Glenys James yn siarad i Kelt Hughes, Annie Roberts a Goronwy Davies.
Disgrifiadau
Mae Glenys James yn siarad â Kelt Hughes, yr ymfudodd ei deulu i Ganada trwy Minnesota, America i chwilio am gymuned â gwir werthoedd Cymreig. Siarada am sut y bu i'r ysgol Sul yng Nghapel Seion a adeiladwyd yn arbennig at y pwrpas, alluogi i blant barhau i ddysgu ac i ddefnyddio'r Gymraeg. Trafoda Mr Hughes sut y cadwodd y gymuned lawer o draddodiadau o Gymru, megis y Gymanfa Ganu, a sut yr oedd papurau newydd Cymraeg megis y "Drych" yn allweddol i gynnig cysylltiad gyda'r gymuned Gymraeg ehangach. Cana Annie Roberts yr alaw werin draddodiadol "Hen Ffon Fy Nain” ac "Mae gennyf gwpwrdd cornel" ac mae'n adrodd "Y pwsi felen dew’. Cana Goronwy Davies gân o eiriau John R Jones ar yr alaw werin Mentra Gwen.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment