Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Glenys James sy'n siarad â Margaret Ann Lewis a aned ym Mhatagonia. Roedd ei rhieni o'r Wyddgrug ac Abergele yn wreiddiol, ac wedi teithio ar y 'Vesta' wedi clywed am eraill yn chwilio am fywyd newydd yn y wladfa. Cafodd ei thad, un o'r peirianyddion cyntaf ar y rheilffordd rhwng Porth Madryn a Threlew, docynnau dosbarth cyntaf ar y trên wrth iddynt adael i fynd i Ganada, fel arwydd o ddiolch am ei waith. Dywedir mai Mrs Lewis oedd y plentyn 'gwyn' cyntaf i'w eni ym Mhorth Madryn, a dysgodd Gymraeg trwy sgwrsio â gwladychwyr eraill, ond addysgwyd Sbaeneg iddi yn yr ysgol. Mae'n canu gêm ganu Sbaeneg a ddysgodd yno. Penderfynodd ei thad symud y teulu gan nad oedd yn cytuno â gorfodaeth y llywodraeth Sbaenaidd ar fechgyn i fynd i'r fyddin yn 18 oed. Credai hefyd na chafodd fyth mo'r tir a addawyd iddo. Cymerodd fis i deithio ar y llong i Liverpool, a chofia Mrs Lewis ei chwaer naw mis oed yn dysgu cerdded ar y llong sigledig. Cofia'r gaeafau caled yng Nghanada, a sut y bu iddynt gredu bod y cotiau y daethant â nhw o Batagonia yn rhai sylweddol, ond mai cotiau haf oeddent mewn gwirionedd. Roedd y wladfa yn Llewelyn, a'r corau Cymraeg yn gymuned gref i'r gwladychwyr yn y dyddiau cynnar. Er iddi gael ei geni ym Mhatagonia, treuliodd Mrs Lewis fwyafrif ei bywyd yng Nghanada, ac er iddi ymweld â'r famwlad ddwywaith yn unig, cred ei bod yn Gymraes i'r carn ac mae'n teimlo hynny 'yn ei gwaed’.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw