Y Cymry yng Nghanada - cyfweliadau gan Glenys James
Yn yr 1970au cynnar, cyflogwyd Glenys James, Cymraes a anwyd yn Llundain, gan Lywodraeth Canada i gynnal hanesion llafar am Gymry neu bobl o dras Cymreig oedd yn byw yng Nghanada.
Mae'r Cymry wedi bod yn ymfudo i Ganada ers 1617, wedi'u gwthio’n rhannol gan y bygythiad canfyddedig o golli'r iaith a'i diwylliant a'r dynfa o addewid o dir amaethyddol rhad, a hyd yn oed aur. Digwyddodd un o donnau mwyaf ymfudiad y Cymry ar droad yr 20fed ganrif pan aeth dros 200 o ymsefydlwyr o’r Wladfa ym Mhatagonia i gyfeiriad y Gogledd (trwy Lerpwl) i geisio gwell ffawd ar ôl i flynyddoedd o lifogydd ddinistrio eu ffermydd oedd newydd eu sefydlu. O Chubut i Ganada, roedd yr amodau a oedd yn croesawu’r bobl hyn o Gymru, oedd eisoes wedi blino yn ychwanegu sarhad at yr anaf. Gyda thymheredd mor isel â minws deg ar hugain, bu’n rhaid i deuluoedd dreulio eu gaeaf cyntaf mewn pebyll gan nad oedd unrhyw adeiladau parhaol wedi’u codi. Roedd nifer ohonynt heb weld eira o'r blaen.
Mae llawer o'r straeon yn ddirdynnol. Ni chafodd y bobl hyn a oedd yn llawn gobaith am fywyd newydd lwybr hawdd i’w ddilyn. Ac eto, nid oedd dychwelyd i Gymru yn opsiwn. Er gwaethaf hyn, coleddwyd eu cariad at yr ‘hen wlad,’ ei hiaith a’i cherddoriaeth ar hyd y cenedlaethau. Cymerodd fis i hwylio i Lerpwl, ac mae Mary Lewis yn disgrifio sut y dysgodd ei chwaer 9 mis oed gerdded tra ar fwrdd y llong. Mae sawl un yn sôn am blant a gafodd eu claddu yn y môr, tra bod diffyg bwyd ymysg eraill yn arwain at farwolaethau uchel ymhlith yr hen a'r ifanc. Dechreuodd yr ail don oddeutu degawd yn ddiweddarach. Yn aml yn cael eu hystyried yn rhai trafferthus, yn dilyn anghydfodau mawr ymhlith glowyr a llafurwyr Cymru, roedd gweithwyr undebol yn aml yn cael eu “hannog” i sefydlu bywoliaeth mewn man arall.
Un o'r ardaloedd a gafodd gryn sylw oedd Crow's Nest Pass yn Alberta, Canada. Roedd y rheilffordd newydd a oedd yn cael ei hadeiladu trwy'r rhan yma o Rockies Canada hefyd yn gyfoethog o lo ac felly fe'i hysbysebwyd fel lle oedd yn cyflwyno trawsnewidiad hawdd i'r rhai oedd yn ymfudo o'r cymoedd Cymreig. Disgrifiodd un o’r cyfweleion ei hargraff gyntaf o’r tirwedd aruthrol hon fel ‘barbaraidd’, gydag eira yn gorchuddio tu mewn a thu allan i’r tai, gall rhywun ddeall pam. Fodd bynnag, mae yna rai trysorau hapus wedi'u cuddio hefyd. Mae’r cyfweliadau, a gynhaliwyd yng nghartrefi’r siaradwyr yn cynnig trysorfa o brofiadau uniongyrchol o fyw yn y Wladfa, a realiti llym eu bywydau newydd yng Nghanada.
Mae Meredydd Rees yn cofio anifeiliaid ei blentyndod gan gynnwys estrys ac armadillos y pampas. Mae Nan Davies yn canu alawon a ddysgwyd ar gyfer eisteddfodau a fyddai'n cael eu defnyddio'n ddiweddarach i gadw eirth brown i ffwrdd, ac mae Mrs T.T. Evans yn disgrifio'i chwpan 'Mate', te traddodiadol a yfwyd ym Mhatagonia, yn ogystal â llawer o ganeuon gwerin a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth dros nifer o flynyddoedd a miloedd o filltiroedd. Gellid dweud bod cariad at yr iaith wedi teithio mwy na holl allforion Cymru.