Glenys James yn siarad i A.H. (Nan) Davies. (rhan 2)
Disgrifiadau
A.H. (Nan) Davies yn parhau i siarad â Glenys James am ei rhan hi yn yr Eisteddfodau a gynhaliwyd yn Alberta, Canada, gan gynnwys hyfforddi plant Canada i ddysgu a chanu caneuon Cymraeg. Ymfalchïa na fu i'r plant erioed golli ymarfer yn ystod y chwe blynedd dan ei harweiniad, a'u bod yn parhau i ganu'r hwiangerddi i'w plant eu hunain. Trafoda Mrs Davies hefyd sut y daeth i greu a gwerthu math o fara o rysáit a oedd yn gynhenid i Gymru. Daeth y bara i fod yn boblogaidd iawn ymhlith y pwysigion lleol ynghyd â gweithwyr meddygol proffesiynol a, gydag amser, fe'i galluogodd i lansio'i busnes pobi ei hun. Ar ddiwedd y recordiad mae Mrs Davies yn canu caneuon Cymraeg traddodiadol.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment