Rita Davies & Meirion Campden. Lleisiau o Lawr y Ffatri
Eitemau yn y stori hon:
Enw: Rita Davies (nee Woolley )
Dyddiad Geni: 29.10.31
Enw: Elizabeth Blodwen Meirion Campden (nee Jones )
Dyddiad Geni: 10.8.35
Rita
Cafodd Rita ei magu yn Garreg Wen, Bryndiodde, Castell Newydd Emlyn. Buodd yn byw yno nes ei bod hi’n saith mlwydd oed ac yna symudodd y teulu i Aberarad. Buodd yn byw yno nes ei bod hi’n priodi yn ddau ddeg a dwy mlwydd oed. Roedd ei thad yn gweithio yn ffatri laeth Cow & Gate yn Castell Newydd Emlyn. Buodd ei mam yn gweithio fel glanhawraig yn Ysgol yr Eglwys yng Nghastell Newydd Emlyn wedi i’w phlant dyfu’n hyn. Roedd hi a’i chwiorydd yn mynd i’w helpu. Roedd yn un o ddeg o blant (buodd un farw’n fabi). Rita oedd yr hyna o’r pedwar lleiaf. Buodd i Ysgol Atpar, Sir Geredigion. Gadawodd yr ysgol yn un deg pedwar mlwydd oed. Roedd yn edrych ymlaen at adael yr ysgol.
Meirion
Ganed Meirion yn Saron. Roedd ei thad yn gweithio ‘ar yr hewl’. Cafodd ei anafu yn ystod y rhyfel ac felly nid oedd yn rhwydd iddo i weithio. Rita oedd yr hena o dair chwaer. Buodd yn yr ysgol ym Mrynsaron a gadawodd yno yn un deg pedwar. Teimlai’n barod i adael yr ysgol.
Roedd gan Rita fodryb yn gweithio yn ffatri Glanarad (“y Pandy”) a dywedodd ei mam wrthi am fynd i weithio gyda’i modryb. Aeth i weithio yno’n syth o’r ysgol a buodd yno tan iddi briodi (yn 22 mlwydd oed). Bu adref am dair blynedd yn gofalu am famgu ei gwr wedyn, ond aeth yn ôl i weithio’n y ffatri ar ôl hynny.
Roedd Meirion yn awyddus i fynd i’r ‘ffatri wnïo’ ar ôl iddi orffen yn yr ysgol. Dechreuodd Meirion yno tua dwy flynedd ar ôl Rita. Dywedodd Rita ei bod hi’n edrych ar fynd i ffatri fel arwydd ei bod yn dod i oedran, er taw plentyn oedd hi ar y pryd. Teimlai Meirion nad oedd llawer o ddewis ond mynd i’r ffatri. Y Glanarad Shirt Factory oedd enw’r ffatri’n swyddogol. Roedd ffatrïoedd gwlan i lawr ym Mhentrecwrt ond roedd Rita’n byw’n rhy bell oddi wrthynt i fynd i weithio ynddyn nhw. Roedd yn well gan Meirion fynd i’r ‘ffatri wnïo’ na’r ffatri wlan (a oedd yn gwneud carthenni.)
00.06.40: Mae Rita’n cofio mynd yno am y tro cyntaf a gweld y merched i gyd yn edrych arni, ond daethant yn ffrindiau mewn amser buan. Roedd tua tri deg yn gweithio yno ar y pryd. Roedd nifer o beiriannau yno a merched yn eistedd wrthynt, pob un a’i pheiriant. Roedd Johnny Morgan, ‘y bos’ yn cerdded o gwmpas. Enoc Davies oedd yr un a dorrai’r crysau allan. Merched oedd yn gweithio yno, ond daeth un bachgen atynt rhai blynyddoedd yn ddiweddarach i ddysgu’r gwaith o dorri allan ond buodd e ddim yno’n hir. Merched ifainc a ‘hen’ fenywod oedd yno. Roedd yn ffatri a oedd wedi’i sefydlu ers sbel cyn i Rita ddechrau yno.
Roedd ‘y fenyw fach’, Miss Young yn dangos i’r merched newydd beth oeddynt fod gwneud. Roedd ganddi ddigon o amynedd gyda’r merched, a byth yn rhoi ‘row’ iddynt. Un o Drefach, Felindre oedd hi. ‘Hemo’ oedd y job cyntaf byddai’r merched yn gwneud. Dim ond crysau gwlanen oedd y ffatri’n gwneud, ac ambell waith byddent yn gwneud crysau cotwm. Roedd y crysau gorffenedig yn cael eu danfon i bob man er mwyn cael eu gwerthu. Roedd warws JT Morgan yn Abertawe yn un o’r mannau gwerthu ar gyfer y crysau. J T Morgan oedd y perchennog. Yn anamal iawn y byddai ef yn dod i lawr o Abertawe i ymweld â’r ffactri. Ei frawd oedd yn ‘fos’ arnyn nhw yng Nghastell Newydd Emlyn. Hanner coron neu bum swllt oedd y cyflog pan ddechreuodd Rita. Roedd Rita’n cerdded i’r gwaith a Meirion yn dal y bws. Tua chwarter awr i ffwrdd o’r ffatri roedd Rita’n byw.
Roedd gwaith yn y bore’n dechrau am wyth o’r gloch ac yn gorffen am bump i Rita. Roedd yn cael tri chwarter awr o egwyl i ginio a byddai’n mynd adref. Byddai’n cael ‘dished o de’ am dri o’r gloch y prynhawn. Nid oedd brêc yn y bore.
Roedd Meirion yn mynd â chinio i’r gwaith. Byddent yn cael te am ddim yn y gwaith. Pan ddechreuodd hi’n y gwaith ymgyfarwyddo gyda’r peiriant oedd y cam cyntaf. Ar ôl hynny byddai’n gwnïo hems, ac yna’n gwneud y crysau. Roedd yn ennill hanner can ceiniog fel ‘flat rate’ ar y dechrau, ac ar ôl dod yn gyfarwydd â’r gwaith yn ennill arian ar sail gwaith ar dasg (piece work). Roedd y cyfnod hyfforddi hwnnw yn cymryd mis. Ar ôl hynny byddai’n ennill dwy i dair punt yr wythnos.
Mam Rita oedd wedi cael swydd iddi trwy fynd i ofyn i Johnny Morgan. Roedd ei Anti May wedi bod yn gweithio yno ers blynyddoedd a chred Rita bod hyn wedi ei helpu i gael y swydd. Hi oedd yn gwneud dillad i Rita pan oedd hi’n fach.
Roedd mam a thad Meirion yn nabod Miss Young (yn perthyn o bell) ac aethant i lawr i siarad â hi, a dyna sut cafodd hi waith yn y ffatri. Nid oedd angen cael cyfweliad neu unrhyw fath o brawf cyn cael gwaith.
Roedd Rita’n hapus ei bod yn gweithio’n 14 mlwydd oed, er mwyn iddi gael arian i roi i’w mam. Roedd Rita yn rhoi ei chyflog i gyd i’w mam, ac yna’n cael hanner coron o arian poced yr wythnos. Arian poced byddai Meirion yn cael hefyd. I’r sinema roedd y ddwy ohonynt yn mynd pan oeddynt yn mynd allan. Byddai Meirion yn cerdded yno (i Drefach, Felindre) er mwyn peidio gorfod talu arian bws, ac weithiau byddai’r offer yn yn sinema yn torri lawr.
Roedd y ffatri yn eithaf swnllyd achos y peiriannau ond daeth Rita a Meirion yn gyfarwydd â hyn yn gyflym. Pan gafodd y ffatri ei chymryd drosodd gan Croydon Asbestos roeddynt yn gwrando ar y ‘wireless’ wrth wneud eu gwaith.
Nid oedd y merched yn cael siarad wrth weithio. Roedd Johnny Morgan yn cerdded o gwmpas ac yn bwrw’r merched ar eu pennau os oeddynt yn siarad. Yn ôl Meirion roedd yn pinsho hefyd, ac nid oedd pwynt ateb yn ôl – roedd yn rhaid iddynt wrando.
00.16.35: ‘O’dd parch ‘da chi ato fe.’
Tyllau ar gyfer botymau buodd Rita yn gwneud fwyaf ar y ‘mashin bwtwn’. Roedd yn mwynhau’r gwaith yma achos roedd yn golygu nad oedd yn gorfod bod ar ‘piece work.
Roedd Meirion yn ‘gwneud y cryse’ – gwneud y gwddf, hemo, y llewysau a’r cyffs. Hemo roedd hi’n mwynhau gwneud fwyaf, achos bod e’n rhwyddach.
Er mwyn cofnodi faint o waith roedd y merched wedi’i wneud roedd ganddynt lyfr. Daeth byth dynion yno i weithio. Dros y blynyddoedd roedd y nifer o weithwyr wedi gostwng o 30 i 10. Ar ôl J T Morgan, cymerwyd y ffactri drosodd gan Myfanwy Product o Gorseinon a dillad doliau oedd yn cael eu gwneud ar y pryd, ac roedd y cyflog yn dda. Aeth y perchennog yn dost a chymerwyd y ffactri drosodd eto – y tro hwn gan Croydon Asbestos. Unwaith eto, roedd y merched ar ‘piece work’ a chafodd y merched wybod nad oeddynt yn gwneud yn ddigon da yn gwnïo’r menyg lledr i fod ar ‘piece work’. Newidiwyd y peiriannau i beiriannau diwydiannol.
Yn ogystal â dilliad doliau buon nhw hefyd yn gwneud sioliau Cymreig i Myfanwy Products. Tua dwy neu dair blynedd parodd y fenter honno. Pan ddaeth Croydon Asbestos yno, daeth tua dwy neu dair mwy o ferched i weithio yno. Aeth rhifau’r gweithwyr lawr – achos nid oedd y gweithwyr yn hoffi’r gwaith, yn ôl Rita. Roedd gwnïo’r lledr yn waith caled, trwm. Roedd yn well gan rai merched weithio’n y ffatri laeth cyfagos, neu mewn siopau oherwydd bod y gwaith yn ysgafnach, er nad oedd yr arian yn fwy yn y llefydd yma.
Nid oedd undeb yn y ffatri, na sôn am unrhyw broblemau. Roedd Rita a Meirion yn ‘hapus’ gyda’u hamodau gwaith.
Golau trydan hir (‘strip lights’) oedd yn goleuo’r ffatri. Roedd hi’n gallu bod yn oer yno, yn enwedig yn y boreuau. Roedd gwres yno – stôf lawr llawr yn twymo’r pibau – ond roedd y ffatri yn un eithaf fawr. Ambell fore nid oedd y pibau wedi twymo digon ond dywedodd Rita, ‘o’n i’n dod i ben â hi’. Gwisgai Rita a Meirion trowsus i’r gwaith, yn arbennig yn y gaeaf achos yr oerfel. Nid oedd gwisg yn cael ei darparu o gwbl. Nid oedd y gwaith yn frwnt fel y cyfryw, ar wahan i fflwff yn mynd ar y dillad, ac roedd y merched yn gyfrifol am gadw eu peiriant a’u lle eu hunain yn lan. Ar ddydd Gwener, roedd y merched yn cael stopio gwaith awr yn gynt er mwyn cael amser i lanhau’r peiriannau. Roedd y merched ifainc yn glanhau’r peiriannau ar gyfer y rhai hyn, oherwydd nid oedd y merched hyn yn gallu mynd lawr ar y llawr. Roedd y rhai hyn hefyd yn helpu’r rhai ifanc. Mae Rita yn cofio hyn – Mrs Tomos Pentrecagal yn gwnïo crys fach ychwanegol i Rita er mwyn iddi er mwyn iddi gael ‘pai bach neis i fynd gartre’.
00.27.10: ‘O’dd yr hen fenywod bach yn dda.’
O ran y diwrnod gweithio, dywedodd Meirion y byddai’n cymryd ei lle y tu ôl i’r peiriant wnïo a byddai pob dim yno’n barod iddi sef y darnau ar gyfer y crysau, a byddai ‘penne lawr drw’r dydd’. Bydden nhw’n cael ‘clonc fach’ amser cino – pob un o gwmpas y ford.
Fel Glanarad roedd y ffatri yn fwy strict. Roedd Mr Morgan a’i wraig, Mrs Morgan yn gweithio yno. Roedd hi’n gwnïo ac yn cadw llygad ar y merched.
Dywedodd Meirion amser roedd y ffatri o dan reolaeth Croydon Asbestos cafai’r merched deg munud o frêc yn y bore, hanner awr i ginio a deg munud o egwyl am dri o’r gloch hefyd. Roedd y peiriannau yna’n fwy swnllyd na’r rhai a ddefnyddiwyd gan Glanarad.
Dywedodd Rita ei bod hi’n arfer gorffen y gwaith pan ddechreuodd hi yna gynta am bump o’r gloch. Yna newidiwyd yr amser gorffen i chwarter i bump, a nos Wener am hanner awr wedi pedwar.
Dywedodd Meirion pan ddechreuodd weithio yno’n gyntaf dim ond dydd Nadolig a Gwyl San Steffan roedd hi’n cael i ffwrdd o’r gwaith. Roedd hi’n gorfod gweitho ar Ionawr y cyntaf. Ond gydag amser newidiodd hyn.
00.29.46: Dywedodd Meirion am y rheolaeth yn Glanarad, ‘Roedd yr oes bryd ‘nny mwy strict na nawr. Ma’r bosys nawr, y blynydde diwetha hyn yn gorfod watsho beth ma’ nhw’n gweud wrth y staff. Ma’ pethe wedi altro.’
Er eu bod yn strict teimlai Rita a Meirion eu bod yn gyflogwyr teg. Cawsant anrheg ganddynt bob Nadolig. Roeddynt yn cael dewis o warws J T Morgan yn Abertawe (roedd y warws hefyd yn gwerthu i’r cyhoedd), ‘rhyw pîlyn o ddillad’ oddi ar restr y cwmni. Hefyd, roedd trip gan y gwaith bob mis Mehefin i Llandrindod. Mae Rita’n cofio cael ffrog fel anrheg. Mae Meirion yn cofio cael sgert, ymbrela, a bag.
Ar y trip i Landrindod roedd y cwmni’n talu am y bwyd. Ar ôl cyrraedd Llandrindod byddent yn mynd i gael te. Cawsant ginio tri chwrs amser cinio, a chael ‘dished o de’ cyn dod adref. Roedd y prynhawn off ganddynt i wneud fel yr hoffent. Roedd llyn yno gyda chychod arni.
00.32.16: Dywedodd Rita, ‘O’n i fel gwydde yn gwichan (ar y cychod).’
I Landrindod oedd y trip bob blwyddyn, ond un flwyddyn aethant i Gastell Nedd.
J T Morgan a Johnny Morgan oedd yn trefnu ac yn talu am y trips. Roedd y cwbl yn ystod y trip yn rhad ac am ddim i’r gweithwyr. Nid oedd parti na dawns amser Nadolig trwy’r gwaith, ond roedd y merched yn trefnu rhywbeth eu hunain i rywle fel y Coopers yng Nghastell Newydd Emlyn.
Mae Rita a Meirion yn pwysleisio pa mor hapus roeddynt yn gweithio’n y ffatri.
Mae Rita’n credu oedd gwneud y tyllau ar gyfer y botymau’n eithaf rhwydd.
Nid oedd Rita na Meirion byth yn prynu dim byd o’r ffatri. Roedd siopau’n dod i ôl cynnyrch o’r ffatri, a siopau’n archebu hyn a hyn o grysau.
Fynycha byddai merched yn gorffen gweithio’n y ffatri pan roeddynt yn disgwyl babi, ond deuai rhai ohonynt yn ôl ar ôl geni os oedd ganddynt rywun i warchod y plentyn (yn ôl Meirion.) Nid yw Rita yn cofio neb yn disgwyl babi yn ystod y cyfnod roedd hi yno, ‘o’n nhw’n ferched da i gyd’.
Nid oedd llawer o’r merched yno â phlant bach. Roedd un fenyw o Dde’r Affrig yn dod a’i chroten (tua deg mlwydd oed) i’r gwaith gyda hi, ac roedd y ferch yn gorfod eistedd ar y ffenest yn aros i’w mam.
Cawsant godiad cyflog yn rheolaidd, ‘fel o’dd e fod’. Roedd y cyflog yn cael ei ddosbarthu ar lawr y ffatri – byddai’r amlen fach frown yn cael ei rhoi ar y peiriant ar nos Wener.
00.38.39: Roedd Rita yn ‘thrilled to bits’.
Roedd y merched hyn yn ennill mwy o arian achos roeddynt yn gallu gwnïo’n gynt. Os nad oedd rhywun yn teimlo’n hwylus yn y gwaith roedd y gwaith (a’r cyflog felly) yn cael ei effeithio.
Roedd y rheolwyr yn caniatáu amser i ffwrdd o’r gwaith am rywbeth fel angladd, ond wrth gwrs nid oedd y gweithiwr yn cael ei dalu am hyn, ac roedd pythefnos o wyliau yn ystod mis Awst (a chyflog yn cael ei dalu am y cyfnod hwn) wedi cael ei gyflwyno rhywbryd.
Roedd angen i’r merched clocio mewn a chlocio allan, ac roedd hyn yn bwysig i’r rheolwr er bod y merched ar ‘piece work’. Nid oedd y merched byth yn mynd â mwy na chwech crys ar y tro i wnïo. Os nad oedd y coler yn eistedd yn iawn ar ôl gwnïo’r crys, roedd rhaid ail neud y gwaith. Miss Tomos oedd yn siecio’r gwaith. Hi hefyd oedd yn plygu’r crysau, a’u smwddo nhw. Pan nad oedd digon o waith gan Rita yn gwneud y tyllau botwm byddai’n mynd i helpu Miss Tomos i smwddo.
Roedd rhif gan y gweithwyr, ac roedd y rhif yna’n mynd ar y crysau felly roedd modd gwybod pwy oedd wedi gwneud pa grys. Rhif 11 oedd Rita, a Rhif 5 oedd Meirion. Ni chafodd Rita na Meirion gwaith yn ôl i gwiro’n aml, ond os oedd Meirion yn cael crysau’n ôl roedd y ddwy fenyw hyn y naill ochr iddi’n ei helpu.
00.42.50: O ran y berthynas rhwng y rheolwyr a’r gweithwyr dywedodd Rita, ‘Roedd pob un yn gysurus ‘na a neb yn ateb yn ôl.’
Gwnïodd Rita ei bys sawl gwaith – ar ddamwain! - er nad oedd yn cyfaddef bob tro bod hyn wedi digwydd rhago ofn ei bod hi’n cael stwr. Gwnïodd Meirion ei bys hefyd – fe dorrodd nodwydd yn ei bys unwaith a gorfu iddi fynd i ysbyty Glangwili, gyda’r nodwydd dal ynddo. Roedd doctor Llandysul wedi trio cael y nodwydd allan eisoes ond wedi methu. Roedd Meirion eisiau cadw’r nodwydd ond ni chafodd achos roedd yn mynd mewn i’r ffeils. O ganlyniad i’r ddamwain cafodd Meirion diwrnod off o’r gwaith ac fe gafodd ei thalu ond mae’n nodi ‘roedd gofyn bod y meddwl ar y mashîn o hyd.’ Os oedd y merched yn cael cwt ar y bys nad oedd angen ei drin gan y meddyg defnyddient Elastoplast a chario ymlaen i weithio.
Nid oedd rheolau’n y gwaith fel y cyfryw, ond eu bod yn dechrau’r gwaith am wyth o’r gloch y bore ac yn gorffen am bump. (Wedi dweud hyn, nid oedd siarad yn cael ei ganiatáu er mwyn sicrhau bod y merched yn canolbwyntio ar eu gwaith a thrwy hynny’n osgoi damweiniau.) Nid oedd angen i Johnny Morgan ddweud dim byd wrth y merched, dim ond eu tapio ar eu pennau gyda’i bensil.
Roedd y cyfleusterau’n lan. Miss Tomos oedd yn glanhau’r toiledau. Nid oedd sôn am Iechyd a Diogelwch yn y ffatri. Pan drodd y ffatri yn Croydon Asbestos roedd mwy o wyliadwriaeth – roedd dau ddyn o’r ffatri’n Aberdaugleddau’n cadw llygad ar y merched. Daeth rheolwraig wedyn, o’r enw Sylvia. Roedd y peiriannau diwydiannol yn fwy trwm, ac ar y dechrau roedd y merched wedi blino’n lan ar ôl eu defnyddio. Roedd rhai o’r merched wedi syrffedu’r â’r gwaith newydd hwn ac wedi gadael. Roedd y lledr yn galed ar y bysedd, ac roedd y merched yn ymgyfarwyddo ar ôl sbel fach. Dywedwyd wrth y y merched yng Nghastell Newydd Emlyn nad oeddynt yn delio ag asbestos, ond taw’r ffatri yn Aberdaugleddau oedd yn gwneud hyn.
Roedd y sawl a oedd yn ysmygu’n mynd lawr i’r tai bach i wneud hynny. Nid oes sôn gan y merched am yr un tynnu coes a glywir amdano’n ffatrïoedd eraill, er enghraifft pan roedd rhywun yn priodi.
00.52.51: Dywedodd Rita, ‘O’n i gyd bach yn hen ffasiwn ‘na, weden i’.
Roedd perthynas dda rhwng y merched yn y ffatri a staff warws J T Morgan. Roedd un bachgen yn dod i lawr atyn nhw o Abertawe ac roedd y merched i gyd yn eu ffansio. Ond ni ddaliodd unrhyw un o ‘ferched Pandy’ ef.
Buodd Rita’n y ffatri am naw mlynedd y tro cyntaf (o 1945-1954). Gorffennodd yno ar ôl priodi er mwyn gofalu am famgu ei gwr. (Aeth yn ôl yno ar ôl tair blynedd).
Dechreuodd Meirion yno pan roedd yn un deg pedwar ac arhosodd yno nes ei bod hi’n ei chwedegau. Yn y diwedd gadawodd hi yno achos bod ei gwr yn dost. Aeth i lawr i Aberdaugleddau i roi ei notis, ac fe lefodd ar ôl dod allan. Caeodd y ffatri mewn tua blwyddyn ar ôl hynny beth bynnag.
Roedd Rita a Meirion yn nabod ei gilydd o bell trwy’r capeli cylch cyn iddynt fynd i weithio’n yn y ffatri, lle daethant yn ffrindiau pennaf. Maent wedi aros yn ffrindiau mynwesol ar hyd y blynyddoedd ac maent yn mynd i bob man gyda’i gilydd nawr.
Pan aeth Rita yn ôl i’r ffatri ar ôl tair blynedd nid oedd llawer wedi newid. Roedd y staff mwy neu lai yr un peth. Cyn mynd nôl i’r gwaith, teimlai Rita ei bod hi yn y ty drwy’r dydd ar ei phen ei hun (nid oes ganddi blant ac roedd ei gwr hi’n y gwaith drwy’r dydd). Aeth i siarad â Mr Morgans yn y ffatri a gofyn am ei swydd yn ôl.
Nid oedd sustem o shiffts yn y ffatri, dim ond y shifft dydd. Nid oedd gwaith achlysurol ychwanegol ar ddydd Sadwrn yn y ffatri hon, na gweithio gor-amser yn ystod yr wythnos. Nid oedd cantîn yn y ffactri, dim ond ‘tegell’. Ar ôl iddi briodi roedd Rita’n mynd â brechdanau i’r gwaith, ac yn pigo mewn i weld ei mam a’i thad amser cinio. Weithiau byddai Meirion yn mynd gyda hi.
O dan Croydon Asbestos roedd y ffatri yn cau lawr ar gyfer gwyliau mis Awst.
01.02.30: Mae Rita’n cofio’r ffatri’n mynd ar dân. Roedd y gweithwyr i gyd wedi mynd adref a chafodd Rita galwad ffôn i ddweud bod y ffatri ar dân. Ni ddarganfuwyd pwy oedd wedi dechrau’r tân ond roedd ty ar bwys y ffatri a dau grwt ifanc yn byw ynddo. Digwyddodd hyn tua 1961. Ni losgwyd llawer gan y tân a chafodd y merched mynd nôl i wnïo ar ôl pythefnos. Roedd Rita’n eithaf ‘fflat’ pan glywodd am y tân ond ni chollodd y gweithwyr arian oherwydd bod y ffatri ar gau.
Roedd Rita a Meirion yn mwynhau pob agwedd o’r gwaith. Nid oedd gwahaniaeth ganddynt
weithio ar raddfa ‘piece work’, ond roedd llai o bwysau arnynt pan gymerodd Croydon Asbestos drosodd a’u talu ar raddfa ‘flat rate’. Roedd yn dal rhaid iddynt gyrraedd eu targedi.
Gorffennodd Rita pan oedd yn chwech deg mlwydd oed. Roedd ei gwr wedi ymddeol yn gynnar felly penderfynodd gorffen yn y ffatri er mwyn bod adref gyda fe. Roedd hi’n gweld eisiau’r merched ac yn galw mewn i’r ffatri i’w gweld nhw weithiau.
01.07.53: Mae Rita’n teimlo na fyddai wedi hoffi mynd o un swydd i’r llall. Ar ôl gorffen roedd Rita’n gwnïo pethau bach iddi’i hun adref.
Dim ond tua chwech oedd yn gweithio yno erbyn bod Meirion yn gorffen yn y ffatri. Roedd Rita a Meirion yn dyfalu bod y ffatri’n mynd i gau achos roedd rhif y gweithwyr yn gostwng.
Roedd sawl un o’r merched a weithiai’n y ffatri’n dod o Saron. Teithient i’r gwaith ar y bws. Roedd eraill yn dod o Fryngwyn a Beulah. Er bod Rita a Meirion wedi bod yn y ffatri dros gyfnod hir a wedi cynhyrchu nwyddau gwahanol nid ydynt yn teimlo eu bod wedi gweld llawer o newidiadau. Gwnïo oedd y gwaith ond bod y nwyddau wedi newid. Nid oedd y gweithwyr wedi newid llawer chwaith. Roedd y rheolwyr wedi newid wrth gwrs, gyda’r ffatri yn newid dwylo. Nid oedd y Saeson ‘mor agos atoch chi’.
01.12.15: Mae Rita yn disgrifio’i lluniau.
Roedd Johnny Morgan yn byw yn Aberarad. Roedd yn frawd i J T Morgan ac roedd gwraig Davies y ‘cutter’ yn chwaer iddyn nhw. Roedd lot o gysylltiadau teuluol o fewn y ffatri. Roedd staff Glanarad yn dod i nabod staff J T Morgan dros y blynyddoedd wrth fynd ar y trip blynyddol gyda nhw.
O Lambed neu Llansawel roedd y brodyr Morgan yn dod. Nid oedd partis os oedd aelod o
staff yn gadael ond roeddynt yn cael cloc yn anrheg.
Buodd ffatri yn Llandysul a buodd ffatri’r ‘Cambrian’ i lawr yn Nrefach.
Bedyddwyr oedd J T Morgan a’i frawd. Roeddynt yn eithaf crefyddol. Pan roedd Rita’n mynd allan byddai’n mynd i’r gwaith yn ei ‘rolars’ a ‘tyrban’ ar ei phen a byddai Johnny Morgan yn gofyn iddi ble roedd hi’n mynd. Byddai’n dweud wrtho taw i’r ‘cwrdd’ roedd hi’n mynd. Cymry Cymraeg oedd y brodyr Morgan, er bod gwraig J T Morgan yn siarad tipyn o Saesneg. (Ei ail wraig oedd hi – bu farw’r wraig gyntaf.) Roedd hi’n ‘real lêdi’. Aeth Rita a Meirion ar drip gyda’r gweithwyr i lawr i dy “posh” J T Morgan a’i wraig yn Sgiwen (?) a chael bwyd yno.