Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Bu'r blynyddoedd yn dilyn llifogydd 1899 yn rhai tywyll yn hanes y Wladfa Gymreig. Gorlifodd Afon Camwy deirgwaith wedi hynny a phenderfynodd nifer o'r gwladfawyr nad oedd dyfodol iddynt mwyach ar dir Patagonia. Ymfudodd dau berson i Canada a chafodd eraill eu temtio i'w dilyn. Teithiodd cynrychiolydd o Canada i'r Wladfa a chafwyd addewid gan lywodraeth Canada fod tir wedi ei neilltuo ar gyfer y Cymry. Penderfynodd criw bychan adael y Wladfa tua diwedd 1901, gan dalu eu costau eu hunain. Fodd bynnag, roedd mwyafrif y gwladfawyr yn rhy dlawd i ystyried mudo, a sefydlwyd cronfa arbennig ym Mhrydain i godi arian i'w cynorthwyo. Cafwyd cyfraniadau gan Dywysog Cymru; Joseph Chamberlain, Ysgrifennydd Cartref y Trefedigaethau; a nifer o Aelodau Seneddol Cymru. Roedd yr arian a godwyd yn ddigon i dalu am gludo ychydig dros 200 o wladfawyr o Batagonia i Canada. Gadawodd yr ymfudwyr o Borth Madryn ar fwrdd yr agerlong 'Orissa' ym mis Mai 1902, gan deithio yn gyntaf i Lerpwl. Arhosodd yr ymfudwyr yno am ddiwrnod neu ddau cyn dechrau ar ail ran y daith i Canada ar fwrdd agerlong arall.
Mae'r cartwnau hyn gan J. M. Staniforth yn dangos y Cymry yn fuan wedi iddynt gyrraedd eu cartref newydd yn ardal Saltcoats, Canada.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw