae’n rhaid i fi weud, ta ble fi ‘di gwitho, sa i ‘di gwitho yn llawer o lefydd, ta ble fi wedi bod, fi wastad wedi gwitho gyda pobol neis, neis, neis, yn y Zip ffatri, na fe – Glenys ‘n ffrind i, (Nag yw hi yn y llun ‘na) mae gyd o nhw wedi bod yn hyfryd i fi, ond fi’n credu, on i mor llwm a mor dwp – na ddim yn dwp, ond on i mor llwm a bechingalw fe, on nhw’n dishgwl ar ôl fi.’

Mae’n son hefyd sut yr helpodd y Rheolwyr hi pan oedd hi’n symud oddi wrth ei rhieni. Gofynnodd i’w Boss ‘Can I tell my parents I’m working tomorrow morning?’ am fore dydd Sadwrn chwel, ‘Yes’ medde fe ‘Come in and then go to Forest fach.’ So gadawes i’r ty a on nhw’n meddwl bo fi’n mynd i’r gwaith … ethes i i’r gwaith, nag on i’n gweud celwydd, ond ethes i ddim nôl. Ethes i’n straight i Fforest fach. Wel y dydd Llun ‘ny wedi ‘ny ... on i wedi hala llythyr … iddyn nhw gâl gwbod bo fi’n saff, .. odd yn whiorydd yn gweud wrtho i wedi ‘ny – on nhw’n mad! A odd Howard ddim yn gwbod dim byd, achos on i’n meddwl – fe gaiff y bai yntefe? .. Fi’n cofio gweud wrtho fe – on i’n gweld e nos Fercher a nos Sadwrn, fel ‘ny odd hi bryd hynny yn tefe? “Well i fi gwrdd â ti yn Gorseinon ‘te, yn lle bo nhw’n dod i’r Bont i ercid fi chwel. .. That was rather exciting!’

Dim ond os bydde stocktaking bydde hi’n gweithio ar ddydd Sadwrn – yr amser yn dibynnu ar faint o waith oedd yna. O safbwynt ei chyflog – mae’n cofio pan aethon nhw i brynu’r ty, amser odd Howard yn gwitho ar ffarm, roedd ei gyflog e yn bum punt – chwech punt, - ond

roedd ei phae hi yn fwy na’i un ef (tua £8?). Roedd hynny yn October nineteen sixty two.

http://www.lleisiaumenywodffatri.cymru/uploads/VSW034.2.pdf