Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae Joe Thane yn parhau i siarad â Glenys James am gadw'r Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae'n cofio gallu defnyddio dwyieithrwydd naill ai i dwyllo neu gael ffafr gan ei fam. Cafodd brofiadau tebyg wrth geisio dod o hyd i waith yng Nghanada lle bu'r ffaith ei fod yn Gymro o fantais iddo dros ei gymdogion Seisnig. Mae hefyd yn canmol agwedd y Cymry at waith caled, eu hunanhyder a'u gwybodaeth gynhenid o'r hyn sydd iawn, a arweiniodd at lwyddiant y gwladychwyr newydd yng Ngogledd America. Trafoda rôl canu yn niwylliant Cymru ac mae'n canu fersiwn o ras, a chred fod colli llawer o'r traddodiadau hyn wedi cyfrannu hefyd at golli'r Gymraeg, yn ogystal â natur ynysol siaradwyr Cymraeg. Mae Dr Lewis H. Thomas yn cynnal cyfweliad gyda W. E. Davies a aned ym Mhatagonia ac a oedd yn ddisgynnydd uniongyrchol i un o'r teuluoedd cyntaf i sefydlu'r wladfa a ddaeth draw ar y ‘Mimosa’. Buan y daeth ei dad a'i ewythr yn blant amddifad wedi cyrraedd y wladfa yn Ne America, ac felly ymfudo wnaethant i Ganada i chwilio am aur yn y Caribou. Trafoda Thomas a Davies y diffyg rhagwelediad gan Dr Michael Jones a'i ddilynwyr wrth setlo ym Mhatagonia, a'r caledi a wynebodd y gwladychwyr. Gan fod Mr Davies yn ffermwr yn ystod ei fywyd gweithiol, maent hefyd yn trafod pam y methodd unrhyw ymgais ar amaethyddiaeth yn y wladfa a pham y dewiswyd ardaloedd penodol o dir yng Nghanada i'w hailgyfanheddu.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw