Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae Llwyd ap Iwan yn gobeithio bod teulu ei frawd-yng-nghyfraith yn iach. Mae'n debyg fod Mihangel wedi cyrraedd yn ôl i Buenos Aires erbyn hyn. Mae'n holi pam nad oes unrhyw un wedi sôn am fywgraffiad E. Pan Jones o'i dad, a gofynna a yw'r gwaith wedi ei gwblhau.

Mae gweddill y llythyr yn ymwneud â'r trafodaethau ynghylch dyfodol y Wladfa ym Mhatagonia. Yn dilyn y dinistr a achoswyd gan y llifogydd diweddar, mae nifer o deuluoedd yn ystyried ymfudo i Dde Affrica, ac mae tua 76 (dan arweiniad Edward Owen, Y Ty Uchaf), yn bwriadu symud i'r gogledd i ymsefydlu yn Choele Choel, talaith Rio Negro. Cadeirydd y mudiad o blaid ymfudo i Dde Affrica yw D. S. Jones, Rhymni, a'r ysgrifennydd yw Llwyd ap Iwan. Yn ddiweddar derbyniodd y telegram canlynol gan yr Athro O. M. Edwards, Llanuwchllyn: 'Splendid offer Gwladfa Africa wire if insterested'. Atebodd Llwyd ap Iwan fel a ganlyn: 'Deeply interested awaiting details'. Roedd hefyd wedi derbyn llythyr oddi wrth R. O. Wynne-Roberts, Capetown, ar ran y 'Cambrian Society'. Dywed Llwyd ap Iwan fod aelodau'r pwyllgor lleol wedi gofyn iddo ysgrifennu at Joseph Chamberlain, Ysgrifennydd y Trefedigaethau, a'u bod hefyd wedi mynnu ei fod yn gofyn i Chamberlain dalu costau tri prwyad i deithio i Dde Affrica - cais digywilydd ym marn Llwyd ap Iwan. Esbonia fod y gwladfawyr yn awyddus i archwilio tir ac adnoddau'r wlad cyn gwneud unrhyw benderfyniad i ymfudo yno. Gan fod nifer ohonynt o'r farn mai 'mistake' oedd dod i'r Wladfa yn y lle cyntaf, a bod amryw o'r rhai a ymfudodd i Ganada yn ddiweddar yn siomedig iawn gyda'u sefyllfa, dywed y bydd pawb yn ochelgar iawn cyn dod i benderfyniad ynghylch De Affrica.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw