Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae Tommy Edmund, arweinydd Côr Meibion Montreal, yn canu ‘Iach i ti Gymru,’ ‘Mentra gwen’ a ‘Cyfri'r geifr’ i gyfeiliant y piano. Symudodd Mr. Edmund i Ganada o Odre’r Graig, Cwm Tawe yn 1929. Mae'n siarad â Glenys James ac yn sôn sut y daeth draw i Ganada gyda'r Llynges Frenhinol a chael ei wneud yn feistr y band gyda band ym Mirmingham. Sefydlwyd Côr Meibion Montreal yn 1930 ac i ddechrau bu'n canu caneuon Cymraeg yn Saesneg, ond nawr, ag yntau yn unig siaradwr Cymraeg y Côr, mae Mr Edmund yn darllen y geiriau i'r 28 aelod o'r côr er mwyn iddyn nhw ddysgu'r caneuon. Byddai hefyd yn addysgu caneuon gwerin Cymraeg i blant ysgol, dros y byd i gyd, a gwyddai iddynt drosglwyddo'r caneuon i'w plant eu hunain. Mae wedi cystadlu mewn nifer o Eisteddfodau, er na fu'n hollol lwyddiannus dros y blynyddoedd! Er iddo deimlo bod ei Gymraeg wedi gwella am i un o aelodau'r côr ddechrau dysgu Cymraeg ei hun, mae'n siomedig â'r diffyg cyfleoedd i siarad Cymraeg, ac nad yw ei wyrion yn awyddus i ddysgu'r iaith chwaith. Yn blentyn, mae'n cofio'r streiciau yn ogystal ag atgofion hapus fel y fenyw o Lanelli a fyddai'n dod trwy'r pentref i werthu cocos a bara lawr.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw