Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan, Chubut, at ei fam Mrs Anne Jones, 1 Mehefin 1902. Mae'n diolch iddi am ei llythyrau a dywed ei fod bellach wedi derbyn llythyrau gan ei frawd, Mihangel. Dywed fod nifer o Foeriaid wedi cael eu gweld yn teithio i gyfeiriad y de at Lyn Colwapi. Nid yw'r arolygon yn ffafriol gan fod perygl y bydd llifogydd eto eleni, felly bydd yn dechrau paratoi cyn bo hir i dreulio'r gaeaf ar y mynydd. Dywed fod 259 o ymfudwyr wedi gadael Porth Madryn am Ganada yn ddiweddar ar fwrdd yr 'Orissa'. Yn ei farn ef, bydd llawer mwy yn eu dilyn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw